Bethlehem, Abergwyngregyn

 

imageEnw’r Eglwys: Bethlehem

Lleoliad a Chôd Post yr Eglwys: Abergyngregyn, ger Bangor, Gwynedd LL33 0LG

Gweinidog yr Eglwys: Y Parchg Ddr Elwyn Richards

Swyddogion yr Eglwys:
Ysgrifennydd: Mrs Eirlys Williams
Ysgrifennydd y Cyhoeddiadau: Mr Gwilym Roberts
Trysorydd: Mr Gwyn Williams
Hefyd: Mrs Helen Roberts

Organyddes - Mrs Ann Williams

Amseroedd Cyfarfodydd yr Eglwys (hy cyfarfodydd wythnos ac oedfaon y Sul):
Oedfaon y Sul : 10.00 y borau neu 2.00 y prynhawn ar y Sul (dim gwasanaeth yn mis Awst)

Cynhelir oedfa ddwyieithog yn gyson ar brynhawn Sul - 2016: 14 Medi, 16 Hydref, 27 Tachwedd,18 Rhag

Yn y flwyddyn 1897 agorwyd y capel yn Aber ac yn Mehefin 1997 bu gwasanaeth i ddathlu canmlwyddiand yr achos.

Wedi cau yr Eglwys yn Nghymru yn y pentref daeth yr aelodau i’r capel i gynal eu gwasanaethau, gyda’r gwasanaeth cyntaf yn Ionawr 1999, a bu’r ddwy gyneilleidfa yn cyd-addoli ar y Nadolig, y Pasg a’r Diolchgarwch. Ar ymddeoliad y Parchedig Ganon Carol Evans, cynhaliwyd gwasanaeth ffarwelio ar 11 Awst 2011, ac aeth aelodau’r Eglwys yng Nghymru i wahanol Eglwysi yn yr ardaloedd cyfagos.

Bellach dim on cynulleidfa Bresbyteraidd sy’n addoli ym Methlehem, a chynhelir oedfaon yn gyson.

Rydym hefyd yn cynnal ambell gyngerdd yn y capel, ac ers rhai blynyddoedd, rydym yn cynnal Ras Chwiaid yn yr Hâf, gan godi arian at wahanol achosion da.

Myfyrdod 25.07.21 gan y Parchedig Ddr Elwyn Richards

Gweddi
Arglwydd yr holl greadigaeth, rhoddwr bywyd,
cyflwynwn ein hunain i ti.
Dysga ni sut i’n rhoi ein hunain i eraill,
yn hael ac ewyllysgar,
gan rannu yr hyn ydym ni a’r hyn sydd gennym.
Boed i ni ddysgu rhannu holl adnoddau’r byd,
fel bod gan bawb ddigon
o’r pethau da rwyt ti’n eu darparu.
Boed i ni i gyd lawenhau yn dy ddaioni.
Amen.

Porthi'r Pum Mil (Ioan 6:1-15)
Mth. 14:13–21; Mc. 6:30–44; Lc. 9:10–17
Ar ôl hyn aeth Iesu ymaith ar draws Môr Galilea (hynny yw, Môr Tiberias).2Ac yr oedd tyrfa fawr yn ei ganlyn, oherwydd yr oeddent wedi gweld yr arwyddion yr oedd wedi eu gwneud ar y cleifion. Aeth Iesu i fyny'r mynydd ac eistedd yno gyda'i ddisgyblion. Yr oedd y Pasg, gŵyl yr Iddewon, yn ymyl. Yna cododd Iesu ei lygaid a gwelodd fod tyrfa fawr yn dod tuag ato, ac meddai wrth Philip, “Ble y gallwn brynu bara i'r rhain gael bwyta?” Dweud hyn yr oedd i roi prawf arno, oherwydd gwyddai ef ei hun beth yr oedd yn mynd i'w wneud. Atebodd Philip ef, “Ni byddai bara gwerth dau gant o ddarnau arian yn ddigon i roi tamaid bach i bob un ohonynt.” A dyma un o'i ddisgyblion, Andreas, brawd Simon Pedr, yn dweud wrtho, “Y mae bachgen yma a phum torth haidd a dau bysgodyn ganddo, ond beth yw hynny rhwng cynifer?” Dywedodd Iesu, “Gwnewch i'r bobl eistedd i lawr.” Yr oedd llawer o laswellt yn y lle, ac eisteddodd y dynion i lawr, rhyw bum mil ohonynt. Yna cymerodd Iesu y torthau, ac wedi diolch fe'u rhannodd i'r rhai oedd yn eistedd. Gwnaeth yr un peth hefyd â'r pysgod, gan roi i bob un faint a fynnai. A phan oeddent wedi cael digon, meddai wrth ei ddisgyblion, “Casglwch y tameidiau sy'n weddill, rhag i ddim fynd yn wastraff.” Fe'u casglasant, felly, a llenwi deuddeg basged â'r tameidiau yr oedd y bwytawyr wedi eu gadael yn weddill o'r pum torth haidd. Pan welodd y bobl yr arwydd hwn yr oedd Iesu wedi ei wneud, dywedasant, “Hwn yn wir yw'r Proffwyd sy'n dod i'r byd.” Yna synhwyrodd Iesu eu bod am ddod a'i gipio ymaith i'w wneud yn frenin, a chiliodd i'r mynydd eto ar ei ben ei hun.

Myfyrdod
Hanes porthi’r pum mil yw’r unig adroddiad am wyrth yn y Testament Newydd sydd i’w gael yn y pedair efengyl. Mae Ioan yn cyfeirio at y gwyrthiau fel ‘arwyddion’ ac mae hanes Porthi’r Pum Mil yn cael ei gyflwyno ganddo fel arwydd fod Iesu wedi ei anfon gan Dduw. Derbyn ychydig a darparu digonedd i laweroedd a wna Iesu yn yr hanes. Yr anogaeth yw i ninnau gydnabod Iesu’n Arglwydd a chyflwyno yr hyn sydd gennym ym mhob cylch o’n bywyd i wasanaeth Duw. Dyna gaiff ei adlewyrchu yn y weddi hon;

Gweddi
Dduw, ein darparwr hael,
fel y bachgen ifanc a gynigiodd y cyfan oedd ganddo i Iesu –
pum torth a dau bysgodyn bach –
down ninnau heddiw gan offrymu i ti bopeth sydd gennym:
llond poced o ffydd, ychydig o amser,
ein hunain, ein rhoddion, ein doniau.
A gwyddom, waeth pa mor fach yw ein rhodd neu ein hoffrwm,
y gelli di eu defnyddio i wneud pethau rhyfeddol,
llawer mwy nag y gallwn ni fyth obeithio, credu na dychmygu.
Diolchwn i ti, Dduw, yn llawn parchedig ofn.
Amen.

Ar dudalen falen y rhifyn cyfredol o Cenn@d mae erthygl yn trafod yr ymateb a fu yn dilyn y bleidlais yn Senedd San Steffan i leihau’r swm a gyfrennir yn flynyddol gan Brydain at gefnogi gwledydd tlotaf y byd o 0.7% o’n hincwm gros cenedlaethol i 0.5%, sef lleihad o £4 biliwn yn flynyddol. (gw. Cenn@d ) Dyfynnir Llywydd newydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, y Parchg Beti Wyn James, oedd wedi bod yn lobïo’r llywodraeth i newid ei meddwl: ‘Bydd cadarnhau’r toriad yng Nghymorth Tramor y Deyrnas Unedig yn ddedfryd o farwolaeth i bobl ddi-rif mewn gwledydd sy’n dioddef tlodi neu wrthdaro.’
Bythefnos yn ôl bu i’r biliwnydd Richard Branson gyflawni ei uchelgais o deithio i ffiniau’r gofod, a hynny ychydig ddyddiau cyn i Jeff Bezos gyflawni camp debyg. Heriwyd Branson y dylai fod wedi gwario ei arian ar amgenach cynlluniau na datblygu’r Virgin Galactic, megis dileu anghyfartaledd economaidd, mynd i’r afael â newid hinsawdd a cheisio ymateb i’r pandemig. Ei ymateb oedd y cytunai’n llwyr y dylai cyfoethogion y byd wario 90% o’u harian, a mwy na hynny, ar y fath gynlluniau. Ond mynnodd hefyd fod gwariant ar ddatblygu ffyrdd o deithio i’r gofod yn mynd i greu datblygiadau peirianyddol a gwyddonol fyddai’n lleihau cost hynny ( gw. Richard Branson addresses critics who say money shouldn't be spent on space travel (today.com).

Mewn byd cymhleth y mae’n bwysig cael blaenoriaethau cywir, ac onid y ffordd i geisio sicrhau hynny, boed ein hadnoddau’n helaeth neu yn brin, yw dwyn yr hyn sydd gennym gerbron Duw a gofyn am ei faddeuant, ac am ei gymorth i ymdebygu iddo?

Gweddi
Gyda’n hamser a’n harian:
maddau i ni, Arglwydd, pan fu i ni fethu bod yn hael.

Wrth helpu eraill, a bod yn groesawus:
maddau i ni, Arglwydd, pan fu i ni fethu bod yn hael.

A ninnau wedi cael ein bendithio â chymaint:
maddau i ni, Arglwydd, pan fu i ni fethu bod yn hael.

Pan allem fod wedi mynd yr ail filltir a rhannu’r hyn sydd gennym:
maddau i ni, Arglwydd, pan fu i ni fethu bod yn hael.
Yn ein defnydd o’n hadnoddau, ein rhoddion a’n doniau:
maddau i ni, Arglwydd, pan fu i ni fethu bod yn hael.
Dduw tra haelionus,
helpa ni i fod yn debycach i ti.


Emyn  855
O Arglwydd grasol, trugarha
a symud bla y gwledydd,
darostwng falchder calon dyn
a nwydau'r blin orthrymydd;
a dysg genhedloedd byd o'r bron
i rodio'n isel ger dy fron,
Iôr union, bydd arweinydd.
Mae'r nos yn ddu, a ninnau 'mhell,
a throm yw'r fflangell arnom;
crwydrasom i'r anialwch maith
a'th gyfraith wrthodasom;
O Arglwydd, maddau inni cyd
gymylu d'enw 'ngŵydd y byd,
a dod dy Ysbryd ynom.
Aed golau'r groes a'r nefol ddydd
drwy wledydd daear lydan,
a phrofer rhin Efengyl wiw
yn allu Duw ei hunan;
doed holl genhedloedd daear las
i gyd-ddyrchafu baner gras
a dymchwel teyrnas Satan.
J. T. JOB, 1867-1938
https://youtu.be/y8SGRS4tP14
Dies Irae (O Arglwydd grasol, trugarha) · Côr Hen Nodiant

Gweddi i gloi
Arglwydd, helpa ni i ddal i ddiolch
a chadw ein golygon ar dy natur gariadus,
fel y gallwn rannu’n rhydd yr hyn sydd gennym.
Boed i ni roi yn llawen a derbyn yn wylaidd,
fel bod pawb yn cael eu digoni.
Amen.

