Seilo, Caernarfon
![]() |
Enw’r Eglwys: Seilo, Caernarfon Lleoliad a Chôd Post yr Eglwys: Lôn Pafiliwn, Caernarfon, LL5 1AS Gweinidog yr Eglwys: Y Parchg Gwenda Richards B.Ed., B.D. abermenai@btinternet.com |
| Llywydd mis Mai - Miss Dorothy Williams |
Swyddogion yr Eglwys:
Ysgrifennydd : Dr Gwyn Lewis wgwynlewis@btinternet.com
Ysgrifennydd y Cyhoeddiadau : Dr Huw Lewis Roberts huw_doc@hotmail.com
Trysorydd : Mr Howel Roberts
Hefyd : Mr Harry Jones, Mr W Bleddyn Williams, Mr William Lloyd Davies, Mr Iorwerth T Williams, Mr Alwyn Evans, Mr Elwyn Robinson, Mr John W Humphreys,
Mr Thomas Alun Williams,
Mr Geraint Clwyd Jones,
Mr David Elwyn Williams,
Mrs Helen Jones,
Mr Arthur Rowlands,
Mr Iolo W Thomas,
Y Parchg Dafydd Lloyd, Hughes,
Miss Elizabeth M Jones,
Mr Richard Parry Jones,
Mr Eifion Harding,
Mrs Nel Pritchard,
Mr Llew Williams,
Mrs Glenys Trainor,
Mr Dylan Roberts,
Miss Dorothy Williams,
Mr Gerald Williams,
Miss Lucille Hughes,
Mr Richard Morris Jones,
Mrs Edwina Morgan,
Mr R T Glyn Robinson,
Mrs Meleri Tudur Thomas,
Mr J Idwal Williams
Amseroedd Cyfarfodydd yr Eglwys (hy cyfarfodydd wythnos ac oedfaon y Sul):
Oedfaon y Sul : Oedfaon 10am a 5pm ( yn yr haf);
10am a 4pm ( yn y gaeaf)
Yr ysgol Sul yn cydredeg ag oedfa'r bore. Mae darpariaeth ar gyfer plant o bob oedran yn yr ysgol Sul, a chroeso cynnes i bawb. Am ragor o fanylion, cysyllter â'r Arolygydd, Mrs Ann Llywelyn Williams (01286 674849)
Cyfarfodydd wythnos :
Medi i Mai: Y Gymdeithas Lenyddol ( 7.30 nos Lun gynta'r mis) Cliciwch yma am raglen
Cymdeithas Chwiorydd. ( 7pm yr ail nos Lun ym mhob mis) Cliciwch yma am raglen
Hydref i'r Pasg: Seiat am 10am bob bore Mercher
Cell Weddi: 10am bob bore Mercher
Digwyddiadau: 19 Mawrth Pwdin a Phaned
| Cliciwch ar y poster am fwy o wybodaeth |
Saif eglwys Seilo ar Allt Pafiliwn gyferbyn â llyfrgell tref Caernarfon. Codwyd yr adeilad presennol, sy'n cynnwys theatr sylweddol, yn 1976, yn lle'r capel a ddymchwelwyd pan adeiladwyd ffordd osgoi ar gyrion y dref. Cafodd y Parchedig Gwenda Richards ei sefydlu'n weinidog yr eglwys yn 2001 ac mae hi hefyd yn weinidog ar Eglwys y Waun, Waunfawr. Mae sawl gweinidog wedi ymddeol yn aelodau yn yr eglwys ac maent yn barod iawn i gynorthwyo'r gweinidog bob amser. Yn eu plith y mae'r Parchedig Harri Parri a'r Parchedig. Trefor Jones, y Parchedig Emrys W. Thomas, y Parchedig Iorwerth Jones Owen a'r Parchedig Dafydd Lloyd Hughes.
