Berea Newydd, Bangor

 

image

Enw’r Eglwys: Berea Newydd

Lleoliad a Chôd Post yr Eglwys: Rhodfa Dewi Sant, Ffordd Penrhos, Bangor LL57 2AX

Gweinidog yr Eglwys: Y Parchg Ddr Elwyn Richards

Swyddog Plant ac Ieuenctid a Theuluoedd: Andrew Settatree
Swyddogion yr Eglwys:
Ysgrifennydd : Mr. Gareth Emlyn Jones
Ysgrifennydd y Cyhoeddiadau : Mrs Eirian Howells
Trysorydd : Mrs Cynthia Owen
Gosod yr Adeilad : Mr John Wynn Jones
Ysgrifenyddion Ariannol : Dr. Gwilym Roberts, Mr A Gwyn Jones
Hefyd : Mr. Wyn Griffiths, Miss Dilys Jones, Mr. R Maldwyn Thomas, Mr. Clement Jones, Mrs. Elizabeth Roberts, Mr. Robat H Roberts a Mr. Geraint Hughes, Ms. Menna Baines, Mr. Alwyn Lloyd Ellis, Dr. Elin Walker Jones, Miss Gwenno Pritchard a Mrs. Delyth Oswy Shaw.

Amseroedd Cyfarfodydd yr Eglwys (hy cyfarfodydd wythnos ac oedfaon y Sul):
Oedfa Bore Sul : 10 y bore
Oedfa Nos Sul: 5.30 yr hwyr dros y ffon ac nid mewn person
Cyfarfodydd wythnos : nos Iau am 7

Mae gan Ofalaleth Bangor wefan newydd: Gofalaeth Ardal Bangor (gofalaethbangor.com)

Ffurfiwyd yr Eglwys newydd hon yn Ionawr 2003 pan unwyd 5 eglwys leol sef: Berea, Twrgwyn, Y Graig, Caerhun a Phentir.

Adeiladwyd yr adeilad newydd ar safle yr hen Ysbyty Dewi Sant pan ddymchwelwyd hen gapel Berea fel rhan o’r datblygiad o siopau a chyfleusterau hamdden.

Trefnir cludiant (yn rhad ac am ddim) trwy fws neu gar i unrhyw un sydd yn cael trafferth i gyrraedd y capel.
Mae’r eglwys wedi ymrwymo i fod yn eglwys Masnach Deg
Cyhoeddir cylchgrawn yr eglwys, sef Ichthus, yn chwarterol

Mae’r adeilad yn fodern, gyda lle parcio helaeth a chyfleusterau i’r anabl.
Defnyddir yr adeiladau yn helaeth gan y gymuned. Yn rheolaidd bydd dosbarthiadau dysgu Cymraeg yn cyfarfod yma dan nawdd y Brifysgol. Hefyd mae’r U3A ( Prifysgol y Drydedd Oes) yn cyfarfod yma’n wythnosol. Bydd arholiadau cerdd yma dair gwaith y flwyddyn a nifer o gyfarfodydd achlysurol eraill.

 

Myfyrdod 12.12.21 gan y Parchedig Ddr Elwyn Richards

Dyrchafwn ein calonnau atat ti, O Dduw; mor fawr wyt ti.
Ti yw ein gwaredwr; ti yw ein grym; ti yw ein nerth.
Ti sy’n rhoi dŵr bywiol i dorri ein syched ysbrydol.
Ti sy’n haelfrydig tu hwnt i’n dychymyg.
Ti sy’n rhoi rhoddion anghymharol.
Atat ti, O Dduw, dyrchafwn ein calon, codwn ein llygaid
a bloeddiwn ein haddoliad. Amen.

Luc 7:2-18

… ac yn amser archoffeiriadaeth Annas a Caiaffas, daeth gair Duw at Ioan fab Sachareias yn yr anialwch. Aeth ef drwy'r holl wlad oddi amgylch yr Iorddonen gan gyhoeddi bedydd edifeirwch yn foddion maddeuant pechodau, fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr geiriau'r proffwyd Eseia:
“Llais un yn galw yn yr anialwch,
‘Paratowch ffordd yr Arglwydd,
unionwch y llwybrau iddo.
Caiff pob ceulan ei llenwi,
a phob mynydd a bryn ei lefelu;
gwneir y llwybrau troellog yn union,
a'r ffyrdd garw yn llyfn;
a bydd y ddynolryw oll yn gweld iachawdwriaeth Duw.’ ”

Dywedai wrth y tyrfaoedd oedd yn dod allan i'w bedyddio ganddo: “Chwi epil gwiberod, pwy a'ch rhybuddiodd i ffoi rhag y digofaint sydd i ddod? Dygwch ffrwythau gan hynny a fydd yn deilwng o'ch edifeirwch. Peidiwch â dechrau dweud wrthych eich hunain, ‘Y mae gennym Abraham yn dad’, oherwydd rwy'n dweud wrthych y gall Duw godi plant i Abraham o'r cerrig hyn. Ac y mae'r fwyell eisoes wrth wraidd y coed; felly, y mae pob coeden nad yw'n dwyn ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a'i bwrw i'r tân.” Gofynnai'r tyrfaoedd iddo, “Beth a wnawn ni felly?” Atebai yntau, “Rhaid i'r sawl sydd ganddo ddau grys eu rhannu ag unrhyw un sydd heb grys, a rhaid i'r sawl sydd ganddo fwyd wneud yr un peth.” Daeth casglwyr trethi hefyd i'w bedyddio, ac meddent wrtho, “Athro, beth a wnawn ni?” Meddai yntau wrthynt, “Peidiwch â mynnu dim mwy na'r swm a bennwyd ichwi.” Byddai dynion ar wasanaeth milwrol hefyd yn gofyn iddo, “Beth a wnawn ninnau?” Meddai wrthynt, “Peidiwch ag ysbeilio neb trwy drais neu gamgyhuddiad, ond byddwch fodlon ar eich cyflog.”
Gan fod y bobl yn disgwyl, a phawb yn ystyried yn ei galon tybed ai Ioan oedd y Meseia, dywedodd ef wrth bawb: “Yr wyf fi yn eich bedyddio â dŵr; ond y mae un cryfach na mi yn dod. Nid wyf fi'n deilwng i ddatod carrai ei sandalau ef. Bydd ef yn eich bedyddio â'r Ysbryd Glân ac â thân. Y mae ei wyntyll yn barod yn ei law, i nithio'n lân yr hyn a ddyrnwyd, ac i gasglu'r grawn i'w ysgubor. Ond am yr us, bydd yn llosgi hwnnw â thân anniffoddadwy.” Fel hyn, a chyda llawer anogaeth arall hefyd, yr oedd yn cyhoeddi'r newydd da i'r bobl.

Myfyrdod

Cyfnod y paratoi yw’r Adfent. Yn y Testament Newydd yr un sy’n paratoi y bobl ar gyfer gweinidogaeth Crist yw Ioan Fedyddiwr. Ei neges oedd fod yn rhaid i’w ffordd o fyw newid.

Y mae’n eu rhybuddio na allent mwyach ddibynnu ar eu traddodiad crefyddol; ‘Peidiwch â dechrau dweud wrthych eich hunain, “Y mae gennym Abraham yn dad”

Y mae’n cynghori rhai i wneud newidiadau ymarferol yn eu byw bob dydd, megis pan ddywed wrth y casglwyr trethi; “Peidiwch â mynnu dim mwy na'r swm a bennwyd ichwi.”

Ac y mae’n tynnu sylw pawb at fawredd yr un fyddai yn ei ddilyn, sef Iesu Grist; ‘”…ond y mae un cryfach na mi yn dod. Nid wyf fi'n deilwng i ddatod carrai ei sandalau ef.”’

Nid oes rhyfedd fod i bregethu Ioan Fedyddiwr le amlwg yn yr Eglwys yn ystod tymor yr Adfent. O gymhwyso ei eiriau ar ein cyfer ni, gwelwn nad digon i ninnau ychwaith yw arddel y label Cristnogol, y dylai ein ffydd gael ei hadlewyrchu yn ein byw o ddydd i ddydd, a hynny wrth inni arddel Crist yn frawd a cheidwad. Meddai Morgan Rhys (C Ff 439);

Dyma Geidwad i'r colledig,
Meddyg i'r gwywedig rai;
dyma un sy'n caru maddau
i bechaduriaid mawr eu bai;
diolch iddo
byth am gofio llwch y llawr.

