Andrew Settatree |
||
Clybiau Ieuenctid
Mae y clwb wedi ei sefydlu ers dwy flynedd. Cynhelir y clwb bob dydd Mawrth rhwng pedwar a chwech o’r gloch y prynhawn. Trefnir amrywiaeth o weithgareddau hwyliog ar gyfer yr aelodau, yn gemau, gweithgareddau elusennol, gwaith creadigol ac, wrth gwrs, cyfle i adnabod Crist yn well.
Mae croeso i unrhyw un rhwng 11 a 16 mlwydd oed ymaelodi.
Am wybodaeth pellach cysylltwch a’r Gweinidog, y Parch. Deian Evans.
Enw’r Ysgol Sul: Ysgol Sul Berea Newydd
Lleoliad yr Ysgol Sul : Berea Newydd
Arolygwr: Ms Menna Baines
Swyddog Plant ac Ieuenctid: Mr Owain Davies
Swyddfa Berea Newydd : 01248 353132
Athrawon : Amryw yn gweithio rota
Dosbarthiadau / Trefn yr Ysgol Sul : Bydd y plant yn aros yn yr oedfa am ran cyntaf y gwasanaeth a bydd y plant yn gyfrifol am ddarllen salm, ledio emyn a bydd cyfle iddynt adrodd eu hadnodau a’u penillion.
Byddant yn gadael i fynd i’r Ysgol Sul yn ystod yr ail emyn a bydd 6 dosbarth ar eu cyfer wedi trefnu yn ôl eu hoed.
Mae’r holl athrawon a chynorthwywyr wedi eu Gwirio efo’r DBS
Digwyddiadau: Bydd yr Ysgol Sul yn trefnu oedfaon arbennig ar amryw o achlysuron yn ystod y flwyddyn e.e Pasg, Diolchgarwch a’r Nadolig,
Bydd brecwast i’r plant a’r rhieni cyn yr oedfa adeg y Pasg.
Bydd cyfle i’r plant fynychu cyrsiau a phenwythnosau yng Ngholeg y Bala
Ceir y trip blynyddol i bawb o’r plant yn ystod yr haf.
DosbarthIADAU
AC EGLWYSI
PLANT & IEUENCTID