Newyddion

 

EBRILL 2020

Owain Davies – Gweithiwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd Ardal Bangor.

Cafwyd sesiwn drymio hwyliog a swnllyd iawn yn y clybiau CIC gyda Mr Ifan Emyr.

  • CIC gyda Mr Ifan Emyr.
  • CIC gyda Mr Ifan Emyr.
  • CIC gyda Mr Ifan Emyr.

Plant clwb CIC Bach Llai yn brysur yn gwneud gweithgaredd Dydd Gŵyl Dewi.

  • Dydd Gŵyl Dewi.

Clwb CIC Felin wedi bod yn dysgu am fwydydd masnach deg ac wedi coginio cyri i’w rhieni gyda chynhwysion masnach deg.

  • Clwb CIC Felin

Project Omwabini

  • Project Omwabini
  • Project Omwabini

Cafodd y clybiau CIC gyflwyniad gan Mr Alun Prichard ynglŷn â’i waith arbennig gyda phrosiect yng Nghenia o’r enw Omwabini, gair Swahili sy’n golygu “camau achub”. Prif amcanion y project yw helpu pobl dlawd drwy;
. rhoi to uwch eu pennau
. sicrhau eu bod yn gallu tyfu bwyd i gynnal eu hunain
. sicrhau fod ganddynt ddŵr glân i’w yfed.

Bydd y plant a’r Ieuenctid yn codi arian dros y misoedd nesaf i gefnogi’r project.


Bedydd

Fore Sul y 8 Mawrth bedyddiwyd Gruffudd Hughes, mab Dan a Bethan, a brwad bach Nedw yng Nghapel Bethani, y Felinheli gan y Gweinidog, y Parchedig Ddr Elwyn Richards.

  • Bedydd

Capel Bethania - Y Felinheli

Ar nos Fercher 12fed o Chwefror. Cafwyd noson gymdeithasol i'r teulu cyfan, yn gwmni'r actor Llion Williams (mewn cymeriad) yn portreadu'r Esgob Wiliam Morgan. Gafwyd noson arbennig, gyda'r plant y capel yn cael y cyfle i fod yn rhan o'r perfformiad. Roedd pawb wedi mwynhau'r noson yn fawr iawn, gyda phaned a chacen yn diweddu'r noson.

  • Llion Williams

Cyflwyniad y Pasg 2020

Ar fore Dydd Gwener 13 Mawrth gwahoddwyd Ysgol Gynradd Glanadda Bangor i berfformiad o stori’r Pasg yng Nghapel Berea Newydd. Cyflwynodd tîm Agor Y Llyfr (cyfrwng Cymraeg), Bangor olygfeydd o’r Swper Olaf, Gardd Gethsemane, y Croesholiad a’r Atgyfodiad. Daeth y stori’n fyw i’r plant wrth iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol oedd yn atgyfnerthu’r stori.

  • 310320-gwasanaeth-y-pasg-1
  • 310320-gwasanaeth-y-pasg-2
  • 310320-gwasanaeth-y-pasg-3
  • 310320-gwasanaeth-y-pasg-4
  • 310320-gwasanaeth-y-pasg-5
  • 310320-gwasanaeth-y-pasg-6
  • 310320-gwasanaeth-y-pasg-7

 


20.09.18 Trafodaeth yr Henaduriaeth
Trafodaeth yr Henaduriaeth
Yng nghyfarfod yr Henaduriaeth yn y Cysegr, Bethel ar 18 Medi llongyfarchwyd Mr John Arthur Jones, y Groeslon ar 60 mlynedd ei ordeiniad fel blaenor, a'r Parchg Marcus Wyn Robinson oedd yn dathlu 40 mlynedd fel gweinidog. Hefyd comisiynwyd tri o flaenoriaid Seilo, Caernarfon i weinyddu'r sacramentau, sef Mr William Lloyd Davies, Mr Richard Morris Jones, a Ms Dorothy Williams.Yn y llun gwelir hefyd Lywydd ac Ysgrifennydd yr Henaduriaeth a Dr W. Gwyn Lewis gymerodd ran yn y gwasanaeth.

O'r chwith i'r dde: Y Parchg Elwyn Richards, Mr John Arthur Jones, Y Parchg Marcus Wyn Robinson, Mr William Lloyd Davies, Mr Richard Morris Jones, Dr W. Gwyn Lewis, y Parchg Gwenda Richards.

30.10.17 Gweithgareddau ‘Llanllanast’ ym Merea
Gweithgareddau ‘Llanllanast’ ym Merea
Dydd llun 30 Hydref death rhai o aelodau eglwysi Emaus a Berea Newydd; Bethlehem, Abergwyngregyn a Bethania y Felinheli ynghyd i gynnal bore o weithgareddau ‘Llanllanast’ ym Merea. Trefnwyd pob math o weithgareddau crefft a chadw’n heini a chafwyd gwasanaeth bywiog dan arweiniad Dr Owain Edwards, Coleg y Bala. Roedd yn agos i gant o blant ac oedolion yn bresennol a chafwyd paned a lluniaeth i bawb yn y festri amser cinio.

Diolch i Owain Davies, Gweithiwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd Gofalaeth bangor a’r Cyffiniau am gymryd yr arwenau, ac i bawb fu’n cynllunio ac yn trefnu, ac i griw Coleg y Bala a’r gwirfoddolwyr eraill am eu cymorth.

Cliciwch yma i weld y lluniau.

25.07.17 GWEITHIWR NEWYDD CYNLLUN EFE
llongyfarchiadau
Newyddion da! Mae Cynllun Efe wedi penodi Gweithiwr newydd. Bydd Catrin Ruth Hampton yn cychwyn ei swydd newydd fel Gweithiwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd Efe ar Fedi 1af, 2017. Mae hon yn swydd lawn amser mewn cydweithrediad ag Eglwys y Bedyddwyr yng Nghaersalem, Caernarfon a Scripture Union. Bydd Catrin yn gwasanaethu Eglwys Caersalem am ddiwrnod a hanner yr wythnos, a bydd diwrnod yr wythnos yn cael ei neilltuo i genhadaeth trwy chwaraeon dan nawdd Scripture Union, gyda gweddill yr amser yn ardal Efe. Rydym yn cydnabod arweiniad Duw a chydweithrediad Caersalem a Scripture Union sydd wedi'n galluogi i fentro ymlaen yn hyderus i benodi Catrin i'r swydd hon am y tair blynedd nesaf. Edrychwn ymlaen at gydweithio â Catrin ac â'n gilydd i ddatblygu ymhellach y gwaith y bu Cynllun Efe yn ei wneud ers mis Hydref 2008 dan arweiniad ein Gweithiwr Ieuenctid blaenorol, Andrew Settatree.
Daw Catrin yn wreiddiol o Lansannan. Mae ganddi brofiad o waith Cristnogol a chenhadol trwy ei chysylltiadau â Choleg y Bala, Y Gorlan yn yr Eisteddfod Genedlaethol a LLANW, yn ogystal ag yn yr eglwysi y bu'n gysylltiedig â hwy. Mae wedi gweithio fel nani ac fel gweinyddydd, ac ar hyn o bryd mae'n gweithio fel Cydlynydd Iechyd a Llesiant gyda Medrwn Môn. Mae'n croesawu'r cyfle newydd hwn i wasanaethu'r eglwysi a Chynllun Efe yn enw yr Arglwydd Iesu, ac yn edrych ymlaen yn fawr at ddod atom ym mis Medi.
Mae'n briod â Corey ac yn byw yng Nghaernarfon ers blwyddyn a hanner. Mae'r ddau wedi ymgartrefu yn yr eglwys yng Nghaersalem ers symud i'r Dre.
Bwriedir cynnal Oedfa Gomisiynu ym mis Medi.
Llongyfarchiadau gwresog i Catrin ar ei phenodiad, a dymuniadau gorau a phob bendith iddi yn ei gwaith.

24.05.17 Gweithiwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd yn ardal Bangor
llongyfarchiadau
Mae Gofalaeth Bangor a’r Cyffiniau yn awyddus i benodi Gweithiwr Plant ac Ieuenctid i ddatblygu gwaith plant ac ieuenctid yn eglwysi’r ofalaeth ac i hyrwyddo‘r gwaith o ymestyn y dystiolaeth Gristnogol o fewn y Cymunedau.

Cliciwch yma i ddarllen yr hysbyseb llawn

 

 

28.02.17 Trosglwyddo Llywyddiaeth Horeb, Rhostryfan i Miss Karen Owen
llongyfarchiadau
Mewn cyfarfod o'r henaduriaeth yn Horeb, Rhostryfan ar 28 Chwefror trosglwyddodd y Parchg Cath Williams y llywyddiaeth i Miss Karen Owen, Penygroes.

 

 

 

25.10.16 Llongyfarch ac Ordeinio
llongyfarchiadau
Yn Henaduriaeth Arfon a gyfarfu yng Nghapel y Groes, Penygroes ar 18 Hydref ordeiniwyd Dr Gwilym Siôn Pritchard yn flaenor yng Nghapel y Groes. Llongyfarchwyd y Parchg Reuben Roberts hefyd ar 50 mlynedd ei ordeiniad, ynghyd â Mr Ieuan Humphreys fu’n flaenor gynt ym Mrynmenai ac sydd bellach yn aelod ym Merea Newydd. Cafwyd anerchiad clir a phwrpasol gan Mr Gwyn Roberts, Llywydd y Gymdeithasfa yn y Gogledd, a llywyddwyd y cyfarfod yn gymen a graenus gan y Parchg Cath Williams.

Pererindod Heddwch yng Nghaernarfon
Dydd Mercher 21 Medi 2016
merched
'Hedd, nid Cledd' oedd y geiriau a welwyd yn chwifio ar faneri yn nhref Caernarfon pnawn dydd Mercher, 21 Medi, wrth i rai cannoedd o bobl a phlant orymdeithio o Galeri, ar hyd y 'South of France' ac i'r Maes. Cynhaliwyd yr orymdaith ar Ddydd Heddwch Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig

Naw deg o flynyddodd yn ôl, ymgynullodd dwy fil o ferched ar Faes y Farchnad ym Mhenygroes i gychwyn Pererindod Heddwch Gogledd Cymru. Aethant ymlaen oddi yno i Gaernarfon, ac mae hen ffilm ar gael yn cofnodi'r digwyddiad hwn. Bu i rai ohonynt gerdded ymlaen i Fangor ac yna i Gaer, cyn ymuno â'r bererindod i Hyde Park yn Llundain. Digwyddodd hyn wyth mlynedd wedi diwedd y Rhyfel Mawr. Bwriad y merched oedd galw ar lywodraethau i setlo pob anghydfod trwy drafodaethau yn hytrach na thrwy ryfeloedd, a'u slogan oedd 'Hedd Nid Cledd'.

Dydd Gwener 27ain o Fai dadorchuddiwyd plac ar bared y Neuadd ym Mhenygroes i gofnodi'r digwyddiad. Pnawn Mercher, 21 Medi, dadorchuddiwyd plac ar y South of France' i gofio i orymdaith 1926 fynd heibio'r fan hon, a chafwyd anerchiad byr gan Mr Dyfed Edwards.

Ymunodd rhai o blant Ysgol yr Hendre ac Ysgol y Gelli yn yr orymdaith, ac wedi cyrraedd y Maes cafwyd cyfraniadau llafar gan Ifor ap Glyn, Sian Teifi a Dafydd Iwan yn ogystal â chan rai o'r plant. Arweiniwyd y gweithgareddau gan y Parchedig Mererid Mair Williams.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Ysgrifennydd Pwyllgor Bywyd a Thystiolaeth yr Henaduriaeth, a Golygydd y Blwyddlyfr newydd

Yn ddiweddar codwyd y Parchg Gwenda Richards yn ysgrifennydd Pwyllgor Bywyd a Thystiolaeth yr Henaduriaeth, a Mrs Cynthia Owen yn Olygydd y Blwyddlyfr. Dymunwn yn dda i’r ddwy yn eu swyddogaethau newydd, a diolchwn yn ddiffuant i’r Parchg Dafydd Lloyd Hughes cyn-ysgrifennydd y Pwyllgor Bywyd a Thystiolaeth, a Mrs Lowri Prys Roberts, cyn-olygydd y Blwyddlyfr, am eu gwaith a’u hymroddiad dros nifer mawr o flynyddoedd.

