Capel y Waun, Waunfawr
Enw’r Eglwys: Capel y Waun
Lleoliad a Chôd Post yr Eglwys: Croesywaun, Waunfawr, Caernarfon LL55 4YS
Gweinidog yr Eglwys: Y Parchg. Anna Jane Evans, BA, BD (01286 677580 / 0790 154 5114)
Swyddogion yr Eglwys:
Ysgrifennydd – Mrs Pat Parry p.parry326@btinternet.com (01286 650326)
Trysorydd – Mr Eurwyn Griffith (01286 650347)
Ysgrifennydd y Cyhoeddiadau – Mr Dylan Rhys Jones (01286 650423)
Blaenoriaid:
Mr Paul Evans,
Mr Eurwyn Griffith,
Mr Dylan Rhys Jones,
Mrs Pat Parry,
Mr R.Tudur Pritchard.
Amseroedd Cyfarfodydd yr Eglwys:
Oedfa Bore Sul yn y Capel ac ar Zoom/Ffôn (gweler manylion Zoom/ffôn isod) am 10 o’r gloch.
Cynhelir Oedfa Deulu o bryd i’w gilydd.
Cyfarfod Blaenoriaid: Unwaith y mis ar y Nos Iau cyntaf.
Clwb CIC bob yn ail nos Lun am 5 o’r gloch yn y Festri.
Manylion cyswllt Zoom/ffôn ar gyfer oedfaon y capel
I ymuno a’r oedfa cliciwch ar y linc hwn
Meeting ID: 834 8307 6323 #
Passcode: 056822#
Ffôn: Deialu 0203 481 5237 bydd llais yn dweud welcome to zoom – please enter your meeting ID followed by hash
Meeting ID: 834 8307 6323 #
Wedyn bydd llais yn gofyn am eich participant code ond does dim felly pwyswch hash eto - #
Yna bydd llais yn gofyn am eich passcode followed by hash
Passcode: 056822#
Yn 2004 fe unwyd Croesywaun a Chapel Bethel a galwyd yr Eglwys Unedig yn Eglwys y Waun. Yn 2008 daeth Y Parchg. Gwenda Richards yn weinidog ar yr eglwys ynghyd a Seilo, Caernarfon. Addaswyd y Festri a’r Capel i gydymffurfio a rheolau iechyd a diogelwch, ac maent yn cael eu defnyddio gan wahanol fudiadau yn y pentref. Gan nad oes addoldy arall yn y pentref defnyddir y capel hefyd gan yr ysgol leol i gynnal gwasanaethau a chan y gymuned ar gyfer angladdau a phriodasau.
Yn 2021 daeth Y Parchg. Anna Jane Evans yn weinidog ar yr ofalaeth. Dim ond 5 blaenor sydd gennym ond mae pob un yn gyfrifol am ei ardal gan ddosbarthu llythyrau i’r aelodau hynny sydd ddim ar y we a chan ymweld a chleifion. Yn anffodus nid oes gennym Ysgol Sul ar hyn o bryd ond mae’r gweinidog ynghyd a Mrs Susan Williams, Cynllun EFE yn cynnal Clwb Plant bob yn ail Nos Lun yn y Festri gyda’r gobaith y cawn ail ddechrau’r Ysgol Sul.
Ein nod yw ymestyn allan i’r gymdeithas gan annog mwy, yn enwedig y bobl ifanc, i ymuno a chymdeithas yr eglwys. Rydym yn ymwybodol fod nifer fawr o drigolion Waunfawr a’u gwreiddiau unai yng Nghroesywaun neu Bethel, ac fe fyddai’n braf eu gweld yn dychwelyd at y gwreiddiau hynny trwy ddod i’r oedfa yng Nghapel y Waun a chymeryd rhan ym mywyd y capel. Ein nod yw gweld teulu o addolwyr cyson yn y capel, yn blant, ieuenctid, pobl ganol oed a rhai hyn. Trwy’r Clwb Plant gobeithiwn gyrraedd nid yn unig y plant, ond eu rhieni a’u teidiau a’u neiniau yn ogystal fel bod yr eglwys yn tyfu fel teulu a’r neges yn berthnasol i fywyd cymhleth a phrysur ein dyddiau ni. Nid yw’r dasg yn hawdd ond gyda’n gilydd ac yn nerth yr Ysbryd Glân dyna’r nôd.
Newyddion Rhagfyr 2017 - cliciwch yma
Enw’r Ysgol Sul: Clwb Sul
Lleoliad yr Ysgol Sul: Festri Capel y Waun
Arolygwr: Mrs Delyth Mai Roberts 01286 650295
Athrawon: Mr Iwan Lloyd Roberts, Mr Paul Evans, Mr Tudur Pritchard
Trefn yr Ysgol Sul: Bydd y plant yn dod i’r gwasanaeth dechreuol yn y capel ac yna’n mynd i’r festri.
Bydd rhai o’r bobl ifanc yn mynd i Glwb EFE yn Llanberis
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Isod mae lluniau Capel y Waun. I weld y lluniau i gyd - cliciwch yma
DosbarthIADAU
AC EGLWYSI
PLANT & IEUENCTID
Yn YR ADRAN YMA