Gan fod yr Henaduriaeth yn uned weinyddol y mae iddi ei haelodau, sef blaenoriaid a gweinidogion yr eglwysi sy’n perthyn iddi. O blith y rhain y dewisir y swyddogion ac mae aelodau’r amrywiol bwyllgorau sy’n perthyn iddi yn dod gan mwyaf hefyd o blith y blaenoriaid.
• Llywydd
• Ysgrifennydd
• Trysorydd
• Golygydd y Blwyddlyfr
Pwy di Pwy

Llywydd yr Henaduriaeth - Mrs Lowri Prys Roberts Williams
Yn enedigol o Frynrefail bu teulu Lowri yn gysylltiedig ag achos y Methodistiaid Calfinaidd yno o’r cychwyn. Codwyd hi yn flaenor yn 1987, a hi bellach yw trysorydd ac ysgrifennydd cyhoeddiadau’r eglwys. Mae hefyd yn organydd medrus ac y mae caniadaeth y cysegr yn bwysig iawn iddi.
Ymddeolodd yn 1997 wedi gyrfa ym myd addysg , ac ers 1999 bu’n golygu Blwyddlyfr yr Henaduriaeth.
Llywydd yr Henaduriaeth - Y Parchedig Ddr Elwyn Richards
Magwyd Elwyn Richards yn Eglwys Glasinfryn, Henaduriaeth Môn. Wedi mynychu'r ysgol gynradd leol symudodd i Ysgol Gyfun Llangefni. Yna fe astudiodd y Gymraeg yn y Brifysgol yn Aberystwyth a Diwinyddiaeth yn y Coleg Diwinyddol Unedig cyn ymgymryd â gwaith ymchwil am radd doethur a chynnig ei hun yn Ymgeisydd am y Weinidogaeth.
Wedi ei ordeinio, bu’n gweinidogaethu yng Ngofalaeth Porthmadog a Chricieth cyn cael ei benodi yn 1999 yn Athro Diwinyddiaeth Ymarferol ac Astudiaethau Bugeiliol yn y Coleg Diwinyddol Unedig. Yn 2003 symudodd i Fangor i wasanaethu’r Cyfundeb fel Cyfarwyddwr Hyfforddiant. Ef yw Ysgrifennydd Henaduriaeth Arfon ar hyn o bryd.
Alwyn Lloyd Ellis - Trysorydd
Mae Alwyn wedi bod yn Drysorydd y Henaduriaeth ers 2015, yn dilyn perswad arno i gymeryd y swydd gan Y Parchedig Eric Jones.
Gweithio gyda Dŵr Cymru oedd ei brif swydd cyn ymddeol yn gynnar yn 2012, ac ar hyn o bryd mae’n ymgymryd â gwaith ymgynghorol yn y maes asesu iawndal a phrynnu tir trwy orfodaeth, yn ogystal ag yn eistedd ar y fainc, fel Ynad Heddwch.
Ar ôl symud i fyw i Fangor o Gaergybi yn 1966, daeth y teulu yn aelodau yng Nghapel Twrgwyn, lle gafodd ei dderbyn, ac yn 2012 cafodd ei godi'n flaenor ym Merea Newydd.
Cynthia Owen - Golygydd y Blwyddlyfr
Cafodd Cynthia ei geni a'i magu yn Aberystwyth lle roedd yn aelod yng
nghapel Salem, sydd erbyn hyn yn Gapel y Morfa. Wedi addysg gynnar yn Ysgol
Gymraeg Aberystwyth ac yna Ysgol Ardwyn fe aeth i Gaerdydd i raddio mewn
Economeg a Gwleidyddiaeth yn y Brifysgol. Bu'n gweithio i'r BBC yng
Nghaerdydd ac wedyn symud i'r Gogledd i weithio i'r BBC ym Mangor.
Wedi priodi a chael tri o blant bu adre am gyfnod ac yna gweithio i'r Mudiad
Meithrin yng Ngogledd Cymru tan ymddeol yn 2011.
Cafodd ei chodi’n flaenor a thrysorydd yng Nghapel y Graig, Penrhosgarnedd
yn 1987 ac mae'n parhau i wneud y swyddi hyn, ond erbyn hyn yng Nghapel Berea
Newydd, Bangor.
Yn enedigol o Gaernarfon magwyd Gwenda Richards yn eglwys Engedi lle codwyd hi’n flaenor.
Wedi cyfnod fel athrawes cafodd ei hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yn y Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth ac wedi ei hordeinio yn 1987 bu’n gwasanaethu yng Ngofalaeth Porthmadog cyn symud i eglwys Seilo, Caernarfon yn 2001. Ers hynny ychwanegwyd Eglwys y Waun, Waunfawr at yr ofalaeth.
