Glanrhyd, Llanwnda
Enw’r Eglwys: Capel Glanrhyd
Lleoliad a Chôd Post yr Eglwys: Capel Glanrhyd, Dinas, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5UE
Gweinidog yr Eglwys: Dim gweinidog.
Swyddogion yr Eglwys:
Ysgrifennydd : Mrs Gwawr Maelor Williams (01286831018) gwawrmaelor@btinternet.com
Trysorydd: Mrs Rhianon Jones (01286479192) - rhianonderwin@gmail.com
Ysgrifennydd y Cyhoeddiadau: Mr Richard Williams (01286 831018)
Organyddion: Mrs Edith Jones, Mrs Bethan Jacks, Mrs Buddug Roberts, Mrs Meilys Smith
Pwyllgor Gweithgareddau a Meddiannau: Swyddogion, Mri Edward G. Jones, Emrys Jones, Euros Jones, Mrs Elin Evans, Mrs Bethan Jacks a Mrs Morfudd Thomas
Ar gyfer trefnu priodas : Mrs Rhianon Jones, (01286479192) - rhianonderwin@gmail.com
Blaenoriaid: Mr Geraint Lloyd Owen; Mrs Ellen Pierce Jones; Mr Rhodri Owen; Mrs Gwawr Maelor Williams, Mr Richard Williams
Amseroedd Cyfarfodydd yr Eglwys (hy cyfarfodydd wythnos ac oedfaon y Sul):
Oedfaon y Sul : 10am y bore Oedfa ac Ysgol Sul
Mae tŵr uchel pigfain Capel Glanrhyd i’w weld o bell yn ardal Llanwnda. Fel yn y cyfnod y’i adeiladwyd yn 1899 mae’r adeilad hyd heddiw yn cael ei adnabod fel y ‘capel gyda’r tŵr’ neu’r ‘capel sydd yn wahanol’. Haelioni teulu Gwylfa, sef Mr a Mrs Thomas Williams, roddodd y llain o dir i adeiladu’r capel arno gan y credent, ymhlith rhesymau eraill, y byddai codi eglwys arall yn gaffaeliad ysbrydol i’r ardal. Y gweinidog cyntaf oedd y Parchg David Williams, ac yna wedi arweiniad ysbrydol pum gweinidog, mawr oedd y cynnwrf pan sefydlwyd y Parchg Deian Evans yn weinidog ar ofalaeth Bro Lleu ym mis Hydref 2010.
Bob Sul am 10 y bore daw’r aelodau at ei gilydd i gyd-addoli a bydd plant ac athrawon yr ysgol Sul yn rhan o’r oedfa ddechreuol cyn symud wedyn i’r festri ac i’r ysgol Sul. Rydym yn credu’n gryf bod dod â holl aelodau’r eglwys at ei gilydd ar ddechrau’r oedfa fel hyn yn bwysig ac yn fodd i geisio creu naws gartrefol, deuluol i’r oedfa. Mae’n fodd i’r plant hefyd fod yng nghwmni oedolion a chael bod yn rhan o arfer a thraddodiad. Yr un pryd mae presenoldeb y plant a’u cyfraniad yn dod â gwedd a sglein yr ifanc i’r addoliad. Gweinyddir y Cymun ar suliau penodol ac o bryd i’w gilydd braf iawn yw cael bod yn rhan o Sacrament y Bedydd a rhannu llawenydd rhieni wrth iddynt ddymuno cyflwyno’u plant i ddwylo Duw a’r eglwys. Gwahoddir pregethwyr o hyd a lled yr ardal a thu hwnt i gynnal oedfaon ond hefyd rydym yn cynnal gwasanaethau ymhlith ein haelodau ein hunain yn arbennig ar adegau allweddol yn y flwyddyn fel Diolchgarwch a’r Nadolig neu Oedfa Weddi. Neilltuir rhai Suliau i gyd-addoli mewn capeli eraill yng Ngofalaeth Bro Lleu a hynny bob amser dan arweiniad ein Gweinidog. Ystyriwn y gwasnaethau hyn yn greiddiol i’n patrwm addoliad gan bod cyd-addoli gyda’n cyd-eglwysi yng Ngofalaeth Bro Lleu yn rhoi ymdeimlad o deulu estynedig ysbrydol i ni a’n bod yn rhan o gymuned gristnogol ehangach.
Ceir saith blaenor yn yr eglwys gyda’u cyfrifoldebau amrywiol. Ond ni fyddai’r eglwys yn hyfyw heb gyfraniad aelodau sy’n barod i ysgwyddo cyfrifoldebau a swyddogaethau i wirfoddoli a chyfrannu mewn sawl dull a modd. Y cydweithio hwn yw llwyddiant yr eglwys yn ddi-os. Cydweithio wrth lywyddu, cyfeilio, glanhau, gofalu am lestri’r cymun a’r blodau, cydweithio wrth dorri’r lawnt, archwilio’r cyfrifon, gofalu am y cyllid, cynnal ysgol Sul a chydweithio wrth edrych ar y meddiannau a gofalu am weithgareddau eraill. Yn 2012 canolbwyntia gweithgareddau’r eglwys ar Apêl Guatamala Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac i adnewyddu’r festri ar gyfer yr ysgol Sul fel bo gwell cyfleusterau ac awyrgylch gynnes i Mrs Rowena Evans yr arolygydd a’i thîm o rieni sy’n cynorthwyo i arwain y plant o Sul i Sul.