Mae 32 o flaenoriaid yn yr eglwys a chan pob un ohonynt gyfrifoldebau arbennig. Mae'r eglwys wedi ei rhannu yn gylchoedd gyda blaenor yn gyfrifol am bob cylch. Mae rhestr y blaenoriaid ynghyd â' 'cylchoedd' yn gynwysedig. Yn naturiol ni ddisgwylir i'r blaenoriaid oedrannus ysgwyddo'r un cyfrifoldebau â'r rhai iau, ond rydym yn eithriadol falch ohonynt ac yn diolch iddynt am eu llafur diflino ar hyd y blynyddoedd.
Rhaid canmol chwiorydd yr eglwys am eu gweithgarwch diflino yn codi arian tuag at waith yr eglwys yn ogystal ag at achosion dyngarol. Yn 2012 canolbwyntir ar Apêl Guatemala Eglwys Bresbyteraidd Cymru a Chymdeithas Llid yr Ymennydd. Cynhaliwyd Noson Goffi yn nhŷ'r Gweinidog yn ystod mis Mai a chynhelir y Ffair Nadolig flynyddol ym mis Tachwedd. Mae hon yn ddieithriad yn ffair gwerth chweil a chyfle ynddi i brynu anrhegion Nadolig gwahanol o safon uchel.
Mae'r capel yn adeilad hardd ac addolir ynddo ddwywaith bob Sul fel rheol.. Gwneir ymdrech i asio'r hen a'r newydd mewn oedfaon gan anelu at ddyfnhau ysbrydolrwydd ymhlith yr addolwyr. Defnyddir dulliau modern i gyflwyno'r Efengyl, ond ar yr un pryd rhoddir lle canolog i bregethu'r Gair a gwahoddir pregethwyr o bell ac agos i'r pulpud ar y Sul. Gweinyddir y Cymun unwaith bob mis, gan amlaf ar y Sul cyntaf a chynhelir y sacrament o fedydd yn rheolaidd wrth i rieni ddewis cyflwyno eu plant i gorlan yr eglwys.
Mae'r ysgol Sul yn brysur a darperir ynddi ar gyfer plant ifanc ac ieuenctid. Cynhelir sawl Oedfa Deulu yn ystod y flwyddyn a chynhelir gwasanaethau arbennig i ddathlu'r prif wyliau yn flynyddol. Rydym yn ffodus o dîm o athrawon ymroddgar a brwdfrydig.
Gwneir defnydd helaeth o'r Theatr trwy'r flwyddyn ac mae ar gael i'w llogi am bris rhesymol. Gall eistedd cynulleidfa o 300 ac mae ynddi gyfleusterau ar gyfer llwyfannu dramâu a chyngherddau. Am ragor o wybodaeth gellir cysylltu â Mr Merfyn Morgan (672708).
Mae Seilo yn eglwys brysur a'i darpariaeth yn eang. Mae'n eglwys gynnes a chroesawus ac mae croeso twymgalon i bawb un ai i oedfa ac i weithgareddau'r wythnos. Am ragor o wybodaeth, cysyllter un ai â'r ysgrifennydd, Dr W. Gwyn Lewis (01286 676651) neu â'r Gweinidog, y Parchedig Gwenda Richards (01286 676434).
Bore Gwener y Groglith 2013
Gorymdaith y Groglith |
Gorymdaith y Groglith |
Y Plant yng nghwmni Anna Jane Evans y tu allan i Eglwys y Santes Fair, Caernarfon |
Yn dilyn oedfa gymun undebol Cyngor Eglwysi Caernarfon yn eglwys Ebeneser ar fore Gwener y Groglith, cynhaliwyd Gorymdaith y Groglith o amgylch tref Caernarfon. Cychwyn o Ebeneser, ymlaen at eglwys Caersalem, i lawr Stryd Llyn ac i'r Maes, a therfynnu yn eglwys y Santes Fair, gan aros yn y mannau hynny i ddarllen o'r ysgrythur ac i ganu emyn. Yn y lluniau gwelir rhai o'r plant wrth y groes a gariwyd trwy'r dref a'r cerddwyr wedi cyrraedd y Maes ac yn gwrando ar Mererid Mair yn darllen rhan o'r ysgrythur.
