Baladeulyn, Nantlle
Enw’r Eglwys: Eglwys Baladeulyn
Lleoliad a Chôd Post yr Eglwys: Nantlle, Caernarfon LL54 6BD
Gweinidog yr Eglwys: Y Parchg Gwenda Richards B.Ed., B.D. abermenai@btinternet.com
Swyddogion yr Eglwys:
- Mrs J C Hughes – ysgrifennydd ac ysgrifennydd y cyhoeddiadau
- Mrs Eryl Thomas – trysorydd
- Mrs Vera Jones
Amseroedd Cyfarfodydd yr Eglwys:
- Oedfa brynhawn Sul am 2pm
- Ysgol Sul 10.30am – 11.30 ar fore Sul
Codwyd y capel cyntaf yn 1865, ond gan fod y chwareli ar gynnydd yn y fro a’r pentref yn datblygu aeth yr adeilad yn rhy fychan ac adeiladwyd ail gapel yn 1900. Ar droad y ganrif roedd 142 o blant ar lyfrau’r eglwys a195 o aelodau. Yn 1985 dymchwelwyd y capel ac addaswyd y festri yn adeilad amlbwrpas, gan ei agor ym mis Tachwedd y flwyddyn honno mewn gwasanaeth pryd y pregethwyd gan y cyn-weinidog sef y diweddar Barchg Brian M. Griffith. Yn wir, bu ef yn allweddol yn y gwaith o addasu’r adeilad a chynllunio’r capel, gan sicrhau fod urddas i’r bensaernïaeth a’r capel yn gweddu i’r dim i’w bwrpas.
Distawrwydd Noddedig
![]() |
Pnawn dydd Llun, 16 Tachwedd, treuliodd rhai o chwiorydd Eglwys Baladeulyn, Nantlle, ddwyawr mewn tawelwch yn y capel er mwyn codi arian at gostau’r Achos. Cawsant eu noddi gan gyd-aelodau a ffrindiau a llwyddo i godi £550. Llongyfarchiadau a diolch iddynt am eu hymdrech.
Cliciwch yma i weld y lluniau
Bedydd yn Eglwys Baladeulyn
![]() |
Pnawn Sul, 19 Gorffennaf, cynhaliwyd oedfa fedydd yn Eglwys Baladeulyn pryd bedyddiwyd Alaw Haf, merch fach Iwan a Kerry Jones, Bontnewydd.
Cyflwynwyd y Dystysgrif Fedydd i'r rhieni gan Mrs Vera Jones a'r cyfeilydd oedd Mrs Eryl Meurig Thomas. Yn y llun gwelir y teulu yng nghwmni'r gweinidog.
Cliciwch yma i weld y lluniau
'Ganllath o gopa’r mynydd…’
![]() |
Dydd Sadwrn, 11 Gorffennaf 2015, fel rhan o ŵyl undydd i ddathlu tirwedd a llenyddiaeth Dyffryn Nantlle cafwyd cyfle i weld Cadair Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1910 yn y Neuadd Goffa ym Mhenygroes. Dyma Gadair Bardd yr Haf, sef y gadair a enillodd R.Williams Parry am ei awdl ‘Yr Haf’ yn yr Eisteddfod honno. Roedd y Neuadd dan ei sang a’r wefr yn drydannol wrth i bawb fanteisio ar y cyfle i dynnu llun y Gadair a roddwyd ar fenthyg i Benygroes am gyfnod byr iawn ar y diwrnod arbennig hwnnw.
Yn dilyn hynny, aeth tua cant o bobl ar daith gerdded yng nghwmni’r bardd a’r newyddiadurwraig Karen Owen. Cawsom ein tywys ar draws y Dyffryn i fannau oedd â chyswllt agos â Bardd yr Haf, a braint fu gwrando ar Karen yn egluro’r cysylltiadau hynny yn hynod o ddiddorol. Yn ystod y daith gofynnwyd i bawb adrodd soned enwg R Williams Parry i’r ‘Llwynog’ a dyna brofiad fu bod yn rhan o Gôr Adrodd enfawr a’r geiriau’n diasbedain ar draws y Dyffryn.
Dwyawr o daith hynod o gofiadwy a chyfle ar y diwedd i rannu argraffiadau uwchben panad yng nghaffi Pant Du.
Bu taith gerdded yn ystod y bore yng nghwmni Twm Elias a chafwyd cyfle yn yr hwyr i holi Eric Jones, yr anturiaethwr.
Diolch i bawb a drefnodd yr Ŵyl, yn arbennig Angharad Tomos. Edrychwn ymlaen at yr Ŵyl y flwyddyn nesa.
Am fwy o luniau, cliciwch yma.
Enw’r Ysgol Sul: Ysgol Sul Baladeulyn
Lleoliad yr Ysgol Sul: Festri’r Capel
Arolygwr: Mrs Eryl M. Thomas (01286 880834)
Athrawon: Mrs Eryl M. Thomas
Trefn yr Ysgol Sul: Un dosbarth o blant rhwng tair a phump oed.
Mae'r holl Athrawon a chynorthwywyr wedi eu Gwirio efo’r CRB.
Clwb Ieuenctid Eglwysi Bro Lleu
Mae y clwb wedi ei sefydlu ers dwy flynedd. Cynhelir y clwb bob dydd Mawrth rhwng pedwar a chwech o’r gloch y prynhawn. Trefnir amrywiaeth o weithgareddau hwyliog ar gyfer yr aelodau, yn gemau, gweithgareddau elusennol, gwaith creadigol ac, wrth gwrs, cyfle i adnabod Crist yn well.
Mae croeso i unrhyw un rhwng 11 a 16 mlwydd oed ymaelodi.
Am wybodaeth pellach cysylltwch a’r Gweinidog, y Parch. Deian Evans.
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
DosbarthIADAU
AC EGLWYSI
PLANT & IEUENCTID
Yn YR ADRAN YMA