Ebeneser, Clynnog
Enw’r Eglwys: Ebeneser
Lleoliad a Chôd Post yr Eglwys: Clynnog Fawr, Caernarfon, LL54 5BT
Gweinidog yr Eglwys: Y Parchg Gwenda Richards B.Ed., B.D. abermenai@btinternet.com
Swyddogion yr Eglwys:
• Mr Huw John Jones – ysgrifennydd ac ysgrifennydd y cyhoeddiadau
• Mrs M E Jones - Trysorydd
• Mrs Margaret Evans – Ysgrifennydd Ariannol
Amseroedd Cyfarfodydd yr Eglwys:
- Oedfa’r Sul am 10am neu 5.30pm
- Cynhelir Oedfa Dydd Llun Diolchgarwch am 6.30pm ac Oedfa Dechrau Blwyddyn ar Nos Fawrth yr wythnos weddïau am 6.30pm
Mae Capel Ebeneser, Clynnog Fawr dros gant oed ac yn adeilad hynod o hardd o’r tu mewn a’r tu allan. Dyma gapel mwyaf deheuol henaduriaeth Arfon, a bu iddo gysylltiad agos â’r ysgol sefydlwyd yng Nghlynnog i baratoi myfyrwyr i’r weinidogaeth. Prifathro cyntaf yr ysgol honno oedd Eben Fardd, ac yr oedd yr olaf, sef y Parchg R. Dewi Williams, hefyd yn weinidog yr eglwys. Wedi i’r ysgol symud i Ddyffryn Clwyd defnyddiwyd yr ysgoldy fel festri ar gyfer y capel, hyd nes ei gwerthu gyda’r Tŷ Capel i Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai yn 2004. Felly y mae defnydd arbennig a gwerthfawr yn cael ei wneud o’r adeiladau yma o hyd.
Cynhelir un oedfa bob Sul, naill ai am ddeg o’r gloch y bore neu 5.30 o’r gloch yr hwyr. Cynhelir gwasanaeth hefyd ar Ddydd Llun Diolchgarwch ac oedfa noson waith ar ddechrau blwyddyn pryd y daw rhai o gyn aelodau Capel Uchaf, ac aelodau Eglwys Beuno Sant a Chapel Brynaerau i ymuno â ni. Bob Nadolig cynhelir gwasanaeth carolau undebol gydag Eglwys Beuno Sant a phlant ysgol ardal Brynaerau.
Er i’r eglwys fod yn ddi-fugail am bron i chwarter canrif yn dilyn ymddeoliad y diweddar Barchedig Arwyn Jones Parry, death yr eglwys yn rhan o Ofalaeth Bro Lleu yn 2010 ac yma y sefydlwyd y Parchg Deian E. Evans yn weinidog ar yr ofalaeth honno ar 7 Tachwedd 2010.
Bellach yr ydym yn edrych ymlaen at groesawu Sasiwn y Gogledd i Glynnog yn Hydref 2012, ac yn falch fod y capel yn ddigon mawr, a digon o adnoddau o’i gwmpas, i ni fedru gwneud hynny.
Mae croeso i unrhyw un droi i mewn i ymuno a ni yn ein gwasanaethau, a byddwn yn falch o’ch gweld a’ch croesawu.
'Ganllath o gopa’r mynydd…’
![]() |
Dydd Sadwrn, 11 Gorffennaf 2015, fel rhan o ŵyl undydd i ddathlu tirwedd a llenyddiaeth Dyffryn Nantlle cafwyd cyfle i weld Cadair Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1910 yn y Neuadd Goffa ym Mhenygroes. Dyma Gadair Bardd yr Haf, sef y gadair a enillodd R.Williams Parry am ei awdl ‘Yr Haf’ yn yr Eisteddfod honno. Roedd y Neuadd dan ei sang a’r wefr yn drydannol wrth i bawb fanteisio ar y cyfle i dynnu llun y Gadair a roddwyd ar fenthyg i Benygroes am gyfnod byr iawn ar y diwrnod arbennig hwnnw.
Yn dilyn hynny, aeth tua cant o bobl ar daith gerdded yng nghwmni’r bardd a’r newyddiadurwraig Karen Owen. Cawsom ein tywys ar draws y Dyffryn i fannau oedd â chyswllt agos â Bardd yr Haf, a braint fu gwrando ar Karen yn egluro’r cysylltiadau hynny yn hynod o ddiddorol. Yn ystod y daith gofynnwyd i bawb adrodd soned enwg R Williams Parry i’r ‘Llwynog’ a dyna brofiad fu bod yn rhan o Gôr Adrodd enfawr a’r geiriau’n diasbedain ar draws y Dyffryn.
Dwyawr o daith hynod o gofiadwy a chyfle ar y diwedd i rannu argraffiadau uwchben panad yng nghaffi Pant Du.
Bu taith gerdded yn ystod y bore yng nghwmni Twm Elias a chafwyd cyfle yn yr hwyr i holi Eric Jones, yr anturiaethwr.
Diolch i bawb a drefnodd yr Ŵyl, yn arbennig Angharad Tomos. Edrychwn ymlaen at yr Ŵyl y flwyddyn nesa.
Am fwy o luniau, cliciwch yma.
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Clwb Ieuenctid Eglwysi Bro Lleu
Mae y clwb wedi ei sefydlu ers dwy flynedd. Cynhelir y clwb bob dydd Mawrth rhwng pedwar a chwech o’r gloch y prynhawn. Trefnir amrywiaeth o weithgareddau hwyliog ar gyfer yr aelodau, yn gemau, gweithgareddau elusennol, gwaith creadigol ac, wrth gwrs, cyfle i adnabod Crist yn well.
Mae croeso i unrhyw un rhwng 11 a 16 mlwydd oed ymaelodi.
Am wybodaeth pellach cysylltwch a’r Gweinidog, y Parch. Deian Evans.
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Isod mae lluniau Ebeneser. I weld y lluniau i gyd - cliciwch yma
DosbarthIADAU
AC EGLWYSI
PLANT & IEUENCTID
Yn YR ADRAN YMA