Bore Sul y Pasg 2013
Daeth cynulledfa niferus i eglwys Seilo ar fore Sul y Pasg a chafwyd oedfa fendithiol dan arweiniad y gweinidog, y Parchedig Gwenda Richards. Gweinyddiwyd y sacrament o Swper yr Arglwydd a bedyddiwyd Alys Grug, merch fach Non Gwenllian a David Gareth Hughes, 8a Gerddi Menai, Caernarfon. Cyflwynwyd y dystysgrif fedydd i'r rhieni gan Meleri Thomas. Pleser oedd darllen tocyn aelodaeth Manon Hughes Parry a’i derbyn hi a’i mab bach, Gwydion Siôn, yn aelodau o eglwys Seilo. Yr organydd oedd Geraint Clwyd Jones. Yn y llun gwelir Non, Gareth ac Alys, Guto brawd Alys, Siân a Gethin, rhieni bedydd Alys, ynghyd â'r gweinidog.
Seremoni Datganiad Uchel Siryf Gwynedd 2013/14
Marian Wyn Jones
Y Teras, Coleg Prifysgol Bangor 31 Mawrth 2013
Cafwyd Seremoni Datganiad hyfryd yn adeilad y Teras, Coleg Prifysgol Bangor dan arweiniad medrus Iolo Thomas, yr Is Siryf. Traddodwyd dwy anerchiad fyr, y naill gan y cyn Uchel Siryf, Edmund Seymour Bailey Ysw., a'r llall gan Marian Wyn Jones. Rhoddodd y naill amlinelliad o'i weithgareddau yn ystod tymor ei Uchel Siryfiaeth a nododd Marian Wyn Jones fel y mae gofynion swydd Uchel Siryf wedi newid yn ystod y canrifoedd a chyflwyno darlun byw o'i dirnadaeth hi o'i rôl fel Uchel Siryf yn yr unfed ganrif a hugain.
Pleser o'r mwyaf fu gwrando ar Bedwarawd Llinynol Canolfan Gerdd William Mathias yn cyflwyno 'Pavanne' gan Fauré, a 'Chymysgfa Cymreig', trefniant gan Bill Connor.
Dymunwn yn dda i Marian a Iolo wrth iddynt gychwyn ar flwyddyn brysur a diddorol.
Yn y naill lun gwelir Marian Wyn Jones a Iolo Thomas, ac yn y llall gwelir Edmund Seymour Bailey Ysw., y cyn Uchel Siryf; Marian Wyn Jones, yr Uchel Siryf presennol; a'r Anrhydeddus Huw Morgan Daniel, Arglwydd Raglaw Gwynedd.
Oedfa Sul y Blodau yn Eglwys Seilo, Caernarfon
Trwy gyfrwng cerddoriaeth, darlleniadau ac actio portreadwyd rhai o ddigwyddiadau'r Wythnos Fawr yn gynnil a chofiadwy. Cymerwyd rhan Iesu Grist yn hynod o effeithiol gan Arwel Williams, rhan Pedr gan Dr Huw Lewis Roberts, a Pheilat gan Richard Parry Jones. Jan Jones, Lowri Ellen ac Eleri Ann oedd y merched ar y stryd ac Idwal Williams, Alaw ac Elin Haf, a Lisa Anwen oedd y cyfnewidwyr arian yn y Deml. |
|
Blodau'r Dioddefaint |
Y plant oedd yn gyfrifol am olygfa Sul y Palmwydd. Canodd Verona Hughes unawd gyda Geraint Clwyd Jones yn cyfeilio iddi. Y darllenwyr oedd: Heledd Gwyn Lewis, Lisa ac Euros Clwyd Jones, Lois Angharad Morgan a Gwen Angharad Thomas. Yr organydd oedd Alun Llwyd. Trefnwyd y blodau i gyd-fynd â thema'r oedfa gan Jan Jones. Roedd yr oedfa dan ofal y Gweinidog, y Parchedig Gwenda Richards.