Gweddïau oddi ar wefan Roots Ecumenical Partnership

Cliciwch yma i lawrlwytho'r myfyrdod

Ichthus Pasg

Ichthus Ebrill 2021 - cliciwch yma

Ichthus Ionawr 2021 - cliciwch yma

Ichthus Hydref 2020 - cliciwch yma

Ichthus Ionawr 2020 - cliciwch yma

Ichthus Hydref 2019 - cliciwch yma

Ichthus Gorffenaf 2019 - cliciwch yma

Ichthus Ebrill 2019 - cliciwch yma

Ichthus Ionawr 2019 - cliciwch yma

 

 

 

14.06.21 Cenn@d
Cenn@d Rhifyn 15
TUDALEN FACEBOOK Gofalaeth Ardal Bangor - cliciwch yma


30.10.17 Gweithgareddau ‘Llanllanast’ ym Merea
Gweithgareddau ‘Llanllanast’ ym Merea
Dydd llun 30 Hydref death rhai o aelodau eglwysi Emaus a Berea Newydd; Bethlehem, Abergwyngregyn a Bethania y Felinheli ynghyd i gynnal bore o weithgareddau ‘Llanllanast’ ym Merea. Trefnwyd pob math o weithgareddau crefft a chadw’n heini a chafwyd gwasanaeth bywiog dan arweiniad Dr Owain Edwards, Coleg y Bala. Roedd yn agos i gant o blant ac oedolion yn bresennol a chafwyd paned a lluniaeth i bawb yn y festri amser cinio.

Diolch i Owain Davies, Gweithiwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd Gofalaeth bangor a’r Cyffiniau am gymryd yr arwenau, ac i bawb fu’n cynllunio ac yn trefnu, ac i griw Coleg y Bala a’r gwirfoddolwyr eraill am eu cymorth.

Cliciwch yma i weld y lluniau.


Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...

 

Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...

 

Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...

 

Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...

 

Isod mae lluniau Bethlehem. I weld y lluniau i gyd - cliciwch yma


ARCHIF

11.07.21

 Effesiaid 4:11-16 (beibl.net)
A dyma'i roddion: mae wedi penodi rhai i fod yn gynrychiolwyr personol iddo, eraill i fod yn broffwydi, eraill yn rhai sy'n rhannu'r newyddion da, ac eraill yn fugeiliaid ac athrawon.Maen nhw i alluogi pobl Dduw i gyd i'w wasanaethu mewn gwahanol ffyrdd, er mwyn gweld corff y Meseia, sef yr eglwys, yn tyfu'n gryf.Y nod ydy ein bod ni'n ymddiried ym Mab Duw gyda'n gilydd ac yn dod i'w nabod yn well. Bryd hynny bydd yr eglwys fel oedolyn aeddfed yn adlewyrchu beth welwn ni yn y Meseia ei hun.Dim plantos bach fyddwn ni, yn cael ein taflu yn ôl ac ymlaen gan y tonnau, a'n chwythu yma ac acw gan bob awel sy'n dod heibio. Fyddwn ni ddim yn newid ein meddyliau bob tro mae rhywun yn dweud rhywbeth newydd, neu'n cael ein twyllo gan bobl slei sy'n gwneud i gelwydd swnio fel petai'n wir.Na, wrth gyhoeddi beth sy'n wir mewn cariad, byddwn ni'n tyfu'n debycach bob dydd i'r Pen, sef y Meseia.Y pen sy'n gwneud i'r corff weithio a thyfu. Fel mae pob rhan o'r corff wedi'i weu i'w gilydd, a'r gewynnau'n dal y cwbl gyda'i gilydd, mae'r eglwys yn tyfu ac yn cryfhau mewn cariad wrth i bob rhan wneud ei gwaith.

Myfyrdod
Yn y bedwaredd bennod o'r Llythyr at yr Effesiaid y mae Paul yn amlinellu'r gwahanol swyddogaethau oedd yn yr Eglwys yn ei gyfnod ef. Yn amlwg, nid oedd pawb yn gwneud yr un peth ond yr oedd pawb, er hynny, yn gwasanaethu Crist yn ôl eu gallu a'u doniau.

I wneud hynny'n llwyddiannus, meddai Paul, roedd angen ffydd ac ymddiriedaeth a golygai hynny fod y Cristnogion yn tyfu ac yn aeddfedu. Meddai;

'Y nod yw dynoliaeth lawn dwf, a'r mesur yw'r aeddfedrwydd sy'n perthyn i gyflawnder Crist.''

Neu yn ôl beibl.net;
'Bryd hynny bydd yr eglwys fel oedolyn aeddfed yn adlewyrchu beth welwn ni yn y Meseia ei hun.''

Bod yn debyg i Grist oedd y nod, a golygai hynny gadernid barn a doethineb, a'r parodrwydd i gyhoeddi'r efengyl mewn cariad, a chydweithio. Y gyfrinach oedd dal cyswllt â Christ, ac ystyr hynny oedd ymroi yn llwyr i'w gariad a bod yn gwbl ffyddlon iddo.
Y mae gan bawb waith i'w wneud yn yr Eglwys o hyd, a gall pawb ohonom wneud rhywbeth. Wrth weithio yr ydym yn tyfu mewn profiad, a bydd y profiadau a gawn yn porthi ein ffydd ac yn mynnu ein bod weithiau yn meddwl yn ddyfnach am yr hyn a gredwn.
Cyfrifoldeb pob aelod o'r Eglwys yw meddwl o ddifrif am yr hyn y gallant ei gyflawni a'r hyn y dichon fod Duw yn gofyn iddynt ei wneud.
Wrth ffarwelio ag Owain fydd yn cychwyn ar ei weinidogaeth yng Ngofalaeth Fro Nant Conwy ym mis Medi, dymunwn yn dda iddo gan ddiolch am yr hwyl a'r cydweithio hapus fu rhyngom. Bu iddo ef a ninnau dyfu ac aeddfedu yn y ffydd drwy'r profiad hwnnw, a bu ei ymroddiad a'i benderfyniad i ymateb i'r alwad a deimlai i wasanaethu  fel gweinidog yn ysbrydoliaeth inni. Tybed a oes yna rywun arall yn yr ofalaeth sy'n teimlo fod Duw yn eu galw hwythau ar hyd llwybr tebyg? Os oes, peidiwch â bod yn swil o fynegi hynny.

Gweddi
Ein Tad, yr wyt ti yn galw pobl i'th ddilyn
ac yn rhoi'r gallu iddynt i gyflawni dy waith,
gan ein creu yn un teulu o fewn dy Eglwys.
Dyro i ninnau glywed dy alwad yn fwy eglur
a gweld y cyfleoedd i wasanaethu a roddi di inni.
Boed inni ddysgu ac aeddfedu
drwy rannu profiad a gorchwyl,
a darganfod y llwybr yr wyt yn ein cyfeirio iddo.

Diolchwn am dy Eglwys ar hyd a lled y ddaear
a gweddïwn y bydd iw chenhadaeth lwyddo
a'i gwaith fynd ar gynnydd.
Cyflwynwn i ti'r cynulleidfaoedd y gwyddom yn dda amdanynt
ac erfyniwn am dy fendith arnynt,
fel y bydd i'w tystiolaeth fod yn effeithiol
a'i bywyd yn adlewyrchiad o'th gariad.

Gweddïwn dros eglwysi'r ofalaeth hon
a phawb a berthyn iddi,
yn enwedig y rhai sy'n llesg neu'n wael,
y teuluoedd sydd mewn profedigaeth,
a'r aelodau sydd mewn ysbytai a chartrefi.
Bugeilia bob aelwyd,
a thrwy dy Ysbryd Glân  
ymestyn y tu hwnt i'n cyrraedd ni
i ddwyn cysur a gobaith,
ffydd ac adnewyddiad.
Hyn a ofynnwn yn enw ac yn haeddiant
ein Harglwydd, Iesu Grist. Amen.

Emyn (844 C.Ff.)
Efengyl tangnefedd, O rhed dros y byd,
a deled y bobloedd i'th lewyrch i gyd;
na foed neb heb wybod am gariad y groes,
a brodyr i'w gilydd fo dynion pob oes.

Sancteiddier y ddaear gan Ysbryd y ne';
boed Iesu yn Frenin, a neb ond efe:
y tywysogaethau mewn hedd wrth ei draed
a phawb yn ddiogel dan arwydd ei waed.

Efengyl tangnefedd, dos rhagot yn awr,
a doed dy gyfiawnder o'r nefoedd i lawr,
fel na byddo mwyach na dial na phoen
na chariad at ryfel, ond rhyfel yr Oen.
EIFION WYN, 1867-1926

https://www.youtube.com/watch?v=kJ_qVF-0kjQ
Y Parchg Wynne Roberts
Geiriau Eifion Wyn – ‘Efengyl Tangnefedd’
Ton: "How's the World Treating You".

Y Fendith
Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân, fyddo gyda ni oll. Amen.

Cenn@d
Cenn@d Rhifyn 19

Cliciwch yma i lawrlwytho'r myfyrdod


11.07.21

 Effesiaid 4:11-16 (beibl.net)
A dyma'i roddion: mae wedi penodi rhai i fod yn gynrychiolwyr personol iddo, eraill i fod yn broffwydi, eraill yn rhai sy'n rhannu'r newyddion da, ac eraill yn fugeiliaid ac athrawon.Maen nhw i alluogi pobl Dduw i gyd i'w wasanaethu mewn gwahanol ffyrdd, er mwyn gweld corff y Meseia, sef yr eglwys, yn tyfu'n gryf.Y nod ydy ein bod ni'n ymddiried ym Mab Duw gyda'n gilydd ac yn dod i'w nabod yn well. Bryd hynny bydd yr eglwys fel oedolyn aeddfed yn adlewyrchu beth welwn ni yn y Meseia ei hun.Dim plantos bach fyddwn ni, yn cael ein taflu yn ôl ac ymlaen gan y tonnau, a'n chwythu yma ac acw gan bob awel sy'n dod heibio. Fyddwn ni ddim yn newid ein meddyliau bob tro mae rhywun yn dweud rhywbeth newydd, neu'n cael ein twyllo gan bobl slei sy'n gwneud i gelwydd swnio fel petai'n wir.Na, wrth gyhoeddi beth sy'n wir mewn cariad, byddwn ni'n tyfu'n debycach bob dydd i'r Pen, sef y Meseia.Y pen sy'n gwneud i'r corff weithio a thyfu. Fel mae pob rhan o'r corff wedi'i weu i'w gilydd, a'r gewynnau'n dal y cwbl gyda'i gilydd, mae'r eglwys yn tyfu ac yn cryfhau mewn cariad wrth i bob rhan wneud ei gwaith.

Myfyrdod
Yn y bedwaredd bennod o'r Llythyr at yr Effesiaid y mae Paul yn amlinellu'r gwahanol swyddogaethau oedd yn yr Eglwys yn ei gyfnod ef. Yn amlwg, nid oedd pawb yn gwneud yr un peth ond yr oedd pawb, er hynny, yn gwasanaethu Crist yn ôl eu gallu a'u doniau.

I wneud hynny'n llwyddiannus, meddai Paul, roedd angen ffydd ac ymddiriedaeth a golygai hynny fod y Cristnogion yn tyfu ac yn aeddfedu. Meddai;

'Y nod yw dynoliaeth lawn dwf, a'r mesur yw'r aeddfedrwydd sy'n perthyn i gyflawnder Crist.''

