Cysegr, Bethel
Enw’r Eglwys: Capel y Cysegr
Lleoliad: Bethel, Arfon LL55 3AA
Gweinidog: Parch Marcus Wyn Robinson
01248 671255 marcuswyn@btinternet.com
Swyddogion:
Ysgrifennydd : Mr Jenkin Morgan Griffiths 01248 670102 llwyneithin@btinternet.com
Trysorydd: Mr Gareth W. Griffiths 01248 670704
Ysgrifennydd y Cyhoeddiadau: Mr Geraint Elis 01248 670 726 g.elis029@btinternet.com
Hefyd:Mr Richard Lloyd Jones,
Mrs Glenys Griffiths,
Dr J Elwyn Hughes,
Mrs Rita Dauncey Williams
Amseroedd cyfarfodydd:
Gwasanaeth o fawl bob bore Sul am 10 o’r gloch ynghyd ag ysgol Sul. Mae’r plant yn bresennol yn y rhannau dechreuol o’r gwasanaeth a gwahoddir y cennad i sgwrsio hefo’r plant. Yn dilyn cyd-adrodd Gweddi’r Arglwydd ymadawant i’r Festri gyda’u hathrawon.
Digwyddiadau Eraill
Mae amrywiol Gymdeithasau’r pentref yn defnyddio festri y Capel i gynnal cyfarfodydd:
-
Cangen Merched y Wawr, Bethel
- Pwyllgorau a chyfarfodydd yr henaduriaeth
-
Cylch Ti a Fi yn cyfarfod bob bore Dydd Mercher yn ystod tymor ysgol
-
Grŵp Yoga bob Nos Lun
-
Cymdeithas Lenyddol Undebol yn fisol yn ystod y gaeaf
-
Clwb Bro Bethel yn fisol yn ystod y gaeaf
-
Pwyllgorau Mudiadau’r pentref megis Eisteddfod y pentref
Yn gysylltiedig â’r Capel mae gennym Bwyllgor Gweithgareddau sydd yn trefnu amrywiol weithgareddau cymdeithasol er hyrwyddo cymdeithasu a chymysgu yn y pentref ac i godi arian i’r capel.
Adeiladwyd y capel yn1864 a daeth yr aelodau cyntaf o wahanol gapeli yn y cylch sef Rhydfawr a Capel Tan-y-Maes a Chapel Nazareth. Dim ond 16 o aelodau oedd yno ar y dechrau.
Heddiw mae’r aelodaeth yn 150 ac mae’r eglwys yn rhan o Ofalaeth ‘Glannau’r Saint’ sef Capeli Cysegr, Bethel, Caeathro a Chapel y Rhos, Llanrug.
Newyddion Medi 2013
Mewn gwasanaeth arbennig a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghapel Penuel Bangor cyflwynwyd y Fedal Gee i Nan Owen i gydnabod ei gwasanaeth i Ysgol Sul y Cysegr dros nifer o flynyddoedd.
10.05.13
Ysgol Sul Cysegr. Plant yn cael eu cyflwyno i Apêl Cymorth Cristnogol
21:10:12
Gwasanaeth Diolchgarwch yn Y Cysegr, Sul Hydref 21, o dan ofal Yr Ysgol Sul.
Ciciwch yma i weld Plant yr Ysgol Sul a rhan o'r gynulleidfa.
Derbyn Medal Gee
Dyma lun o Nan Owen, (canol) Y Cysegr ar ôl iddi dderbyn Medal Gee yn ddiweddar ym Mangor hefo dwy o'i chyd athrawon.
Enw: Ysgol Sul Cysegr yn cyfarfod am 10 o’r gloch yn y Capel i rannau dechreuol o’r Gwasanaeth ac yna’n symud i’r Festri gydau’u hathrawon.
Arolygwr: Myfanwy Harper 01248 362139
Athrawon: Glenys Griffiths, Eleri Moss, Nan Owen, Nora Parry, Ceinwen Williams, Rita Dauncey Williams a Manon Griffiths
Dosbarthiadau: Mae’r plant a’u hathrawon yn bresennol yn rhannau dechreuol o’r Oedfa cyn ymadael i’r Festri.
Gwyliau Arbennig
Cynhelir gwasanaethau arbennig i ddathlu Gŵyl Ddewi, Pasg, Diolchgarwch a’r Nadolig pryd bydd Plant yr ysgol Sul yn cymeryd rhan a cheir cefnogaeth dda gan y rhieni i’r gwasanaethau hyn. Ers nifer o flynyddoedd dethlir y Nadolig gyda gwasanaeth Cymun arbennig ar fore dydd Nadolig am 10 o’r gloch pryd bydd y Capel yn gyfforddus lawn.
Grŵp wedi dod i ben.
Posibl y bydd rhyw fath o gyfarfod yn cymryd lle yn y dyfodol, caiff unrhyw fanylion ynglŷn ag hyn eu hychwanegu pan gaiff ei phenderfynu.
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Isod mae lluniau Cysegr. I weld y lluniau i gyd - cliciwch yma
DosbarthIADAU
AC EGLWYSI
PLANT & IEUENCTID
Yn YR ADRAN YMA