Gweddi
Mawl i ti, Arglwydd Dduw, Dad, Mab ac Ysbryd Glân.
Molwn di am y rhodd o dystion i’th gariad.
Diolchwn am dystiolaeth Ioan Fedyddiwr
a’i neges i’r bobl sy’n berthnasol i ni heddiw.
Yn ei stori a’i ddysgeidiaeth, gwelwn galon dy fod,
tegwch a chyfiawnder a chydraddoldeb i’th bobl.
Diolchwn i ti am y bywyd cyffredin bob dydd sy’n tystio
i’th allu a’th ogoniant.
Diolchwn i ti dy fod bob amser yn ein synnu
ac yn ein cyfarfod yn union ble rydym.
Diolchwn am dy oleuni yn ein hamseroedd tywyll ni,
am dy law pan fyddwn yn unig,
am dy arweiniad pan fyddwn yn ansicr.
I ti, ein Duw sydd dri yn un, cynigiwn ein mawl a’n diolchgarwch. Amen.

Emyn 479
Daeth Crist i'n plith, O llawenhawn,
a deued pawb ynghyd
i'w dderbyn a'i gydnabod ef
yn Geidwad i'r holl fyd,
yn Geidwad i'r holl fyd,
yn Geidwad, yn Geidwad i'r holl fyd.

Aed y newyddion da ar led,
awr gorfoleddu yw;
seinied pawb drwy'r ddaear gron
eu cân o fawl i Dduw,
eu cân o fawl i Dduw,
eu cân, eu cân o fawl i Dduw.

Boed ysbryd gwell rhwng gwlad a gwlad
heb ryfel, dig na chas,
a phlyged holl arweinwyr byd
i'w dderbyn ef a'i ras,
i'w dderbyn ef a'i ras,
i'w dderbyn, i'w dderbyn ef a'i ras.
Ein nerth a'n gobaith oll bob awr
yw ei Efengyl ef:
daeth Crist i'n plith, O llawenhawn,
Hosanna iddo ef,
Hosanna iddo ef,
Hosanna, Hosanna iddo ef!
J. R. JONES, Aberystwyth

Ctrl a chlic
https://youtu.be/NPByYGkKKjs

Côr Aelwyd y Waun Ddyfal a Bechgyn Bro Taf yn ymuno i ganu "Daeth Crist in Plith"!

Gweddi
Arglwydd, helpa ni i fyw mewn heddwch;
i fod yn ddewr;
i ddal ein gafael yn yr hyn sy’n dda;
i gryfhau’r gwangalon;
i gefnogi’r gwan;
i barchu pawb;
ac i garu a gwasanaethu’r Arglwydd.
Bydd o’n mewn ac yn ein plith,
ac aros gyda ni bob amser.
Amen.

Gweddïau oddi ar wefan Roots Ecumenical Partnership.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r myfryrdod

 

 



CIC Bang

Hwyl yr Haf

Gemau. Hwyl. Snacs.

Sgyrsiau am Iesu

Capel Brea Newydd, Bangor

7.30 - 9pm (yn ystod y tymor)

11 oed ac i fyny

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag andrew.settatree@ebcpcw.cymru

 

 


CIC Bang Bach

Hwyl yr Haf

I blant 7-11 oed

6.00 - 7.00 nos lun, Capel Berea Newydd Bangor.

Dyddiadau 2022

Medi 26
Hydref 3
Hydref 10
Hydref 17
Hydref 24
Tachwedd 7
Tachwedd 14
Tachwedd 21
Tachwedd 28
Rhagfyr 5
Rhagfyr 12
Rhagfyr 19


Cyfarfod Gweddi Wythnosol

Hwyl yr Haf

Dros blant, ieuenctid a theuluoedd Gofalaeth Bangor.

10:00yb, Dydd Llun,Ystafell 5, Capel Berea Newydd.

Croeso cynnes i bawb.

 

 

 

 

 


Gemau Yn Y Parc

Hwyl yr Haf

Plant 7-11 oed

Ieuenctid 11-18

Dydd Llun 8/8, 15/8, 22/8 | 4-5 YH

Cae Clwb Peldroed Penrhosgarnedd, Bangor LL572RX neu Capel Berea Newydd os fydd glaw

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag: andrew.settatree@ebcpcw.cymru

 

 


31.05.22 - Cyfarfod Gweddi
Dros waith plant, ieuenctid a theuluoedd y capel yn dechrau ar ddydd Llun Mehefin 20 am 10 ac y bydd yn rhedeg bob dydd Llun yn ystod y tymor yng Nghapel Berea newydd a thros zoom i'r rhai sydd eisiau


31.05.22 - Hwyl Yr Haf
Hwyl yr HafGweithgaredd I Blant 7-11 Oed
Gorffennaf 2, 2022 1.00-3:00 YH
Capel Berea Newydd, Rhodfa Dewi Sant, Ffordd Penrhos, Bangor, LL57 2AX

andrew.settatree@ebcpcw.cymru i gofrestru

Am Ddim. Darperir Snac A Diod.
Croeso I Rieni Aros Am Banad A Sgwrs

Poster Digwyddiad Hwyl Yr Haf


Cenn@d Rhifyn 15
TUDALEN FACEBOOK Gofalaeth Ardal Bangor - cliciwch yma


19.12.18 Nadolig llawen
Gweithgareddau ‘Llanllanast’ ym Merea
Nadolig llawen gan bawb sy efo’r Banc Bwyd yng Nghadeirlan Bangor. Diolch o galon am eich rhoddion hael yn ystod y flwyddyn.

 

 

 


08.01.18 Swyddog Plant ac Ieuenctid Newydd

Swyddog Plant ac Ieuenctid a Cyswllt Coleg y Bala: Owain Davies

Clwb CIC Bach – nos Lun am 6.15pm


30.10.17 Gweithgareddau ‘Llanllanast’ ym Merea
Gweithgareddau ‘Llanllanast’ ym Merea
Dydd llun 30 Hydref death rhai o aelodau eglwysi Emaus a Berea Newydd; Bethlehem, Abergwyngregyn a Bethania y Felinheli ynghyd i gynnal bore o weithgareddau ‘Llanllanast’ ym Merea. Trefnwyd pob math o weithgareddau crefft a chadw’n heini a chafwyd gwasanaeth bywiog dan arweiniad Dr Owain Edwards, Coleg y Bala. Roedd yn agos i gant o blant ac oedolion yn bresennol a chafwyd paned a lluniaeth i bawb yn y festri amser cinio.

Diolch i Owain Davies, Gweithiwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd Gofalaeth bangor a’r Cyffiniau am gymryd yr arwenau, ac i bawb fu’n cynllunio ac yn trefnu, ac i griw Coleg y Bala a’r gwirfoddolwyr eraill am eu cymorth.

Cliciwch yma i weld y lluniau.


29.pobl03.16 Bore Sul y Pasg

Yn blygeiniol ar fore Sul y Pasg cynhaliwyd oedfa dan nawdd Cytun Bangor ar y Gwersyll Rhufeinig uwchlaw'r Fenai. Arweiniwyd yr addoliad gan y Parchg Elwyn Richards a chymerwyd rhan gan gynrychiolwyr o eglwysi'r ddinas. Yna cafwyd brecwast i bawb yn eglwys Penrallt.



29.03.16 Bore Gwener y Groglith
pobl
Bore Gwener y Groglith bu i rai o aelodau Berea Newydd ymuno mewn taith o dystiolaeth a drefnwyd gan Cytun Bangor o eglwys Sant Ioan y Methodistiaid i lawr y Stryd Fawr at yr orsaf bysiau. Arhoswyd wrth y gadeirlan am enyd o fyfyrdod a chafwyd pregeth gan Eleri Jones o PenuelPendref ar ddiwedd y daith.



19.10.15 Cyfarfod Sefydlu ein Bugail Newydd
pobl
Nos Iau y 15ed o Fedi fe gynhaliwyd cyfarfod sefydlu ein bugail newydd, sef y Parchedig Ddoctor Elwyn Richards. Daeth cynulleidfa dda i’r gwasanaeth o eglwysi Bangor ac o eglwysi Henaduriaethau Arfon a Môn ac ymhellach. Cafwyd gwasanaeth hwyliog a bendithiol a phaned ar y diwedd i gloi’r noson mewn ysbryd o gyfeillgarwch a llawenydd.

Llywyddwyd y gwasanaeth gan Dr. W. Gwyn Lewis (Llywydd Henaduriaeth Arfon) a cymerwyd rhan gan y Parchedigion Gwenda Richards, Marcus Robinson, Eric Jones, Megan Williams, Olaf Davies, Richard Brunt ac Edwin O. Hughes. Byrdwn y gweddiau oedd gofyn am fendith ar yr ofalaeth a’i bugail newydd ac i’r holl aelodau beidio digaloni a llaesu dwylo ond yn hytrach i barhau i weithio’n frwdfrydig tros Grist gan fod gan pob aelod ei ran i chwarae a’i gyfraniad i wneud.