Yn y darlun gwelir plant Seilo yn chwifio dail palmwydd â Iesu Grist yn eu canol. |
Blodau Sul y Palmwydd |
Pwdin a Phanad
Cafwyd noson ysgafn a chartrefol yn Theatr Seilo nos Fawrth, 18 Mawrth, wrth i bawb fwynhau pwdin blasus a chyngerdd i ddilyn gan blant yr eglwys. Mae 'Noson Pwdin a Phanad' yn ddigwyddiad blynyddol yn Seilo pan mae'r chwiorydd yn paratoi gwledd o bwdinau a'r plant yn cael cyfle i berfformio ar y llwyfan. Gan fod nifer o'r plant wedi cystadlu yn eisteddfod Gylch a Sir yr Urdd, cawsant gyfle i ganu ac adrodd, dawnsio ac actio yn ogystal â chyflwyno eitemau offerynnol. Roedd gweld yr amrywiaeth o bwdinau yn ddigon i dynnu dŵr o ddannedd pawb a diolchir i'r chwiorydd am eu llafur a'u haelioni arferol. Bydd yr elw o dros £400 yn mynd tuag at yr Achos a hanner yr arian yn cael ei ddefnyddio tuag at waith yr ysgol Sul.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau.
Oedfa 'Sul y Fam'
Cafwyd oedfa deulu hyfryd yn Eglwys Seilo bore Sul y Fam, 9 Mawrth 2013. Cymerwyd rhan gan nifer o blant yr eglwys ac yn ystod yr oedfa derbyniodd pob gwraig oedd yn bresennol flodyn, a rhannwyd fferins ymhlith y gynulleidfa. Gan ddilyn y thema 'Anrheg i Iesu' cyflwynwyd hanes Mair yn tywallt yr ennaint gwerthfawr dros Iesu Grist. Yr oedd yr oedfa yng ngofal y Gweinidog ac athrawon yr ysgol Sul. Y llywydd oedd Mrs Meleri Thomas a'r organydd oedd Mr Alun Rhys Williams.
Yn oedfa'r hwyr pregethodd y Gweinidog ar hanes 'Ffydd y Gananees,' a geir yn Efengyl Mathew (15:21-28).
Seiat y Grawys
Cynhaliwyd y bedwaredd o Seiadau Grawys Cyngor Eglwysi Tref Caernarfon yn Eglwys Seilo, nos Fercher 13 Mawrth.
Y thema oedd 'Dioddefaint Crist' a thrwy gyfrwng cerddoriaeth a delwedd cafwyd cyflwyniad gwahanol a hynod o fendithiol dan arweiniad y Parchedig Gwenda Richards. Y darllenwyr oedd: Llinos Lloyd Jones, Janice Jones a Helen Jones. Cynhelir y bumed Seiat o'r gyfres yng Nghapel y Maes, am 7 o'r gloch nos Fercher 20 Mawrth.
Cinio Gwyl Ddewi Cymdeithas Lenyddol Seilo 2013
![]() |
Nos Lun, 4 Mawrth, cynhaliwyd Cinio Gwyl Ddewi Cymdeithas Lenyddol Eglwys Seilo yng Nghlwb Golff Caernarfon. Y Gwr Gwadd oedd Y Parchedig Ddr Huw John Hughes, a chafwyd anerchiad cofiadwy a hynod o ddiddorol ganddo. |
| Y Parchedig Ddr Huw John Hughes a Dr Huw Lewis Roberts |
Llywyddwyd y cyfarfod gan Dr Huw Lewis Roberts a chyflwynwyd y diolchiadau gan Mr Richard Morris Jones. Roedd holl drefniadau’r noson yng ngofal Mrs Eurwen Williams, ysgrifennydd y Gymdeithas. Bu’r cyfarfod yn glo teilwng i weithgareddau’r tymor a dychwelodd pawb adref wedi mwynhau’r bwyd blasus, y cwmniaeth difyr a’r neges bwrpasol.