Neu yn ôl beibl.net;
'Bryd hynny bydd yr eglwys fel oedolyn aeddfed yn adlewyrchu beth welwn ni yn y Meseia ei hun.''

Bod yn debyg i Grist oedd y nod, a golygai hynny gadernid barn a doethineb, a'r parodrwydd i gyhoeddi'r efengyl mewn cariad, a chydweithio. Y gyfrinach oedd dal cyswllt â Christ, ac ystyr hynny oedd ymroi yn llwyr i'w gariad a bod yn gwbl ffyddlon iddo.
Y mae gan bawb waith i'w wneud yn yr Eglwys o hyd, a gall pawb ohonom wneud rhywbeth. Wrth weithio yr ydym yn tyfu mewn profiad, a bydd y profiadau a gawn yn porthi ein ffydd ac yn mynnu ein bod weithiau yn meddwl yn ddyfnach am yr hyn a gredwn.
Cyfrifoldeb pob aelod o'r Eglwys yw meddwl o ddifrif am yr hyn y gallant ei gyflawni a'r hyn y dichon fod Duw yn gofyn iddynt ei wneud.
Wrth ffarwelio ag Owain fydd yn cychwyn ar ei weinidogaeth yng Ngofalaeth Fro Nant Conwy ym mis Medi, dymunwn yn dda iddo gan ddiolch am yr hwyl a'r cydweithio hapus fu rhyngom. Bu iddo ef a ninnau dyfu ac aeddfedu yn y ffydd drwy'r profiad hwnnw, a bu ei ymroddiad a'i benderfyniad i ymateb i'r alwad a deimlai i wasanaethu  fel gweinidog yn ysbrydoliaeth inni. Tybed a oes yna rywun arall yn yr ofalaeth sy'n teimlo fod Duw yn eu galw hwythau ar hyd llwybr tebyg? Os oes, peidiwch â bod yn swil o fynegi hynny.

Gweddi
Ein Tad, yr wyt ti yn galw pobl i'th ddilyn
ac yn rhoi'r gallu iddynt i gyflawni dy waith,
gan ein creu yn un teulu o fewn dy Eglwys.
Dyro i ninnau glywed dy alwad yn fwy eglur
a gweld y cyfleoedd i wasanaethu a roddi di inni.
Boed inni ddysgu ac aeddfedu
drwy rannu profiad a gorchwyl,
a darganfod y llwybr yr wyt yn ein cyfeirio iddo.

Diolchwn am dy Eglwys ar hyd a lled y ddaear
a gweddïwn y bydd iw chenhadaeth lwyddo
a'i gwaith fynd ar gynnydd.
Cyflwynwn i ti'r cynulleidfaoedd y gwyddom yn dda amdanynt
ac erfyniwn am dy fendith arnynt,
fel y bydd i'w tystiolaeth fod yn effeithiol
a'i bywyd yn adlewyrchiad o'th gariad.

Gweddïwn dros eglwysi'r ofalaeth hon
a phawb a berthyn iddi,
yn enwedig y rhai sy'n llesg neu'n wael,
y teuluoedd sydd mewn profedigaeth,
a'r aelodau sydd mewn ysbytai a chartrefi.
Bugeilia bob aelwyd,
a thrwy dy Ysbryd Glân  
ymestyn y tu hwnt i'n cyrraedd ni
i ddwyn cysur a gobaith,
ffydd ac adnewyddiad.
Hyn a ofynnwn yn enw ac yn haeddiant
ein Harglwydd, Iesu Grist. Amen.

Emyn (844 C.Ff.)
Efengyl tangnefedd, O rhed dros y byd,
a deled y bobloedd i'th lewyrch i gyd;
na foed neb heb wybod am gariad y groes,
a brodyr i'w gilydd fo dynion pob oes.

Sancteiddier y ddaear gan Ysbryd y ne';
boed Iesu yn Frenin, a neb ond efe:
y tywysogaethau mewn hedd wrth ei draed
a phawb yn ddiogel dan arwydd ei waed.

Efengyl tangnefedd, dos rhagot yn awr,
a doed dy gyfiawnder o'r nefoedd i lawr,
fel na byddo mwyach na dial na phoen
na chariad at ryfel, ond rhyfel yr Oen.
EIFION WYN, 1867-1926

https://www.youtube.com/watch?v=kJ_qVF-0kjQ
Y Parchg Wynne Roberts
Geiriau Eifion Wyn – ‘Efengyl Tangnefedd’
Ton: "How's the World Treating You".

Y Fendith
Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân, fyddo gyda ni oll. Amen.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r myfyrdod


04.07.21

Galwad i Addoli
Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: 'Dewch o'r neilltu… a gorffwyswch am dipyn.'
Dewch i bresenoldeb yr Arglwydd yn awr,
oddi wrth feichiau a phwysau bywyd.
Dewch â breichiau agored,
a derbyniwch y gorffwys mae Iesun ei gynnig –
i adfer ein heneidiau,
a'n paratoi ar gyfer beth bynnag sy'n dod nesaf.

Gweddi
O Dduw, ti yw ein bugail.
Amlygwyd dy ofal a'th drugaredd
ym mywyd Iesu.
Gofynnwn am gael profi heddiw
y gorffwys rwyt ti'n ei gynnig,
yr heddwch a all ein hadfer a'n hadfywio
a'n galluogi i fyw y bywyd helaeth a addawyd.
Gweddïwn yn enw Iesu.
Amen.

Marc 6:30- 34
Daeth yr apostolion ynghyd at Iesu a dweud wrtho am yr holl bethau yr oeddent wedi eu gwneud a'u dysgu.A dywedodd wrthynt, "Dewch chwi eich hunain o'r neilltu i le unig a gorffwyswch am dipyn." Oherwydd yr oedd llawer yn mynd a dod, ac nid oedd cyfle iddynt hyd yn oed i fwyta.Ac aethant ymaith yn y cwch i le unig o'r neilltu. Gwelodd llawer hwy'n mynd, a'u hadnabod, a rhedasant ynghyd i'r fan, dros y tir o'r holl drefi, a chyrraedd o'u blaen.Pan laniodd Iesu gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt am eu bod fel defaid heb fugail; a dechreuodd ddysgu llawer iddynt.

Myfyrdod
Mae'r cwestiwn, 'Lle gawn ni fynd ar ein gwyliau?' wedi llenwi'r wasg a'r cyfryngau ers misoedd. Parodd y pandemig nad oes gennym ryddid bellach i fynd i bob man fel cynt, ond hyd yn oed cyn bod sôn am gyfyngiadau teithio roedd rhai yn pryderu am effaith hedfan diddiwedd ar yr hinsawdd a'r blaned.
Eleni, ymddengys y bydd yn rhaid i'r mwyafrif ohonom fodloni ar aros yn nes adref, ac efallai nad drwg o beth yw hynny, gan fod llawer yn dweud mai dim ond yn ystod y cyfnodau clo y daethant i adnabod eu bröydd eu hunain.
Bid a fo am hynny, mae'r Beibl yn rhoi pwyslais ar orffwyso. Gwelwn hynny yn hanes y Creu (Gen 2:2) lle y dywedir i Dduw orffwyso ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith. Yn yr efengylau hefyd mae Iesu yn annog ei ddisgyblion i orffwyso, a gwelwn ef ei hun hefyd yn ceisio dihangfa o ganol prysurdeb a galwadau di-ddiwedd ei weinidogaeth.
Dywedir yn aml fod Prydain yn rhoi mwy o bwyslais ar waith nag aml i wlad arall, ac efallai mai canlyniad hynny ar dro yw'r ymdeimlad o euogrwydd wrth fod yn segur. Gwyddom fod pobl brysur weithiau yn ei chael yn anodd gollwng gafael ac ymlacio, a chofiwn am y ffermwr hwnnw  a fynnai fyw i'r fferm yn hytrach na byw arni.
Ond nid ym myd gwaith yn unig y gall prysurdeb di-ddiwedd fod yn wendid. Gall yr un peth fod yn wir ym myd yr Ysbryd hefyd, a gall hyd yn oed yr ysfa i wneud daioni weithiau fod yn niweidiol.
Ystyriwch yr hanes hwn o Efengyl Mathew (26:6-13)

Pan oedd Iesu ym Methania yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, daeth gwraig ato a chanddi ffiol alabastr o ennaint gwerthfawr, a thywalltodd yr ennaint ar ei ben tra oedd ef wrth bryd bwyd. Pan welodd y disgyblion hyn, aethant yn ddig a dweud,I ba beth y bu'r gwastraff hwn? Oherwydd gallesid gwerthu'r ennaint hwn am lawer o arian a'i roi i'r tlodion. Sylwodd Iesu ar hyn a dywedodd wrthynt, Pam yr ydych yn poeni'r wraig? Oherwydd gweithred brydferth a wnaeth hi i mi. 11Y mae'r tlodion gyda chwi bob amser, ond ni fyddaf fi gyda chwi bob amser. Wrth dywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, fy mharatoi yr oedd hi ar gyfer fy nghladdu. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pa le bynnag y pregethir yr Efengyl yma yn yr holl fyd, adroddir hefyd yr hyn a wnaeth hon, er cof amdani.

'Y mae'r tlodion gyda chwi bob amser' – nid bod yn ddirmygus o'r tlawd yr oedd Iesu wrth ddweud y geiriau hyn, ond pwysleisio, yn hytrach, fod yn rhaid cael cyd-bwysedd mewn bywyd a bod yna le dilys i addoliad ac elusengarwch.
A ninnau, gobeithio, ar ein ffordd allan o'r pandemig tybed a fydd profiadau'r misoedd clo a'r cyfyngiadau teithio wedi newid ein pwyslais fel cymdeithas a'n gwneud yn bobl mwy cytbwys eu byw a dedwydd ein byd?

Gweddi o gyffes
Dduw graslon, rwyt ti bob amser yn neilltuo amser ar ein cyfer;
mae'n ddrwg gennym nad ydym ni bob amser yn neilltuo amser i ti.
Pan fyddwn yn rhuthro o gwmpas yn bod yn brysur,
weithiau pan fyddwn hyd yn oed yn gwneud dy waith di,
byddwn yn anghofio amdanat ti.
Mae'n ddrwg gennym pan fyddwn yn llenwi cymaint ar ein bywydau
fel nad oes lle ar ôl i ti –
dim lle i ddianc, i fod mewn lle tawel gyda thi.
Maddau i ni, Arglwydd, a helpa ni i beidio â brysio ond yn hytrach i arafu,
i wneud lle i ti fyw o'n mewn ni.
Ac yn y lle hwnnw,
ceisiwn wybod beth wyt ti am i ni ei wneud
a phwy rwyt ti am i ni dreulio amser gyda hwy.
Helpa ni i gadw'r cydbwysedd cywir,
y curiad cywir sydd mewn cytgord â thi.
Amen

Gweddi o ddiolchgarwch
Diolch i ti, Arglwydd, fod gennyt ti ddigon o amser i bawb.
Hyd yn oed pan oeddet wedi blino ac angen gorffwys,
pan fyddai'r tyrfaoedd yn ymgasglu byddai dy galon drugarog
yn iacháu ac yn adfer pob un oedd yn dod atat.
Rydym yn diolch i ti dy fod yn garedig ac yn ofalus
ac yn tywallt dy gariad arnom.
Maer cariad rwyt yn ei rannu mor hael wedi ein rhyddhau
i fod y bobl rwyt ti wedi ein galw i fod.
Diolch i ti dy fod yn bresennol
yn y pethau mawr a'r pethau bach yn ein bywydau,
yn amseroedd cyffredin ein bywydau bob dydd,
ac yn yr amseroedd anghyffredin ac arbennig.
Dwyt ti byth yn ein gadael na'n gwrthod.
Diolch i ti, Arglwydd, ein Bugail a'n Brenin.
Amen.