Cynrychiolwyd tair eglwys yr ofalaeth yn y gwasanaeth gan blant ac aelodau o’r eglwysi unigol a croesawyd y gweinidog i’w ofalaeth gan Mr John H. Wynn Jones. Soniodd am y cydweithrediad oedd yn bodoli rhwng y dair eglwys ac yn benodol am y cydweithio hapus a fu twy’r cyfnod penodi.

Wrth ymateb i’r croeso, diolchodd Dr. Richards i bawb a gymerodd ran yn y gwasanaeth ac i bawb oedd wedi dod i’w gefnogi. Dywedodd mor falch oedd o fod yng nghwmni ffrindiau a’i fod wedi cael croeso mawr yn barod. Ei fwriad a’i sicrwydd oedd cael cydweithio’n hapus a bendithiol yn yr ofalaeth ac adeiladu ar yr hyn a fu o’r blaen.

Rhoddwyd anerchiad gan y Parch Richard Brunt, ffrind coleg i Dr. Richards ac un sydd yn ei adnabod yn dda. Dewisodd ddameg y Gweithwyr yn y Winllan fel themau gan bwysleiso nad neges economaidd oedd y ddameg ond neges ysbrydol sef fod Duw yn rhoi i bawb yn ôl ei haelioni ei hun ac nid yn ôl haeddiant yr unigolyn. Dewisodd dri penawd perthnasol sef:-
• “Perspective” Newydd o drin pawb yr un fath a’i fod yn gydwybodol sicr mai felly y bydd y gweinidog newydd yn trin ei aelodau mewn ysbryd o gydweithio. Tystiolaethodd Richard Brunt am brofiad Elwyn Richards mewn addysgu, ei ddealltwriaeth o ddiwinyddiaeth a’i allu i bregethu.
Adeiladu perthynas gan mai hanfod gras yw perthynas. Ni allwn bwyso a mesur perthynas yn ôl safonau’r byd ac mewn gwir berthynas mae pawb yn cael eu trin yn gyfartal. Dyma un o nodweddion pennaf natur Elwyn Richards fel unigolyn a gweinidog, ac un sydd â’r ddawn i drin pobol. “Unrelenting” oedd y gair a ddefnyddiodd am ei agwedd at ei waith, un sydd yn llafurio’n ddibaid ond heb golli golwg ar bobol.
Meithrin parodwydd i fod yr un mor hael wrth bawb, ac un felly yw ein gweinidog newydd, yn hael â’i amser a’i gefnogaeth ac yn roddwr wrth natur, yn gwneud ei gymwynasau yn y dirgel ac yn gweithio’n dawel a thrylwyr.
Tynwyd y gwasanaeth i’w derfyn gan y Parch Edwin Hughes, un arall sydd yn adnabod Elwyn Richards yn dda.

Llongyfarchodd y gweinidog ar ei benodiad a diolchodd i bawb am wasanaeth bendithiol. Dymunodd pob bendith i’r ofalaeth a nododd y croeso amlwg a’r gefnogaeth oedd yn bodoli’n barod. Mewn gair wrth y gynulleidfa, gofynnodd iddynt i edrych ar ei ôl gan eu sicrhau fod ganddynt weinidog galluog a doeth tu hwnt a’i fod hefyd yn dipyn o gymêr. Rhoddodd ei sicrhad i bawb y bydd yn gweithio’n ddibaid trostynt ond i bawb gofio, mewn swydd sydd yn “24 x 7” rhaid cofio am y balans.


04.10.15 Oedfa Deulu
poblBore Sul , 4 Hydref, cynhaliwyd Oedfa Deulu ym Merea Newydd pryd y croesawyd ymwelwyr o India i'r gwasanaeth. Roedd Mr a Mrs Fidel War, a'u mab Hyyoio a'u merch Fiona, o Shillong yng Ngogledd Ddwyrain India, yn aros gyda Mr a Mrs Gwynn Angell Jones yn y Felinheli am rai dyddiau. Roeddynt wedi dyheu am gael ymweld â Chymru - y wlad a ddaeth a chenhadon a’r efengyl i fryniau Casia a Jaintia. Roeddynt hefyd eisiau olrhain hanes rhai o’r cenhadon meddygol fel Miss Marian Prichard fu’n byw yn Hen Golwyn ar ôl dychwelyd o’r maes cenhadol.

Mae gan Mr War gysylltiad swyddogol ag ysbyty Dr Norman Tunnel ym mhentref Jowai. Ef yw cadeirydd y pwyllgor rheoli ers chwe mlynedd ac mae newydd gael ei ail ethol am dair mlynedd arall.

Thema'r gwasanaeth oedd 'Perthyn i Deulu Duw' a chafwyd cyfle i sôn am y cysylltiad rhwng Cymru a Gogledd Ddwyrain India. Diolchodd Mr War hefyd am bob cymorth a dderbyniodd ysbyty Jowai gan aelodau Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac adroddodd y Gweinidog ychydig o hanes ei ymweliad ef â'r ysbyty .

Cyflwynwyd anrhegion i Mr War a'i deulu ar ran yr ysgol Sul a'r eglwys gan Ms Menna Baines, a diolchodd Mr Wyn Griffiths i bawb a gymerodd ran yn y gwasanaeth.


Cyfarfod Chwiorydd Henaduriaeth Arfon yn Eglwys Berea Newydd Nos Fawrth 19 Mai 2015
merched
Cafwyd noson ddifyr yn Eglwys Berea Newydd, nos Fawrth, 19 Mai, pan ddaeth Mrs Sarah Morris, Ysgrifennydd Adran Chwiorydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru, i anerch chwiorydd Henaduriaeth Arfon. Testun ei sgwrs oedd ‘Cynllun Dorcas’ Adran y Chwiorydd a dangosodd fel y gellid amrywio’r deunydd ar gyfer cynulleidfaoedd bach a mawr. Diolchodd y Llywydd, y Parchedig Gwenda Richards, i Miss Elsbeth Jones, yr Ysgrifennydd, am ei gwaith yn trefnu’r cyfarfod , ac i’r Trysorydd, Mrs Glenys Trainor, am ei llafur yn casglu cyfraniadau ariannol yr eglwysi. Chwiorydd Berea Newydd oedd yn gyfrifol am y Rhannau Dechreuol a hwy hefyd fu’n paratoi’r baned ar derfyn y cyfarfod. Diolchwyd iddynt gan y Llywydd.


CIC Bang
pobl ifancCynhaliwyd twrnamaint tennis bwrdd cyntaf erioed CIC Bang nos Fercher 3 Gorffennaf gyda 11 o bobl ifanc yn cymryd rhan. Gwahoddwyd Andrew Settatree o Gynllun EFE atom i roi trefn ar y cyfan. Roedd ganddo App arbennig ar gyfer trefnu rowndiau ac ef hefyd oedd dyfarnwr yr holl gemau. Gyda chyffro mawr y cystadu arall ym Wimbledon yn gefndir i’r cyfan ac Andy Murray newydd lwyddo i guro Verdasco ar ôl bod ar ei hôl hi er mwyn cyrraedd rownd gyn-derfynol, cafwyd cystadlu brwd a’r gefnogaeth yn hwyliog. Wedi’r rownd cyn derfynol cawsom sgwrs amserol gan Andrew yn sôn am y fuddugoliaeth fwyaf a geir yn Iesu. Yna cynhaliwyd y rownd derfynol gyda Gruff Pari yn curo Rhun Gwilym i ennill tlws arbennig CIC Bang. Llongyfarchiadau mawr iddo!

taflu dwr Gyda’r tywydd poeth wedi cyrraedd o’r diwedd rhaid oedd cael gweithgaredd i oeri rhywfaint felly ar 10 Gorffennaf trodd maes parcio Berea Newydd yn faes y gad gyda phawb wedi eu harfogi â gynnau dŵr, balwnau dŵr a bwcedi! Erbyn diwedd y noson roedd pawb wedi gwlychu at eu croen wrth i’r brwydro fynd yn fwy ffyrnig a’r bobl ifanc yn defnyddio tactegau cyfrwys i ddal y naill a’r llall. Dilwen a Delyth oedd yr unig ddwy a lwyddodd i gadw’n sych drwy’r cyfan oedd er iddynt gael eu defnyddio fel tarian sawl gwaith!

Daeth y flwyddyn i ben ar noson hafaidd ar 17 Gorffennaf gyda barbaciw ym maes parcio Berea Newydd. Daeth 16 o bobl ifanc ynghyd i fwynhau’r sgwrsio a’r chwarae wrth aros i’r bwyd goginio – ond roedd hi’n werth yr aros a phawn yn bwyta’n awchus! Braf oedd cael cwmni Ela yn ôl gyda ni wedi cwblhau ei chwrs Lefel A. Dymunwn yn dda iddi a phob cyn aelod arall o CIC Bang wrth iddynt gychwyn ar fywyd coleg ym Medi.