Llywydd Newydd Henaduriaeth Arfon
Parchg Cath Williams
Ddydd Mawrth 23 Chwefror 2016 trosglwyddwyd Llywyddiaeth Henaduriaeth Arfon i ofal y Parchg Cath Williams. Mae Mrs Williams yn enedigol o’r Groeslon a bu’n gweithio i Fwrdd y Genhadaeth yn Eglwys Noddfa cyn symud i weithio fel Galluogwr Cenhadaeth Henaduriaeth Gwent a Chaplan ym Mhrifysgol Caerdydd. Hyfforddodd fel gweinidog ddiwedd y 90au a gwasanaethu yng ngofalaeth y Parc yn ardal y Bala. Bellach y mae wedi ymddeol ac yn byw yng Nghaernarfon. Dymunwn yn dda iawn iddi yn ystod blwyddyn ei llywyddiaeth.

 

Araith Ymadawol y Dr W. Gwyn Lewis, Llywydd Henaduriaeth Arfon

Mae’n addas iawn mai yma yng Nghaeathro y mae fy nhymor fel Llywydd yr Henaduriaeth yn dod i ben, oherwydd tu ôl i mi yn y fynwent y mae tair cenhedlaeth ar ochr fy nhad wedi’u claddu – pob un ohonynt wedi bod yn gynheiliaid yr achos yn Seilo, Caernarfon am nifer helaeth o flynyddoedd.

Cliciwch yma i ddarllen yr araith i gyd.

Myfyrdod

Addasiad o fyfyrdod y Parch Gareth Maelor, ‘Busnes Pwy ?’ (Fi sy’ ’ma, Gwasg y Bwthyn, 2008) yn sgil haeriadau rhai gwleidyddion yn ddiweddar na ddylai’r Eglwys ymyrryd yn y trafodaethau gwleidyddol ynghylch argyfwng byd-eang y ffoaduriaid o Syria – a ddefnyddiwyd mewn defosiwn yng nghyfarfod 20 Hydref 2015 o Henaduriaeth Arfon yn Seilo, Caernarfon.

Gweddïwn

Yn wyneb holl ddrygioni – hyn o fyd,
Yn ei fawr gamwri
A’i drallod, rhaid yw codi
Ein llais yn erbyn y lli.

Geraint Lloyd Owen

Arglwydd, mae’n siŵr dy fod wedi diflasu clywed yr un hen gân fel tiwn gron o un ganrif i’r llall. Mae’r gwleidyddion wrthi erioed ac yn dal ati o hyd. Maen nhw’n dweud yn blwmp ac yn blaen y dylem ni feindio ein busnes ein hunain. Mae gennym ni ddigon i’w wneud heb ymyrryd â nhw. Ein gwaith ni fel Eglwys, medden nhw, ydy bedyddio, priodi, claddu, ymweld â’r cleifion a phregethu’n saff heb yngan y gair ‘gwleidyddiaeth’.

Rwyt ti’n cofio, Arglwydd, siŵr o fod, mai dyna beth ddywedodd Ahab a’i frenhines wrth Elias, dy broffwyd cyntaf. A Jeremeia wedyn – fe’i cafodd yntau hi am roi ei fys ym mrywes llywodraethau ei ddydd. Fe’i taflwyd i garchar am iddo wrthod distewi.

Mae ceisio ffrwyno proffwyd ’run fath yn union â cheisio dy ddistewi Di, Arglwydd. Wedi’r cwbl, dy enau Di ydy pob rhyw Eseia. Fe ddywedodd pob un proffwyd, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd’. Diolch am dy broffwydi – bach a mawr - ar hyd y canrifoedd.

Arglwydd, cynorthwya ni heddiw i gamu’n ôl i syllu ar sefyllfa gwlad a byd o’th safbwynt Di. Cynorthwya ni i edrych drwy dy lygaid Di a gofynnwn i Ti lefaru drwy ein genau ni.

Ni all unrhyw broffwyd aros yn fud. Ni all unrhyw wleidydd chwaith atal dy eiriau Di.
Bûm newynog, sychedig, carpiog a noeth’ – mae’r neges yn ddigon plaen.

Mae angen a thlodi bob amser yn fusnes i Ti ac yn fusnes i’th eglwys a’th bobl. Diolch am Eglwys sy’n fusnes i gyd ac sy’n poeni am anghyfiawnder byd.

Llefara, Arglwydd, a gweithreda trwy enau dy Eglwys.
Yn enw Ein Harglwydd a’n Gwaredwr, Iesu Grist.

Amen

Y Weinidogaeth Iachau (Y Gymdeithasfa yn y Gogledd)

Cynhelir Encil " Dewch ....Ymlonyddwch" yng Nghapel Y Porth, Porthmadog Dydd Sadwrn Medi 26ain,
10.30 y.b -3.00 y.p. Bydd eisiau pecyn o fwyd ar gyffer cinio, darperir paned.

Croeso cynnes i bawb. Am fyw o fanylion cysyllter ag Ysgrifennydd yr Henaduriaeth.

Y Gymanfa Gyffredinol
merched
Cynhaliwyd y Gymanfa Gyffredinol yn Aberystwyth 6 – 8 Gorffennaf 2015 a chynrychiolwyd Henaduriaeth Arfon yno gan y Llywydd a’r Ysgrifennydd ynghyd â Miss Elsbeth Jones, Mrs Edwina Morgan a Mr Bob Morris.

Yn ystod y gweithgareddau traddododd Mr Bob Morris ddarlith Cymdeithas Hanes Eglwys Bresbyteraidd Cymru ar y testun ‘Thomas Gee – Saernïwr yntau drych o’i gyfnod?’. Roedd yn ddarlith fywiog a diddorol iawn yn rhoi cipolwg ar hanes y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ogystal ag yn canolbwyntio ar gyfraniad nodedig Thomas Gee i fywyd crefyddol, diwylliannol a gwleidyddol ei ddydd.

Yn ystod y Gymanfa hefyd trosglwyddwyd y Llywyddiaeth i’r Parchg Ddr Elwyn Richards a chyflwynwyd y Ddarlith Davies, a draddodir yn flynyddol gan un o weinidogion y Cyfundeb, gan y Parchg Megan Williams, Porthaethwy. Gan mai hi oedd y wraig gyntaf i draddodi’r ddarlith mewn cant ac ugain o flynyddoedd, dewisodd destun addas iawn, sef ‘O’r cysgodion – golwg feirniadol ar ddarlun y Beibl o’r ferch’. Cafwyd ganddi hithau ddarlith dreiddgar a grymus yn pwysleisio mail le eilradd sydd i’r ferch yn yr ysgrythurau ac i hynny yn ei dro ddylanwadu ar agwedd byd ac eglwys tuag ati.

Yn ystod y Gymanfa hefyd gwnaed apêl am gynrychiolaeth mwy cytbwys o wŷr a gwragedd, ifanc a hŷn, blaenoriaid a gweinidogion ar bwyllgorau’r enwad.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

Cyfarfod Sefydlu’r Parchedig Gwenda Richards
Bugail Newydd i Naw Eglwys Gofalaeth Bro Lleu, Henaduriaeth Arfon

rhes o blant
Noson fwyn o wanwyn oedd hi pan ddaeth tyrfa luosog i Gapel y Groes, ym Mhenygroes, Dyffryn Nantlle, ar gyfer cwrdd arbennig iawn. Ar nos Fercher, Mai 20fed, roedd y capel dan ei sang ar gyfer Cyfarfod Sefydlu’r Parch. Gwenda Richards yn Weinidog ar eglwysi Gofalaeth Bro Lleu.

Cyn galw gweinidog cytunodd Pwyllgor Bugeiliol yr Ofalaeth ar fodel newydd o weinidogaeth, priodol i oes a sefyllfa newydd. Lluniwyd dogfen arloesol, “Gwahoddiad i Weinidogaethu”, a gefnai ar y syniad traddodiadol o Weinidogaeth a chynnig partneriaeth cydweithredol rhwng y Bugail ac aelodau’r eglwysi; ac yn estyn allan, hefyd at gyrff ac asiantaethau gwirfoddol a chyhoeddus, grwpiau cymunedol, ysgolion a chymdeithasau ledled y fro.

Ffrwyth cyntaf y prosiect hwn, felly, fu sefydlu’r Gweinidog newydd. Fe arweiniwyd y cwrdd gan Lywydd Henaduriaeth Arfon, y Dr. W. Gwyn Lewis, ac ef, hefyd, a lywiodd ddefod y Gwasanaeth Sefydlu. Cafwyd darllen o’r Ysgrythur gan y Parch. Cath Williams, sydd yn aelod yng Nghapel Baladeulyn, a gweddi gan y Parch. Marcus Wyn Robinson, a fu yn gynrychiolydd yr Henaduriaeth i’r Pwyllgor Bugeiliol. Canwyd unawd gan un o flaenoriaid yr Ofalaeth, Mr. Arthur Wyn Parry, Bwlan.

Offrymwyd gweddi ar ran yr Ofalaeth gan y Parch. Megan Williams, a mynegwyd gwerthfawrogiad o waith y Parch. Gwenda Richards, ar ran ei gofalaeth flaenorol, sef Eglwys Seilo,Caernarfon, ac Eglwys y Waun, Waunfawr, gan y Dr. W. Gwyn Lewis, sydd yn flaenor yn Seilo.

Croesawyd y Parch Gwenda Richards, ar ran Gofalaeth Bro Lleu, gan Gadeirydd Pwyllgor yr Ofalaeth, y Dr. Tudor Ellis (Eglwys y Bryn). Cyfeiriodd y Dr. Ellis at rôl driphlyg y Parch. Gwenda Richards. Yn gyntaf bydd yn “angel”, sef negesydd Duw yn lledaenu’r Newyddion Da. Yn ail, fel Bugail, bydd yn gofalu am ei phraidd; a hithau yn berson o brofiad a diddoredebau eang, gall dynnu ar y rhain i estyn allan i’r praidd ehangach yn y gymuned. Yn drydedd, hi yw’r ferch gyntaf i fugeilio’r Ofalaeth hon, ac mae hyn yn adlewyrchiad priodol iawn o gyfraniad allweddol merched yn cynnal gwaith ein heglwysi heddiw.

Wrth ymateb i’r croeso, ac yn llawn gobaith ar gyfer y bartneriaeth newydd ym Mro Lleu, fe bwysleisiodd y Parch. Gwenda Richards arbenigrwydd arloesol y patrwm o fugeiliaeth gydweithredol sydd ar gychwyn yn y fro, a’r gobaith y gall hwn osod patrwm ar gyfer y dyfodol.

Traddodwyd pregeth rymus gan y Parch. Ddr. Elwyn Richards. Diflannodd yr Iesu, meddai, o ran y person cig-a-gwaed, ar adeg yr Esgyniad; a pherthynas ysbrydol ar sail ffydd yw ein perthynas â Christ bellach. Gall ansicrwydd daro’r credinwyr o hyd, ond rhaid mentro bod yn weithgar a hyderus. Wedi’r Pentecost, daeth y disgyblion yn ddigon hyderus i bregethu’r Gair eu hunain, ac wrth y gwaith o dystio a chenhadu y deuwn ninnau i weld perthnasedd ein ffydd i’n cyfnod a’i ddilyn ar hyd llwybrau newydd. Cadarnhawyd gwaith yr Apostolion gan arwyddion, ac mae’n rhaid i ninnau chwilio am y fendith a fydd yn dilyn ein gweithgarwch. Fe welir cynnydd trwy gydweithio a bod yn hyblyg; bydd dylanwad yr eglwysi yn ymestyn, a thrwy bopeth bydd addoli yn ganolog i’r twf.

Wedi’r oedfa, cafwyd hoe ddiddan i aelodau’r Ofalaeth gael sgwrsio yng nghwmni’r Gweinidog a’r gwahoddedigion, gyda lluniaeth rhagorol wedi ei ddarparu gan Bopty’r Foel, Llanllyfni, gyda gwirfoddolwyr o Gapel y Groes yn helpu i weini.

Roedd amrediad oedran cynulleidfa’r noson yn eithriadol o eang – efallai’n unigryw. Roedd blaenor hynaf yr Ofalaeth, Miss Dilys O’Brian Owen, sy’n 100 oed, yn bresennol, yn ogystal â Noa Gwilym Pritchard (mab y Dr. Gwilym Sion a Mrs. Elen Pritchard) sydd bron yn bedwar mis oed.

