Brynaerau, Pontllyfni

 

imageEnw’r Eglwys: Eglwys Brynaearau

Lleoliad a Chôd Post yr Eglwys: Pontllyfni LL54 5EP

Gweinidog yr Eglwys: Y Parchg Gwenda Richards B.Ed., B.D. abermenai@btinternet.com

Swyddogion yr Eglwys
Ysgrifennydd: Gwilym Eifion Owen, Glasfryn, Pontllyfni, Caernarfon LL54 5EF / Ffôn 01286 660641.

Trysorydd: John Roberts, Glennydd, Pontllyfni, Caernarfon LL54 5EG.
Ffôn 01286 660378.

Amseroedd Cyfarfodydd yr Eglwys
Oedfa bob Sul am 2.00 ac eithrio mis Awst

Yn dilyn ymweliadau blynyddol Howell Harris â Gogledd Cymru rhwng 1747 a 1751, sefydlwyd seiat yn y Berth-ddu Bach (hanner milltir i’r gorllewin o’r fan lle saif Capel Brynaerau heddiw) yn 1750. Adeiladwyd y capel cyntaf ym Mrynaerau yn 1808. Yna yn 1861, codwyd capel llawer mwy ar y safle. Ond mewn llai nag ugain mlynedd, aeth y capel newydd hwn yn rhy fach a helaethwyd yr adeilad yn 1879 i ddal 360 o bobl. Ychwanegwyd festri newydd dros y ffordd i’r capel yn 1899. Dyma’r adeiladau a saif ym Mrynaerau heddiw.

Derbyn Lowri ac Alaw a Llongyfarch Gwilym

Karen Owen

Cynhaliwyd oedfa arbennig yng nghapel Brynaerau pnawn Sul 18fed o Fehefin pryd y derbyniwyd dwy chwaer, Lowri Mair ac Alaw Mair Williams, yn gyflawn aelodau o’r Eglwys. Mae Lowri newydd gwblhau ei arholiadau Lefel A ac Alaw newydd gwblhau ei arholiadau TGAU, a’r ddwy yn byw yn Fferm Cae Morfa, Pontllyfni. Dymunir yn dda i’r ddwy yn eu gyrfaoedd. Yn yr un oedfa cyflwynwyd tystysgrif hardd i Mr Gwilym Eifion Owen wrth ei longyfarch ar gwblhau cyfnod o ddeugain mlynedd fel blaenor yng nghapel Brynaerau. Mae’r dystysgrif yn rhoddedig gan Gymdeithasfa’r Gogledd Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ond gan nad oedd yn bosib i Gwilym Eifion fynychu’r cyfarfod yng Ngharno ym mis Mai, tybiwyd mai da fyddai ei longyfarch ar ei aelwyd ei hun ym Mrynaerau. Nid yw wedi bod yn dda yn ddiweddar a dymunwn adferiad iechyd buan iddo.


Penblwydd Hapus Nancy Roberts!

pobl cacen

Ganllath o gopa’r mynydd…’

Karen Owen

Dydd Sadwrn, 11 Gorffennaf 2015, fel rhan o ŵyl undydd i ddathlu tirwedd a llenyddiaeth Dyffryn Nantlle cafwyd cyfle i weld Cadair Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1910 yn y Neuadd Goffa ym Mhenygroes. Dyma Gadair Bardd yr Haf, sef y gadair a enillodd R.Williams Parry am ei awdl ‘Yr Haf’ yn yr Eisteddfod honno. Roedd y Neuadd dan ei sang a’r wefr yn drydannol wrth i bawb fanteisio ar y cyfle i dynnu llun y Gadair a roddwyd ar fenthyg i Benygroes am gyfnod byr iawn ar y diwrnod arbennig hwnnw.

Yn dilyn hynny, aeth tua cant o bobl ar daith gerdded yng nghwmni’r bardd a’r newyddiadurwraig Karen Owen. Cawsom ein tywys ar draws y Dyffryn i fannau oedd â chyswllt agos â Bardd yr Haf, a braint fu gwrando ar Karen yn egluro’r cysylltiadau hynny yn hynod o ddiddorol. Yn ystod y daith gofynnwyd i bawb adrodd soned enwg R Williams Parry i’r ‘Llwynog’ a dyna brofiad fu bod yn rhan o Gôr Adrodd enfawr a’r geiriau’n diasbedain ar draws y Dyffryn.

Dwyawr o daith hynod o gofiadwy a chyfle ar y diwedd i rannu argraffiadau uwchben panad yng nghaffi Pant Du.

Bu taith gerdded yn ystod y bore yng nghwmni Twm Elias a chafwyd cyfle yn yr hwyr i holi Eric Jones, yr anturiaethwr.

Diolch i bawb a drefnodd yr Ŵyl, yn arbennig Angharad Tomos. Edrychwn ymlaen at yr Ŵyl y flwyddyn nesa.

Am fwy o luniau, cliciwch yma.

Enw’r Ysgol Sul: Ysgol Sul Brynaerau

Lleoliad yr Ysgol Sul: Festri Capel Brynaerau

Arolygwr: Mrs Beryl Owen, Hendre Bach, Clynnog. LL54 5DB
Ffôn 01286 660463

Athrawon: Mr Griff Owen, Garn Bach, Pontllyfni
Rheni’r plant yn eu tro

Trefn yr Ysgol Sul
Ysgol Sul am 10.30. bob Sul yn ystod tymor ysgol.
Oed cychwyn 4 oed.
Blynyddoedd cynradd yn unig

Holl Athrawon a chynorthwywyr wedi eu Gwirio efo’r CRB – Mrs Beryl Owen, Mr Griff Owen. Rhieni sydd wedi eu dilysu fel athrawon ysgol

Digwyddiadau
Trip yr Ysgol Sul bob haf
Gwasanaeth Diolchgarwch y plant
Gwasanaeth Nadolig y plant

 

Nid oes Clwb Ieuenctid yma.

 

Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...

 

Isod mae lluniau Brynaerau. I weld y lluniau i gyd - cliciwch yma

 

 

LluniauLluniau Diweddaraf

Henaduriaeth Arfon ar flickr.com
 

CysylltuManylion Cyswllt

Cyfeiriad:Y Parchedig Ddr Elwyn Richards, Plas Bach, 70 Cae Gwyn, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1LL.
Ffôn: 01286 676435
E-bost: post@henaduriaetharfon.org