Newyddion
I weld y lluniau i gyd - cliciwch yma
Apêl Corwynt Cariad
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Llwyddodd aelodau Gofalaeth Bro Lleu, i godi £650 tuag at Apêl Corwynt Cariad trwy gynnal Bwrdd Gwerthu yn Ffair Wanwyn Dyffryn Nantlle a gynhaliwyd yn Neuadd Goffa Pen y Groes yn ddiweddar. Roedd amrywiaeth anhygoel o nwyddau ar y bwrdd a diolchir i bawb a gyfranodd mewn unrhyw fodd tuag at lwyddiant y diwrnod. Yn y lluniau gwelir rhai o’r gweithwyr diwyd, sy’n cynnwys Mr Evan Jones, 94 oed, sydd mor gefnogol i’r Apêl.
Stori y Geni ar Gân
![]() |
![]() |
‘Stori y Geni ar Gân’ oedd thema’r oedfa a gynhaliwyd yng nghapel y Groes nos Lun 21 Rhagfyr. Trefnwyd y noson gan aelodau Gofalaeth Bro Lleu, a hwy hefyd fu’n gyfrifol am lunio’r rhaglen. Cafwyd amrywiaeth o eitemau gyda Sian Eirian ac Arfon Gwilym yn unawdwyr; Robert Morris, Gwawr Maelor ac Elisabeth Roberts yn darllen o’r ysgrythur ac Elizabeth Fletcher, John Roberts a John Dilwyn Williams yn darllen cerddi a myfyrdodau. Sioned Web oedd yn cyfeilio i’w phriod, Arfon Gwilym. Canwyd y carolau i gyfeiliant cynrychiolwyr o Seindorf Arian Dyffryn Nantlle. Llywydd y cyfarfod oedd y Parchedig Gwenda Richards. Ar derfyn yr oedfa cafwyd cyfle i sgwrsio uwchben paned a mins pei. Gwnaed casgliad tuag at Apel Ysbyty Coffa Dr Gordon Roberts yn Shillong, yr India.
Antur Fawr y Gweinidog!
![]() |
![]() |
Dydd Gwener, 20 Tachwedd, mentrodd y Parchedig Gwenda Richards ar y ‘Wifren Wib’ (Zip Wire) yn Chwarel y Penrhyn i godi arian at Ysbyty Goffa Dr Gordon Roberts a Chartref Plant Waheijer yng Ngogledd Ddwyrain yr India. Bu’n brofiad bythgofiadwy iddi ac ni chredir y bydd yn mentro ar yr un wifren arall yn y dyfodol!
Os ydych yn dymuno cyfrannu at yr ysbyty neu’r cartref plant, cysylltwch â’r Parchedig Gwenda Richards: 01286 676435 / abermenai@btinternet.com
Noson Goffi
Nos Wener, 25 Medi, trefnodd aelodau Gofalaeth Bro Lleu Noson Goffi yn Neuadd y Groeslon i godi arian at Ysbyty Goffa Dr Gordon Roberts yn Shillong, India. Bwriedir codi estyniad yn yr ysbyty erbyn 2022 pan fydd hi'n dathlu ei chanmlwyddiant. Mae hi'n ysbyty Gristnogol ynghanol tref brysur Shillong ac yn gwasanaethu ardal eang. Yn ystod ei hymweliad â Bryniau Casia yn 2010 a 2014 ymwelodd y Parchedig Gwenda Richards â'r ysbyty a gobeithia ymweld â hi eto y flwyddyn nesa. Roedd y Neuadd yn llawn a phawb yn mwynhau prynu cacennau a chynyrch cartref yn ogystal â chymdeithasu uwchben panad. Bu'n noson hynod o lwyddiannus a chodwyd dros £1,000 tuag at yr Apêl arbennig hon. Diolchodd y Gweinidog, y Parchedig Gwenda Richards, i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw fodd tuag at lwyddiant y noson
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
DosbarthIADAU
AC EGLWYSI
PLANT & IEUENCTID
Yn YR ADRAN YMA