21.07.2013 - Bedyddio ym Merea Newydd

bedydd

Cafwyd gwasanaeth arbennig ym Merea Newydd ar Sul braf ym mis Gorffennaf.

Roedd Rhun Gwilym wedi ei dderbyn yn gyflawn aelod yn ddiweddar ond yn dymuno cael bedydd trochiad hefyd.

 

 

Benthycwyd bedyddfan symudol a cafwyd gwasanaeth hyfryd wrth i gyfeillion Rhun gymryd rhan yn y gwasanaeth ac yna daeth pawb allan o'r capel i dystio i'r bedydd o dan ofal y Gweinidog, Parch. Eric Jones.

 
bedydd

16.07.13 - Gŵyl Pen Tymor

Daeth blwyddyn yr Ysgol Sul i ben ar ddydd Sul 7 Gorffennaf gydag Oedfa Gŵyl Pen Tymor ym Merea Newydd. Cyfle yw hwn i ddathlu ac i ddiolch am y flwyddyn o weithgarwch yn yr Ysgol Sul ac i fyfyrio ar yr hyn a ddysgwyd yn y gwersi. Bu pob dosbarth yn brysur yn paratoi eitemau yn rhannu rhywfaint o weithgarwch y flwyddyn â’r gynulleidfa luosog. Defnyddiwyd caneuon a ddysgwyd ar gyfer Moliant y Plant ym Mehefin a chafwyd canu hwyliog i gyfeiliant Mrs Sioned Jones ar y piano. Dosbarthiadau’r plant lleiaf ddaeth ymlaen yn gyntaf i ganu Pwy wnaeth y sêr uwchben? a Cariad Iesu Grist. Yna cafwyd cyflwyniad ar ffurf cwis a thrafodaeth gan Ddosbarth Blwyddyn 5 a 6 ar hoff gymeriadau’r Hen Destament. Roeddent wedi paratoi’n fanwl, gan gynnwys clipiau fideo i wneud i’r gynulleidfa feddwl, ond gwnaed y cyflwyniad yn fyw ar y dydd, a hynny’n effeithiol iawn. Cawsom aros yn yr Hen Destament gyda chyflwyniad Dosbarth Blwyddyn 2 a 3 ar Josua a Brwydr Jericho a oedd yn cynnwys props ac effeithiau sain yn peri i ni chwerthin.

Aeth Dosbarth Blwyddyn 4 a 5 â ni i’r Testament Newydd gyda’u cyflwyniadau ar Fy Hoff Stori, pob un ohonynt yn stori am Iesu Grist neu’n un o ddamhegion Iesu. Dilynwyd hyn gan cyflwyniad CIC Bach, sef y gân Iesu yw Goleuni’r Byd, gan ddysgu’r gynulleidfa i ddawnsio llinell. Braf oedd cael y cyfle unwaith eto i ganu Gweddi’r Arglwydd ar alaw hyfryd Sioned Jones gyda’r holl blant yn ein harwain o’r blaen.

Crynhowyd y cyflwyniadau mewn sgwrs gan Delyth. Gyda help Siwan ac Owain yn defnyddio lego clywyd am bwysigrwydd gwrando a gwneud yr hyn mae Iesu yn ein dysgu ni, yn union fel yn stori Iesu am y ddau dŷ.

Wedi’r oedfa daeth nifer fawr o deuluoedd Berea Newydd i’r Gelli Gyffwrdd i fwynhau picnic a’r amrywiol weithgareddau hamdden sydd i’w cael yno. Cafwyd amser gwych yno yn y tywydd braf ac roedd pawb wedi mwynhau’n arw ond wedi blino erbyn amser mynd adref!

image
image
image


21:06:13 Parti Penblwydd Berea Newydd

teisen

Cafwyd noson hwyliog iawn i ddathlu 10 mlynedd ers i Eglwysi Presbyteraidd ardal Bangor ddod at ei gilydd i ffurfio Eglwys Berea Newydd. Ar noson braf ar ddydd hiraf y flwyddyn daeth tua 150 ynghyd i ddathlu yn Neuadd Hendre,Talybont ger Bangor.


Trefnwyd gemau i'r plant dan arweiniad Delyth Wyn Davies (Swyddog Plant ac Ieuenctid yr Ofalaeth), yna gwledd i bawb o fochyn wedi ei rostio cyn torri'r gacen penblwydd arbennig yn dangos llun y capel.

Cafwyd dawnsio gwerin hwyliog i gloi'r noson a Gareth Jones, un o'r blaenoriaid, yn galw.

Roedd y mochyn yn rhodd gan Geraint a Gwen Hughes a'r gacen yn rhodd gan Arwyn Evans ( blaenoriaid eraill)

Barn pawb a ddaeth i'r noson (heblaw'r mochyn) oedd i ni gael noson ardderchog a bod angen i ni ddathlu'r penblwydd bob blwyddyn o hyn ymlaen!

Dathlwyd yn Neuadd yr Hendre gyda 150 o bobl phlant yn bresennol nos Wener 21 Mehefin. Cliciwch yma i weld mwy o luniau.


10.05.13 - Diolch a Derbyn Aelodau ym Merea Newydd

Dydd Sul Mai 5ed cafwyd gwasanaeth teuluol arbennig ym Merea Newydd Bangor wrth i chwech o bobl ifanc gael eu derbyn yn gyflawn aelodau o’r eglwys. Bu’r chwech ohonynt, Meilyr Siôn Jones, Non Morris Jones, Gruff Rhys Pari, Daniel Glyn Roberts, Lea Glyn Roberts a Rhun Pyrs Gwilym yn aelodau ers blynyddoedd o glwb ieuenctid yr ofalaeth, CIC Bang, sy’n cyfarfod ym Merea Newydd bob nos Fercher. Buont hefyd yn ffyddlon i sesiynau’r Dosbarth Derbyn o dan ofal y Gweinidog, y Parch Eric Jones, ers Ionawr gan fynegi eu hawydd i ddod yn aelodau o’r Eglwys. Magwyd pump ohonynt ym Merea Newydd gan fynychu’r Ysgol Sul yn rheolaidd. Llawenydd yw croesawu’r chweched aelod, Rhun, a gafodd fagwraeth Gristnogol gan ei rieni ac mewn eglwysi eraill.

Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan ddau o blant ieuengaf yr eglwys, Gwion Siôn ac Eleri Roberts, yn cymryd eu tro i ddarllen Salm ac Emyn. Siaradodd Delyth Wyn Davies, y Swyddog Plant ac Ieuenctid, gyda’r plant oedd yn y gynulleidfa gan esbonio arwyddocad y gwasanaeth derbyn a chafwyd darlleniad gan un o aelodau ifanc yr eglwys, Caron Mai Pari, sy’n chwaer i Gruff. Arweiniwyd y ddefod o dderbyn y bobl ifanc yn aelodau gan y Gweinidog a chyflwynwyd Beiblau yn rhodd iddynt gan Delyth Marian Williams, athrawes dosbarth y bobl ifanc yn yr ysgol Sul a diolchwyd iddi am ei gwasanaeth hithau wrth i’w gwaith fel athrawes ddod i ben yn yr haf. Arweiniwyd y gynulleidfa mewn gweddi dros y bobl ifanc gan y Parch Ddr Alwyn Roberts sy’n Daid i Daniel a Lea, ac yna cafwyd pregeth bwrpasol gan y Parch Eric Jones. Wedi eu derbyn yn aelodau cafodd y chwe aelod ifanc dderbyn eu cymun cyntaf, a hynny o dan arweiniad y Gweinidog. Dymunwn bob bendith i Meilyr, Non, Gruff, Daniel, Lea a Rhun gan weddïo y byddant yn tyfu mewn ffydd ac ymddiriedaeth o’u Harglwydd.

Gorchwyl pleserus arall yn ystod yr oedfa oedd cael cyfle i fynegi diolchgarwch yr eglwys i Ralph a Laura Lewis ar eu hymddeoliad fel gofalwyr yr eglwys am y deng mlynedd ddiwethaf. Cyflwynodd y Gweinidog ein diolchgarwch diffuant a’n dymuniadau gorau iddynt ac ategwyd hyn gan drysorydd yr eglwys, Cynthia Owen, wrth iddi gyflwyno rhoddion iddynt ar ein rhan. Dymunwn iechyd a bendithion lu iddynt ar eu hymddeoliad.

Parhaodd yr awyrgylch gartrefol wedi’r oedfa pan wahoddwyd y gynulleidfa i’r festri i fwynhau sgwrs dros baned a phob math o ddanteithion melys.



Cyngerdd - Rhagfyr 2il

poster
Bydd cyfle i bobl Bangor a’r cylch glywed enillydd Gwobr yr Urdd Bryn Terfel eleni, gŵr ifanc sy’n byw yn eu plith. Mae’r myfyriwr Huw Ynyr Evans yn cymryd rhan mewn cyngerdd bnawn Sul yn un o gapeli’r ddinas, 2 Rhagfyr.