Ar derfyn y noson, teimlai pawb fod cyfnod newydd, yn llawn bendith a gobaith, ar gychwyn yn yr Ofalaeth.
Robert Morris


Cyfarfod Chwiorydd Henaduriaeth Arfon yn Eglwys Berea Newydd Nos Fawrth 19 Mai 2015
merched
Cafwyd noson ddifyr yn Eglwys Berea Newydd, nos Fawrth, 19 Mai, pan ddaeth Mrs Sarah Morris, Ysgrifennydd Adran Chwiorydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru, i anerch chwiorydd Henaduriaeth Arfon.

Testun ei sgwrs oedd ‘Cynllun Dorcas’ Adran y Chwiorydd a dangosodd fel y gellid amrywio’r deunydd ar gyfer cynulleidfaoedd bach a mawr. Diolchodd y Llywydd, y Parchedig Gwenda Richards, i Miss Elsbeth Jones, yr Ysgrifennydd, am ei gwaith yn trefnu’r cyfarfod , ac i’r Trysorydd, Mrs Glenys Trainor, am ei llafur yn casglu cyfraniadau ariannol yr eglwysi. Chwiorydd Berea Newydd oedd yn gyfrifol am y Rhannau Dechreuol a hwy hefyd fu’n paratoi’r baned ar derfyn y cyfarfod. Diolchwyd iddynt gan y Llywydd.

Cyfarfod Gollwng

Roedd y capel yn orlawn ar gyfer cyfarfod gollwng y gweinidog, Y Parch Eric Jones, a gynhaliwyd Hydref 19.  Hwn oedd y cyfarfod lle’r oedd yn ymddeol o’i waith.  Bu’n weinidog yn y cylch ers 25 mlynedd ac yn y weinidogaeth ers dros 40 mlynedd.  Dechreuodd yn Llansannan a daeth llawer o’i gyn-aelodau yno i’r cyfarfod a nifer o gyfeillion eraill o bell ac agos yn ogystal ag aelodau ei ofalaeth ym Merea Newydd, Y Felinheli ac Aber.

Wedi i Gôr Seiriol agor y cyfarfod cymerwyd rhan gan gynrychiolwyr o bob eglwys, yn ifanc a hŷn, a dymunwyd yn dda iddo ar ei ymddeoliad ef a’i wraig Val. Y Parch Gwenda Richards, Caernarfon, Llywydd Henaduriaeth Arfon oedd yn gyfrifol am y seremoni ‘gollwng’. 

Wrth annerch ar ddiwedd y cyfarfod dywedodd Mr Jones fod y ‘gollwng’ wedi peri breuddwydion rhyfedd iddo ers rhai wythnosau.  Gwelai ei hun yn cael ei ollwng o hofrennydd uwchben y Fenai i gwch James Bondaidd a honno’n mynd a fo ar wibdaith heibio castell Caernarfon, lle’r oedd Maldwyn Thomas wedi ei wisgo fel Owain Glyndwr, ac ymlaen i Fae Caerdydd.  Cafodd bicio i swyddfa’r Cyfundeb i weld beth yn union yr oeddynt yn ei wneud yno!

Dywedodd fod yr ymddeol wedi bod yn gymaint o boen meddwl iddo ag oedd ymuno â’r weinidogaeth yn y lle cyntaf. Mae’n rhaid gobeithio, a gweithio, am arweinwyr i’r dyfodol, meddai.
Gwnaed casgliad yn ystod y gwasanaeth at waith Cymorth Cristnogol yn y Dwyrain Canol a chodwyd £760.

Ordeinio Blaenoriaid

Dydd Mawrth 21 Hydref cynhaliwyd cyfarfod o Henaduriaeth Arfon yng Nghapel Coch, Llanberis. Yn eisteddiad yr hwyr ordeiniwyd dau flaenor newydd sef Mr Tudur Pritchard a Mr Iwan Roberts o Eglwys Y Waun, Waunfawr.

Cymerwyd rhannau dechreuol y gwasanaeth gan ddau arall o flaenoriaid Eglwys y Waun, sef Mrs Pat Parry a Mr Eurwyn Griffiths, a gweddïwyd dros y blaenoriaid newydd gan y Parchg John Pritchard, Llanberis a chyflwynwyd y Cyngor gan y Parchg Ddr Elwyn Richards, Llywydd y Gymdeithasfa yn y Gogledd. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parchg Gwenda Richards, Llywydd yr Henaduriaeth a Mrs Lowri Prys Roberts oedd yn cyfeilio.

Hefyd llongyfarchwyd Mr Glyn Owen, Llanwnda oedd yn dathlu trigain mlynedd fel blaenor, a Mr Jenkin Griffith, y Cysegr a Mr Arthur Wyn Parry, Bwlan oedd yn dathlu deugain mlynedd eu hordeiniad. Llongyfarchwyd hefyd y Parchg Ronald Wyn Roberts, Llanrug ar ddathlu hanner can mlynedd ei ordeiniad yn weinidog


Cynhelir Cyfarfod Gollwng y Parchg Eric Jones o Ofalaeth Bangor a’r Cyffiniau yng Nghapel Berea Newydd, Bangor

P’nawn Sul, Hydref 19eg, 2014 am 3.30 pm
Gwneir casgliad at waith Cymorth Cristnogol – Apêl Irac, Syria a Gaza.

Croeso cynnes i bawb

Adroddiad o Gymanfa Gyffredinol EBC 2014 - cliciwch yma


Dathlu trichanmlwyddiant geni Howell Harris

dathlu trefeca

Cynhaliwyd cyfarfod arbennig yng Ngholeg Trefeca ddydd Sadwrn 26 Gorffennaf i ddathlu trichanmlwyddiant geni Howell Harris ac agor arddangosfa newydd o greiriau'r Cyfundeb. Paratowyd yn helaeth ar gyfer yr achlysur a chynhaliwyd y dathliadau mewn pabell ar y lawnt. Yn dilyn gair o groeso gan y Parchg Neil Kirkham, Llywydd y Gymanfa Gyffredinol, arweiniwyd mewn gweddi gan y Parchg Trefor Lewis, cyn i'r Parchg J.E. Wynne Davies draddodi darlith gryno ond cynhwysfawr ar Harris a'i gyfraniad i Ddiwygiad Efengylaidd y ddeunawfed ganrif. Pwysleisiodd fod i'r profiad o dröedigaeth le canolog ym mywyd yr Eglwys o hyd, fod angen pobl heddiw â chanddynt yr un ymlyniad i rannu eu ffydd ac efengylu, ac na ddylem golli golwg ychwaith ar le canolog cymundeb ac addoliad yn ein bywyd crefyddol.

Yn dilyn y ddarlith cafwyd cyflwyniad i'r arddangosfa newydd gan Dr Rhidian Griffiths, Aberystwyth a diolchwyd iddo am ei waith yn dethol a threfnu a gosod yr eitemau i'w harddangos. Ymhlith yr eitemau sydd i'w gweld yn Nhrefeca y mae cadair Howell Harris, cwpwrdd cornel o Bantycelyn, powlen fedydd Thomas Charles, crib fu'n eiddo i Evan Roberts y Diwygiwr a chasgliad o gwpanau Cymun a gedwir yng nghwpwrdd Llandinam. Pwysigrwydd y cyfan yn ôl Dr Griffiths yw eu bod nid yn unig yn ein cysylltu ni â'n gorffennol ond yn ein hatgoffa o weithgarwch eraill a rannodd yr un ffydd â ni ac sydd o'r herwydd yn gyfrwng ysbrydoliaeth inni.

Agorwyd yr arddangosfa'n swyddogol gan Lywydd y Gymanfa Gyffredinol, ac ef a bregethodd yn oedfa'r prynhawn, pryd y cyfeiriodd at weithgarwch Teulu Trefeca gynt â'r darlun o'r Eglwys Fore yn Llyfr yr Actau - eglwys a oedd wrth ymateb i weithgarwch Duw yng Nghrist yn dysgu a gofalu ac addoli ac efengylu. Llywyddwyd yr oedfa gan Gadeirydd Adran Trefeca, sef y Parchg  Jenny Garrard, a chyfrannwyd tuag at y mawl gan Tim a Sam Hodgins a'u grŵp canu. Y Parchg Nerys Tudor a'r Athro John Gwynfor Jones ddarllenodd o'r ysgrythur.

Am fwy o luniau, cliciwch yma

Cymdeithasfa'r Gwanwyn yn Llansannan 2014

cymdeithasfa

Y Gymdeithasfa yn y Gogledd a gynhaliwyd yng Nghapel Coffa Henry Rees, Llansannan, 6 - 7 Mai, 2014

Henaduriaeth Dyffryn Clwyd a Chapel Coffa Henry Rees yn Llansannan oedd man cyfarfod y Gymdeithasfa yn y Gogledd dros ddeuddydd ddechrau Mai eleni. Bendithiwyd yr achlysur â thywydd braf, gwanwynol a hyfryd iawn oedd y daith i fyny o Abergele i fryniau Clwyd. Yr oedd y capel coffa hefyd yn adeilad hwylus a golau gydag offer sain a chlyweled modern ac effeithiol. Darparodd gofalaeth Bro Aled yn helaeth ar gyfer y cynrychiolwyr, ac yr oedd pawb yn llongyfarch yr eglwysi a'r Henaduriaeth ar y croeso.

Cyfarfu'r Gymdeithasfa dan lywyddiaeth Mr Huw Tudor, Pwllheli ac yn ei araith ymadawol o gadair y Llywydd cyfeiriodd at Iesu fel tywysydd y credinwyr at Dduw, ac aeth rhagddo i ystyried y modd y bu i rai a brofodd frath marwolaeth dystio i natur dangnefeddus a hyfryd bywyd y tu hwnt i'r llen. Ond ni wyddom, meddai, ac ni ddylai neb wybod, am ddull a modd y bywyd hwnnw. Digon credu yn atgyfodiad Crist ac ymddiried yn ei addewidion, ac ymroi i'w ddilyn o ddydd i ddydd, gan fod gwedd gyfoes a gwedd ddyfodiaethol i'r bywyd hwnnw. Caiff ei adlewyrchu heddiw mewn cariad a thrugaredd a chyfiawnder, ac yna yfory profir ef yn ei gyflawnder. Wedi'r araith trosglwyddodd Mr Tudor y llywyddiaeth i'r Parchg Ddr Elwyn Richards, Caernarfon. Yn ystod y Gymdeithasfa hefyd bu i’r Parchg Robert Owen Griffith dderbyn yr ysgrifenyddiaeth oddi wrth y Parchg Edwin Hughes.

Gan fod 2014 yn flwyddyn cofio daucanmlwyddiant marw Thomas Charles cyflwynwyd Darlith Goffa'r Diwygiad yn y Gymdeithasfa, a hynny gan y Parchg J E Wynne Davies, Aberystwyth a bwysleisiodd ymlyniad Thomas Charles wrth Anglicaniaeth efengylaidd ei gyfnod a'i weithgarwch mawr dros y Methodistiaid. Gwreiddiodd ei ffydd yn yr egwyddorion Calfinaidd gan bwysleisio lle canolog y Beibl, pwysigrwydd pregethu a gwerth y profiad personol o dröedigaeth. Drwy ei briodasâ Sally Jones sicrhawyd mai yng Nghymru, ac nid y tu allan iddi, y treuliodd ei oes yn gwasanaethu ei Arglwydd, ac yr oedd y darlithydd yn feirniadol iawn o Eglwys Loegr ar y pryd, gan iddi fethu ag adnabod na defnyddio ei athrylith.

Yn y Gymdeithasfa llongyfarchwyd nifer o weinidogion a blaenoriaid oedd yn dathlu eu hordeiniad ddeugain, trigain a deg a thrigain o flynyddoedd yn ôl. Y rhai o Arfon a longyfarchwyd oedd Mr Glyn Owen, Llanwnda (60 mlynedd) a Mr Jenkin Griffith, y Cysegr a Mr Arthur Wyn Parry, Bwlan (40 mlynedd), ynghyd â'r Parchg Ronald Wyn Roberts (50 mlynedd). Diolchwyd iddynt am eu gwasanaeth gan Mr Huw Tudor.