Emyn Yr Arglwydd yw fy mugail
https://youtu.be/tGUE_uxiKfs
Pedwarawd o Ddyffryn Clwyd - Lisa Dafydd, Tesni Jones, Dafydd Wyn Jones a Dafydd Allen yn perfformio trefniant Euros Rhys Evans o 'Yr Arglwydd Yw Fy Mugail' (Salm 23) ar Noson Lawen.

Gweddi i gloi

O Dduw, yn yr Ysgrythur
darllenwn dy fod wedi gorffwyso ar y seithfed dydd –
ar ôl holl brysurdeb a gwaith y creu;
a darllenwn am ddymuniad Iesu i’w ddisgyblion orffwyso.
Fel dy ddilynwyr, dy ddisgyblion, yn awr,
ac wrth i ni ddychwelyd i’n bywydau prysur,
boed i ni wybod am y gorffwys rwyt ti’n ei gynnig
bob diwrnod yr wythnos hon.
Amen.
Gweddïau oddi ar wefan Roots Ecumenical Partnership

Cliciwch yma i lawrlwytho'r myfyrdod

27.06.21

‘Yr oedd tyrfa fawr yn ei ganlyn ac yn gwasgu arno.’

Gweddi
Arglwydd, mae mor hawdd bod yn rhan o’r dyrfa,
yn dilyn tu ôl i eraill,
heb wybod beth sy’n digwydd yn y tu blaen.
Rho i ni’r gallu i symud trwy’r dorf brysur,
a’r dewrder i’th gyffwrdd di,
er mwyn derbyn profiad sy’n newid ein bywydau.
Ond gofynnwn hefyd i ti aros a throi atom,
a’n galw wrth ein henwau,
a dweud y geiriau hynny sy’n rhoi gwybod i ni
ein bod yn derbyn maddeuant llwyr ac yn cael ein caru’n ddiamod. Amen

Marc 5:21 - 34
Wedi i Iesu groesi'n ôl yn y cwch i'r ochr arall, daeth tyrfa fawr ynghyd ato, ac yr oedd ar lan y môr. Daeth un o arweinwyr y synagog, o'r enw Jairus, a phan welodd ef syrthiodd wrth ei draed ac ymbil yn daer arno: “Y mae fy merch fach,” meddai, “ar fin marw. Tyrd a rho dy ddwylo arni, iddi gael ei gwella a byw.” Ac aeth Iesu ymaith gydag ef.
Yr oedd tyrfa fawr yn ei ganlyn ac yn gwasgu arno. Ac yr oedd yno wraig ac arni waedlif ers deuddeng mlynedd. Yr oedd wedi dioddef yn enbyd dan driniaeth llawer o feddygon, ac wedi gwario'r cwbl oedd ganddi, a heb gael dim lles ond yn hytrach mynd yn waeth. Yr oedd hon wedi clywed am Iesu, a daeth o'r tu ôl iddo yn y dyrfa a chyffwrdd â'i fantell, oherwydd yr oedd hi wedi dweud, “Os cyffyrddaf hyd yn oed â'i ddillad ef, fe gaf fy iacháu.” A sychodd llif ei gwaed hi yn y fan, a daeth hithau i wybod yn ei chorff ei bod wedi ei hiacháu o'i chlwyf. Ac ar unwaith deallodd Iesu ynddo'i hun fod y nerth oedd yn tarddu ynddo wedi mynd allan, a throes yng nghanol y dyrfa, a gofyn, “Pwy gyffyrddodd â'm dillad?” Meddai ei ddisgyblion wrtho, “Yr wyt yn gweld y dyrfa'n gwasgu arnat ac eto'n gofyn, ‘Pwy gyffyrddodd â mi?’ ” Ond daliodd ef i edrych o'i gwmpas i weld yr un oedd wedi gwneud hyn. Daeth y wraig, dan grynu yn ei braw, yn gwybod beth oedd wedi digwydd iddi, a syrthiodd o'i flaen ef a dweud wrtho'r holl wir. Dywedodd yntau wrthi hi, “Ferch, y mae dy ffydd wedi dy iacháu di. Dos mewn tangnefedd, a bydd iach o'th glwyf.”

Myfyrdod
Mae Iesu’n cyflawni’r wyrth o iachau’r wraig â gwaedlif tra yr oedd ar ei ffordd i gyflawni gwyrth arall, a gwyrth fwy, sef codi merch Jairus o farw yn fyw! Y mae’r digwyddiad sydd wrth wraidd hanes y wyrth yn ymddangos yn eithaf dibwys - gwraig yn cyffwrdd mantell Iesu wrth i’r dorf wasgu arno. Ond yr oedd hi’n ymestyn ato yn ei hangen, ac fe deimlodd yntau rywbeth yn mynd allan ohono mewn ymateb.

Gwraig ddirmygedig oedd hon ar gyfrif ei chyflwr. Nid oedd i wragedd awdurdod na safle yn y gymdeithas Iddewig, ond fe ystyrid y wraig yma’n halogedig. Roedd wedi ceisio cael iachâd laweroedd o weithiau, ac wedi gwario’r cyfan oedd ganddi ar driniaethau drudfawr, ac wedi dioddef llawer. Ond i ddim diben. Parhau a gwaethygu a wnaeth ei chyflwr hyd nes iddi gyffwrdd ag ymyl gwisg Iesu.

Mae’r hanes yn ddameg, a’r stori yn pwysleisio gallu Iesu i iachau a’r pwysigrwydd o ddod ato. Efallai y teimlwn ninnau na allwn wneud dim mwy yn aml nag ymestyn i gyffwrdd ymyl ei wisg, ond bydd hynny’n ddigon. Ac y mae’n croesawu pawb sy’n dod ar ei ofyn.

Cerydd fyddai’r wraig wedi ei gael gan bawb arall, a fyddai’r un rabi parchus wedi torri gair â hi. Ond y mae Iesu yn mynnu gwybod pwy ydoedd a beth oedd ei hangen, ac y mae’n ei chyfarch yn gyhoeddus gan gydnabod ei ffydd;

‘Ferch, y mae dy ffydd wedi dy iacháu di. Dos mewn tangnefedd, a bydd iach o'th glwyf.’

Yn aml iawn yn y Testament Newydd fe welwn Iesu’n cyffwrdd y cleifion. Mae cyffyrddiad yn bwysig hefyd yn ein profiad ninnau, er na chawn ni gofleidio, na hyd yn oed ysgwyd llaw, yn ystod y pandemig!

Yn ystod gwasanaeth ordeinio Owain bythefnos yn ôl, gwahoddwyd y gweinidogion oedd yn bresennol i arddodi dwylo arno, sef i roi llaw ar ei ben ag yntau’n penlinio. Dyma’r arwydd Beiblaidd fod rhywun yn cael ei neilltuo i waith arbennig. Nid oedd dim grym na dirgelwch yng nghyffyrddiad y gweinidogion, nac unrhyw hud a lledrith yn perthyn i’r achlysur. Neilltuwyd Owain i weinidogaeth y gair a’r sacramentau y gellir ei olrhain yn ôl i ddyddiau’r Apostolion. A hanfod y weinidogaeth honno o hyd yw bod yn gyfrwng i ddwyn pobl at Iesu. Ef yw’r Meddyg Da, a dyletswydd pawb ohonom yw helpu’n gilydd i ymestyn ato.

Gweddi o ddiolchgarwch
Diolchwn i ti, Arglwydd, fod dy weinidogaeth iacháu wedi codi uwchlaw rhwystrau diwylliannol a chymdeithasol. Gweddïwn am gael gwared â phob rhagfarn, a thros y rhai y mae eu gwaeledd neu eu sefyllfa yn eu pellhau oddi wrth eraill. Gweddïwn yn arbennig dros y rhai sy’n dioddef o salwch meddwl, y digartref, ffoaduriaid a phawb sydd ar gyrion cymdeithas. Boed iddynt hwy, a’r holl greadigaeth, wybod am dy iacháu a’th gariad hael, a boed i ni i gyd ymestyn allan lle mae’n bosibl, yn dy enw. Amen

Emyn 765
Dof fel yr wyf, 'does gennyf fi
ond dadlau rhin dy aberth di,
a'th fod yn galw: clyw fy nghri,
'rwy'n dod, Oen Duw 'rwy'n dod.

Dof fel yr wyf, ni thâl parhau
i geisio cuddio unrhyw fai;
ond gwaed y groes all fy nglanhau:
'rwy'n dod, Oen Duw 'rwy'n dod.

Dof fel yr wyf, er ofnau lu,
a gallu y tywyllwch du
yn curo arnaf o bob to;
'rwy'n dod, Oen Duw 'rwy'n dod.

Dof fel yr wyf, syrthiodd i'r llawr
bob cadwyn gref, 'rwyf finna'n nawr
yn eiddo i'r Gwaredwr mawr;
'rwy'n dod, Oen Duw 'rwy'n dod.

Dof fel yr wyf, caf brofi'n llawn
dy gariad - O anhraethol drawn! -
a chanaf mwyach am yr Iawn;
'rwy'n dod, Oen Duw, 'rwy'n dod.
CHARLOTTE ELLIOTT 1789-1871
cyf ELIZA EVANS, 1852-1920

Ctrl a Chlic
https://youtu.be/D1ymgtqfWUM?list=OLAK5uy_kF2VLoN-xKC-avgo5v4vaLaPnv-DALPZg
Agnus Dei (Dof fel yr wyf, ‘does gennyf fi) · Dafydd Iwan

Gweddi
Dduw hael, diolch i ti am siarad â ni.
Helpa ni i ymestyn allan am dy gariad,
ac i rannu’r cariad hwnnw ag eraill.
Amen.
(Gweddïau oddi ar wefan Roots Ecumenical Partnership)

Cliciwch yma i Lawrlwytho'r Myfyrdod


20.06.21

Gardd Eden (Genesis 2:4-9)
Yn y dydd y gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw ddaear a nefoedd, nid
oedd un o blanhigion y maes wedi dod ar y tir, nac un o lysiau'r
maes wedi blaguro, am nad oedd yr ARGLWYDD Dduw eto wedi peri
iddi lawio ar y ddaear, ac nad oedd yno ddyn i drin y tir; ond yr
oedd tarth yn esgyn o'r ddaear ac yn dyfrhau holl wyneb y
tir. Yna lluniodd yr ARGLWYDD Dduw ddyn o lwch y tir, ac anadlodd
yn ei ffroenau anadl einioes; a daeth y dyn yn greadur byw. A
phlannodd yr ARGLWYDD Dduw ardd yn Eden, tua'r dwyrain; a
gosododd yno y dyn yr oedd wedi ei lunio. A gwnaeth
yr ARGLWYDD Dduw i bob coeden ddymunol i'r golwg, a da i fwyta
ohoni, dyfu o'r tir; ac yr oedd pren y bywyd yng nghanol yr ardd,
a phren gwybodaeth da a drwg.