Mae Huw yn ei drydedd flwyddyn ym Mangor yn astudio cerddoriaeth. Y mis diwethaf llwyddodd y canwr o Rydymain, ger Dolgellau i ennill y wobr o £4,000 mewn noson yn Rhosllannerchrugog a ddangoswyd ar S4C.
Cynhelir y cyngerdd yng Nghapel Berea Newydd er mwyn codi arian at Apêl Guatemala, ymdrech Eglwys Bresbyteraidd Cymru eleni tuag at waith Cymorth Cristnogol yn y wlad honno.

Yn cymryd rhan hefyd mae un arall o fyfyrwyr Bangor, oedd yn un o’r chwech a fu’n cystadlu am Wobr Bryn Terfel y mis diwethaf. Roedd Lois Eifion wedi ennill ar yr Unawd Alaw Werin ac Unawd Offerynnol yn Eisteddfod yr Urdd Eryri.

Y trydydd canwr yw Dafydd Wyn Jones, enillydd yn y genedlaethol a’r Ŵyl Cerdd Dant. Bydd yr adroddwr lleol, Gethin Ellis, a dau sy’n canu’r utgorn, Carwyn Isac Sion a Tomos Ifan Lynch, yn cymryd rhan hefyd.
Arweinydd y cyngerdd fydd Nia Cerys, BBC Cymru.

Mae’r tocynnau’n £5 ac ar gael drwy ffonio 01248 364008.

Andrew Settatree Andrew Settatree - Gweithiwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd
Helo fy enw yd Andrew Settatree, o Hwlffordd yn wreiddiol. Rwyf newydd ddechrau yn fy ngwaith gyda Phlant, Ieuenctid a Theuluoedd i'r Capel. Mi fydda i'n ceisio helpu ail-sefydlu ein gweithgareddau plant, ieuenctid a theuluoedd a byddaf yn rhoi gwybodaeth am y rheini pan fyddant wedi cynllunio. Yn y cyfamser teimlwch yn rhydd i gysylltu gyda fi andrew.settatree@ebcpcw.cymru neu galwch heibio am sgwrs yn Nghapel Berea Newydd.

 


Gwybodaeth:

Enw’r Ysgol Sul: Ysgol Sul Berea Newydd
Lleoliad yr Ysgol Sul : Berea Newydd

Arolygwr: Ms Menna Baines
Swyddog Plant ac Ieuenctid: Andrew Settatree
Swyddfa Berea Newydd : 01248 353132

Athrawon : Amryw yn gweithio rota

Dosbarthiadau / Trefn yr Ysgol Sul : Bydd y plant yn aros yn yr oedfa am ran cyntaf y gwasanaeth a bydd y plant yn gyfrifol am ddarllen salm, ledio emyn a bydd cyfle iddynt adrodd eu hadnodau a’u penillion.

Byddant yn gadael i fynd i’r Ysgol Sul yn ystod yr ail emyn a bydd 6 dosbarth ar eu cyfer wedi trefnu yn ôl eu hoed.

Mae’r holl athrawon a chynorthwywyr wedi eu Gwirio efo’r DBS

Digwyddiadau: Bydd yr Ysgol Sul yn trefnu oedfaon arbennig ar amryw o achlysuron yn ystod y flwyddyn e.e Pasg, Diolchgarwch a’r Nadolig,

Bydd brecwast i’r plant a’r rhieni cyn yr oedfa adeg y Pasg.

Bydd cyfle i’r plant fynychu cyrsiau a phenwythnosau yng Ngholeg y Bala
Ceir y trip blynyddol i bawb o’r plant yn ystod yr haf.


EBRILL 2020

Owain Davies – Gweithiwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd Ardal Bangor.

Cafwyd sesiwn drymio hwyliog a swnllyd iawn yn y clybiau CIC gyda Mr Ifan Emyr.

  • CIC gyda Mr Ifan Emyr.
  • CIC gyda Mr Ifan Emyr.
  • CIC gyda Mr Ifan Emyr.

Plant clwb CIC Bach Llai yn brysur yn gwneud gweithgaredd Dydd Gŵyl Dewi.

  • Dydd Gŵyl Dewi.

Clwb CIC Felin wedi bod yn dysgu am fwydydd masnach deg ac wedi coginio cyri i’w rhieni gyda chynhwysion masnach deg.

  • Clwb CIC Felin

Project Omwabini

  • Project Omwabini
  • Project Omwabini

Cafodd y clybiau CIC gyflwyniad gan Mr Alun Prichard ynglŷn â’i waith arbennig gyda phrosiect yng Nghenia o’r enw Omwabini, gair Swahili sy’n golygu “camau achub”. Prif amcanion y project yw helpu pobl dlawd drwy;
. rhoi to uwch eu pennau
. sicrhau eu bod yn gallu tyfu bwyd i gynnal eu hunain
. sicrhau fod ganddynt ddŵr glân i’w yfed.

Bydd y plant a’r Ieuenctid yn codi arian dros y misoedd nesaf i gefnogi’r project.


Bedydd

Fore Sul y 8 Mawrth bedyddiwyd Gruffudd Hughes, mab Dan a Bethan, a brwad bach Nedw yng Nghapel Bethani, y Felinheli gan y Gweinidog, y Parchedig Ddr Elwyn Richards.

  • Bedydd

Capel Bethania - Y Felinheli

Ar nos Fercher 12fed o Chwefror. Cafwyd noson gymdeithasol i'r teulu cyfan, yn gwmni'r actor Llion Williams (mewn cymeriad) yn portreadu'r Esgob Wiliam Morgan. Gafwyd noson arbennig, gyda'r plant y capel yn cael y cyfle i fod yn rhan o'r perfformiad. Roedd pawb wedi mwynhau'r noson yn fawr iawn, gyda phaned a chacen yn diweddu'r noson.

  • Llion Williams

Cyflwyniad y Pasg 2020

Ar fore Dydd Gwener 13 Mawrth gwahoddwyd Ysgol Gynradd Glanadda Bangor i berfformiad o stori’r Pasg yng Nghapel Berea Newydd. Cyflwynodd tîm Agor Y Llyfr (cyfrwng Cymraeg), Bangor olygfeydd o’r Swper Olaf, Gardd Gethsemane, y Croesholiad a’r Atgyfodiad. Daeth y stori’n fyw i’r plant wrth iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol oedd yn atgyfnerthu’r stori.

  • Gwasanaeth Pasg
  • Gwasanaeth Pasg
  • Gwasanaeth Pasg
  • Gwasanaeth Pasg
  • Gwasanaeth Pasg
  • Gwasanaeth Pasg
  • Gwasanaeth Pasg

GORFFENNAF 2018
Wel mae’n ddiwedd y tymor ac rydym wedi cael llawer o phrofiadau a hwyl fel plant, ieuenctid a theuluoedd yr ofalaeth. Ga’i ddiolch am yr holl gefnogaeth rwyf wedi ei dderbyn gyda diolch arbennig i athrawon yr ysgol Sul i gyd. Dyma fraslun o beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen dros y misoedd diwethaf.

plant

 

MOLIANT Y PLANT – Aeth criw o Berea draw i gapel Bethania, Y Felinheli, ar gyfer Moliant y Plant fore Sul 13 Mai. Cafwyd canu hwyliog dan arweiniad Mrs Susan Williams a gwobrwywyd y plant am ddysgu’r Llafur Cof.


_______________________

plant
CIC FELIN – Rydym wedi cael tymor llwyddiannus yn Nghlwb CIC Felin gyda nifer o weithgareddau diddorol wedi eu trefnu. Bu’r plant ar helfa natur ac yn chwarae gêm rownderi. Bu rhai o’r aelodau hefyd ar drip bowlio deg ym Mharc Glasfryn a phawb wedi mwynhau.
Chwarae yn y parc
   
     
plant
plant
 
Bowlio Deg
Taith Natur
 

_______________________

saethu am y gol

ESTYN ALLAN – Rwyf fi fel gweithiwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd eisiau ymestyn allan at aelodau o’r gymuned leol sydd ar hyn o bryd ddim yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r Eglwys. Er mwyn cyflawni hyn hoffwn greu rhaglen allgymorth (*outreach) lle byddwn yn ymweld â digwyddiadau’r gymuned leol, ffeiriau haf ysgolion lleol a hefyd ddigwyddiadau a chlybiau mewnol yr Eglwys. Rydym yn sylweddoli bod gweithgaredd hwyliog yn hollbwysig er mwyn creu cysylltiad dechreuol gyda phobl ifanc, a dyna pam yr ydym wedi buddsoddi mewn gôl plastig llawn gwynt er mwyn denu diddordeb a chreu perthynas â phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Defnyddiwyd y gôl am y tro cyntaf yn Ffair Haf Ysgol y Garnedd. Roedd y plant yno wrth eu bodd gydag ef a chafwyd llawer o hwyl yn trio saethu’r bêl at y gôl.

