Brynrefail
Enw’r Eglwys: Brynrefail
Lleoliad a Chôd Post: Brynrefail, Caernarfon Gwynedd, LL55 3NR
Gweinidog yr Eglwys: Parch Marcus Wyn Robinson B.D.
Swyddogion yr Eglwys:
Gwyn Hefin Jones (Ysgrifennydd)
Lowri Prys Roberts-Williams (Trysorydd ac Ysgrifennydd
y Cyhoeddiadau)
Bertie Lloyd Roberts
Jennie Angharad Roberts
Amseroedd Cyfarfodydd yr Eglwys:
• Oedfa’r Sul – 5.30 yr hwyr ( 2.00 yn achlysurol)
• Cymdeithas y Capel: Cyfarfodydd yr ail nos Iau yn fisol o Ebrill hyd Hydref
(ac eithrio mis Awst)
Ysgrifennydd: Dafydd G. Ellis.
Sefydlwyd Achos y Methodistiaid Calfinaidd ym mhentref Brynrefail yn 1848, a’r addoli o’r dyddiau cynnar ar y safle lle y codwyd yn 1873 gapel helaeth gyda galeri. Hwn fu’r unig fan addoli yn y pentref. Adeiladwyd Mans ar ei bwys yn 1894 ac adeilad helaeth deulawr yn 1907 a wasanaethodd fel Festri eang ac Ysgol Fabanod.
Symudwyd o’r Capel i’r Festri i addoli yn 1998. Erbyn 2005 yn wyneb dirywiad yr adeiladau a’r gynulleidfa roedd penderfyniad amlwg ynglyn â dyfodol yr Achos yn wynebu yr aelodau. Gyda chydweithrediad cyfarwyddwyr ‘Canolfan Dylunio a Menter Eryri’, adeilad modern a oedd newydd ei adeiladu yn y pentref ar safle yr hen Ysgol Sir, bu i’r aelodau benderfynu symud yno i addoli yn yr Ystafell Gynhadledd a chael defnydd
hefyd o ystafell helaethach y Bwyty ar gyfer achlysuron arbennig.
Roedd y Mans wedi ei werthu ers 1975 a bu’r Eglwys yn rhan o ofalaeth Llanrug o 1984 hyd 1995.
Yn 2009 gwerthwyd y Capel a’r Festri ac fe’u haddaswyd o fewn blwyddyn yn bum cartref o safon.
Dros y blynyddoedd bu cysylltiad agos neilltuol gyda safle’r Capel a’r Ysgol Sir. Yn wyneb diffyg gofod yn yr Ysgol yn ei chyfnod diweddar ym Mrynrefail, cyn symud i Lanrug yn 1956, gwnaed defnydd helaeth o’r Capel i’r Gwasanaethau Boreol a Chyfarfodydd Cyhoeddus Arbennig ynghyd â’r Festri a addaswyd yn ddwy Ystafell Ddosbarth.
Bu tro amlwg ar fyd. Gadawyd safle ‘Y Capel lle bu’r Ysgol’ ac erbyn hyn, ‘Lle bu’r Ysgol, mae’r Capel’. Hyderwn bydd y symudiad hwn yn fodd i ddiogelu ac i barhau y dystiolaeth Gristnogol yn y gymuned.
Wedi bod yn ddi-fugail ers 1995, ar Orffennaf 1af 2012 daeth yr Eglwys yn rhan o ofalaeth Glannau’r Saint – Llanrug, Bethel a Chaeathro - dan weinidogaeth y Parch Marcus Wyn Robinson.
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Isod mae lluniau Brynrefail. I weld y lluniau i gyd - cliciwch yma
DosbarthIADAU
AC EGLWYSI
PLANT & IEUENCTID
Yn YR ADRAN YMA