Nadolig 2012
Dydd Sul 23 Rhagfyr, cynhaliwyd dwy oedfa yn Seilo i ddathlu’r Nadolig. Roedd oedfa’r bore yng ngofal ieuenctid yr eglwys a chafwyd awr eithriadol o fendithiol yn eu cwmni. Am dri o’r gloch y prynhawn tro’r plant oedd hi i gyflwyno Stori’r Geni, a gwnaethant hynny gyda’u brwdfrydedd a’u naturioldeb arferol. Yn dilyn oedfa’r prynhawn cynhaliwyd te parti Nadolig y plant yn y theatr a chroesawyd Siôn Corn ar ei ymewliad blynyddol â Seilo. Diolchir i Delyth Gadlys Williams am dynnu lluniau yn yr oedfaon a’r parti. Cliciwch yma i weld y lluniauBedyddio tri plentyn yn Seilo bore Sul 2 Rhagfyr
Stephen Williams a Dona Roberts yw rhieni Celyn Gill Williams ac mae’r teulu’n byw yn 12 Ffordd Glascoed, Caernarfon. Llongyfarchwyd y tri teulu gan y gweinidog a dymunodd fendith ar eu haelwydydd. Cyflwynwyd y dystysgrif fedydd i’r teuluoedd gan Dr Huw Lewis Roberts, llywydd y mis.
![]() |
![]() |
Yn y llun cyntaf gwelir y Parchedig Gwenda Richards yn nghwmni Celyn a’i rhieni ynghyd â Bethan, Gareth, Lois a Keith, rhieni bedydd Celyn. Rhieni a theulu Lliwen a Sara sydd yn yr ail a'r trydydd llun.
Y Gymdeithas Lenyddol

Nos Lun, 4 Tachwedd, diddanwyd aelodau Cymdeithas Lenyddol Seilo gan y cerddor medrus, Robert Arwyn. Mwynhawyd gwrando arno’n cyflwyno detholiad o’i ganeuon a chafwyd noson i’w chofio yn ei gwmni. Llywyddwyd y noson gan Mr Geraint Clwyd Jones.
Bydd cyfarfod nesaf y Gymdeithas nos Lun, Rhagfyr 3, ar y cŷd â Chymdeithas y Chwiorydd pan geir noson Nadoligaidd yng nghwmni Côr Meibion Dyffryn Peris. Croeso cynnes i bawb.
Ffair Nadolig Seilo
Pnawn dydd Iau, 15 Tachwedd 2012, daeth tyrfa niferus i Ffair Nadolig flynyddol eglwys Seilo. Bu chwiorydd yr eglwys yn paratoi ers misoedd ar ei chyfer gan sicrhau amrywiaeth eang o nwyddau i’w gwerthu. Roedd y byrddau gwerthu yn werth i’w gweld. Diolchir i bawb a sicrhaodd ffair lwyddiannus eto eleni. Diolch arbennig i Mrs Beryl Roberts, ysgrifennydd pwyllgor y chwiorydd, am ei holl lafur. Gwnaethpwyd elw o £4,000 i’w rannu rhwng yr eglwys ac Apêl Guatemala. Cliciwch yma am fwy o luniau
Nadolig y Plentyn (Operation Christmas Child) 2012

Bu aelodau Seilo yn pratoi bocsys ar gyfer apêl flynyddol Nadolig y Plentyn (Operation Christmas Child) eto eleni. Daeth 59 bocs i law sy’n gyfanswm anrhydeddus o gofio bod ysgolion y dref yn ogystal â mannau eraill yn derbyn bocsys hefyd. Yn y llun gwelir y bocsys yn cael eu llwytho i’r fan bore dydd Mercher 21 Tachwedd
Yr Ŵyl Ddiolchgarwch yn Eglwys Seilo, dydd Sul 21 Hydref 2012

Bore Sul 21 Hydref, 2012, cynhaliwyd oedfa Ddiolchgrwch y Plant yn eglwys Seilo, Caernrfon. Roedd y capel yn llawn a’r plant wrth eu bodd yn cyflwyno neges yr Ŵyl ar lafar ac ar gân. Llywydd y Sul oedd Dr Gwyn Lewis a’r organydd oedd Mr Geraint Clwyd Jones. Trefnwyd yr oedfa gan y Gweinidog, y Parchedig Gwenda Richards ynghyd ag athrawon yr ysgol Sul. Roedd y ‘bwrdd rhoddion’ yn orlawn o nwyddau i’w rhannu rhwng y cleifion ac aelodau bregus yr eglwys.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Bedydd yn Eglwys Seilo

Fel rhan o’u croeso i ‘Cadi Haf’ canodd y plant ‘Pwy wnaeth y Sêr Uwchben?’dan arweiniad Guto Puw ac roedd y gynulleidfa wrth ei bôdd yn gwrando arnynt. Llywydd y Sul oedd Dr Gwyn Lewis a’r organydd oedd Mrs Marian Wyn Jones.