_______________________

CYSTADLAETHAU PÊL-DROED – Cynhaliwyd cystadleuaeth pêl-droed CIC Bang yng Nghanolfan Brailsford nos Lun, 30 Ebrill. Y tîm buddugol y noson honno oedd Christopher, Morgan, Lewis, Llŷr a Gwion.

Yna, ganol Gorffennaf, dyma ddychwelyd i’r Ganolfan pan gafwyd noson hwyliog iawn yn nhwrnament Cwpan CIC yn erbyn clwb CIC Capel Noddfa, Caernarfon. Roedd dau dîm sef Berea FC a Berealona yn chwarae’n wych, gyda thîm Berealona yn fuddugol. Hefyd cafodd y criw hŷn gemau yn erbyn ei gilydd a gwelir yma lun o’r tîm buddugol.

______________________

Gwion Tegid GŴYL Y FELINHELI – Roedd hi’n wythnos brysur yng Ngŵyl y Felinheli ddiwedd Mehefin a dechrau Gorffennaf, gyda nifer o weithgareddau ar gyfer y teulu. Dyma rai lluniau i roi blas i chi.
Bu cyfle i hwylio yng Ngŵyl y Felinheli
Gwion Tegid
plant a phobl
 
Gwion Tegid o ‘Rownd a Rownd’ yn ymweld â’r stondin bêl–droed yn Ngharnifal Felin
Oedfa Gŵyl Felinheli gyda Dafydd Iwan
 
     
2 berson yn rhedeg Diolch i bawb a wnaeth fy noddi i redeg yn Ras 10K y Faenol i godi arian tuag at y gweithgareddau plant ac ieuenctid.
Peredur ac Owain yn ras 10K Gŵyl y Felinheli

_______________________

3 person

 

AGOR Y LLYFR – Sesiwn Agor y Llyfr yn Ysgol Glanadda. Dydw i ddim yn edrych yn cŵl iawn yn y wisg yma!

 


_______________________

3 person

RAS YR IAITH – Ddechrau Gorffennaf fe wnes i redeg yng nghymal Bangor o Ras yr Iaith, sy’n ras a gynhelir bob dwy flynedd i godi ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg ac i godi arian tuag at weithgareddau cymunedol sy’n ei hybu. Llwyddais i godi £70 – diolch i bawb wnaeth fy noddi unwaith eto ac i’r criw ddaeth draw i gefnogi.

 

_______________________

3 person

 

FLIP OUT – Aeth criw Ysgol Sul Berea a Chlwb CIC Bach Berea ar drip i Flip Out, Caer, dydd Sul, 15 Gorffennaf. Roedd yn hyfryd gweld cymaint o blant yn bownsio, chwerthin a chwysu!



_______________________

pobl a phlant

 

GWASANAETH Y MAER – gwybodaeth yn dod yn fuan ...






pobl a phlant

 

 

02.05.18 - Wel mae’r misoedd yn gwibio heibio ac mae’r plant, ieuenctid a theuluoedd wedi bod yn brysur!

sinema

Rhai o griw Cic Bach yn ymweld â’r sinema yn ddiweddar i wylio’r ffilm ‘Fernando’

CIC BANG – Mae’r criw bywiog yma yn cyfarfod bob nos Lun rhwng 7.30 a 9.00yh. Rydym wedi cael tymor o gystadlaeuthau bwrdd pêl-droed, snwcer a thenis bwrdd. Rydym yn mynd i Ganolfan David Brailsford Bangor nos Lun 30 Ebrill am dwrnament pêl-droed.

CIC BACH – Mae’r clwb yma yn cynyddu bob wythnos. Rydym wedi bod yn brysur yn chwarae gemau ac amrywiaeth o weithgareddau. Roedd y cwis yn hwyliog – mae’r aelodau’n blant galluog iawn! Mae’r clwb yn cyfarfod bob nos Lun rhwng 6.15 a 7.15yh.

 

 


BWRLWM PASG BEREA

02.05.18 - BWRLWM PASG BEREA – Cafwyd gweithgaredd Bwrlwm Pasg Berea ar ôl ein hoedfa deuluol ar 25 Mawrth. Bu’r plant yn gwneud pob math o bethau megis paentio wyau, rhedeg rasys wy ar lwy a chael helfa wyau Pasg, tra oedd yr oedolion yn mwynhau paned yn y festri.



02.05.18 - MOLIANT Y PLANT – Nodyn i'r dyddiadur: ar ddydd Sul 13 Mai bydd Moliant y Plant yn cael ei gynnal ym Methania, Y Felinheli, am 10yb. Yn ystod y gymanfa bydd plant ac ieuenctid sydd wedi cwblhau'r maes llafur cof yn cael eu gwobrwyo. Gofynnwn yn daer i aelodau Berea Newydd a Bethania gefnogi gweithgareddau'r Ysgol Sul drwy fynychu'r gymanfa os gwelwch yn dda. Mi fydd cludiant yn cael ei drefnu o Berea Newydd i Fethania; os hoffech fanteisio ar hynny cysylltwch gyda Mr Gwilym Roberts, Mr John Wynn Jones neu Owain.


GWASANAETHAU TEULUOL

02.05.18 - GWASANAETHAU TEULUOL – Dros y misoedd diwethaf rydym wedi cael tair oedfa deuluol lawn egni ac arddeliad ym Berea a Methania, a diolch yn fawr i’r plant, yr athrawon ysgol Sul, aelodau’r clybiau capel a’r rhieni am fod yn barod i gymryd rhan. Diolch hefyd i dîm Agor y Llyfr am gynorthwyo yn yr oedfa deuluol Sul y Blodau yn Merea.



CIC Bang

Wel mae wedi bod yn dymor llawn prysusrdeb a hwyl yma yn Merea Newydd. Dyma gip yn ôl ar y digwyddiadau.
CIC Bang
Mae’r clwb yn mynd o nerth i nert#h gyda thros 30 o blant oed uwchradd yn mynychu, o Flwyddyn 7 i fyny. Rydym wedi cael cystadleuaeth pêl-droed mewn cawell yn y maes parcio yn ogystal â nifer o weithgareddau hwyliog eraill.

Roedd ieuenctid clwb CIC Bang y capel yn awyddus i gyfrannu at Corwynt Cariad, apêl Eglwys Bresbyteraidd Cymru ar y cyd â Chymorth Cristnogol yn 2017 oedd yn codi arian i helpu pobl Ynysoedd y Pilipinas. Felly ar ddydd Gwener 27 Hydref cafwyd noson ddi-gwsg yn y festri. Cawsom lawer o hwyl ac amrywiaeth o weithgareddau i’n cadw’n ni’n effro! Roedd y cyfanswm a godwyd drwy’r digwyddiad hwn yn agos i £800 – diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran.


CIC Bach

Rhai o aelodau o clwb newydd CIC Bach

CIC Bach
Rydym bellach wedi sefydlu clwb newydd ar gyfer plant cynradd, blynyddoedd ysgol 3–6. Mae’r clwb yn cyfarfod bob nos Lun rhwng 6.15 a 7.15pm. Rydym yn cael llawer o hwyl!



Llan Llanast

Llan Llanast
Cafwyd ein sesiwn gyntaf o Llan Llanast yn y capel ar 31 Hydref. Addasiad o Messy Church yw Llan Llanast, a’r thema a ddewiswyd ar gyfer ein sesiwn agoriadol, a gynhaliwyd ar y cyd ag eglwys Emaus, oedd thema ‘ofn a dewrder’ a oedd yn amserol iawn a hithau’n Galan Gaeaf. Cafwyd gweithgareddau crefft a gemau a chyfle i glywed am gymeriadau o’r Beibl a fu ag ofn ond a fu’n gryf iawn mewn sefyllfaoedd anodd ar ôl iddynt droi at Dduw, sef Dafydd, Daniel, Esther a Ruth. Darparwyd cinio blasus iawn gan y chwiorydd ac yna cafodd pawb eu harwain mewn cân ac addoliad gan Siôn Williams o Goleg y Bala.
Diolch yn fawr iawn i bawb a fynychodd a hefyd i’r rhai a hoddodd help llaw ar y diwrnod yn ogystal â chefnogi gyda’r paratoadau. Roedd yr achlysur yn llwyddiant ac edrychwn ymlaen at y gweithgaredd Llan Llanast nesaf.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Ysgolion
Rwyf wedi bod yn brysur yn ymweld â’r ysgolion lleol yn cynnal gwasanaethau ac edrychaf ymlaen at wneud rhagor o hyn yn y tymor nesaf.


