Noddfa, Caernarfon
Enw’r Eglwys: Noddfa
Lleoliad: Cil Peblig, Caernarfon LL55 2RS
Swyddogion:
Ysgrifennydd: Anna Jane Evans
Trysorydd: Eleri Roberts
Ymddiriedolwyr: Parch John Roberts, Elwyn Richards, Marcus Wyn Robinson, Anna Jane Evans
Amseroedd Cyfarfodydd yr Eglwys
Gwasanaeth bob prynhawn Sul am 3. Ni chynhelir gwasanaethau yn ystod Mis Awst.
Digwyddiadau
- Diolchgarwch: Gwasanaeth a losbcows
- Nadolig – gwasanaeth arbennig a gwasanaeth carolau, parti Nadolig y plant,
- Gŵyl Ddewi: - Gwasanaeth a chawl, Noson Cawl a Chân
- Pasg: Dathlu’r Pasg a Phrofi’r Pasg
- Pentecost: Parti’r Pentecost
- Dathliad yr Haf – diwrnod agored a gwasanaeth i ddiweddu’r tymor.
Sefydlwyd Eglwys Noddfa yn 1956 o ganlyniad i waith Chwaer Emily a’r Symudiad Ymosodol. Yn dilyn gorfod gwerthu’r adeilad i’r Cyngor Sir yn y 1970au, parhaodd tystiolaeth yr eglwys yn yr ardal ac yn yr 1980au lleolwyd gweithwyr cenhadol y Cyfundeb yn yr eglwys i gynnal gweithgareddau Cristnogol a chymunedol. Mae’r Cyfundeb yn parhau i gyflogi dau weithiwr yn eglwys Noddfa ac ar hyn o bryd mae Mererid Mair Williams yn Weithwraig Gymunedol a Llinos Mai Morris yn Weithwraig Plant ac Ieuenctid.
Addoliad yw calon holl weithgareddau eglwys Noddfa ac mae’r gynulleidfa yn glos ac yn cynnwys ystod eang o oedrannau. Mae natur anffurfiol iawn i addoli yn Noddfa; bydd plant yr ysgol Sul yn rhannu’r hyn meant wedi ei ddysgu gyda’r gynulleidfa ym mhob gwasanaeth. Un waith y mis cynhelir oedfa deulu pan fydd y gweithwyr yn arwain y gwasanaeth a bydd yn fwy anffurfiol nag arfer! Nodir y gwyliau Cristnogol gyda dathliadau arbennig - ac yn aml byddwn yn cyd-fwyta pryd bwyd; rydyn ni’n hoffi bwyta yn Noddfa! Trefnir diwrnodau agored yn aml ar y dyddiau hyn pan ddaw mwy o drigolion cymuned Peblig i ymuno â ni.
Mae eglwys Noddfa yn eglwys sy’n fwy ‘na’r Sul yn unig’. Mae ymdeimlad cryf o fewn yr eglwys fod gwasanaethu’r gymuned leol, sy’n un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, yn hanfodol i fywyd yr eglwys ac mae’r gweithwyr yn chwarae rhan allweddol yn hyn. Mae eglwys Noddfa yn fan lle gall trigolion ardal Peblig droi fewn iddo am gymorth ymarferol gydag ystod eang o broblemau ac anawsterau. Mae’r eglwys hefyd yn cyd-lynu prosiect BARA Arfon sef cynllun sy’n cefnogi cyn-garcharorion a theuluoedd carcharorion. Mae gwaith plant ac ieuenctid yn bwysig iawn, yn ogystal â’r gweithgareddau a nodir isod mae’r Gweithiwr Plant ac Ieuenctid yn trefnu cynllun chwarae yn ystod y gwyliau ysgol sef Cynllun Pasg a chynllun pedair wythnos yn ystod yr haf.
Diolchgarwch Eglwys Noddfa 2013
Bydd Sul olaf mis Hydref yn Ŵyl Ddiolchgarwch yn Eglwys Noddfa a dechreuodd ein Gŵyl eleni am 11 y bore wrth i blant yr ysgol Sul, mamau a rhai o’r aelodau ymweld â chartref Maesincla i gynnal gwasanaeth yno. Bu’r plant yn brysur yn yr ysgol Sul yn ystod yr wythnosau diwethaf yn gwneud anrhegion i fynd i drigolion y cartref – roeddent wedi creu bugail a dafad fechan a fframiau lliwgar yn cynnwys adnodau o’r Beibl. Cawsant gyfle felly i roi yr anrhegion a chanu cân neu ddwy.