Bu Gwenda yn Lywydd y Gymdeithasfa yn y Gogledd (2006 – 2007) ac yn Lywydd y Gymanfa Gyffredinol (2009-2010)
Fe’i ganed yn ‘Gofi Dre’ a’i fagu yng Nghaernarfon dan weinidogaeth y Parchedigion Stephen Tudor a John Roberts yng nghapel Moriah gynt.
Dechreuodd bregethu pan yn ddeunaw oed ac ar ôl cyfnod coleg yn Aberystwyth, lle graddiodd mewn Diwinyddiaeth a chwblhau'r Cwrs Bugeiliol, dechreuodd ei weinidogaeth yn Llanberis a Nant Peris yn 1978.
Fe dderbyniodd yr alwad i fod yn Gaplan yn y Llynges Frenhinol yn 1982 a bu’n crwydro’n helaeth. Daeth yn ôl i Gymru ar droad y ganrif ac fe’i penodwyd yn Gaplan Diwydiannol Gogledd Ddwyrain Cymru a’i sefydlu yn weinidog eglwysi Rhostyllen ac Acrefair.
Daeth yn ôl i weinidogaethu yn Llanrug a Bethel yn 2007 gan gwblhau cylch ei yrfa. Ers hynny mae Brynrefail a Chaeathro wedi ymuno yng ngofalaeth ‘Glannau’r Saint’.
Mererid Mair
Ganed Mererid yn Ne Cymru ond magwyd hi yng Nghaernarfon lle mae’n byw gyda’i gŵr Richard a’u meibion, Gwydion a Llywelyn. Astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor a dilyn cwrs M.A. mewn astudiaethau crefyddol rhai blynyddoedd yn ddiweddarach. Ar ôl gadael coleg aeth ar gwrs ‘training in mission’ dan nawdd C.W.M. cyn cychwyn ar swydd fel gweithiwr ieuenctid a chymuned gyda Chynllun Eglwysi Penmaenmawr. Yna treuliodd dair blynedd fel gweithiwr ieuenctid a datblygu eglwysig gydag Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yng Nghyfundeb Gogledd Arfon. Yn 2006 dechreuodd yn ei swydd bresennol fel Gweithiwr Cymunedol yn Eglwys Noddfa, Caernarfon.
Andrew Settatree
Daw Andrew yn wreiddiol o Hwlffordd, Sir Benfro. Mae ganddo brofiad o waith ieuenctid yn ei eglwys leol yn Hwlffordd, ac yn Eglwys Highfields, Caerdydd, ond dyma’r tro cyntaf iddo fentro i swydd o’r fath yn llawn amser.
Cafodd ei addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd, a bu’n gweithio fel nyrs yn y brifddinas; a daeth i’w swydd newydd wedi cyfnod o ddeg mis o waith mewn ysbytai yn Awstralia. Dysgodd Andrew’r Gymraeg pan dreuliodd chwe mis yng Ngholeg Y Bala yn 2002, ac mae’n falch o’r cyfle i gyflwyno’r neges am Grist i bobl ifanc yn y Gymraeg.
Cynllun Efe - cliciwch yma
LLinos Mai Morris – Gweithiwr Plant a Ieuenctid Eglwys Noddfa, Caernarfon
Mae Llinos yn enedigol o Gaernarfon ac yn un o blant Capel Engedi, cyn symud i Eglwys Noddfa lle bu’n mwynhau’r amrywiaeth o weithgareddau ac yn rhan o fywyd bywiog yr eglwys!
Erbyn heddiw, wedi cyfnod yn gweithio yn Sir Drefaldwyn, y mae Llinos wedi symud yn ôl i Gaernarfon, ac yn ôl i Eglwys Noddfa fel gweithiwr Plant a Ieuenctid. Mae ei chyfrifoldebau yn cynnwys trefnu’r ysgol Sul, diwrnodau hwyl i’r teuluoedd, clybiau plant ac ieuenctid yn ystod yr wythnos, cynlluniau chwarae Haf a Phasg yn ogystal â chyd-weithio gyda Mererid Mair i drefnu’r gwasanaethau teulu bob mis.
Anna Jane Evans yw swyddog cyswllt Cymorth Cristnogol yn Henaduriaeth Arfon. Y mae’n aelod yn eglwys Noddfa Caernarfon, a hi yw cyd-lynydd Cymorth Cristnogol yng Ngogledd Cymru, gyda’i swyddfa ym Mangor.
Mae’n mwynhau herio’r eglwysi ynglyn â materion cyfiawnder, fel masnach deg ac ymgyrchoedd Cymorth Cristnogol, ac wedi dod i ddeall nad llenwi ffurflenni yw hoff waith ysgrifenyddion yr eglwys!
Gwerthfawrogi gefnogaeth a haelioni cyson eglwysi Henaduriaeth Arfon i waith Cymorth Cristnogol.
DosbarthIADAU
AC EGLWYSI
PLANT & IEUENCTID
Yn YR ADRAN YMA