Cafwyd ennyd hefyd i goffau nifer o weinidogion a blaenoriaid a gollwyd ers y Gymdeithasfa y llynedd, ac yn eu plith yr oedd y Parchg Meirion Lloyd Davies, cyn lywydd y Gymdeithasfa a chyn lywydd y Gymanfa Gyffredinol ddechreuodd ei weinidogaeth yn Llanberis yn 1959. Hefyd o Henaduriaeth Arfon y diweddar Barchedig Emrys Watkin Thomas a Mr Owen John Owen, Brynaerau a Mr Ceredig Davies, Bwlan. Offrymwyd gweddi'r coffâd gan Mr Brian Huw Jones, Prestatyn.

Ymhlith y materion a drafodwyd yn y Gymdeithasfa oedd y rheidrwydd i bob Henaduriaeth ddarparu cynllun strategaeth cyfredol os am gael caniatad i wario arian strategaeth neu alw gweinidog ac ati. Penderfynwyd hefyd gostwng treth y gymdeithasfa o £1 i 50c yr aelod, a chadarnhawyd y byddai holl sylwadau'rHenaduriaethau ar Symud ymlaen 3 - Argymhellion Terfynol yn cael eu cyflwyno i'r panel adolygu gydag anogaeth i'r panel ystyried y modd i ymateb i ofidiau'r Sasiwn a'r henaduriaethau ynglyna'r cynlluniau arfaethedig. Yn yr un modd cyflwynwyd sylwadau yr henaduriaethau ar ariannu'r Cyfundeb i'r dyfodol i sylw'r Bwrdd Adnoddau ac Eiddo gyda'r awgrym ychwanegol fod y cronfeydd canolog yn cael eu defnyddio i leihau costau cyflogi gweinidogion drwy'r cyfraniad Cyfundebol yn ogystal a'r elfen o'r dreth sy'n mynd tuag at weinyddiaeth a darpariaethau canolog.

Elwyn Richards (Ysg)

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Nos Fercher 21 Mai Cyfarfod Blynyddol Chwiorydd Henaduriaeth Arfon
Cafwyd cyfarfod hynod o ddioddorol yn Eglwys Seilo nos Fercher, 21 Mai, a hynny yng nghwmni Alun Roberts, cyn-brifathro Ysgol y Gelli a phobl ifanc Eglwys Jerwsalem, Bethesda. Cafwyd sgwrs gartrefol gan Alun Roberts ar drefniadaeth Banc Bwyd Caernarfon a'r Cyffiniau a chyflwyniad diddorol gan yr ieuenctid ar y thema 'Byw ar 'Chydig' wrth iddynt rannu eu profiad o fyw am ddiwrnod ar £1 yn unig. Cafwyd cyflwyniad medrus ganddynt ar lafar ac ar gân gyda Menai Williams yn cyfeilio iddynt a Lowri Watcyn Roberts yn arwain y parti canu. Diolchodd y Parchedig Gwenda Richards i bawb a fu ynglyn â'r cyfarfod cofiadwy hwn.


Diogelu Grwpiau Bregus

Cynhelir cyfarfod arbennig yn Eglwys Berea Newydd, Bangor nos Iau, 5 Mehefin am 7pm pryd y bydd Mrs Julie Edwards, Swyddog Hyfforddiant y Panel Diogelwch Cyd-enwadol, yn rhoi cyflwyniad i’r Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus, sef y canllaw ymarferol i bolisi ac ymarfer da yr eglwysi wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc, ac oedolion bregus.

Gofynnir yn garedig am gynrychiolaeth o bob un o eglwysi’r Henaduriaeth yn y cyfarfod.

Ymweld ag India

Ymweld ag IndiaGanol mis Mawrth bu’r Parchedigion Gwenda ac Elwyn Richards ynghyd â Carol Clay, Bethan Richards, Mary Thomas a Mari Fflur Williams yn ymweld â Synod Ddwyreiniol Casi Jaintia, Eglwys Bresbyteraidd India. Roedd Gwenda wedi ei gwahodd gan adain y chwiorydd i bregethu i’r Synod ym Mynso ar ddydd Sadwrn 15 Mawrth, a hynny ar destun o Lyfr y Proffwyd Eseia : "...y mae'r rhai sy'n disgwyl wrth yr Arglwydd yn adennill eu nerth; y maent yn magu adenydd fel eryr, yn rhedeg heb flino, ac yn rhodio heb ddiffygio". (Eseia 40:31)

Roedd tua 500 o gynrychiolwyr yr eglwysi yn bresennol ar gyfer y bregeth, a drannoeth ar y Sul daeth tua deng mil o bobl ynghyd i wasanaethau cyhoeddus y Synod gynhaliwyd yn yr awyr agored ym Mynso.

Yn ystod yr ymweliad cafwyd gyfle i gyfarfod drachefn â’r gwragedd ddaeth i Gymru yn 2011, ac 'roedd y croeso ar eu haelwydydd ac yn eu heglwysi yn hynod hael a thwymgalon. Ymwelwyd hefyd ag Ysbyty Dr Norman Tunnel yn Jowai, Ysbyty Dr H. Gordon Roberts yn Shillong, a chartrefi plant amddifad yn Wahiajer, Mawphlang a Shillong, ynghyd ag ysgol y Synod yn Shillong a Choleg Diwinyddol John Roberts.

Bu’r ymweliad yn brofiad bendithiol a dyrchafol iawn, ac yn fodd i gadarnhau’r berthynas glos a chynnes sydd wedi bodoli rhwng Eglwys Bresbyteraidd Cymru ag Eglwys Bresbyteraidd India, byth ers i Thomas Jones roi cychwyn i’r genhadaeth ym Mryniau Casia yn 1841.

Cliciwch yma i weld y lluniau.

BethaniaHenaduriaeth Arfon ym Methania

Dydd Mawrth 18 Chwefror cyfarfu Henaduriaeth Arfon yn eglwys Bethania, y Felinheli. Mae'r capel wedi ei adnewyddu rhai blynyddoedd yn ôl ac yn adeilad hwylus a chyfforddus efo seddau esmwyth a system wresogi effeithiol! Trefnwyd fod maes parcio y Church House ar y stryd fawr ar gael i'r mynychwyr, ac yr oedd y trefniadau lleol oll yn gampus.

Dechreuwyd y cyfarfod â defosiwn a bu i ddau o flaenoriaid Bethania, sef Mrs Nerys Owen a Mr Aled Job dynnu sylw at y mynych gyfeiriadau at 'Fethania' yn y Testament Newydd. Un o uchel bwyntiau'r prynhawn oedd araith ymadawol y Llywydd, Mrs Lowri Prys Roberts Williams gyfeiriodd at y cyfleoedd a gafodd drwy yr Henaduriaeth i gael rhan yng ngwaith yr Eglwys, a'r gefnogaeth a'r cyd-weithio a brofodd. Bellach, meddai, daeth yn amser cyflwyno'r llywyddiaeth i'r Parchg Gwenda Richards, ac wedi iddi wahodd Gwenda i arwyddo Beibl y Llywydd, diolchwyd i Lowri am ei llywyddiaeth gan Mr Robert Morris, Penygroes a gyfeiriodd at ei hymroddiad a'i thrylwyredd a'i chonsyrn wrth y gwaith.

Braint i'r Henaduriaeth oedd croesawu'r Parchg Trefor Lewis, Llywydd y Gymanfa Gyffredinol, i'r cyfarfod. Wedi cyflwyno cyfarchion y Gymanfa i'r henaduriaeth aeth ymlaen i amlinellu cynnwys 'Symud Ymlaen 3 - Y Camau Nesaf'. Dywedodd fod y broses o ddiwygio strwythur yr enwad wedi bod yn mynd rhagddi ers blynyddoedd, ac mai'r argymhellion diweddaraf fyddai'n cael eu cyflwyno i'r Gymanfa eleni. Yn ystod y prynhawn hefyd cafwyd dau goffâd, y naill gan Mr John Roberts i 'r diweddar Mr O. J. Owen, Brynaerau a'r llall gan y Parchg Gwenda Richards i'r diweddar Barchedig Emrys Watkin Thomas. Gweddïwyd dros y gwael a'r profedigaethus gan y Parchg Marcus Robinson.

Miss Gwenno Pritchard oedd wedi llunio'r ymateb i Holiadur yr Henaduriaeth ar waith eglwys Bethania, ond er bod hwnnw yn mynegi'r anhawster i gael athrawon ysgol Sul, calonogol oedd y gair a gafwyd gan y gweinidog ddywedodd fod gan yr eglwys bellach rota o athrawon abl, ond yr erys yn her fawr i genau dros yr ysgol Sul neu'r Clwb Capel fel ei gelwir. Cyfeiriodd y Parchg Eric Jones hefyd at lwyddiant yr Oedfa Pawb a gynhelir ar yr ail Sul o'r mis a chanmolodd y tîm o saith o swyddogion yr eglwys sy'n cyd-weithio'n dda, gan ddweud bod nifer ohonyn nhw'n gymharol ifanc. Yn ystod y prynhawn hefyd cafwyd adroddiadau gan y Pwyllgor Eglwys a Chymdeithas, y Pwyllgor Bywyd a Thystiolaeth, y Pwyllgor Adnoddau ac Eiddo a'r Pwyllgor Gwaith.

Cynhelir yr Henaduriaeth nesaf yng Nghapel Glanrhyd ar 13 Mai am 6.30 yr hwyr pryd y gweinyddir y sacrament o Swper yr Arglwydd.

Cliciwch yma


Pwyllgor Gwaith Arbennig
Nos Lun 25 Tachwedd yn Seilo, Caernarfon cynhelir Pwyllgor Gwaith Arbennig i ystyried ymateb yr Henaduriaeth i ddwy ddogfen y mae angen adrodd yn ôl arnynt i’r Gymdeithasfa yn y Gogledd cyn diwedd Ionawr;
• Argymhellion Panel Adolygu Symud Ymlaen 3 ‘Y Camau Nesaf’ – mae’r rhain wedi eu dosbarthu i bob eglwys; fel y cofiwch bu i ni ymateb o’r blaen i’r argymhellion cychwynol a bellach mae gofyn i ni ystyried y newidiadau a wnaed yn dilyn yr ymgynghoriad cyntaf.
• Argymhellion ynghylch Ariannu Gweinidogaeth i’r Dyfodol - mae’r papur hwn, sydd wedi ei ddosbarthu i bob eglwys, yn cynnig amrywiol ddewisiadau ynghylch y modd i gasglu arian y Cyfraniad Cyfundebol. Mae’n bwysig fod ystyriaeth fanwl yn cael ei roi i gynnwys y papur hwn gan y bydd canlyniadau’r drafodaeth yma yn effeithio’n uniongyrchol ar gyllid pob eglwys yn yr Henaduriaeth.

Gan fod gofyn i’r Henaduriaeth roi ymateb i’r ddwy ddogfen yma gwahoddir pob eglwys i anfon o leiaf un cynrychiolydd i’r cyfarfod yn Seilo ar 25 Tach am 7pm.