Mawr obeithiwn ein bod yn eglwys sy’n ceisio’n gorau i groesawu pawb yn gynnes. Yn ddiweddar braf iawn yw cael dweud bod derbyn aelodau newydd wedi rhoi gymaint o hwb ac ysbryd newydd i ni gyd. Os hoffech ragor o wybodaeth am yr eglwys cysylltwch gyda’r ysgrifennydd. Mrs Gwawr Maelor Williams (01286831018) neu’r Gweinidog, Y Parchedig Deian Evans ( 01766522537)
Sul y Tadau yng Nglanrhyd
Bore Sul, 18fwd o Fehefin, cafodd plant yr ysgol Sul yng nghapel Glanrhyd fwynhau gwers hwyliog allan yn yr awyr iach. Roedd yn hyfryd eu gweld yn mwynhau eu hunain.
Ganllath o gopa’r mynydd…’
Dydd Sadwrn, 11 Gorffennaf 2015, fel rhan o ŵyl undydd i ddathlu tirwedd a llenyddiaeth Dyffryn Nantlle cafwyd cyfle i weld Cadair Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1910 yn y Neuadd Goffa ym Mhenygroes. Dyma Gadair Bardd yr Haf, sef y gadair a enillodd R.Williams Parry am ei awdl ‘Yr Haf’ yn yr Eisteddfod honno. Roedd y Neuadd dan ei sang a’r wefr yn drydannol wrth i bawb fanteisio ar y cyfle i dynnu llun y Gadair a roddwyd ar fenthyg i Benygroes am gyfnod byr iawn ar y diwrnod arbennig hwnnw.
Yn dilyn hynny, aeth tua cant o bobl ar daith gerdded yng nghwmni’r bardd a’r newyddiadurwraig Karen Owen. Cawsom ein tywys ar draws y Dyffryn i fannau oedd â chyswllt agos â Bardd yr Haf, a braint fu gwrando ar Karen yn egluro’r cysylltiadau hynny yn hynod o ddiddorol. Yn ystod y daith gofynnwyd i bawb adrodd soned enwg R Williams Parry i’r ‘Llwynog’ a dyna brofiad fu bod yn rhan o Gôr Adrodd enfawr a’r geiriau’n diasbedain ar draws y Dyffryn.
Dwyawr o daith hynod o gofiadwy a chyfle ar y diwedd i rannu argraffiadau uwchben panad yng nghaffi Pant Du.
Bu taith gerdded yn ystod y bore yng nghwmni Twm Elias a chafwyd cyfle yn yr hwyr i holi Eric Jones, yr anturiaethwr.
Diolch i bawb a drefnodd yr Ŵyl, yn arbennig Angharad Tomos. Edrychwn ymlaen at yr Ŵyl y flwyddyn nesa.
Am fwy o luniau, cliciwch yma.
Oedfa Fedydd
Cafwyd oedfa hyfryd yn Eglwys Glanrhyd bore Sul 5 Gorffennaf wrth i'r Gweinidog, y Parchedig Gwenda Richards, fedyddio Owain Rhys a'i fam Sioned Louise Oliver. Mae'r teulu'n byw yn Maes Dulyn, Penygroes, a daeth nifer o deulu a ffrindiau Llifon a Sioned i'r oedfa. Cyflwynwyd y Tystysgrifau Bedydd gan Mrs Gwawr Maelor Williams, ysgrifennydd yr Eglwys a'r cyfeilydd oedd Mrs Edith Jones. Yn y llun gwelir y teulu a'r rhieni bedydd yng nghwmni'r Gweinidog.
Enw’r Ysgol Sul: Ysgol Sul Glanrhyd
Lleoliad yr Ysgol Sul: Festri Capel Glanrhyd
Arolygwr: Mrs Rowena Evans
Athrawon: Tîm o rieni dan ofal Mrs Rowena Evans
Trefn yr Ysgol Sul: Bydd y plant yn aros yn rhan ddechreuol yr oedfa ac yn ystod yr ail emyn bydd yr athrawon a’r plant yn mynd i’r festri ar gyfer yr ysgol Sul.
Holl Athrawon a chynorthwywyr wedi eu Gwirio efo’r CRB
Digwyddiadau : Digwyddiadau Hydref i Ragfyr 2012 i’w trefnu ar gyfer Apêl Guatemala ac ar gyfer codi arian ar gyfer adnoddau a dodrefn newydd i’r ysgol Sul.
Clwb Ieuenctid Eglwysi Bro Lleu
Mae y clwb wedi ei sefydlu ers dwy flynedd. Cynhelir y clwb bob dydd Mawrth rhwng pedwar a chwech o’r gloch y prynhawn. Trefnir amrywiaeth o weithgareddau hwyliog ar gyfer yr aelodau, yn gemau, gweithgareddau elusennol, gwaith creadigol ac, wrth gwrs, cyfle i adnabod Crist yn well.
Mae croeso i unrhyw un rhwng 11 a 16 mlwydd oed ymaelodi.
Am wybodaeth pellach cysylltwch a’r Gweinidog, y Parch. Deian Evans 01766522537
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan....
Isod mae lluniau Glanrhyd. I weld y lluniau i gyd - cliciwch yma
DosbarthIADAU
AC EGLWYSI
PLANT & IEUENCTID
Yn YR ADRAN YMA