Myfyrdod
Yr wythnos diwethaf roedd yn bedair blynedd ers Tân Grenfell a laddodd 72 o bobl. Cwestiwn agos at galon teuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau yn y tân yw pa fath o gofeb sy’n briodol i’w coffau. Un awgrym yw y dylid cadw Tŵr Grenfell fel gardd uchel wedi'i phlannu â 72 math o blanhigion.

Yn ‘Thought for the Day’ ar Radio 4 fore Mawrth bu’r Parchg Ddr Michael Banner o Goleg y Drindod Caergrawnt yn sôn am y modd y mae’r crefyddau sydd â’u gwreiddiau yn y Dwyrain Canol yn darlunio paradwys yn aml fel gardd. Gair Persiaidd yn golygu lle caeedig oedd y gair y tu ôl i’r syniad o baradwys, a dehonglwyd hynny fel cyfeiriad at ardd.

Gallwn ddeall apêl gerddi i bobl oedd yn by wyn ardaloedd poeth a chras y Dwyrain Canol, ac un o'r darluniau cofiadwy yn Llyfr Genesis yw hwnnw o Dduw yn rhodio yng Ngardd Eden ‘gyd ag awel y dydd’ (Genesis 3:8).

Yn ei hemyn ‘Speak, Lord, in the stillness’, y mae Emily May Grimes yn gweddïo am i’w bywyd fod fel gardd. Cyfansoddodd yr emyn yn Pondoland, sef gorsaf genhadol yn Ne Affrica, a lluniwyd y cyfieithiad Cymraeg ohono gan W. Nantlais Williams.
Dyma bennill olaf yr emyn;

Megis gardd ddyfradwy,
o aroglau'n llawn,
boed fy mywyd, Arglwydd,
fore a phrynhawn.

Gweddi
Dduw ein Tad,
diolchwn i ti am bobl y mae eu bywyd yn llawn perarogl
ac sydd yn harddu ac yn puro bro a chymuned.
Pobl y mae gwerthoedd yr Efengyl ac egwyddorion y Deyrnas
yn amlwg yn eu byw a’u bod,
ac sy’n dwyn bendith i bawb o’u cwmpas.
Gweddïwn am i’w dylanwad iachusol fynd ar gynnydd
ac am i ninnu gael y gras i dyfu yn eu cysgod.

Cyflwynwn i ti bawb sy’n teimlo
fod bywyd yn fwy o anialwch nag o ardd,
ac sy’n gofidio fod chwyn atgasedd a hunanoldeb
yn gwreiddio o’u cwmpas.

Cyflwynwn i ti bawb a welodd
drefn a phatrwm yr ardd
yn cael ei ddifetha gan brofedigaeth a galar,
gwendid a llesgedd,
gofid a phryder,
ansicrwydd ac anobaith.
Yng nghanol eu cynni,
dyro iddynt eto weld
yr had yn egino a’r blagur yn taflu.

A diolchwn i ti am Iesu Grist, y pen garddwr,
a ddaeth o’r bedd yn fyw, mewn gardd. Amen.

Emyn (781 yn C.Ff.)
Yn y dwys ddistawrwydd
dywed air, fy Nuw;
torred dy leferydd
sanctaidd ar fy nghlyw.

O fendigaid Athro,
tawel yw yr awr;
gad im weld dy wyneb,
doed dy nerth i lawr.

Ysbryd, gras a bywyd
yw dy eiriau pur;
portha fi â'r bara
sydd yn fwyd yn wir.

Dysg fi yng ngwybodaeth
dy ewyllys lân;
nerth dy gariad ynof
dry dy ddeddfau'n gân.

Megis gardd ddyfradwy,
o aroglau'n llawn,
boed fy mywyd, Arglwydd,
fore a phrynhawn. EMILY M. GRIMES, 1864-1927 cy/. NANTLAIS, 1874-1959

Ctrl a chlic
https://youtu.be/mEQiVuLbquE
Huw Rhys Evans, Seion, Ealing Green.

Y Fendith
Bydded i’r Tad gerdded gyda chwi yn ffresni’r ardd.
Bydded i’r Mab gerdded gyda chwi ar lwybr y mynydd.
Bydded i’r Ysbryd gerdded gyda chwi ar lwybr y pererinion.
Bendith y Tad, y Mab a’r Ysbryd a fo arnoch yn wastad. Amen.
John Johansen-Berg, addas. Glyn Tudwal Jones yn E ap N Roberts (gol), Amser i Dduw, 2004, t. 330.

Cliciwch yma i Lawrlwytho


20.06.21

Gardd Eden (Genesis 2:4-9)
Yn y dydd y gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw ddaear a nefoedd, nid
oedd un o blanhigion y maes wedi dod ar y tir, nac un o lysiau'r
maes wedi blaguro, am nad oedd yr ARGLWYDD Dduw eto wedi peri
iddi lawio ar y ddaear, ac nad oedd yno ddyn i drin y tir; ond yr
oedd tarth yn esgyn o'r ddaear ac yn dyfrhau holl wyneb y
tir. Yna lluniodd yr ARGLWYDD Dduw ddyn o lwch y tir, ac anadlodd
yn ei ffroenau anadl einioes; a daeth y dyn yn greadur byw. A
phlannodd yr ARGLWYDD Dduw ardd yn Eden, tua'r dwyrain; a
gosododd yno y dyn yr oedd wedi ei lunio. A gwnaeth
yr ARGLWYDD Dduw i bob coeden ddymunol i'r golwg, a da i fwyta
ohoni, dyfu o'r tir; ac yr oedd pren y bywyd yng nghanol yr ardd,
a phren gwybodaeth da a drwg.

Myfyrdod
Yr wythnos diwethaf roedd yn bedair blynedd ers Tân Grenfell a laddodd 72 o bobl. Cwestiwn agos at galon teuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau yn y tân yw pa fath o gofeb sy’n briodol i’w coffau. Un awgrym yw y dylid cadw Tŵr Grenfell fel gardd uchel wedi'i phlannu â 72 math o blanhigion.

Yn ‘Thought for the Day’ ar Radio 4 fore Mawrth bu’r Parchg Ddr Michael Banner o Goleg y Drindod Caergrawnt yn sôn am y modd y mae’r crefyddau sydd â’u gwreiddiau yn y Dwyrain Canol yn darlunio paradwys yn aml fel gardd. Gair Persiaidd yn golygu lle caeedig oedd y gair y tu ôl i’r syniad o baradwys, a dehonglwyd hynny fel cyfeiriad at ardd.

Gallwn ddeall apêl gerddi i bobl oedd yn by wyn ardaloedd poeth a chras y Dwyrain Canol, ac un o'r darluniau cofiadwy yn Llyfr Genesis yw hwnnw o Dduw yn rhodio yng Ngardd Eden ‘gyd ag awel y dydd’ (Genesis 3:8).

Yn ei hemyn ‘Speak, Lord, in the stillness’, y mae Emily May Grimes yn gweddïo am i’w bywyd fod fel gardd. Cyfansoddodd yr emyn yn Pondoland, sef gorsaf genhadol yn Ne Affrica, a lluniwyd y cyfieithiad Cymraeg ohono gan W. Nantlais Williams.
Dyma bennill olaf yr emyn;

Megis gardd ddyfradwy,
o aroglau'n llawn,
boed fy mywyd, Arglwydd,
fore a phrynhawn.

Gweddi
Dduw ein Tad,
diolchwn i ti am bobl y mae eu bywyd yn llawn perarogl
ac sydd yn harddu ac yn puro bro a chymuned.
Pobl y mae gwerthoedd yr Efengyl ac egwyddorion y Deyrnas
yn amlwg yn eu byw a’u bod,
ac sy’n dwyn bendith i bawb o’u cwmpas.
Gweddïwn am i’w dylanwad iachusol fynd ar gynnydd
ac am i ninnu gael y gras i dyfu yn eu cysgod.

Cyflwynwn i ti bawb sy’n teimlo
fod bywyd yn fwy o anialwch nag o ardd,
ac sy’n gofidio fod chwyn atgasedd a hunanoldeb
yn gwreiddio o’u cwmpas.

Cyflwynwn i ti bawb a welodd
drefn a phatrwm yr ardd
yn cael ei ddifetha gan brofedigaeth a galar,
gwendid a llesgedd,
gofid a phryder,
ansicrwydd ac anobaith.
Yng nghanol eu cynni,
dyro iddynt eto weld
yr had yn egino a’r blagur yn taflu.

A diolchwn i ti am Iesu Grist, y pen garddwr,
a ddaeth o’r bedd yn fyw, mewn gardd. Amen.

Emyn (781 yn C.Ff.)
Yn y dwys ddistawrwydd
dywed air, fy Nuw;
torred dy leferydd
sanctaidd ar fy nghlyw.

O fendigaid Athro,
tawel yw yr awr;
gad im weld dy wyneb,
doed dy nerth i lawr.

Ysbryd, gras a bywyd
yw dy eiriau pur;
portha fi â'r bara
sydd yn fwyd yn wir.

Dysg fi yng ngwybodaeth
dy ewyllys lân;
nerth dy gariad ynof
dry dy ddeddfau'n gân.

Megis gardd ddyfradwy,
o aroglau'n llawn,
boed fy mywyd, Arglwydd,
fore a phrynhawn. EMILY M. GRIMES, 1864-1927 cy/. NANTLAIS, 1874-1959

Ctrl a chlic
https://youtu.be/mEQiVuLbquE
Huw Rhys Evans, Seion, Ealing Green.

Y Fendith
Bydded i’r Tad gerdded gyda chwi yn ffresni’r ardd.
Bydded i’r Mab gerdded gyda chwi ar lwybr y mynydd.
Bydded i’r Ysbryd gerdded gyda chwi ar lwybr y pererinion.
Bendith y Tad, y Mab a’r Ysbryd a fo arnoch yn wastad. Amen.
John Johansen-Berg, addas. Glyn Tudwal Jones yn E ap N Roberts (gol), Amser i Dduw, 2004, t. 330.

Cliciwch yma i Lawrlwytho


13.06.21

Dyma myfyrdod 13.06.21 gan y Parchedig Ddr Elwyn Richards

Gweddi o Nesâd
Gan nad oes ynof rinwedd na chymhwyster i nesáu atat ti’ O
Dduw, deuaf fel yr wyf, yn dlawd, yn wael, yn wan, gan
bwyso’n unig ar dy gariad a’th drugaredd di yn Iesu Grist.
Amen. E ap N Roberts, Amser i Dduw, 2004, t.25.