Gwasanaeth Plant

Gwasanaeth Plant
Llongyfarchiadau i blant yr ysgol Sul am gynnal gwasanaeth Nadolig gwych ac am holl waith caled yr athrawon Sul yn eu dysgu a’u cefnogi.


Siôn Corn a’r Syriaid

Siôn Corn a’r Syriaid
Siôn Corn a’r Syriaid

Ym mharti Nadolig yr Ysgol Sul, roedd Berea Newydd yn falch iawn o gael croesawu atom blant o Syria a’u rhieni, sydd bellach wedi cartrefu yn ardal Bangor.

Mae Cytûn Bangor yn cefnogi camau i greu ‘Ardal Noddfa’ yng ngogledd-orllewin Cymru, lle bydd mudiadau, cyrff a grwpiau o bob math yn uno i ddatgan eu bwriad i fod yn groesawgar tuag at ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae Abertawe, Caerdydd, Machynlleth, Wecsam ac ardaloedd eraill yng Nghymru eisoes yn Ddinasoedd Noddfa (CityofSanctuary.org). Mae camau ar y gweill i greu Cymru yn ‘Wlad Noddfa’. Fel rhan o hyn mae Berea Newydd wedi arwyddo i ymuno â’r Ardal Noddfa. Beth felly mae ‘croesawu ffoaduriaid ‘ yn ei olygu i gynulleidfa Gymraeg draddodiadol ym Mangor? Mae yna awgrymiadau ar y daflen dderbyniwyd:

Sut allai eich sefydliad neu eich grŵp groesawu pobl sy’n ceisio noddfa?

Gwahodd rhai sy’n ceisio noddfa neu rai o dramor i’ch gweithgareddau.
Codi ymwybyddiaeth o brofiadau ffoaduriaid a phobl o dramor.
*Ystyriwch wahodd rhywun sy’n ceisio noddfa i siarad â’ch grŵp.
Dod â phobl at ei gilydd
*Mae llawer o weithgareddau’n elwa ar gynnwys pobl o wahanol ddiwylliannau a rhannu syniadau/profiadau.
Gofalu am eich gilydd
Codi arian ar gyfer elusen ffoaduriaid neu bobl o dramor.

Wedi trafod efo’r bobl sy’n cefnogi’r ffoaduriaid, penderfynwyd rhoi taleb siop yn anrheg Nadolig, un i bob teulu, oddi wrth yr eglwys. Dywedodd y cefnogwyr y byddai’r teuluoedd (dros hanner dwsin ohonynt yn yr ardal) yn hoffi gweithgaredd i’r plant adeg Dolig. Dyna felly benderfynu gwahodd y teuluoedd (braidd yn betrus) i ymuno yn ein parti plant. Roeddem wrth ein bodd wedyn i glywed bod sawl un o’r teuluoedd wedi derbyn ein gwahoddiad, ac allan â ni i brynu mwy o ‘anrhegion Siôn Corn’ ar eu cyfer.

Siôn Corn a’r Syriaid


Pwy elwodd fwyaf o’u presenoldeb yn ein parti – ein hymwelwyr? Neu ni, yn cael ein hatgoffa am Iesu a’i deulu’n ffoaduriaid yn yr Aifft; yn cael ein hatgoffa am fywydau gwahanol iawn pobl ar ein stepan drws; yn gweld plant bach hardd yn ymlacio wrth fwyta cacenni a chwarae gemau efo plant eraill, a’r rhyfeddod ar eu hwynebau wrth iddynt gael eu sgwrs unigol eu hunain efo Siôn Corn?


Gwasanaeth Noswyl Nadolig

Gwasanaeth Noswyl Nadolig
Cafwyd gwasanaeth bendigedig noswyl Nadolig gan aelodau ifanc ein heglwys. Diolch iddynt am eu cydweithrediad, eu hamser a’u cefnogaeth. Mae gennym aelodau talentog iawn yma ym Merea!

 

Ichthus Pasg

Icthus Ebrill 2022

Ichthus Gorffennaf 2021

Ichthus Ebrill 2021 -

Ichthus Ionawr 2021

Ichthus Hydref 2020

Ichthus Ionawr 2020

Ichthus Hydref 2019

Ichthus Gorffenaf 2019

Ichthus Ebrill 2019

Ichthus Ionawr 2019

 

 

Ichthus Hydref 2018

Ichthus Gorffenaf 2018

Ichthus Ebrill 2018 - cliciwch yma

Ichthus Ionawr 2018 - cliciwch yma

Ichthus Hydref 2017 - cliciwch yma

Ichthus Gorffennaf 2017 - cliciwch yma

Ichthus Ebrill 2017 - cliciwch yma

Ichthus Ionawr 2017 - cliciwch yma

Ichthus Hydref 2016 - cliciwch yma

Ichthus Gorffennaf 2016 - cliciwch yma

Ichthus Ebrill 2016 - cliciwch yma

Ichthus Ionawr 2016 - cliciwch yma

Ichthus Hydref 2015 - cliciwch yma

Ichthus Gorffennaf 2015 - cliciwch yma

Ichthus Ebrill 2015 - cliciwch yma

Ichthus Ionawr 2015 - cliciwch yma

Ichthus Hydref 2014 - cliciwch yma

Ichthus Gorffennaf 2014 - cliciwch yma

Ichthus Ebrill 2014 - cliciwch yma

Ichthus Ionawr 2014 - cliciwch yma

Ichthus Hydref 2013 - cliciwch yma

Ichthus Gorffennaf 2013 - cliciwch yma

Ichthus Ebrill 2013 - cliciwch yma

Ichthus Ionawr 2013 - cliciwch yma

Ichthus Hydref 2012 - cliciwch yma

Ichthus Gorffennaf 2012 - cliciwch yma

Ichthus Ebrill 2012 - cliciwch yma

Ichthus Hydref 2011 - cliciwch yma

Ichthus Gorffennaf 2011 - cliciwch yma

Ichthus Ebrill 2011 - cliciwch yma

Ichthus Ionawr 2011 - cliciwch yma

Nid oes swydd ar hyn o bryd.

 

Isod mae lluniau o Berea Newydd. I weld y lluniau i gyd - cliciwch yma

mosaig lluniau berea newydd

Cliciwch yma i weld lluniau o Berea Newydd

 


ARCHIF

Myfyrdod 21 Tachwedd 2021

Gweddi
Frenin y brenhinoedd ac Arglwydd yr arglwyddi, ti yw ein Duw.
Roeddet ti’n bod cyn i amser ddechrau.
Mae dy lais di, Arglwydd Dduw, yn uwch na rhu’r moroedd.
Rwyt yn fwy grymus na thonnau aruthrol y môr.
Rwyt ti’n bod am byth bythoedd.
Rwyt ti wedi bod. Rwyt ti yn awr. Fe fyddi di.
Amen.

Salm 93
Y mae'r ARGLWYDD yn frenin; y mae wedi ei wisgo â mawredd,
y mae'r ARGLWYDD wedi ei wisgo, a nerth yn wregys iddo.
Yn wir, y mae'r byd yn sicr, ac nis symudir;
y mae dy orsedd wedi ei sefydlu erioed;
yr wyt ti er tragwyddoldeb.
Cododd y dyfroedd, O ARGLWYDD,
cododd y dyfroedd eu llais,
cododd y dyfroedd eu rhu.
Cryfach na sŵn dyfroedd mawrion,
cryfach na thonnau'r môr,
yw'r ARGLWYDD yn yr uchelder.
Y mae dy dystiolaethau'n sicr iawn;
sancteiddrwydd sy'n gweddu i'th dŷ,
O ARGLWYDD, hyd byth.

Myfyrdod
Neges y Frenhines Elizabeth i Synod Eglwys Loegr yr wythnos diwethaf oedd na all neb ohonom arafu treigliad y blynyddoedd. Bu newidiadau mawr, meddai, dros yr hanner canrif ers iddi fynychu’r Synod am y tro cyntaf, ond er cymaint y newid pwysleisiodd fod rhai pethau yn dal yr un fath, gan gynnwys neges Crist a’i Efengyl.

Cyflwynwyd araith y Frenhines yn ei habsenoldeb gan y Tywysog Edward a diau fod hynny wedi rhoi min ychwanegol i’w geiriau.

Awgrymodd rhai bod Salm 93 yn cael ei defnyddio gan yr Iddewon wrth iddynt orseddu brenin, ac y cai'r brenin yn Israel ei orseddu yn flynyddol. Bwriad hynny oedd atgoffa’r brenin na fyddai’r bobl am ei gael yn frenin arnynt pe na bai yn ymddwyn yn briodol, ac mai Duw ei hun oedd gwir frenin.