Adroddiad am ymateb yr Henaduriaeth i argymhellion y Cyd-gynulliad - cliciwch yma


Ordeinio a Llongyfarch
blaenoriaiadNos Fawrth 22 Tachwedd yng Nghapel y Rhos, Llanrug ordeiniwyd blaenor newydd yn Henaduriaeth Arfon, sef Mrs Falmai Pritchard o Gapel Coch, Llanberis. Yn yr un oedfa llongyfarchwyd y Parchg Trefor Jones ar ddathlu 60 mlynedd ei ordeiniad, a’r Parchg Eric Jones ar 40 mlynedd ei ordeiniad yntau. Hefyd llongyfarchwyd dau o flaenoriaid yr Henaduriaeth; Mr Wyn Griffiths oedd yn dathlu 50 mlynedd ei ordeiniad a Miss Dilys O’Brien Owen, Capel y Groes, Penygroes oedd yn dathlu 70 mlynedd fel blaenor. Hyfrydwch oedd cael croesawu Mr Huw Tudor, Llywydd y Gymdeithasfa yn y Gogledd, i’r oedfa; darllenwyd o’r ysgrythur gan y Parchg John Pritchard a gweddïwyd gan Mr Colin Jones, Capel Coch. Y Parchg Gwenda Richards weddïodd dros y blaenor newydd. Wrth ymateb i’r llongyfarchion gresynodd y Parchedig Eric Jones na cheir o fewn y Cyfundeb bellach, yn ei dyb ef, bwyslais digonol ar y weinidogaeth. Cyfeiriodd at sylwadau y Parchg J W Jones yn ei gyfarfod sefydlu yn Llansannan yn1973, fod gwaith y gweinidog yn anodd, yn anrhydeddus ac arhosol. Diolchodd y Parchg Eric Jones i’r Henaduriaeth am ei dymuniadau da a dymunodd fendith Duw ar y gwaith i’r dyfodol.

blaenoriaiad

Llun: o’r chwith i’r dde – Y Parchg Eric Jones, y Parchg Trefor Jones, Mr Huw Tudor, Mrs Falmai Pritchard, y Parchg John Pritchard, Mrs Lowri Prys Roberts Williams (Llywydd yr Henaduriaeth), Mr Colin Jones, Mr Wyn Griffiths

 

Cymdeithasfa'r Hydref - Carno - Dydd Mercher 9 Hydref 2013

Mrs Lowri Prys Roberts WilliamsBore Mercher, 9 Hydref, teithiodd aelodau o Henaduriaeth Arfon i Garno ar gyfer cyfarfod yr Hydref o'r Gymdeithasfa yn y Gogledd. Y cynrychiolwyr oedd: Mrs Lowri Prys Roberts Williams a'r Parchedig Ddr Elwyn Richards, sef Llywydd ac Ysgrifennydd yr Henaduriaeth, ynghyd â'r Parchedig Marcus Robinson, y Parchedig Gwenda Richards, Miss Elsbeth Jones, a Mrs Gwenno Pritchard.

Bu'n ddiwrnod prysur a chafwyd trafodaethau brwd ar nifer o faterion. Yn yr hwyr ordeiniwyd Mrs Nesta Davies, Abergele, i gyflawn waith y weinidogaeth. Llywyddwyd yr oedfa gan Mr Huw Tudor, Llywydd y Gymdeithasfa yn y Gogledd, pregethwyd y gair gan y Parchedig Nerys Tudor a gweinyddiwyd y sacrament o Swper yr Arglwydd gan y Parchedig Trefor Lewis, Llywydd y Gymanfa Gyffredinol.

Yn y llun gwelir Mrs Lowri Prys Roberts Williams yn cymeryd y rhannau dechreuol yng nghyfarfod y pnawn o'r Gymdeithasfa.

gwefan

CYNGOR CYMRU AR ALCOHOL A CHYFFURIAU ERAILL

Dydd Sul 6 Hydref fydd ail Sul Adferiad Cymru.

Ar y Sul hwn, gofynnir i Gristnogion Cymru uno mewn gweddi dros y rhai sy’n gaeth i ddibyniaeth; i ofyn i Dduw ein helpu i’w helpu nhw. Oherwydd hyd yn oed mewn bywyd eglwys, mae pobl a theuluoedd yn brwydro yn erbyn dibyniaeth. Mae Sul Adferiad 2013 yn gyfle arall i agor ein meddyliau i’w hargyfwng nhw.

Mae gwasanaeth Sul Adferiad 2013, “Cyffwrdd Ymyl Ei Wisg”, ar ffurf PowerPoint ac ar gael o Lyfrgell’y wefan hon.

Mae’r gwasanaeth wedi ei seilio ar hanes gwraig swil fu’n dioddef poen ac alltudiaeth dros gyfnod o 12 mlynedd ac wedi ‘sbyddu ei hadnoddau heb unrhyw wellhad, yn troi at Iesu. Mae’n stori am feithrin hunanhyder, ffydd a gobaith. Mae’n stori adferiad ac ynddi felly addewid.

 

21:08:13 Pobl ifanc o eglwysi sy'n perthyn i CWM yn Ewrop a Dwyrain Asia wedi dod i weithio yn Eglwys Noddfa, Caernarfon

pobl

Mae pymtheg o bobl ifanc o eglwysi sy'n perthyn i CWM yn Ewrop a Dwyrain Asia wedi dod i weithio yn Eglwys Noddfa, Caernarfon.

Byddant yn cynnal wythnos o weithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc Ward Peblig fel rhan o ddarpariaeth Cynllun Chware yr eglwys sy'n cael ei gynnal yn flynyddol.

Aelodau Noddfa a ffrindiau
yng nghwmni gweithwyr CWM
 

Brynhawn Sul 18 Awst cynhaliwyd gwasanaeth arbennig i'w croesawu dan arweiniad Llinos Mai Morris, un o weithwyr Eglwys Noddfa, a Wayne Hawkins, Ysgrifennydd Rhanbarth Ewrop CWM. Cafwyd cyfraniadau amrywiol i'r oedfa gan yr ieuenctid ac aelodau'r eglwys; a chan Ben y pyped. Dymunwyd yn dda i bawb gan Dr Geraint Tudur ar ran Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, a Dr Elwyn Richards ar ran Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac Ymddiriedolwyr Eglwys Noddfa.

Fore Sul cafodd y criw gyfle i ymuno mewn oedfa draddodiadol Gymraeg yng Nghapel y Rhos, Llanrug dan arweiniad y Parchg Harri Pari - er gwaethaf dieithriwch yr iaith cawsant flas neilltuol ar yr addoliad.


15:08:13 Swydd Gweithiwr Plant ac Ieuenctid

hysbyseb swydd

Cynllun Chwarae Haf Eglwys Noddfa

PLANT

Mae trigolion Peblig wedi bod wrthi'n brysur yn cefnogi eglwys Noddfa, Caernarfon, wrth iddynt ymdrechu i godi arian yn lleol, er mwyn cynnal tair wythnos o Gynllun Chwarae Haf.

Oherwydd newidiadau ym mholisïau’r Cynulliad, ni fydd y Cynllun yn cael ei ariannu gan y Cyngor Sir eleni a rhoddodd hyn y ddarpariaeth mewn perygl oherwydd diffyg ariannol sylweddol.

Rhai o blant y cynllun gyda'r gweithwyr

Fodd bynnag, aeth y trigolion ati i godi arian ar gyfer cynnal y Cynllun Chware, gyda banc yr HSBC yn addo rhoi £1 am bob £1 a godid. Trefnwyd Raffl o gwmpas y stad, disco i'r plant, noson goffi a dwy awr o neidio noddedig ar gastell bownsi. Codwyd £600 i gyd, sy'n golygu y bydd £1,200 yn mynd yn bell iawn i helpu tuag at gostau'r Cynllun, ac yn gwneud dros 100 o blant yn hapus iawn yn Peblig yr haf yma! Da iawn Pobl Peblig!

neidio
gwasanaeth  
Merched Clwb TLWS yn gwneud
y naid noddedig
Gwasanaeth Dathlu'r Haf,
yn dilyn y naid noddedig
 

21:06:13 Parti Penblwydd Berea Newydd
teisen

Cafwyd noson hwyliog iawn i ddathlu 10 mlynedd ers i Eglwysi Presbyteraidd ardal Bangor ddod at ei gilydd i ffurfio Eglwys Berea Newydd. Ar noson braf ar ddydd hiraf y flwyddyn daeth tua 150 ynghyd i ddathlu yn Neuadd Hendre,Talybont ger Bangor.



Trefnwyd gemau i'r plant dan arweiniad Delyth Wyn Davies (Swyddog Plant ac Ieuenctid yr Ofalaeth), yna gwledd i bawb o fochyn wedi ei rostio cyn torri'r gacen penblwydd arbennig yn dangos llun y capel.

Cafwyd dawnsio gwerin hwyliog i gloi'r noson a Gareth Jones, un o'r blaenoriaid, yn galw.

Roedd y mochyn yn rhodd gan Geraint a Gwen Hughes a'r gacen yn rhodd gan Arwyn Evans ( blaenoriaid eraill)

Barn pawb a ddaeth i'r noson (heblaw'r mochyn) oedd i ni gael noson ardderchog a bod angen i ni ddathlu'r penblwydd bob blwyddyn o hyn ymlaen!

Dathlwyd yn Neuadd yr Hendre gyda 150 o bobl phlant yn bresennol nos Wener 21 Mehefin. Cliciwch yma i weld mwy o luniau.

Diwrnod i'r Blaenoriaid yn Y Bala 29:06:13
Llythyr Cyflwyno - cliciwch yma
Rhaglen - cliciwch yma
Ffurflen Archebu - cliciwch yma


CWM yn chwilio am wirfoddolwyr ifanc
Mae’r Cyngor Cenhadaeth Byd Eang (CWM) yn cynnal gweithgaredd ar y cyd ag Eglwys Noddfa yn ystod yr haf (14 – 24 Awst) gyda phenwythnos rhagbaratol ym mis Mai (24 – 26 Mai) yn Whitley Bay, ac yr ydym yn chwilio am ddau berson ifanc rhwng 16 ac 19 mlwydd oed i fod yn rhan o’r gweithgaredd. Gellir cael manylion llawn o Eglwys Noddfa (01286 672257) neu oddi wrth Ysgrifennydd yr Henaduriaeth (abermenai@btinternet.com ). Os oes gennych ddiddordeb yn hyn, neu os y gwyddoch am ieuenctid fyddai yn hoffi gwybod mwy am y cyfle cyffrous hwn, byddem yn falch o glywed gennych.


Sasiwn Genhadol Chwiorydd y Gogledd
Capel Bethesda, yr Wyddgrug, Dydd Mawrth 07 Mai 2013

Teithiodd chwiorydd o bob rhan o'r gogledd i Sasiwn Genhadol Chwiorydd y Gogledd a gynhaliwyd yng nghapel Bethesda, Yr Wyddgrug, dydd Mawrth 7 Mai, 2013, ac yn eu plith roedd nifer o chwiorydd o Henaduriaeth Arfon.

Yn oedfa'r pnawn cafwyd amlinelliad diddorol o waith Dorcas gan y cydlynwyr, Elinor Owen a Sarah Morris, a mynegwyd awydd ganddynt i ymweld â henaduriaethau ac eglwysi i gyflwyno'r prosiect newydd hwn i chwiorydd eglwysi'r Cyfundeb. Geiriau ein Nawddsant gafodd eu dyfynnu gan y ddiweddar Gwen Rees Roberts yng nghyfarfod comisiynu Carys Humphreys dros chwarter canrif yn ôl 'gwnewch y pethau bychan' oedd thema Carys yn oedfa'r hwyr. Cafwyd cipolwg o'i chyfrifoldebau fel ysgrifenyddes yn swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Taiwan ynghŷd â darlun byw o 'Malama'. Ffrwyth gweledigaeth Carys a'i ffrind Cecilia yw Malama, wrth iddynt gynnig cymorth ymarferol ac ysbrydol ar eu haelwyd i unrhyw un sydd angen cyfnod o encil o ganol prysurdeb a phwysau bywyd.

Cafodd cynulleidfa'r pnawn fwrlwm o gân gôr plant Ysgol Gynradd Glanrafon, Yr Wyddgrug, a gwefreiddiwyd cynulleidfa'r hwyr gan ganu hyfryd Parti'r Siswrn, eto o'r Wyddgrug.

Roedd ffrwyth llafur chwiorydd Dosbarth y Fflint yn amlwg yn yr holl drefniadau a'u croeso yn wresog, a bendith ychwanegol fu cael profiad prin o haul cynnes y gwanwyn.