Salm 46
DUW sydd noddfa a nerth i ni, cymorth hawdd ei gael mewn
cyfyngder.
Am hynny nid ofnwn pe symudai y ddaear, a phe treiglid y
mynyddoedd i ganol y môr:
Er rhuo a therfysgu o'i ddyfroedd, er crynu o'r mynyddoedd
gan ei ymchwydd ef.
Y mae afon, a'i ffrydiau a lawenhânt ddinas DUW; cysegr
preswylfeydd y Goruchaf.
DUW sydd yn ei chanol; nid ysgog hi: DUW a'i cynorthwya yn
fore iawn.
Y cenhedloedd a derfysgasant, y teyrnasoedd a ysgogasant:
efe a roddes ei lef, toddodd y ddaear.
Y mae ARGLWYDD y lluoedd gyda ni; y mae DUW Jacob yn
amddiffynfa i ni.
Deuwch, gwelwch weithredoedd yr ARGLWYDD; pa
anghyfanedd-dra a wnaeth efe ar y ddaear.
Gwna i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddaear; efe a ddryllia y
bwa, ac a dyr y waywffon, efe a lysg y cerbydau â thân.
Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sydd DDUW: dyrchefir fi
ymysg y cenhedloedd, dyrchefir fi ar y ddaear.
Y mae ARGLWYDD y lluoedd gyda ni; amddiffynfa i ni
yw DUW Jacob.

Bu llawer o sôn ar y cyfryngau yn ddiweddar am gyrchfannau gwyliau posibl eleni. Lleoedd diogel a hygyrch na fyddai’n rhaid hunan ynysu am ddyddiau wedi bod yno. Clywsom dro ar ôl tro pa mor awyddus yw pobl i gael seibiant a newid, a’r honiad cyson ein bod yn haeddu hyn ar ôl y fath flwyddyn ag a gafwyd.

Yn y traddodiad Cristnogol ystyrir mynd ar daith i le arbennig yn aml yn bererindod, a chysylltir hynny weithiau hefyd â seibiant a gorffwys. Ond nid ar haeddiant y pererin y bydd y pwyslais yn gymaint ag ar ei angen, ei awydd am adnewyddiad a’i ddyhead, efallai, am heddwch a thangnefedd.

Bu Ynys Enlli, a anfarwolwyd gan y bardd T Gwynn Jones, yn gyrchfan i’r pererinion ers canrifoedd;

Mae yno ugain mil o saint
Ym mraint y môr a'i genlli,
Ac nid oes dim a gyffry hedd
Y bedd yn Ynys Enlli.

I’r Iddew roedd Jerwsalem yn gyrchfan i’r pererinion a dinas Duw. Yno, yn sŵn dathliadau’r Deml, cai’r pererinion gyfle i addoli ac atgyfnerthu, ac un o brofiadau mawr bywyd, fel y dengys hanes Iesu yn ddeuddeg oed, oedd mynd ar bererindod i Seion (gw. Luc 2:41-52).

Ond beth sy’n gwneud lle fel Seion neu Ynys Enlli yn arbennig? Mewn gair, ymdeimlad o’r cysegredig a’r dwyfol. Presenoldeb Duw oedd yn gwneud Seion yn arbennig i’r Iddew, ac ymdeimlad o’r ysbrydol sy’n gwneud Enlli’n arbennig i amryw heddiw. Y lle ei hun a’i awyrgylch a'i hanes, yn ogystal â’r disgwyliad yng nghalon y saint wrth gyrraedd a’r tangnefedd a brofant cyn ymadael. Duw ei hun yw ein noddfa a’n nerth, meddai’r Salmydd, a’i bresenoldeb ef a rydd hyder a diogelwch.

Am dair canrif gyntaf ei hanes nid oedd gan yr Eglwys adeiladau, deuai’r credinwyr ynghyd lle bynnag y ceid cyfle, a’r hyn oedd yn bwysig iddynt oedd y gred a’r ymdeimlad fod Duw ei hun drwy ei Ysbryd yn bresennol; ‘Lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr wyf finnau yn y canol.’

Dod, nid i foddhau eu hunain ond i foliannu Duw wnâi’r pererinion. Ymgynnull, nid am eu bod yn haeddiannol, ond am fod ganddynt destun diolch wna’r addolwyr.

‘Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sydd DDUW: dyrchefir fi ymysg y cenhedloedd, dyrchefir fi ar y ddaear. Y mae ARGLWYDD y lluoedd gyda ni; amddiffynfa i ni yw DUW Jacob.’

Gweddi
Rho i ni’r noddfa y mae ei hangen arnom,
O Dduw cariadus,
noddfa dan d’adenydd.
Amddiffyn ni rhag popeth yr ydym yn ei ofni,
O Dduw ffyddlon,
trwy ein gwarchod rhag perygl.
Cadw ni rhag temtasiwn,
O Dduw graslon,
fel y bo i ni ddewis y llwybr cywir.
Bydd gyda ni, a boed i ni deimlo dy bresenoldeb,
O Dduw trugarog,
ar bob cam o daith bywyd.
Gweddïwn yn enw Iesu. Amen.

Emyn 682
Pererin wyf mewn anial dir
yn crwydro yma a thraw,
ac yn rhyw ddisgwyl bob yr awr
fod tŷ fy Nhad gerllaw.

Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, ledia'r ffordd,
bydd imi';n niwl a thân;
ni cherdda'n gywir hanner cam
oni byddi di o'm blaen.
Mi wyraf weithiau ar y dde
ac ar yr aswy law;
am hynny arwain, gam a cham
fi i'r baradwys draw.
Mae hiraeth arnaf am y wlad
lle mae torfeydd di-ri;
yn canu'r anthem ddyddiau'u hoes
am angau Calfarî. WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

Ctrl a chlic
https://youtu.be/Qwku0ATXIzI
Rhian Mair Lewis
Y Fendith
Boed i ddaioni Duw eich nerthu.
Boed i drugaredd Duw eich cysuro.
Boed i addewid Duw o fywyd tragwyddol eich ysbrydoli â
gobaith a chariad.
Yn enw’r Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân.
Amen.

Cliciwch yma i Lawrlwytho


TUDALEN FACEBOOK Gofalaeth Ardal Bangor - cliciwch yma

Galwad i addoli
Pan ofynnodd Iesu, atebodd Simon Pedr:
‘Ti yw’r Meseia, Mab y Duw byw.’
Gadewch i ninnau roi’r ateb hyderus hwnnw,
ac addoli Iesu,
y Meseia, Mab y Duw byw.
Amen.

Gweddi o fawl

Arglwydd Iesu,
daethost i’r ddaear a cherdded yn ein plith;
ti yw’r Meseia, mab y Duw byw.
Rwyt wedi dangos y gwirionedd i ni;
ti yw’r Meseia, mab y Duw byw.
Rwyt yn byw gyda ni, yn dangos i ni y ffordd i fyw;
ti yw’r Meseia, mab y Duw byw.
Rydym yn diolch i ti ac yn dy foli am mai
ti yw’r Meseia, mab y Duw byw.
Amen.

Emyn: Y mae in Waredwr (C.Ff. 416)
Y mae in Waredwr,
Iesu Grist Fab Duw,
werthfawr Oen ei Dad,
Meseia, sanctaidd, sanctaidd yw.
Diolch, O Dad nefol,
am ddanfon Crist i'n byd,
a gadael dy Ysbryd Glân
i'n harwain ni o hyd.
Iesu fy Ngwaredwr,
enw ucha'r nef,
annwyl Fab ein Duw, Meseia
'n aberth yn ein lle.
Yna caf ei weled
ryw ddydd yn y ne'
a'i addoli ef yn Frenin
yn y sanctaidd le.
MELODY GREEN cyf.. MIRIAM DAVIES

Ctrl a Chlic
https://youtu.be/E6WKOE4EUq0
Y Mae In Waredwr (Melody Green) · Alwen Derbyshire

Datganiad Pedr (Mathew 16:13-20)
Pan gyrhaeddodd Iesu ardal Cesarea Philipi, gofynnodd i'w ddisgyblion, “Pwy mae pobl yn ei ddweud ydw i, Mab y Dyn?”
“Mae rhai yn dweud Ioan Fedyddiwr,” medden nhw, “eraill yn dweud Elias, ac eraill eto'n dweud Jeremeia neu un o'r proffwydi.”
“Ond beth amdanoch chi?” meddai. “Pwy dych chi'n ddweud ydw i?”
Atebodd Simon Pedr, “Ti ydy'r Meseia, Mab y Duw byw.”
“Rwyt ti wedi dy fendithio'n fawr, Simon fab Jona,” meddai Iesu, “am mai dim person dynol ddangosodd hyn i ti, ond fy Nhad yn y nefoedd. A dw i'n dweud wrthyt ti mai ti ydy Pedr (sef ‛y garreg‛). A dyma'r graig dw i'n mynd i adeiladu fy eglwys arni hi, a fydd grym marwolaeth ddim yn ei gorchfygu hi. Dw i'n mynd i roi allweddi teyrnas yr Un nefol i ti; bydd beth bynnag rwyt ti'n ei rwystro ar y ddaear wedi'i rwystro yn y nefoedd, a bydd beth bynnag rwyt ti'n ei ganiatáu ar y ddaear wedi'i ganiatáu yn y nefoedd.” Yna dyma Iesu'n rhybuddio'i ddisgyblion i beidio dweud wrth neb mai fe oedd y Meseia.

Myfyrdod
Cafwyd sawl ysgrif ddiddorol yn Ichthus ar enwau lleoedd, diolch i Mrs Glenda Carr, a thynnodd Dr Bruce Griffiths sylw at ei chyfrol ddiweddaraf, Hen Enwau o Feirionnydd, yn y rhifyn diwethaf. Dywed fod enwau lleoedd yn mynegi hanes ardaloedd, ac felly y mae yn y Beibl hefyd.

Dywedir yn yr efengylau i Iesu fynd a’i ddisgyblion i Cesarea Philipi wrth droed mynydd Hermon. Enw’r dref yn wreiddiol oedd Paneas (Baneas heddiw), a chan fod ogof y duw Pan yno roedd yn ganolfan baganaidd bwysig. Llifai dyfroedd o bwll yn yr ogof y credid ei fod yn ddiwaelod, a dyma yn ôl traddodiad un o ddau darddle yr afon Iorddonen. Adeiladwyd ac ehangwyd y ddinas gan Philip, mab Herod Fawr, a newidiodd enw’r lle er mwyn anrhydeddu yr Ymerawdwr Cesar . Galwodd Philip y ddinas yn Cesarea Philipi er mwyn gwahaniaethu’r ddinas oddi wrth y porthladd o’r enw Cesarea oedd ar lan Môr y Canoldir. Wrth wneud hynny bu iddo ddyrchafu ei fri ei hunan ar yr un pryd.

Erbyn cyfnod Iesu roedd Cesar yn cael ei addoli fel mab duw yng Nghesarea Philipi. Dyma un o ganolfannau pwysicaf yr Ymerodraeth Rufeinig yn y dwyrain, ac roedd arwyddocâd gwleidyddol y lle a phaganiaeth amlwg y ddinas yn ei gwneud yn wrthun i’r Iddewon. Ond yma, yn nannedd y gelyn, y mae Pedr yn cyffesu mai Iesu yw’r Meseia, a dyna’r union gyffes y byddai’n ei dwyn maes o law i Rufain - prif ddinas yr Ymerodraeth Rufeinig.
Mae’r ffydd Gristnogol o’r cychwyn wedi herio’r drwg a throi'r byd wyneb i waered. Mae grym cyffes Pedr yn cael ei adlewyrchu yn haeriad Iesu; ‘Ac yr ydwyf finnau yn dywedyd i ti, mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys; a phyrth uffern nis gorchfygant hi.’

