Bwlan, Llandwrog


PWYSIG!
Gwasanaethau i gyd wedi eu canslo tan fydd yr haint yma wedi pasio.

image

Enw’r Eglwys: Eglwys Bwlan

Lleoliad a Chôd Post yr Eglwys: Llandwrog LL54 5SR

Gweinidog yr Eglwys:

 

 

Swyddogion yr Eglwys:

  • Elizabeth Fletcher
    Ysgrifennydd a Blaenor
    01286 830343
  • Hughie Hughes
    Blaenor
    01286 832456

Amseroedd Cyfarfodydd yr Eglwys

  • 10 y bore neu 5.30 yr hwyr
  • Ysgol Sul am 10 y bore

    Croeso cynnes i ymwelwyr ac aelodau newydd - cysyllltwch a'r rhifau uchod am fanylion ein gwasanaethau.

Saif capel Bwlan tua hanner milltir o bentref Llandwrog. Codwyd yr adeilad cyntaf yn 1815 ar gost o £400, ac yn ddiweddarach fe’i haddaswyd drwy ychwanegu galeri, ysgoldy ac ystabl.
Heddiw mae 57 o aelodau yn perthyn i’r eglwys.

PWYSIG!
Gwasanaethau i gyd wedi eu canslo tan fydd yr haint yma wedi pasio.


Bore Sul 20 Rhagfyr yn Bwlan

Karen Owen

Bore sul 20 Rhagfyr cynhaliwyd oedfa arbennig i ddathlu’r Nadolig yn Eglwys Bwlan, Llandwrog. Hyfryd oedd gweld y festri’n llawn a chafwyd cyfraniadau gan blant, ieuenctid ac oedolion yr eglwys. Yn dilyn yr oedfa cafodd pawb gyfle i gymdeithasu a mwynhau ‘mins pei’ a diod ysgafn.

Am fwy o luniau, cliciwch yma.

 

 


Medal Gee

medal gee

Llongyfarchiadau twymgalon i Arthur Wyn Parry ar dderbyn y Fedal Gee am ffyddlondeb i'r ysgol Sul ar hyd ei oes. Cyflwynwyd y Fedal iddo gan Dr Dorothy Gee Williams a Dr Isolene Greenhalgh, mewn oedfa arbennig yn y Capel Mawr, Dinbych, pnawn Iau, 3 Medi, 2015.

Dyma'r hyn a nodwyd am Arthur Wyn Parry yn Rhaglen y Cyfarfod Gwobrwyo:
"Bu'n aelod yn Bwlan ers 65 mlynedd ac mae wedi mynychu'r ysgol Sul ers pan oedd yn 5 mlwydd oed. Cafodd ei ordeinio'n flaenor yn 1974. Gweithiodd yn ddiflino gyda'r plant, yn eu dysgu i ganu gan ddefnyddio'r tonic solffa. Mae'r oedfa Nadolig yn Bwlan i'w ryfeddod ato, a llwydda i ddenu pobl y pentra gan annog rhai sydd ddim yn aelodau i gymryd rhan. Y mae'n denor nodedig a bu ei ddawn fel canwr yn gaffaeliad iddo yng ngwaith yr eglwys. Bu'n ysgrifennydd yr ysgol Sul, a deil o hyd i fod yn Arolygwr."

medal geeRydym, fel Gofalaeth, yn ei longyfarch yn fawr ac yn diolch iddo am ei lafur diflino, nid yn unig i'r ysgol Sul yng nghapel Bwlan, ond i bob agwedd ar waith yr eglwys. Byddai'n anodd canfod neb ffyddlonach nag ef i waith y Deyrnas oddi mewn i'w filltir sgwâr. Yn y llun gwelir Arthur yng nghwmni rhai o'i gyd-aelodau yn Bwlan a deithiodd i Ddinbych i rannu yn llawenydd yr achlysur.


