Amdanom Ni

 

image

Mae'r Henaduriaeth yn ymestyn o Lanfairfechan yn y gorllewin i Nantmor yn y dwyrain, ac yn cynnwys ardaloedd Bangor, Caernarfon a Dyffryn Nantlle. Ceir o'i mewn gymysgedd o'r trefol a'r gwledig, o adeiladau traddodiadol a rhai newydd.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwnaed ymdrech fwriadol i leihau nifer yr adeiladau a sicrhau fod eglwys ym mhob ardal. Caiff bron y cyfan o'r eglwysi eu bugeilio gan weinidogion ordeiniedig, gan gynnwys dau o weinidogion yr Annibynwyr Cymraeg.

Y mae gan yr eglwysi hefyd nifer o arweinwyr lleol a elwir yn flaenoriaid, ynghyd â llu o wirfoddolwyr eraill sy'n gwneud pob dim o ofalu am y cyfrifon a'r adeiladau i weithio efo'r plant a'r ieuenctid a rhoi gofal bugeiliol i'r henoed. Y mae pob eglwys yn ymdrechu i ymestyn allan i'r gymuned ac i groesawu eraill i'r teulu.

 

 

 

LluniauLluniau Diweddaraf

Henaduriaeth Arfon ar flickr.com
 

CysylltuManylion Cyswllt

Cyfeiriad:Y Parchedig Ddr Elwyn Richards, Plas Bach, 70 Cae Gwyn, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1LL.
Ffôn: 01286 676435
E-bost: post@henaduriaetharfon.org