Y syniad yma yw bod Crist yn adeiladu ei eglwys ar gyffes yr unigolyn, a daw Pedr yn garreg sylfaen cymdeithas newydd o gredinwyr.

Fel yng nghyfnod Iesu mae yna ymerodraethau o bob math yn hawlio ein hymlyniad ninnau, a hynny yn fasnachol, yn wleidyddol yn ysbrydol a chrefyddol. Camp y credinwyr yw rhoi’r lle blaenaf i Grist a byw yng ngoleuni hynny; Meddai R J Derfel (1824-1905);

Yma nid oes gennym ni
neb yn arglwydd ond tydi;
ac ni cheisiwn arall chwaith
oesoedd tragwyddoldeb maith. (C.Ff. 206)

Gweddi o eiriolaeth
Rydym yn ymddiried ynot ti, Arglwydd, i ateb ein gweddïau.
Eiddot ti yw’r deyrnas, y nerth a’r gogoniant.
Gwneler dy ewyllys, O Arglwydd.

Gweddïwn dros bawb sy’n cael eu ffydd yn anodd:
o achos hunan amheuaeth,
oherwydd amgylchiadau anodd,
am fod pethau drwg yn digwydd,
am iddynt gael eu harwain ar gyfeiliorn,
am eu bod eisiau enwogrwydd ac arian.

Gweddïwn dros bawb sy’n teimlo eu bod yn y tywyllwch,
wedi eu cloi mewn sefyllfa lle nad oes ganddynt atebion.

Gweddïwn drosom ein hunain:
pan fyddwn mewn sefyllfaoedd anodd,
pan fyddwn yn ceisio datgloi drysau nad oes gennym hawl i’w hagor,
pan fyddwn yn methu canolbwyntio ar y deyrnas,
pan fyddwn yn peidio â rhannu ein stori.
Arglwydd gwrando ein gweddi, yn enw Iesu Grist.
Amen.

Emyn: Iesu, Iesu, ’rwyt ti’n ddigon (CFf 320)

Iesu, Iesu, 'rwyt ti'n ddigon,
'rwyt ti'n llawer mwy na'r byd;
mwy trysorau sy'n dy enw
na thrysorau'r India i gyd:
oll yn gyfan
ddaeth i'm meddiant gyda'm Duw.
Y mae gwedd dy wyneb grasol
yn rhagori llawer iawn
ar bob peth a welodd llygad
ar hyd wyneb daear lawn:
Rhosyn Saron,
ti yw tegwch nef y nef. WILLIAM WILLIAMS 1717-91

Ctrl a Chlic
https://youtu.be/BT1jIJ5fyWM
Gwyn Hughes Jones | Miwsig Fy Mywyd

Gweddi i gloi
Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion am beidio â dweud wrth neb mai ef oedd y Meseia.
Boed ein calonnau yn awr mor llawn o ryfeddod a llawenydd,
fel na fedrwn wneud dim ond rhannu’r newyddion da.
Tyrd gyda ni, Arglwydd da,
a helpa ni i ddweud wrth bawb sy’n barod i wrando.
Amen.

Cliciwch yma i lawr lwytho dogfen Myfyrdodau 23/08/20


Ffydd y wraig o Ganaan (Mth 15:21-28)

Gweddi wrth ddynesu
Arglwydd Dduw, wrth i ni ddod o’th flaen yn awr,
agorwn ein calonnau i ti.
Helpa ni i weld ein bod yn gallu dysgu cymaint gan eraill,
hyd yn oed gan y rhai yr ydym yn meddwl nad oes gennym lawer yn gyffredin â hwy.
Gwna ni’n barod i sefyll ar wahân i’r dorf,
i wrando ar dy lais, ac i weithredu arno.
Amen.

Gwrandewch ar Bara Angylion Duw - Stuart Burrows

Ffydd y Gananees (Mth 15:21-28)
Gadawodd Iesu Galilea ac aeth i ffwrdd i gylch Tyrus a Sidon. Daeth gwraig ato (gwraig o'r ardal o dras Canaaneaidd), a gweiddi, “Arglwydd, Fab Dafydd, helpa fi! Mae fy merch yn dioddef yn ofnadwy am ei bod yng ngafael cythraul.”
Wnaeth Iesu ddim ymateb o gwbl. A dyma'i ddisgyblion yn dod ato a phwyso arno, “Anfon hi i ffwrdd, mae hi'n boen yn dal ati i weiddi ar ein holau ni!”
Felly atebodd Iesu hi, “Dim ond at bobl Israel, sydd fel defaid ar goll, ces i fy anfon.”
Ond dyma'r wraig yn dod a phenlinio o'i flaen. “Helpa fi, Arglwydd!” meddai.
Atebodd Iesu, “Dydy hi ddim yn iawn i bobl daflu bwyd y plant i'r cŵn.”
“Digon gwir, Arglwydd,” meddai'r wraig, “ond mae hyd yn oed y cŵn yn bwyta'r briwsion sy'n disgyn oddi ar fwrdd eu meistr.”
Atebodd Iesu, “Wraig annwyl, mae gen ti lot o ffydd! Cei beth ofynnaist amdano.” A dyna'r union adeg y cafodd ei merch ei hiacháu.

Myfyrdod
Mae’n anodd weithiau gweld ergyd rhai o straeon y Testament Newydd, ac nid yw bob amser yn eglur beth oedd gan yr efengylwyr mewn golwg wrth eu cofnodi.

Nid bwriad Mathew yma, does bosibl, oedd rhoi argraff anffafriol o Iesu Grist. Y mae’n cofnodi’r hanes yn union wedi adrodd am y gwrthdaro rhwng Iesu â’r Phariseaid. Neges bendant Iesu wrthynt hwy oedd nad yr hyn yr oeddynt yn fwyta oedd yn eu gwneud yn aflan ond yr hyn yr oeddynt yn ei ddweud. Mae bwyd, meddai, yn cael ei dreulio gan y corff ond daw geiriau o’r galon.

Yna, wedi i Iesu symud i ardal arall cawn gan Mathew hanes gwraig yn dod at Iesu i ofyn am gymorth. Y mae’n ymwybodol o’r ffordd yr oedd yn cael ei hystyried gan yr Iddewon, ond mae’n benderfynol a di-ildio, a’i hawydd i gael iachau ei merch gymaint fel nad yw’n cymryd ei digio gan ddiffyg ymateb Iesu.

Erbyn diwedd y stori gwelir;

  • bod gwraig wedi cael gwrandawiad, a hynny mewn cymdeithas lle na fyddai dynion yn siarad â merched yn gyhoeddus.
  • bod gwraig estron fu’n ddigon dewr i ddod ar ofyn Iesu yn cael ei dymuniad.
  • bod un nad oedd yn perthyn i’r genedl Iddewig yn cael rhan yn y wledd yr oedd Duw yn ei darparu i’w bobl.

Hanes am gynnwys nid gwrthod yw’r stori, ac mae’n ein hatgoffa ninnau o ba mor llydan yw’r efengyl, ac yn hynny o beth rhydd hyder a gobaith i bawb ohonom. Meddai’r proffwyd Eseia;

  A'r dieithriaid sy'n glynu wrth yr ARGLWYDD,
yn ei wasanaethu ac yn caru ei enw,
sy'n dod yn weision iddo ef,
yn cadw'r Saboth heb ei halogi
ac yn glynu wrth fy nghyfamod—
dygaf y rhain i'm mynydd sanctaidd,
a rhof iddynt lawenydd yn fy nhŷ gweddi,
a derbyn eu poethoffrwm a'u haberth ar fy allor;
oherwydd gelwir fy nhŷ yn dŷ gweddi i'r holl bobloedd,”
medd yr Arglwydd DDUW,
sy'n casglu alltudion Israel.
“Casglaf ragor eto at y rhai sydd wedi eu casglu.”
(Eseia 56:6-8);


Owain-Davies Mae’r stori hefyd yn pwysleisio pa mor bwysig yw gweld bywyd o safbwynt rhywun arall a gwrando ar ein gilydd.

Gweddi o gyffes
Arglwydd, weithiau byddwn fel petaem yn gwrando ar eraill yn hytrach nag arnat ti.
Rydym yn cyfaddef bod ein sylw yn aml ym mhobman
ond ble y dylai fod.
Maddau i ni, Arglwydd, am golli cyfleoedd.

Weithiau bydd ein pryderon ein hunain yn tynnu ein sylw yn ormodol.
Ni fyddwn yn poeni am neb ond ni ein hunain,
ac ni fyddwn yn gwrando ar neb ond y rhai sy’n dweud yr hyn yr ydym am ei glywed.
Maddau i ni, Arglwydd, am golli cyfleoedd.

Weithiau fyddwn ni ddim yn gwrando ar bobl am nad ydym yn eu hoffi,
neu am eu bod yn wahanol i ni.
Weithiau byddwn yn meddwl drwg.
Maddau i ni, Arglwydd, am golli cyfleoedd.

Weithiau fyddwn ni ddim yn gwrando arnat ti, Arglwydd,
am ein bod yn rhy brysur,
neu’n ofni clywed yr hyn yr wyt am ei ddweud wrthym.
Maddau i ni, Arglwydd, am golli cyfleoedd.
Amen.

Emyn ‘Pan fwyf yn teimlo’n unig’ (C.Ff 758)

 

Pan fwyf yn teimlo'n unig lawer awr
heb un cydymaith ar hyd llwybrau'r llawr,
am law fy Ngheidwad y diolchaf i
â'i gafael ynof er nas gwelaf hi.

Pan fyddo beichiau bywyd yn trymhau
a blinder byd yn peri im lesgáu,
gwn am y llaw a all fy nghynnal i
â'i gafael ynof er nas gwelaf hi.

Pan brofais archoll pechod ar fy nhaith
a minnau'n ysig ŵr dan gur a chraith,
ei dyner law a'm hymgeleddodd i
â'i gafael ynof er nas gwelaf hi.

A phan ddaw braw yr alwad fawr i'm rhan
a'r cryfaf rai o'm hamgylch oll yn wan,
nid ofnaf ddim, ei law a'm tywys i
â'i gafael ynof er nas gwelaf hi.

  JOHN ROBERTS, 1910-84

Gwrandewch ar Trebor Edwards

Gweddi o eiriolaeth
Gofynnodd y wraig oedd yn Gananees am dy help.
Cymaint oedd yn caru ei merch, ac roedd mewn angen mor ddifrifol,
fel nad oedd yn fodlon rhoi’r gorau iddi nes cael ei hateb.
Gweddïwn mewn ffydd.
Clyw ni ac ateb ein cri, Arglwydd bendigaid.

