Eglwys y Berth, Penmaenmawr
Gweinidog: Anna Jane Evans BA., BD.
Ysgrifennydd: Mr Oswyn Evans
Ysgrifennydd y Cyhoeddiadau: Mair Evans
Trysorydd: Elwyn Evans DrElwyn@aol.com
Lleoliad a Chôd Post yr Eglwys: Ffordd Bangor, Penmaenmawr, Conwy LL34 6DA
Amseroedd Cyfarfodydd yr Eglwys (hy cyfarfodydd wythnos ac oedfaon y Sul)
Oedfar’r Sul – 10.00 Y Bore
Cyfarfodydd Wythnosol 2.00 y Pnawn
Dechreuodd yr Achos ar y safle presennol yn 1904 yng nghanol y dref, wedi ymadael o Gapel Pen Cae, ar yr Hen Ffordd, Conwy. Roedd yna eisoes chwaer eglwys sef Capel y Glyn yn Nwygyfylchi, ac roedd Capel Maenan yn ffynnu ers dwy flynedd ym mhen gorllewinol y dref.
Roedd yr hen adeiladau yn batrwm o grefftwaith cerrig lleol gyda nenfwd anarferol. Galwyd y capel newydd yn Jeriwsalem.
Erbyn dechrau’r ganrif hon dirywiodd yr adeiladau, ac yr oedd fandaliaeth yn rhemp. O ganlyniad i arolwg E.C. Harris daeth yr achos i ben yn y Glyn, a dymchwelwyd prif adeilad Jeriwsalem gan arbed rhai ffenestri lliw ar facade wrth y fynedfa. Daeth y ddwy gynulleidfa at ei gilydd i ffurfio eglwys newydd a’i galw yn Eglwys y Berth (cyfeiriad at y berth yn llosgi ond heb ei difa yn hanes Moses yn Exodus 3:2) yn 2002.
Gwerthwyd yr organ bib i’r Pabyddion ym Mae Colwyn, dygwyd y pulpud o’r Glyn i’r Berth wedi addasu’r ysgoldy i fod yn gapel, ai osod ar olwynion fel y gellid ei symud yn hwylus os bydd y pregethwr yn hir wyntog!
Mae’r hyn sydd gennym yn awr yn ateb gofynion iechyd a diogelwch, gyda chegin wedi ei pheiriannu’n addas.
Hefyd gweithiwn yn ddwyieithog gydag eglwysi Saesneg lleol a sefydliad Efengylaidd yr Oasis, a’r Eglwys yng Nghymru.
Defnyddir y capel gan gôr Merched lleol i ymarfer ar nos Fercher. Mae’r lle yn werth i unrhyw un ddod i gael cip olwg arno neu, yn well fyth, i ymuno yn yr addoli.
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
DosbarthIADAU
AC EGLWYSI
PLANT & IEUENCTID
Yn YR ADRAN YMA