Edrychir ymlaen at Sasiwn 2014 a gynhelir yn Nolgellau ar y dydd olaf o Ebrill.

merched merched 2 ddynes
Rhai o ferched Henaduriaeth Arfon
yn Sasiwn y Chwiorydd,
Yr Wyddgrug.
Eirlys Gruffydd, Nan Powell Davies, Menna Eluned Jones, Eirlys Wright, Carys Humphreys a Mary Thomas (Oedfa'r Hwyr)
Mrs Brynmor Jones
a Carys Humphreys

 

Adroddiad o’r Gymdeithasfa yn y Gogledd, gyfarfu yng Nghapel y Bowydd, Blaenau Ffestiniog, 23 – 24 Ebrill, 2013

4 dynCyfarfu’r Gymdeithasfa yn Eglwys y Bowydd, Blaenau Ffestiniog a chafwyd yno groeso twymgalon. Darparwyd yn helaeth ar gyfer y cynrychiolwyr, ac yr oedd holl drefniadau yn ardderchog. Yn y gwasanaeth cyhoeddus nos Fawrth daeth Mr Huw Tudor, Pwllheli i gadair y Llywydd, i ddilyn y Parchg Brian Huw Jones, Prestatyn. Fel Brian, fagwyd yn eglwys Beulah, roedd gan Huw hefyd gyswllt agos â Chaernarfon, gan i’w dad, y diweddar Barchedig S.O. Tudor, fod yn weinidog eglwys Moreia, a chawsom gan Huw enghraifft neu ddwy o iaith y Cofis yn ystod ei araith wrth dderbyn y gadair. Un arall o weinidogion y dref bregethodd yn yr oedfa brynhawn Mercher, sef y Parchg Harri Parri. Cymerodd hanes llongddrylliad yr Apostol Paul fel cefndir i’w bregeth (Act 27), a chafwyd oedfa ddiddorol iawn.

Yn ei araith ymadawol cyfeiriodd y Llywydd, y Parchg Brian Huw Jones at 2 Cronicl 7:14; ‘Ac yna bydd fy mhobl, a elwir wrth fy enw, yn ymostwng ac yn gweddïo, yn fy ngeirio ac yn dychwelyd o’i ffyrdd drygionus, yna fe wrandawaf o’r nef, a maddau eu pechodau ac adfer eu gwlad.’ Galwodd ar i’r eglwys ymostwng mewn gweddi, plygu mewn gwyleidd-dra ac ymgymryd â’i chyfrifoldeb.

Yn yr oedfa brynhawn Mawrth cafwyd coffa am flaenoriaid a fu farw ers cyfarfod diwethaf y Gymdeithasfa, yn eu plith Mr Bert Parry, Llanberis a Mr Arthur Rees Rowlands, Caernarfon. Llongyfarchwyd hefyd yn yr oedfa honno nifer o weinidogion a blaenoriaid ar ddathlu deugain, hanner cant, trigain a deg mlynedd a thrigain eu hordeiniad. Llongyfarchwyd Miss Dilys O’Brien Owen, Capel y Groes ar ddathlu saith deg mlynedd ei hordeiniad fel blaenor, a Mr Wyn Griffith, Berea Newydd ar ddathlu hanner can mlynedd ei ordeiniad yntau. Yn yr un modd llongyfarchwyd y Parchg Eric Jones, Caernarfon ar ddeugain mlynedd ei ordeiniad, a’r Parchg Trefor Jones oedd yn dathlu trigain mlynedd fel gweinidog. Ar y Parchg Trefor Jones y disgynnodd y cyfrifoldeb o siarad ar ran ei gyd-weinidogion oedd yn cael eu llongyfarch, a chyfeiriodd at y newid mawr a welwyd mewn byd ac eglwys yn ystod ei gyfnod ef, at y gwahanol ymgyrchoedd cenhadol drefnwyd gan yr eglwysi, ac at y rheidrwydd i’r Eglwys ymysgwyd ac ymateb i amgylchiadau ei chyfnod. Cyn y cymun a ddilynodd cafwyd anerchiad dwys ac ysbrydoledig gan y Parchg Megan Williams, Porthaethwy bwysleisiodd y Crist byw a’i berthynas â’i bobl.

carys humphreys

Un o’r ymwelwyr â’r Gymdeithasfa oedd Miss Carys Humphreys oedd adref am gyfnod o Daiwan, lle y mae’n gwasanaethu ym mhencadlys Eglwys Bresbyteraidd Taiwan. Croesawyd hi yn gynnes iawn gan y Gymdeithasfa, a dygodd gyfarchion Llywydd a swyddogion Eglwys Bresbyteraidd Taiwan i’r Gymdeithasfa.

 

Dyma rai o’r prif faterion a drafodwyd neu a benderfynwyd yn yr eisteddiadau;

• Penodwyd y Parchg Brian Huw Jones yn ysgrifennydd y Pwyllgor Bywyd a Thystiolaeth, daeth Mr Gwyn Roberts, Dolwyddelan i’w swydd fel ysgrifennydd y Pwyllgor Eglwys a Chymdeithas, ac etholwyd y Parchg R J Owen Griffiths, Bae Colwyn yn ddarpar ysgrifennydd y Gymdeithasfa, a’r Parchg Elwyn Richards yn lywydd-etholedig.

• Trafodwyd tair cenadwri o Henaduriaeth Arfon. Trosglwyddwyd galwad i’r Cyfundeb ymchwilio i fater milwyr yn dychwelyd o wasanaeth milwrol ac yn methu ymdopi â bywyd bob dydd ac yn mynd i drybini, i sylw’r Adran Eglwys a Chymdeithas, a chlywyd fod yr adran eisoes wedi dechrau proses o ymgynghori ar y pwnc. Penderfynwyd hefyd anfon ymlaen y genadwri ynghylch sicrhau dyfodol y weinidogaeth ordeiniedig a chwtogi costau canolog y Cyfundeb, a throsglwyddwyd i’r Bwrdd Adnoddau ac Eiddo alwad ar i Eglwys Unedig Bethesda gael cymorth i ddiogelu’r adeilad, gan mai dyma’r unig gapel wedi ei gofrestru ar raddfa 1 gan CADW sydd yn eiddo i’r Cyfundeb.

• Adolygu Symud Ymlaen 3 - cafwyd trafodaeth fanwl ar yr amserlen a osodwyd i ymgynghori ynghylch hyn, a rhoddwyd sylw i awgrymiadau a sylwadau'r panel a godwyd i ystyried y ddogfen drafod. Digon negyddol oedd ymateb y Gymdeithasfa i’r argymhellion a phenderfynwyd anfon sylwadau’r panel ymlaen i’r Ysgrifennydd Cyffredinol ynghyd â chrynodeb o’r drafodaeth a gafwyd.

• Ymateb i argymhellion Cydgynulliad yr Eglwysi Cyfamodol - cafwyd crynodeb o’r ymatebion ddaeth i law o’r Henaduriaethau gan y Parchg Marcus Wyn Robinson. Dywedodd fod cryn gefnogaeth i’r syniad o uno ond y ceid pryderon am rai materion megis esgobyddiaeth a’r olyniaeth apostolaidd. Siaradodd y Parchg Dafydd Andrew Jones, Llywydd y Gymanfa Gyffredinol, yn huawdl iawn o blaid yr argymhellion gan gyfeirio at ei brofiad diweddar yn ymweld â Chorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, nad oedd o ran ei natur a’r materion a drafodwyd ganddo yn wahanol iawn i’r Gymanfa Gyffredinol.

• Cymdeithasfa’r Gwanwyn 2014 – i’w chynnal yn Henaduriaeth Dyffryn Clwyd.

Cliciwch yma i weld y lluniau

Ymateb Henaduriaeth Arfon i Argymhellion Cydgynulliad yr Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru

Ers 1975 bu Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn un o'r pum enwad yng Nghymru a ymrwymodd i weithio tuag at sefydlu 'un Eglwys weledig i wasanaethu gyda`n gilydd mewn cenhadaeth er gogoniant Duw Dad'. Fis Hydref diwethaf mewn cydgynulliad yn Aberystwyth cyhoeddwyd nifer o argymhellion gyda golwg ar wireddu hyn, a gwahoddwyd 'y pum Eglwys Gyfamodol i feddwl amdanynt eu hunain fel yr Eglwys yn Uno yng Nghymru'. Bu i Henaduriaeth Arfon ystyried yr argymhellion hynny a'r dogfennau perthnasol mewn Pwyllgor Gwaith arbennig oedd yn agored i gynrychiolwyr o bob eglwys, ac a gynhaliwyd yn Seilo, Caernarfon ar 18 Mawrth 2013. Dyma grynodeb o’r sylwadau a’r ymateb cychwynnol fydd yn cael ei drosglwyddo i sylw'r Gymdeithasfa yn y Gogledd;

Daeth ynghyd 23 o gynrychiolwyr o 15 o eglwysi’r henaduriaeth a chafwyd trafodaeth hamddenol ac agored yn dilyn cyflwyniad gan y Parchg Marcus Wyn Robinson, Swyddog Ecwmenaidd EBC, a chipolwg ar y CD a gynhyrchwyd ar gyfer y cydgynulliad a gynhaliwyd yn Aberystwyth yn hydref 2013.

Yn gyffredinol yr oedd yr ymateb i’r cynllun a gyflwynwyd yng Nghydgynulliad yr Eglwysi Cyfamodol yn gadarnhaol, a mynegwyd cefnogaeth i’r egwyddor o sefydlu ‘eglwys sydd yn uno’. Cyfeiriwyd at Dde Affrica gaiff ei hadnabod fel ‘cenedl yr enfys’ a mynegwyd os gellir arddel undod mewn amrywiaeth, a gweld llwybr ymlaen, mewn gwlad felly a brofodd gymaint o drais ac o dristwch, y dylai hynny fod yn ysbrydoliaeth ac yn anogaeth i Gristnogion Cymru i symud tuag at undeb.

Yr oedd cryn ansicrwydd ynghylch egwyddor esgobyddiaeth. Awgrymwyd y gallai’r sôn am esgob godi gwrthwynebiad ar seiliau hanesyddol a hen ragfarnau, a holwyd beth ar wahân i fod yn gyfrifol am ordeinio, fyddai swyddogaeth yr esgobion o fewn yr eglwys yn uno?

Bu i fater yr olyniaeth apostolaidd a’r argymhelliad y dylai gweinidogion EBC gael eu hordeinio i’r olyniaeth honno beri cryn drafodaeth. Gwrthwynebwyd yn bendant unrhyw syniad o ail-ordeinio, ac er bod rhai yn anesmwyth â’r syniad o ordeinio i’r olyniaeth apostolaidd pwysleisiwyd hefyd yr angen i geisio ymateb gyda gras a dealltwriaeth i’r gofyn yma, a’i ystyried fel anghenraid fyddai’n symud y broses o uno yn ei blaen yn sylweddol. Cydnabuwyd fod canonau diweddar yr Eglwys yng Nghymru wedi galluogi gweinidogion yr eglwysi cyfamodol eraill i gymryd rhan lawnach yn ei gwasanaethau, ond y byddai argymhellion y Cydgynulliad yn welliant sylweddol gyda golwg ar hynny.

Cydnabuwyd hefyd fod prinder gweinidogion yn llethu pob enwad yn y Gymru sydd ohoni a bod rheidrwydd arnom i hybu’r weinidogaeth ordeiniedig. Byddai methiant i sicrhau cyfartaledd llwyr rhwng marched a dynion o fewn y drefn newydd, ac yn arbennig gyda golwg ar swydd esgob, yn broblem sylweddol. Nodwyd hefyd y dylid holi beth fyddai lle pregethwyr lleyg o fewn yr eglwys yn uno, ac y dylid gwneud pob ymdrech i ddiogelu eu cyfraniad.

Mynegwyd pryder y gallai’r argymhellion arwain at danseilio lle’r Gymraeg, a bod yn rhaid ceisio diogelu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg o fewn unrhyw batrwm newydd .

Codwyd cwestiwn cost y cynllun hefyd, a nodwyd y byddai uno heb unrhyw ymdrech i leihau adeiladau yn arwain at ddyblygu addoldai yn ddiangen.

Dywedwyd hefyd y bydd gan aelodau EBC y dewis o symud i enwadau anghydffurfiol eraill pe baent yn gwrthwynebu’r cynllun ar sail cydwybod, ac y dylid parchu penderfyniad felly.

Pwyllgor Gwaith Agored i drafod Argymhellion Cydgynulliad yr Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru
Ers 1975 bu Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn un o'r pum enwad yng Nghymru a ymrwymodd i weithio tuag at sefydlu 'un Eglwys weledig i wasanaethu gyda`n gilydd mewn cenhadaeth er gogoniant Duw Dad'. Fis Hydref diwethaf mewn cydgynuliad yn Aberystwyth cyhoeddwyd nifer o argymhellion gyda golwg ar wireddu hyn, a gwahoddwyd 'y pum Eglwys Gyfamodol i feddwl amdanynt eu hunain fel yr Eglwys yn Uno yng Nghymru'. Bellach y mae gofyn i'r Henaduriaeth ystyried yr argymhellion hynny a'r dogfennau perthnasol a gwneud sylwadau cychwynol arnynt fydd yn cael eu trosglwyddo i sylw'r Gymdeithasfa ym mis Ebrill. Er mwyn gwneud hynny'n effeithiol ac yn agored penderfynwyd cynnal Pwyllgor Gwaith Arbennig yn Seilo ar nos Lun 18 Mawrth am 7pm, ac y mae gwahoddiad i bob eglwys anfon cynrychiolwyr i'r pwyllgor hwn.