Arglwydd, boed i ni ddysgu gan y wraig hon,
sut i’th wasanaethu yn ddisgwylgar, yn amyneddgar, yn ddyfal, yn benderfynol.
Boed i ni sefyll dros ein hargyhoeddiadau pan fyddwn yn credu o ddifrif ein bod yn gwneud dy ewyllys di.
Gweddïwn mewn ffydd.
Clyw ni ac ateb ein cri, Arglwydd bendigaid.

Gweddïwn heddiw dros y rhai sy’n teimlo eu bod yn cael eu heithrio, beth bynnag eu sefyllfa, beth bynnag fo’r rheswm:
dros garcharorion, ffoaduriaid, y digartref;
dros y gwael, y rhai sy’n dioddef o afiechyd meddwl;
dros unrhyw un sy’n teimlo eu bod ar y tu allan.
Gweddïwn mewn ffydd.
Clyw ni ac ateb ein cri, Arglwydd bendigaid.

Gweddïwn drosom ein hunain pan fydd ein ffydd yn wan, neu pan fyddwn yn teimlo nad ydym yn perthyn.
Gweddïwn mewn ffydd.
Clyw ni ac ateb ein cri, Arglwydd bendigaid.
Amen.

Y Fendith
Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw a chymdeithas yr Ysbryd Glân fod gyda ni oll. Amen.

Cliciwch yma i lawr lwytho dogfen Myfyrdodau


Dameg y Winllan a'r Tenantiaid (Mathew 21 :33-44)
Mc. 12:1–12; Lc. 20:9–19

Gwrandewch ar ddameg arall. Yr oedd rhyw berchen tŷ a blannodd winllan; cododd glawdd o'i hamgylch, a chloddio cafn i'r gwinwryf ynddi, ac adeiladu tŵr. Gosododd hi i denantiaid, ac aeth oddi cartref. A phan ddaeth amser y cynhaeaf yn agos, anfonodd ei weision at y tenantiaid i dderbyn ei ffrwythau. Daliodd y tenantiaid ei weision; curasant un, a lladd un arall a llabyddio un arall. Anfonodd drachefn weision eraill, mwy ohonynt na'r rhai cyntaf, a gwnaeth y tenantiaid yr un modd â hwy. Yn y diwedd anfonodd atynt ei fab, gan ddweud, ‘Fe barchant fy mab.’ Ond pan welodd y tenantiaid y mab dywedasant wrth ei gilydd, ‘Hwn yw'r etifedd; dewch, lladdwn ef, a meddiannwn ei etifeddiaeth.’ A chymerasant ef, a'i fwrw allan o'r winllan, a'i ladd. Felly pan ddaw perchen y winllan, beth a wna i'r tenantiaid hynny?” “Fe lwyr ddifetha'r dyhirod,” meddent wrtho, “a gosod y winllan i denantiaid eraill, rhai fydd yn rhoi'r ffrwythau iddo yn eu tymhorau.” Dywedodd Iesu wrthynt, “Onid ydych erioed wedi darllen yn yr Ysgrythurau:
“ ‘Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,
hwn a ddaeth yn faen y gongl;
gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn,
ac y mae'n rhyfeddol yn ein golwg ni’?
“Am hynny rwy'n dweud wrthych y cymerir teyrnas Dduw oddi wrthych chwi, ac fe'i rhoddir i genedl sy'n dwyn ei ffrwythau hi. A'r sawl sy'n syrthio ar y maen hwn, fe'i dryllir; pwy bynnag y syrth y maen arno, fe'i maluria.”

Myfyrdod
Roedd Iesu yn aml yn adrodd damhegion oedd yn adlewyrchu bywyd ei gymuned. Yma darlunia sefyllfa gyffredin lle yr oedd gwinllan wedi ei gosod i denantiaid. Yn anffodus, nid oeddynt yn fodlon talu’r rhent i’r perchennog, ac y maent yn mynd i eithafion i sicrhau y winllan iddynt eu hunain.

A ninnau bellach ar drothwy tymor y diolchgarwch deuwn yn ymwybodol unwaith eto o lawnder darpariaeth y greadigaeth, ac hefyd o’n cyfrifoldeb i ofalu am y byd ac am ein gilydd. Ar ryw olwg fe ellir dadlau ein bod ninnau, drwy amharchu’r greadigaeth a rheibio’r ddaear, wedi hawlio’r winllan i ni ein hunain.

Ond delwedd o genedl Israel yw’r winllan yn yr Hen Destament (gw. Eseia 5:1-7), a dameg gan Iesu amdano’i hun ac agwedd yr awdurdodau crefyddol tuag ato oedd hon yn wreiddiol. Drwy wrthod y proffwydi gynt yr oeddynt wedi gwrthod negeswyr Duw, ac yn y diwedd byddent yn ei ladd yntau. 

Yr un yw’r mab a’r maen yn y ddameg, ac yn yr iaith Hebraeg roedd y gair am fab (ben) a’r gair am faen (eben) yn hynod o debyg. Mae cefndir y sôn am y maen sy’n dinistrio yn ail bennod Llyfr Daniel (gw. Daniel 2:31-45). Yma yn y ddameg caiff y mab a’r maen eu gwrthod, ac mae’r naill a’r llall yn cael eu cyfiawnhau – y mab drwy i’r perchennog ddod a chipio’r winllan oddi ar y tenantiaid a’i rhoi i eraill, a’r maen gwrthodedig drwy gael ei osod yn y diwedd yn y lle mwyaf anrhydeddus yn yr adeilad i gyd!

Sôn amdano’i hun yr oedd Iesu. Cawn ninnau ein herio i ystyried ein hagwedd tuag ato wrth fyfyrio ar ei fywyd. Meddai’r Salmydd;
Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,
a ddaeth yn brif gonglfaen (Salm 118:22)

Yn y rhifyn cyfredol o Cristion, y mae’r Golygydd yn dyfynnu geiriau’r diweddar Barchedig Elfed ap Nefydd Roberts; ‘Proses barhaus o roi mwy a mwy o’n bywyd i Dduw, mewn ymateb i’w roi mawr ef i ni yn Iesu Grist, yw’r Bywyd Cristnogol.’

Emyn ‘Wrth edrych Iesu ar dy groes’  (C Ff 495)

Wrth edrych, Iesu, ar dy groes,
a meddwl dyfnder d'angau loes,
pryd hyn 'rwyf yn dibrisio'r byd
a'r holl ogoniant sy ynddo i gyd.

N'ad im ymddiried tra bwyf byw
ond yn dy angau di, fy Nuw;
dy boenau di a'th farwol glwy'
gaiff fod yn ymffrost imi mwy.

Dyma lle'r ydoedd ar brynhawn
rasusau yn disgleirio'n llawn:
mil o rinweddau yn gytûn
yn prynu'r gwrthgiliedig ddyn.

Poen a llawenydd dan y loes,
tristwch a chariad ar y groes;
ble bu rhinweddau fel y rhain
erioed o'r blaen dan goron ddrain?

Myfi aberthaf er dy glod
bob eilun sydd o dan y rhod,
ac wrth fyfyrio ar dy waed
fe gwymp pob delw dan fy nhraed.

ISAAC WATTS, 1674-1748
efel. WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
Ctrl a Chlic
https://youtu.be/2A05yTvsMY0

Deep Harmony (Wrth Edrych Iesu Ar Dy Groes) · Cor Meibion Pendyrus

Gweddi
Ein Tad, llanw ein meddyliau â’th wirionedd
fel y gallwn ddirnad maint dy gariad tuag atom.
Cariad a waned yn amlwg i ni yn Iesu Grist,
ac a ddatguddiwyd drwy ei fywyd a’i farw a’i atgyfodiad ef.
Boed i’r cariad hwn fod yn nerth ac yn gynhaliaeth inni,
a chymorth ni i ymateb iddo drwy ein hymroddiad i ti
a’n hymwneud â’n gilydd.

Gofynnwn dy fendith ar ein byd a’n bywyd yn gyffredinol.
Yn nhymor diolchgarwch am y cynhaeaf
cyflwynwn i ti ein pryderon a’n gobeithion am y cread.
Gofidiwn am y modd y llygrwyd ac yr amharchwyd y ddaear
a gofynnwn am ddoethineb ac ymroddiad a nerth
i atal y difrod ac adfer y greadigaeth.

Gofynnwn dy fendith ar ein bywyd ysbrydol
a’n tystiolaeth fel disgyblion i ti.
Cywilyddiwn oherwydd ein diffyg ymroddiad
er i ti dy hun ein hysbrydoli.
Crea galon lân ynom, yw ein gweddi,
a rho ysbryd uniawn o’n mewn,
fel y gallwn dy addoli fel y dylem,
a mynegi dy fawredd a’th ogoniant,
waned yn amlwg yn Iesu Grist ein Harglwydd.

A gweddïwn drosom ein hunain a’n gilydd,
y bydd i ti leddfu ein pryderon a lliniaru ein gofid.
Cysura bawb sydd mewn galar a rho obaith i’r cleifion.
Bydd gyda’r gofalwyr ym mhob man
a bendithia bawb sy’n ceisio cynorthwyo eraill.
Cadw ni’n ffyddiog, er gwaethaf pob gofid,
yn barod, beth bynnag a ofynnir gennym,
yn obeithiol, am fod ein hyder ynot ti,
ac yn gariadus oherwydd dy gariad.

Yn enw Iesu Grist, a fu farw,
ac a atgyfododd er mwyn i ni gael bywyd,
gwrando ein gweddi.
Amen.

Emyn ‘Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd’ (C.Ff. 319)

Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd
wrthrych teilwng o'm holl fryd,
er mai o ran yr wy'n adnabod
ei fod uwchlaw gwrthrychau'r byd:
henffych fore
y caf ei weled fel y mae.
Rhosyn Saron yw ei enw,
gwyn a gwridog, teg o bryd;
ar ddeng mil y mae'n rhagori
o wrthrychau penna'r byd:
ffrind pechadur,
dyma ei beilot ar y môr.
Beth sydd imi mwy a wnelwyf
ag eilunod gwael y llawr?
Tystio 'rwyf nad yw eu cwmni
i'w gystadlu â'm Iesu mawr:
O am aros
yn ei gariad ddyddiau f'oes.
ANN GRIFFITHS, 1776-1805
Ctrl a Chlic

https://youtu.be/5szdT6Cu8g4 

Cymanfa Treforus (BBC) 1989: Wele'n Sefyll Rhwng y Mwrtwydd (Ann Griffiths)

Y Fendith
Duw fo’n gysur ac yn nerth i ni,
Duw fo’n obaith ac yn gynhaliaeth i ni,
Duw fo’n llewyrch ac yn llwybr i ni,
a bendith Duw, Greawdwr, Waredwr a Rhoddwr bywyd,
a fo arnom yn awr a hyd byth. Amen.

Llyfr Gweddi Seland Newydd yn E ap N Roberts, Te Deum, 2017, t, 80

Cliciwch yma i lawr lwytho dogfen Myfyrdodau

 

LluniauLluniau Diweddaraf

Henaduriaeth Arfon ar flickr.com
 

CysylltuManylion Cyswllt

Cyfeiriad:Y Parchedig Ddr Elwyn Richards, Plas Bach, 70 Cae Gwyn, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1LL.
Ffôn: 01286 676435
E-bost: post@henaduriaetharfon.org