Jerusalem, Eglwys Unedig Bethesda

Enw’r Eglwys: Eglwys Unedig Jerusalem, Bethesda
Lleoliad a Chôd Post yr Eglwys: Stryd Fawr, Bethesda. LL57 3AR
Gweinidog yr Eglwys:
Swyddogion yr Eglwys:
- Ysgrifennydd - Mr Walter W Williams, 14 Erw Las, Bethesa (e-bost)
- Ysgrifennydd Cyhoeddiadau - Mrs Menai Williams Ffôn: 01248 601 167 (e-bost)
- Trysorydd - Mr Dennis Dart, 3, Rhos y Nant Bethesda. LL57 3PP. Ffôn: 01248 600 100 (e-bost)
- Mrs Gwenno Evans
- Mrs Jean Ogwen Jones
- Mrs Ceri Dart
- Mr Owen John Evans
- Mrs Rhiannon Evans
- Mrs Minnie Lewis
- Mrs Menai Williams
Amseroedd Cyfarfodydd yr Eglwys:
Dydd Sul:- 10 am a 5 pm
Bore Iau:- ‘Llenwi’r Cwpan’ (Paned a Sgwrs) 10 - 12
Adeiladwyd y capel gan y Methodistiaid Calfinaidd yn 1842-3. Addaswyd yr adeilad yn 1872-75 ac ychwanegwyd yr organ fawr, a brynwyd oddi wrth Neuadd y Dref, Huddersfield, yn 1903. Mae’r capel yn adeilad sgwâr o’r tu allan, gyda chyntedd ar y tu blaen, ac ysgoldai helaethyn y cefn. Mae pensaerniaeth mewnol y capel yn drawiadol, gan ei fod wedi ei seilio ar gynllun “amphitheatre” gyda galeri uwchben y rhesi cefn, a sedd gron yn ogystal â sedd fawr, o flaen y pulpud cerfiedig hardd. Dywedir mai yn y sedd gron y byddai’r gerddorfa yn cyfeilio yn y gwasanaethau, cyn bod yr organ yn ei lle. Yn ddiweddarach bu’r plant yno yn adrodd eu hadnodau ar fore Sul.
Mae’r capel wedi’i gofrestru gan CADW (Gradd 1) fel capel ar raddfa ryfeddo, gyda phensaerniaeth arbennig.
Daeth yr Eglwys Unedig i fodolaeth yn y 90 au cynnar, pan gaewyd Capeli Gerlan a Charneddi ac yr ymunodd yr aelodau gydag aelodau Capel Jerusalem. Erbyn hyn mae aelodau capeli Brynteg, Peniel Llanllechid, Siloam (Wesleaid) a hefyd gapel Penygroes, Tregarth wedi ymuno â ni yn Jerusalem.
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Enw’r Ysgol Sul: Ysgol Sul Eglwys Unedig Jerusalem
Lleoliad yr Ysgol Sul: Capel Jerusalem, Bethesda
Arolygwr: Mrs Menna Wyn Jones
Athrawon: Luned Edwards, Elin Edwards, Fflur Roberts, Lowri Roberts, Linda Brown, Menai Williams
Dosbarthiadau, neu Drefn yr Ysgol Sul: 3 Dosbarth Enfys, Seren a Gwawr
Holl athrawon a chynorthwywyr wedi eu Gwirio efo’r CRB: Do
Digwyddiadau: Gwasanaethau Gwylddewi, Sul y Blodau, Diolchgarwch a’r Nadolig
Isod mae lluniau Jerusalem. I weld y lluniau i gyd - cliciwch yma
DosbarthIADAU
AC EGLWYSI
PLANT & IEUENCTID
Yn YR ADRAN YMA