Ganllath o gopa’r mynydd…’

Karen Owen

Dydd Sadwrn, 11 Gorffennaf 2015, fel rhan o ŵyl undydd i ddathlu tirwedd a llenyddiaeth Dyffryn Nantlle cafwyd cyfle i weld Cadair Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1910 yn y Neuadd Goffa ym Mhenygroes. Dyma Gadair Bardd yr Haf, sef y gadair a enillodd R.Williams Parry am ei awdl ‘Yr Haf’ yn yr Eisteddfod honno. Roedd y Neuadd dan ei sang a’r wefr yn drydannol wrth i bawb fanteisio ar y cyfle i dynnu llun y Gadair a roddwyd ar fenthyg i Benygroes am gyfnod byr iawn ar y diwrnod arbennig hwnnw.

Yn dilyn hynny, aeth tua cant o bobl ar daith gerdded yng nghwmni’r bardd a’r newyddiadurwraig Karen Owen. Cawsom ein tywys ar draws y Dyffryn i fannau oedd â chyswllt agos â Bardd yr Haf, a braint fu gwrando ar Karen yn egluro’r cysylltiadau hynny yn hynod o ddiddorol. Yn ystod y daith gofynnwyd i bawb adrodd soned enwg R Williams Parry i’r ‘Llwynog’ a dyna brofiad fu bod yn rhan o Gôr Adrodd enfawr a’r geiriau’n diasbedain ar draws y Dyffryn.

Dwyawr o daith hynod o gofiadwy a chyfle ar y diwedd i rannu argraffiadau uwchben panad yng nghaffi Pant Du.

Bu taith gerdded yn ystod y bore yng nghwmni Twm Elias a chafwyd cyfle yn yr hwyr i holi Eric Jones, yr anturiaethwr.

Diolch i bawb a drefnodd yr Ŵyl, yn arbennig Angharad Tomos. Edrychwn ymlaen at yr Ŵyl y flwyddyn nesa.

Am fwy o luniau, cliciwch yma.

Enw’r Ysgol Sul: Ysgol Sul Bwlan

Lleoliad yr Ysgol Sul: Capel Bwlan

Arolygwr:

Arthur Wyn Parry  

01286 830527

Gwenan Ellis

01286 831649

Eirian Owen (trysorydd) 

01286 831207

Athrawon

  • Gwenan Ellis
  • Tim Davies Hughes
  • Elizabeth Fletcher
  • Bethan M. Jones
  • Iona Robinson
  • Hefin Price

Cynhelir yr ysgol Sul am 11 o’r gloch ar fore Sul. Ar hyn o bryd mae 15 o blant yn yr ysgol Sul a cheir dau ddosbarth, sef plant 3 – 7 oed ac 8-11oed.

(Holl Athrawon a chynorthwywyr wedi eu Gwirio efo’r CRB)

Digwyddiadau

  • Trefnu gwasanaethau ar gyfer y Gymanfa, Diolchgarwch a’r Nadolig
  • Codi arian at wahanol elusennau

.

Clwb Ieuenctid Eglwysi Bro Lleu

Mae y clwb wedi ei sefydlu ers dwy flynedd. Cynhelir y clwb bob dydd Mawrth rhwng pedwar a chwech o’r gloch y prynhawn. Trefnir amrywiaeth o weithgareddau hwyliog ar gyfer yr aelodau, yn gemau, gweithgareddau elusennol, gwaith creadigol ac, wrth gwrs, cyfle i adnabod Crist yn well.

Mae croeso i unrhyw un rhwng 11 a 16 mlwydd oed ymaelodi.

Am wybodaeth pellach cysylltwch a’r Gweinidog, y Parch. Deian Evans.

Cyhoeddiadau Eglwys Bwlan 2020 - cliciwch yma

Isod mae lluniau Bwlan. I weld y lluniau i gyd - cliciwch yma

 

 

 

LluniauLluniau Diweddaraf

Henaduriaeth Arfon ar flickr.com
 

CysylltuManylion Cyswllt

Cyfeiriad:Y Parchedig Ddr Elwyn Richards, Plas Bach, 70 Cae Gwyn, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1LL.
Ffôn: 01286 676435
E-bost: post@henaduriaetharfon.org