- Argymhellion 27.12.12 - cliciwch yma
- Gofal Bugeiliol - cliciwch yma
- Llywodraeth Eglwysig - cliciwch yma
- Datganiad Trefeca - cliciwch yma


Ail-strwythuro y Cyfundeb - y mae Panel Adolygu wedi bod yn ystyried sut y bu i'r newidiadau a wnaed i strwythur y Cyfundeb gyda Symud Ymlaen 3 wedi gweithio, ac y maent wedi cynnig argymhellion ar gyfer ad-drefnu pellach gyda'r bwriad o wneud y Cyfundeb yn fwy effeithiol a dwyn y broses o wneud penderfyniadau yn nes at yr eglwysi lleol.Efallai y ceir cyfle i gyfeirio atynt yn y Pwyllgor Gwaith Arbennig ar 18 Mawrth, ond nid oes angen i ni ymateb i'r rhain hyd fis Mehefin, a bydd ein sylwadau yn cael eu hanfon yn uniongyrchol i'r Ysgrifennydd Cyffredinol. Gwahoddir eglwysi i astudio'r argymhellion ac anfon eu sylwadau i Ysgrifennydd yr Henaduriaeth cyn diwedd Ebrill. Mwy o wybodaeth ar wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Trosglwyddo Llywyddiaeth Henaduriaeth Arfon

ysgwyd llaw   Dydd Mawrth 19 Chwefror cyfarfu Henaduriaeth Arfon yng Nghapel Brynrodyn, y Groeslon ar brynhawn sych a braf. Llywyddwyd y cyfarfod i gychwyn gan y Parchg Deian E Evans, cyn iddo drosglwyddo'r llywyddiaeth i Mrs Lowri Prys Roberts Williams, Brynrefail. Yn ei anerchiad ymadawol cyfeiriodd y Parchg Deian Evans at Thesaloniaid 5:14; '...ceryddwch y segurwyr, cysurwch y gwangalon, cynorthwywch y rhai eiddil, byddwch yn amyneddgar wrth bawb'. Y segurwyr, meddai, oedd y rhai di-ddisgyblaeth a di-afael yr oedd gofyn eu cywiro, pobl wedi digaloni oedd y gwangalon a rhaid oedd eu cysuro, ond yr oedd yr eiddil wedi mynd y tu hwnt i'r gallu i obeithio ac nid oedd dim amdani ond eu cynorthwyo yn ymarferol.
Lowri Prys Roberts Williams yn
derbyn Llywyddiaeth Henaduriaeth Arfon

 

llywydd newydd   Wedi'r bregeth gwahoddwyd Mrs Lowri Prys Roberts Williams i arwyddo Beibly llywydd a chymryd at y llywyddiaeth. Diolchodd hithau am y fraint, a talwyd teyrnged i lywyddiaeth fedrus y Parchedig Deian Evans gan Mr Bob Morris, Penygroes.
Mrs Lowri Prys Roberts Williams yn arwyddo Beibl y Llywydd, Henaduriaeth Arfon    

Yn bresennol yn yr Henaduriaeth hefyd yr oedd Y Parchg Dafydd Andrew Jones, Llywydd y Gymanfa Gyffredinol. Dymunodd i'r Henaduriaeth bob dymuniad da gan ddiolch am ei gwaith a'i blaengarwch dros y blynyddoedd.

tu allan i'r capel   tu allan i'r capel
Y Parchedig Deian Evans, Cyn-Lywydd Henaduriaeth Arfon; y Parchedig Dafydd Andrew Jones, Llywydd EBC a Mrs Lowri Prys Roberts Williams, Llywydd Henaduriaeth Arfon   Y Parchedig Dafydd Andrew Jones, Llywydd Cymanfa EBC a Mrs Lowri Prys Roberts Williams, llywydd Henaduriaeth Arfon

Ymgyrch “Os...”
lansiadDydd Gwener 25 Ionawr cynhaliwyd cyfarfod wrth Gadeirlan Bangor fel rhan o’r gweithgareddau i lansio ymgyrch yn erbyn newyn. Bwriad clymblaid enfawr o fudiadau ar draws Prydain yw cynnull miloedd o bobl i weithredu. Dyma oedd gan Anna Jane Evans o Cymorth Cristnogol i’w ddweud am yr ymgyrch;

Mae’r byd yn cynhyrchu digon o fwyd i fwydo pawb ac eto, nid yw pawb yn cael digon o fwyd i fyw. Mae’n annheg, yn anghyfiawn, a’r gwir yw – does dim rhaid iddi fod felly. Trwy ein gweithredoedd gallwn berswadio llywodraethau i weithredu. Pe byddent yn gweithredu, gallai 2013 fod yn ddechrau i roi terfyn ar newyn.

Ym Mehefin bydd y DG yn croesawu’r G8: bydd 8 gwlad fwyaf pwerus y byd yn dod i’r DG ac mae Sicrwydd Bwyd a Maeth eisoes yn fater fydd yn cael ei drafod. Mae hyn yn rhoi cyfle arbennig i ni ddweud wrthynt fod rhaid rhoi terfyn ar newyn byd eang. Os ydynt am roi terfyn ar newyn, gallent wneud hynny.

Bob awr mae tua 200 o blant yn marw o newyn - mae un o bob wyth o bobl y byd yn byw heb ddigon i’w fwyta - ond eleni mae dros 100 o fudiadau wedi dod at ei gilydd i greu newid ac i roi pwysau ar lywodraeth y DG a llywodraethau’r byd i newid y sustemau a’r polisïau sydd tu ôl i’r sgandal newyn yma.

Ymgyrch OS ydi o - Digon o fwyd i bawb OS ; ac mae 'na 4 OS mawr yn crynhoi’n galwad i lywodraethau’r byd.

OS treth - bob blwyddyn, yn l amcangyfrifon yr Organisation for Economic Co-operation and Development OECD, mae gwledydd tlawd yn colli tair gwaith mwy o arian i hafanau treth na maent yn ei dderbyn mewn arian cymorth. Arian trethi yw’r ffynhonnell bwysicaf, fwyaf cynaliadwy a rhagweladwy i lywodraethau’r byd ond mae miliynau o bunnoedd yn cael eu dwyn o’r gwelydd tlawd bob dydd wrth i gorfforaethau a chwmnïau mawr osgoi eu dyletswyddau treth. Os fedrwn ni roi stop ar hynny, gallwn sicrhau fod gan wledydd tlawd y byd ddigon o arian i warchod eu pobl rhag newyn.

OS cymorth – mae’r buddsoddiad cymorth mewn amaethyddiaeth wedi gostwng o 17% yn 1980 i lai na 4% yn 2006 Os fedrwn ni sicrhau fod llywodraethau cyfoethog y byd yn buddsoddi’n ddoeth, gallwn dorri lefelau diffyg maeth a newyn. Mae Llywodraeth David Cameron mewn lle da i arwain ar hyn gan mai nhw yw’r unig rai sydd ar y ffordd i wireddu addewid sy ddegawdau oed o roi 0.7% o’u hincwm fel cymorth rhyngwladol – mae angen i ni sicrhau eu bod yn cadw’r addewid – a’u bod yn arwain y gwledydd eraill i wneud yr un peth.

OS tir - bob chwe diwrnod mae ardal yr un faint a Llundain yn cael ei brynu gan y cwmnïau mawr - mae tua 1/5 o Sierra Leone a Senegal, traean o Libya a thros hanner o dir Cambodia bellach wedi cael ei brynu gan gwmnïau mawrion ac maent yn amcangyfrif fod 58% o’r pryniant hwnnw ar gyfer tyfu cnydau biodanwydd i fwydo’n ceir yn hytrach nag fel bwyd i bobl. Mi rydan ni yn y DG yn llosgi digon o gnydau’n ein ceir i fwydo 10 miliwn o bobl bob blwyddyn!

OS tryloywder - y tu ol i’r pethau eraill yma i gyd, mae’r cyfrinachedd sy’n caniatáu i gytundebau a pholisïau gael eu selio tu ol i ddrysau caeedig. Mae 90% o fasnach rawn y byd bellach yn digwydd rhwng 5 cwmni - meddyliwch y pŵer sydd ganddynt! Os fedrwn ni sicrhau fod llywodraethau a chwmnïau mawr yn gorfod bod yn agored a gonest am eu cytundebau a’r gweithgaredd mewn gwledydd tlawd, gallwn weld newid mawr.

Ond mae 'na un OS ar ol - OS ydym i gyd yn ymuno yn y frwydr , yn codi ar ein traed ac yn mynnu newid. Bydd cyfle i lobio’r AS cyn y gyllideb ym mis Mawrth , a chyfleoedd eto cyn cyfarfod yr G8 ym Mehefin i greu newid - ond mae angen i bob un ohonom fod yn rhan o ledaenu’r neges, o godi ymwybyddiaeth, o siarad a rhannu’r dyhead ac o godi llais. Dewch efo ni - a dewch a’ch teuluoedd, eich ffrindiau, eich eglwysi a’ch cymunedau efo chi - felly dywedodd Ghandi, mae’r dyfodol yn dibynnu ar be wnawn ni heddiw!

Dyma linc linc i wefan CC i bobl ymuno a’r ymgyrch – mae na fwy o wybodaeth ac adnoddau addoli ayb ar gael yno.

Cliciwch yma am weddi OS

Ordeinio Blaenoriaid Newydd
pobl Nos Fawrth 23 Hydref yn yr Henaduriaeth a gynhaliwyd yng nghapel Berea Newydd, Bangor ordeiniwyd 14 o flaenoriaid newydd o bedair o eglwysi’r Henaduriaeth sef Ebeneser, Clynnog; Horeb, Rhostryfan; Berea Newydd, Bangor ac Eglwys Unedig Bethesda. Roedd y gwasanaeth yng ngofal Llywydd yr Henaduriaeth, y Parchedig Deian E. Evans ac yr oedd Llywydd y Gymdeithasfa yn y Gogledd, y Parchg Brian Huw Jones, hefyd yn cymryd rhan yn yr oedfa. Arweiniwyd mewn defosiwn gan Mrs Cynthia Owen a Mrs Elizabeth Roberts, a gweddiwyd dros y blaenoriaid newydd gan y Parchg Eric Jones. Hefyd llongyfarchwyd y Parchg Huw Gwynfa Roberts ar ddathlu 60mlynedd ei ordeinio ac anfonwyd ato gyfarchion cynnes gan nad yw wedi bod yn dda iawn ei iechyd yn ddiweddar. Hefyd llongyfarchwyd Mr Arfon Evans a Dr Iorwerth Morris, Berea Newydd a Mr Oswyn Evans, Eglwys y Berth oedd yn dathlu 50mlynedd eu hordeinio’n flaenoriaid, a Dr Tudor Ellis, Eglwys y Bryn oedd yn dathlu 40mlynedd ei ordeinio’n flaenor ond na allodd fod yn bresennol oherwydd amgylchiadau personnol.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


 

Swyddog Plant ac Ieuenctid

logo

Mae Gofalaeth Bresbyteraidd Bangor a'r Cyffiniau yn chwilio am berson egniol a brwdfrydig i weithio yn ei thair eglwys

Swydd ran amser (o leiaf 21 awr yr wythnos)

Cyflog ar raddfa £18,412 - £21,675 pro rata
Telir hefyd lwfans tŷ a char

Man cychwyn yn dibynnu ar oed, profiad a chymwysterau
Swydd blwyddyn yn y man cyntaf

Manylion pellach a ffurflen gais gan:
Cynthia Owen
14, Lôn y Meillion
Bangor
LL57 2LE
Ffôn : 01248 364008
cynthiaowen@tiscali.co.uk