Cynhelir ‘Bwrdd Gwerthu Masnach Dêg’ yn Seilo ar fore Sul cyntaf bob mis. Yn y llun gwelir Edwina Morgan ac Elizabeth Jones y tu ôl i’r cownter (07:10:12).
Swper Agoriadol Cymdeithas Lenyddol Eglwys Seilo, nos Lun 1 Hydref, 2012
Cafwyd noson ardderchog i agor y Gymdeithas Lenyddol yng nghwmni’r Harri Parri a Nan a roddodd sgwrs ddiddorol ar Rhys Hendra Bach. Cliciwch yma i weld y lluniau
Bu’r chwiorydd wrthi’n brysur yn paratoi ar gyfer y noson a chafwyd swper tri chwrs gwerth chweil. Llywydd y noson oedd y gweinidog, y Parchedig Gwenda Richards.
Rhaglen y Gymdeithas Lenyddol |
Rhaglen Chymdeithas y Chwiorydd |
Enw’r Ysgol Sul: Seilo, Caernarfon
Lleoliad yr Ysgol Sul - Eglwys Seilo, Allt Pafiliwn, Caernarfon
Arolygwr:Mrs Ann Llywelyn Williams. Rhif Ffon: 01286 674849
Athrawon: Mrs Sioned Davies, Mrs Jan Jones, Mrs Verona Jones, Mrs Carys Owen, Mrs Grace Owen, Mrs Catrin Elen Parry, Mr Guto Puw, Mrs Iona Thomas, Mrs Rhian Tomos, Mrs Angharad Williams, Mr Arwel Williams, Mrs Sian Williams
Dosbarthiadau: ,Mae’r dosbarthiadau yn dilyn oed ‘blwyddyn ysgol’.
Mam a’i Phlentyn / Blwyddyn 0 sef Oed Meithrin / Blwyddyn 1 a 2 / Blwyddyn 3 a 4 / Blwyddyn 5 a 6 / Ieuenctid sef Oed Uwchradd
Mae’r holl athrawon a chynorthwywyr wedi eu Gwirio efo’r CRB
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...

Mai 2013 - Rhifyn 196 - cliciwch yma
Ebrill 2013 - Rhifyn 195 - cliciwch yma
Mawrth 2013 - Rhifyn 194 - cliciwch yma
Ionawr / Chwefror 2013 - Rhifyn 193 - cliciwch yma
Rhagfyr 2012 - Rhifyn 192 - cliciwch yma
Tachwedd 2012 - Rhifyn 191 - cliciwch yma
Hydref 2012 - Rhifyn 190 - cliciwch yma
Awst / Medi 2012 - Rhifyn 189 - cliciwch yma
Cliciwch ar y poster am fwy o wybodaeth
Ar gyfer bwcio’r Theatr - Mr Merfyn Morgan 01286 672708 merfyn.morgan@btinternet.com
DosbarthIADAU
AC EGLWYSI
PLANT & IEUENCTID
Yn YR ADRAN YMA






