Am 1 o’r gloch daeth pawb yn ôl i Noddfa ar gyfer cinio Diolchgarwch. Llenwodd pawb eu boliau gyda ham, tatws newydd, salad, coleslaw, betys a nionyn picl a chacen sbwnj Bet - mmmmmm! Wedi golchi’r llestri mewn amser hynod gyflym – diolch i Sonia, Karen, Ffion a Magi - roedd yn amser i ni gyd ddod n’ôl at ein gilydd yn y neuadd ar gyfer ein gwasanaeth Diolchgarwch i’r teulu. Daeth Ben a Nain, ffrindiau da i Eglwys Noddfa, heibio i ddweud ‘helo’ a chawsom gyfle i feddwl a fyddwn yn rhoi digon o amser i Dduw ac i wneud y pethau hynny mae Duw am i ni ei wneud. Ac ar Sul Diolchgarwch, pwysig oedd gofyn a ydym yn treulio digon o amser yn diolch? Yn ogystal â diolch buom yn cofio am rai sydd yn wynebu amseroedd anodd. Daeth pawb â rhoddion ar gyfer y bwrdd rhoddion fydd yn mynd i Fanc Bwyd Caernarfon a chawson gyfle i ddysgu am waith Cymorth Cristnogol yng nghoedwig yr Amazon gyda chymunedau’r quilombolas, a phwysigrwydd y gwaith hwnnw i eco system y cread i gyd.
Wedi diwrnod prysur llawn diolch, roedd yn amser ei throi hi am adra gan edrych ymlaen am y digwyddiad nesaf yn Eglwys Noddfa. Cliciwch yma i weld y lluniau
Ymweliad
Dyma lun o'r Esgob Martin o Burundi pan ddaeth ar ymweliad ddechrau mis Hydref.
Cynllun Chwarae Haf
Mae trigolion Peblig wedi bod wrthi'n brysur yn cefnogi eglwys Noddfa, Caernarfon, wrth iddynt ymdrechu i godi arian yn lleol, er mwyn cynnal tair wythnos o Gynllun Chwarae Haf. Oherwydd newidiadau ym mholisïau’r Cynulliad, ni fydd y Cynllun yn cael ei ariannu gan y Cyngor Sir eleni a rhoddodd hyn y ddarpariaeth mewn perygl oherwydd diffyg ariannol sylweddol. |
|
Rhai o blant y cynllun gyda'r gweithwyr |
Fodd bynnag, aeth y trigolion ati i godi arian ar gyfer cynnal y Cynllun Chware, gyda banc yr HSBC yn addo rhoi £1 am bob £1 a godid. Trefnwyd Raffl o gwmpas y stad, disco i'r plant, noson goffi a dwy awr o neidio noddedig ar gastell bownsi. Codwyd £600 i gyd, sy'n golygu y bydd £1,200 yn mynd yn bell iawn i helpu tuag at gostau'r Cynllun, ac yn gwneud dros 100 o blant yn hapus iawn yn Peblig yr haf yma! Da iawn Pobl Peblig!
Merched Clwb TLWS yn gwneud y naid noddedig |
Gwasanaeth Dathlu'r Haf, yn dilyn y naid noddedig |
Enwl: Ysgol Sul Eglwys Noddfa
Lleoliad yr ysgol Sul: Noddfa, Cil Peblig, Caernarfon LL55 2RS
Arolygwr: Llinos Mai Morris
Athrawon: Linos Mai Morris
Cymorthyddion: Magi Williams, Elaine Bohana Davies, Anne Bohana
Trefn yr Ysgol Sul: Mae’r ysgol Sul yn cyfarfod am 2:30 ac am 3:30 yn ymuno â’r gynulleidfa yn y gwasanaeth. Bydd y plant yn aros am ddiod gyda’r aelodau ar ôl y gwasanaeth orffen am 4.
Holl Athrawon a chynorthwywyr wedi eu Gwirio efo’r CRB – Do
Digwyddiadau
Cynhelir Te Bach yn fisol a thrip arbennig bob blwyddyn. Cynhelir cyfarfod gweddi misol. Mae’r eglwys hefyd yn trefnu côr cymunedol sef Côr Peblig.
Enw’r Clwb: Clwb Tlws (Clwb i ferched oed blwyddyn 7+)
Lleoliad - Noddfa, Cil Peblig, Caernarfon LL55 2RS
Amser a noson y mae’n cyfarfod: Nos Lun, 5 - 7
Arweinydd : Llinos Mai Morris
Cymorthyddion: Elaine Bohana Davies ac Anne Bohana
Holl arweinwyr a chynorthwywyr wedi eu gwirio drwy’r CRB
Enw’r Clwb – Clwb Darllen Eglwys Noddfa
Lleoliad: Noddfa, Cil Peblig, Caernarfon LL55 2RS
Amser a noson y mae’n cyfarfod: Dydd Mercher 4-5
Arweinydd : Llinos Mai Morris
Cymorthyddion: Anne Bohana
Gwirfoddolwraig ifanc: Katie Bohana Davies
Holl arweinwyr a chynorthwywyr wedi eu gwirio drwy’r CRB
Enw’r Clwb: Clwb Cic (clwb bechgyn bl 3-6)
Lleoliad: Noddfa, Cil Peblig, Caernarfon LL55 2RS
Amser a noson y mae’n cyfarfod: Nos Iau, 5:30-6:45
Arweinyd: Llinos Mai Morris
Cymorthyddion: Des Mullender, Kevin Roberts
Holl arweinwyr a chynorthwywyr wedi eu gwirio drwy’r CRB
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Isod mae lluniau Noddfa. I weld y lluniau i gyd - cliciwch yma
DosbarthIADAU
AC EGLWYSI
PLANT & IEUENCTID
Yn YR ADRAN YMA