Cliciwch yma i lawrlwytho yr hysbyseb


Penwythnos Cymorth Cristnogol Eglwys Bresbyteraidd Cymru 12–14 Hydref, 2012
coleg trefeca
Daeth cynrychiolwyr yr Henaduriaethau i Goleg Trefeca dros y Sul i dreulio penwythnos yn myfyrio ar y thema ‘Carreg wrth Garreg’. Cafwyd astudiaeth Feiblaidd ysbrydoledig dan arweiniad y Parchedig Diane Jones yn dilyn hanes Nehemeia yn ail adeiladu’r Deml yn Jerwsalem, ac roedd sgwrs Jeff Williams, yn dwyn i gof rhai o’i brofiadau yn gweithio i elusen Cymorth Cristnogol, yn wefreiddiol. Bydd ef yn ymddeol o’i swydd y flwyddyn nesaf, a manteisiwyd ar y cyfle i ddiolch iddo am ei ffyddlondeb cyson i’r Penwythnos hwn. Cyflwynwyd anrheg fechan iddo fel gwerthfawrogiad o’i lafur. Bu cyfraniad Anna Jane Evans ac Eirian Samuel o Gymorth Cristnogol yn heriol ac addysgiadol. Daeth y cyfan i ben gydag oedfa Gymun hyfryd yn y Capel Bach dan arweiniad y Parchedig Olwen Williams, Tudweiliog. Trefnydd y gweithgareddau oedd y Parchedig Catrin Roberts a Chadeirydd y Gynhadledd oedd Alun Ellis, Waunfawr. Ef ynghyd â’r Parchedig Gwenda Richards oedd cynrychiolwyr Henaduriaeth Arfon yn Nhrefeca. Dychwelodd pawb adref bnawn Sul yn llawn brwdfrydedd wedi mwynhau deuddydd o gymdeithasu hapus a myfyrdod cyfoethog. Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Pawb a gymerodd ran yn y Gwasanaeth Ordeinio

Dydd Mercher 10 Hydref cyfarfu y Gymdeithasfa yn y Gogledd yn Ebeneser, Clynnog Fawr. Bu paratoi dyfal yn lleol ar gyfer y cyfarfodydd ac yr oedd y capel wedi ei addurno yn arbennig ac yn edrych yn lanwaith a destlus. Darparodd caffi Tyddyn Sachau luniaeth i’r cynrychiolwyr a ddaeth ynghyd o bob rhan o ogledd Cymru a thu draw, a chafwyd cymorth parod aelodau eglwysi gofalaeth Bro Lleu fu’nparatoi ac yn gweini wrth y byrddau. Cynhaliwyd dau gyfarfod o’r Gymdeithasfa yn ystod y dydd, ac yna am 5.30 yr hwyr  cafwyd cyfle i wrando profiad y ddau oedd i’w hordeinio yn weinidogion, a hynny dan arweiniad y Parchg Olwen Williams, Tudweiliog. Cyfeiriodd Helen Wyn Jones o Eglwys Bach  at ei magwraeth ar aelwyd Gristnogol, ei hymwneud â’r capel ar hyd ei hoes a dylanwad unigolion arbennig arni. Dywedodd ei bod yn gwbl argyhoeddedig o gariad Duw, ac atgoffodd y gynulleidfa na ellir byth ddirnad dylanwad gair a ddywedir o blaid yr efengyl. Tebyg hefyd oedd tystiolaeth Dafydd Owens o’r Rhos; wedi ei fagu yn Esceifiog yn Sir y Fflint teimlodd gynhesrwydd yr efengyl yn gynnar ac o dipyn i beth daeth i sylweddoli ei fod yn cael ei alw i bregethu, a bu’n gwasanaethu amryw o eglwysi ar y Sul wrth ddilyn gyrfa fel athro ffiseg. Yna wedi ymddeol yn gynnar, mentrodd gynnig ei hun i’r weinidogaeth, ac fel Helen ymrodd i gael ei hyfforddi. Derbyniodd alwad i fugeilio gofalaeth fro Glyn Ceiriog lle bydd yn cychwyn ar i waith ym mis Ionawr. Y mae Helen eisoes wedi dechrau gwasanaethu fel gweinidog rhan-amser yn Ysbyty Ifan, ac fe fydd yn parhau i ddilyn ei gyrfa fel athrawes. Ordeiniwyd y ddau yn oedfa’r hwyr gan Lywydd y Gymdeithasfa yn y Gogledd, y Parchedig Brian Jones, Prestatyn a godwyd yn eglwys Beulah, Caernarfon. Estynnwyd deheulaw cymdeithas iddynt gan y Parchg Dafydd Andrew Jones, Llywydd y Gymanfa Gyffredinol ac ef hefyd weinyddodd wrth fwrdd y cymun. Y Pregethwr yn yr oedfa ordeinio oedd y Parchg Gwenda Richards, Caernarfon.

Yn ystod eisteddiad y prynhawn llongyfarchwyd dau o weinidogion y Gymdeithasfa oedd yn dathlu deugain mlynedd ers eu hordeinio yn flaenoriaid, sef y Parchg Eifion Williams a ‘r Parchg Trefor Lewis. Dyma’r tro cyntaf i’r Gymdeithasfa  wneud hyn. Wrth ymateb cyfeiriodd y Parchg Eifion Williams iddo gael ei godi’n flaenor yn eglwys Beulah, Caernarfon ac y bu’n flaenor hefyd yn Neiniolen, ac iddo fawrygu’r fraint a’r ymddiriedaeth a roddwyd ynddo gan ei gyd-flaenoriaid. Tebyg hefyd  oedd profiad y Parchg Trefor Lewis  a oedd yn gresynu nad oedd cymaint ag a fu yn ymateb i’r alwad i fod yn flaenor. Cliciwch yma i weld mwy o luniau

TAITH GERDDED APEL GWATEMALA
cerddwyrDdydd Sadwrn, Medi 29, roedd aelodau Capel y Groes, Pen-y-groes, yn falch o weld haul ac awyr las, wrth iddyn nhw gychwyn ar daith gerdded bum milltir er mwyn codi arian i Apel Gwatemala, Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Cychwyn o flaen y capel, ac yn eu Blaenau i fyny Ffordd y Brenin, ar yr Hen Lon i Dal-y-sarn; heibio i Glogwyn Melyn. I lawr trwy Goedmadog, wedyn, i ben draw pentref Tal-y-sarn, cyn pasio Capel Mawr John Jones, hen ardal Pen-bont, ac ymlaen am Chwarel Dorothea.
Unwaith y pasiwyd y ty pwmpio sydd bellach wedi’i restru ac ar fin cael ei adnewyddu, pasio adfail y sied anferth; dan y coed, heibio i hen drac y tren bach o Nantlle, heibio i’r deifwyr a gweddillion truenus Plas Dorothea… ac yn eu holau am Dal-y-sarn.

Ar y ffordd gartre’, cafwyd te bach a bwffe bendigedig yng ngwinllan Pant Du, ac fe ddaeth rhai aelodau na cherddodd y daith yno hefyd i gael cinio.

Diolch i bawb a gerddodd, a drefnodd ac a noddodd y cerddwyr. Cliciwch yma i weld mwy o luniau


BWS CYFIAWNDER TRETH CYMORTH CRISTNOGOL

bws

Bore Mercher 26 Medi cyrhaeddodd’ Bws Cyfiawnder Treth Cymorth Cristnogol’ ddinas Bangor. Amcangyfrifir bod arfer rhai cwmniau mawr o osgoi talu trethi yn costio $160bn yn flynyddol wledydd tlotaf y byd. Golyga hynny eu bod yn colli tua un a hanner gwaith yr hyn y maent yn ei dderbyn mewn cymorth rhyngwladol. Ar y bws yr oedd Ricardo Quezeda o Guatemala yn sôn am effaith ddinistriol osgoi treth ar wledydd tlotaf y byd, a chafwyd darlun byw o effeithiau difaol hynny ym Mhrydain gan un o gyfeillion Church Action on Poverty. Da oedd gweld Hywel Williams AS ac amryw o aelodau’r Henaduriaeth ymysg y gwrandawyr.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 


YMGYNGHORIAD

Parchg Kuzipa NalwambaYr wythnos diwethaf (24-27 Medi) cynhaliwyd ymgynghoriad yn Elspeet yn yr Iseldiroedd gan Adran Ewrop y Cyngor Cenhadu Byd-eang (CWM) i drafod beth yw bod yn eglwys genhadol (mission-shaped Church) heddiw. Cynrychiolwyd y Cyfundeb yno gan y Parchg Dafydd Andrew Jones, Llywydd y Gymanfa Gyffredinol, ynghyd â Llinos Mai Morris, Jim Clarke ac Elwyn Richards. Ymysg y siaradwyr yr oedd gweinidogion a oedd wrth y gwaith o sefydlu gweithgarwch Cristnogol newydd, arbenigwyr mewn cenhadaeth a hyfforddiant ac arbenigwyr mewn meithrin arweinyddiaeth eglwysig. Yn y trafodaethau cafwyd pwyslais ar ysbrydoledd a gweddi, yr angen i feithrin gweledigaeth genhadol yn lleol, a’r rheidrwydd i gyd-weithio a gwrando er mwyn cyrraedd y nod

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

Parchg Kuzipa Nalwamba o Zambia - caplan y gynhadledd


DARLITH GAN DR ERYN MANT WHITE
Dr Eryn Mant WhiteDydd Mawrth 18 Medi yn y Coleg Gwyn, Bangor cynhaliwyd darlith dan nawdd Adran Diwinyddiaeth Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru.

Y darlithydd gwadd oedd Dr Eryn Mant White, Aberystwyth a chyflwynodd ddarlith ar ‘Yr Ymneilltuwyr yng Nghymru wedi’r Troi Allan yn 1662’. Manylodd ar amgylchiadau a dylanwad pellgyrhaeddol y modd y gorfodwyd offeiriaid Piwritanaidd o’u plwyfi yn Eglwys Loegr am wrthod cydymffurfio â’r LLyfr Gweddi Gyffredin, a’r ymdrech a wnaed i barhau’r dystiolaeth anghydffurfiol dan amodau erledigaeth.

Cafwyd cefnogaeth dda i’r ddarlith a diolchir i bawb a roddodd hysbysrwydd iddi yn yr eglwysi.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau


LANSIO GWEFAN NEWYDD HENADURIAETH ARFON
lansio
Nos Fawrth 11 Medi lansiwyd gwefan Henaduriaeth Arfon mewn cyfarfod arbennig yng Nghapel Berea Newydd, Bangor. Roedd Mike a Jen Roberts o Gwmni Delwedd, Caernarfon yno i arddangos yr adnodd newydd yma, a mynegwyd gwerthfawrogiad mawr o waith y cwmni yn adeiladu’r wefan.



Llywydd y noson oedd y Parchg Deian E. Evans a ddywedodd yn ei anerchiad agoriadol ei bod yn bwysig i ni ddefnyddio’r wefan newydd fel erfyn, yn ddoeth ac yn ofalus, nid er ein lles ein hunain ond er clod i Dduw a gwaith ei Deyrnas ar y ddaear.

Yn bresennol hefyd yr oedd Mari Fflur Williams, Pennaeth Cyfathrebu Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Roedd hithau’n ystyried sefydlu’r wefan yn gam pwysig ymlaen i’r Eglwysi a’r Henaduriaeth; ‘Rydw i'n rhagweld y bydd y wefan yn adnodd defnyddiol iawn i holl aelodau'r eglwysi yn Henaduriaeth Arfon’ meddai. ‘Mae gwefan gynhwysfawr fel hon yn gyfrwng gwych o rannu adnoddau a gwybodaeth. Mae mwy a mwy o bobl yn defnyddio'r we i chwilio am wybodaeth am eu hardal leol felly bydd hefyd yn gymorth i ddenu teuluoedd ac aelodau newydd i gymryd rhan ym mywyd yr eglwysi.’

Mae gan bob eglwys yn yr Henaduriaeth ei thudalen ei hun ar y wefan ac edrychir ymlaen at weld defnydd mawr ohoni yn ystod y misoedd nesaf. Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 

Yn yr Adran Yma:

 

image

 

 

 

 

LluniauLluniau Diweddaraf

Henaduriaeth Arfon ar flickr.com
 

CysylltuManylion Cyswllt

Cyfeiriad:Y Parchedig Ddr Elwyn Richards, Plas Bach, 70 Cae Gwyn, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1LL.
Ffôn: 01286 676435
E-bost: post@henaduriaetharfon.org