Amlygodd Duw ei frenhiniaeth yn y gorffennol drwy greu’r byd, ac wrth i’r brenin daearol gael ei orseddu datgenid fod Duw y Creawdwr yn frenin yn dragwyddol. Er i’r dyfroedd, sy’n cynrychioli pechod a drygioni, fygwth ei frenhiniaeth y mae Duw yn gryfach na’r cwbl.

Bwriad y Salmydd oedd gosod y brenin a’i deyrnas, byd a bywyd, mewn cyd-destun cywir. Y mae’r geiriau adnod olaf y Salm, sef ‘sancteiddrwydd sy’n gweddu i’th dŷ’ i’w gweld weithiau ar y pared mewn ambell i gapel, yn atgoffa’r addolwyr o fawredd Duw, a bod hynny yn gofyn am ymagwedd briodol ganddynt hwythau.

Gweddi o ddiolchgarwch
Am ehangder dy fodolaeth, ein Duw a’n brenin:
rhown ddiolch a mawl i ti.
Am dy addewid i fod gyda ni bob amser, ein Duw a’n brenin:
rhown ddiolch a mawl i ti.
Am roi dy wirionedd, ein Duw a’n brenin:
rhown ddiolch a mawl i ti.
Am dy lais sy’n ein galw, ein Duw a’n brenin:
rhown ddiolch a mawl i ti.
Am fywyd Iesu, ein Duw a’n brenin:
rhown ddiolch a mawl i ti.
Am dy Ysbryd Glân, ein Duw a’n brenin:
rhown ddiolch a mawl i ti.
Am yr addewid o’th deyrnas, ein Duw a’n brenin:
rhown ddiolch a mawl i ti.
Am addewid o’th groeso tragwyddol, ein Duw a’n brenin:
rhown ddiolch a mawl i ti.
Amen.

Emyn 223
Mawl fo i'r Arglwydd, sy'n Frenin gogoniant a mawredd:
clod i'r Goruchaf, a ddyry i'm henaid orfoledd:
tyred â'th gân,
salmau, telynau yn lân,
seinier ei fawl yn ddiddiwedd.

Mawl fo i'r Arglwydd, Penllywydd rhyfeddol pedryfan:
noddfa dragwyddol ei adain sydd drosot yn llydan:
cadarn yw'r Iôr,
ynddo i'th gynnal mae stôr,
amlwg i'th olwg yw'r cyfan.

Mawl fo i'r Arglwydd, bendithia dy ran yn dragywydd:
tywallt o'r nefoedd mae ffrydiau y cariad ni dderfydd:
enaid, erglyw!
gymaint yw gallu dy Dduw,
cariad hyd fyth a'th gyferfydd.

Mawl fo i'r Arglwydd, a'r cwbwl sydd ynof yn ennyn:
ef yw goleuni dy enaid bob dydd sy'n dy ddilyn:
holl lwythau'r byd,
cenwch yn llafar ynghyd:
moler hyd oesoedd diderfyn!
JOACHIM NEANDER, 1650-80 cyf. J. D. VERNON LEWIS, 1879-1970

Ctrl a chlic
https://youtu.be/7cEGb_l-Kts
Moyra Greaney

Gweddi i gloi
Crist ein Brenin,
sicrha ni o’th bresenoldeb gyda ni –
oherwydd rydym yn perthyn i ti.
Helpa ni i chwilio am y gwir ym mhob man,
i chwilio am dy lais di a gwrando arno,
ac i ddefnyddio dy rym i wasanaethu.
Tyrd â’r nefoedd i’r ddaear a theyrnasa yn ein bywydau.
Gweddïwn yn dy enw, Iesu Grist.
Amen.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r myfryrdod


Myfyrdod 14 Tachwedd 2021 sul y cofio

Micha 4:1-4
Yn y dyddiau diwethaf bydd mynydd tŷ'r ARGLWYDD
wedi ei osod ar ben y mynyddoedd
ac yn uwch na'r bryniau.
Dylifa'r bobloedd ato,
a daw cenhedloedd lawer, a dweud,
“Dewch, esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD,
i deml Duw Jacob,
er mwyn iddo ddysgu inni ei ffyrdd
ac i ninnau rodio yn ei lwybrau.”
Oherwydd o Seion y daw'r gyfraith,
a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.
Bydd ef yn barnu rhwng cenhedloedd,
ac yn torri'r ddadl i bobloedd cryfion o bell;
byddant hwy'n curo'u cleddyfau'n geibiau,
a'u gwaywffyn yn grymanau.
Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl,
ac ni ddysgant ryfel mwyach;
a bydd pob un yn eistedd dan ei winwydden
a than ei ffigysbren, heb neb i'w ddychryn.
Oherwydd genau ARGLWYDD y Lluoedd a lefarodd.

Myfyrdod
Daeth yn Sul y Cofio unwaith eto a bydd miloedd o bobl ar hyd a lled y byd heddiw yn ymgasglu wrth gofebion rhyfel i gofio am y rhai a gollwyd.
Yn 1920 dechreuwyd defnyddio’r pabi coch i goffáu colledion y Rhyfel Mawr - arfer a darddodd o’r ffaith fod y blodyn wedi ymddangos wrth y miliynau ar dir creithiog Ffrainc - ac yn 1933 dechreuwyd defnyddio’r pabi gwyn i gofio’r mamau, y gwragedd a’r plant a laddwyd. Does neb fu’n rhan o’r rhyfel erchyll hwnnw yn fyw bellach; bu farw Harry Patch, yr olaf o’r milwyr fu’n ymladd yn y ffosydd, yn 2009 yn 111 mlwydd oed.
Ni fu pall ar y cofio, er hynny, ac mae pob darlun o’r milwyr, y ffosydd, eu harfau, eu perthnasau a’u teuluoedd yn mynd a ni yn ôl i fyd a chyfnod sydd wedi llwyr ddiflannu.
Byd lle'r oedd yr economi yn llwyr ddibynnol ar nerth bôn braich y gweithwyr, byd lle nad oedd gan ferched fawr o hawliau, byd heb wasanaeth iechyd na chyffuriau gwrthfiotig, byd lle'r oedd gallu pobl i deithio yn gyfyngedig a chymdeithas yn llawer mwy sefydlog nag ydyw yn awr, a byd yma yng Nghymru lle'r oedd bywyd yn galed a thlodi’n gyffredin, a sefydliadau gwlad a chymuned i bob golwg yn gadarn.
Ac am fod ein byd ni mor wahanol y mae’n anodd inni ‘gofio’. Ac eto, y gwir yw mai pobl yw pobl ym mhob cyfnod, ac er gwaethaf y gwahaniaethau fe allwn uniaethu, i ryw raddau beth bynnag, â’r teimladau o ofn a cholled â nodweddai’r cyfnod.
Ni ddylem ni fod yn ddifater nac yn ddifeddwl wrth gofio. Mae cofio’n fwy na seremoni a thraddodiad, a dylai cofio fod yn fodd i’n dysgu a’n deffro a’n dwys-bigo i ddal ati i weithio dros gyfiawnder a heddwch.

Gweddi
O Dduw, dyneswn atat ti yn awr,
yn ymwybodol o golledion rhyfel ac yn gweddïo am heddwch.
Cyflwynwn i ti bawb y mae’r dydd hwn yn dwyn gofid a hiraeth i’w rhan
a gweddïwn dros bobloedd a gwledydd sydd wedi profi anrhaith ryfel a therfysg.
Rydym yn ymwybodol o’r effeithiau erchyll a gaiff lladd a brwydro ar aelodau’r lluoedd arfog, yn ogystal â’r boblogaeth sifil,
a gweddïwn dros bawb sy’n dal i ddioddef yn emosiynol a seicolegol o ganlyniad i’r hyn a ddigwyddodd, efallai flynyddoedd lawer yn ôl.
Bydd ar bob aelwyd lle mae galar,
ac ym mhob cwmni lle ceir gofid,
ac estyn dy dangnefedd di dy hun i bawb sydd mewn angen.
Gofynnwn hyn yn enw Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Emyn 844 ‘Efengyl tangnefedd’

Efengyl tangnefedd, O rhed dros y byd,
a deled y bobloedd i'th lewyrch i gyd;
na foed neb heb wybod am gariad y groes,
a brodyr i'w gilydd fo dynion pob oes.

Sancteiddier y ddaear gan Ysbryd y ne';
boed Iesu yn Frenin, a neb ond efe:
y tywysogaethau mewn hedd wrth ei draed
a phawb yn ddiogel dan arwydd ei waed.
Efengyl tangnefedd, dos rhagot yn awr,
a doed dy gyfiawnder o'r nefoedd i lawr,
fel na byddo mwyach na dial na phoen
na chariad at ryfel, ond rhyfel yr Oen.
EIFION WYN, 1867-1926

Ctrl a chlic
https://youtu.be/plYtkyjaQIE

Y Fendith
Rhodded Arglwydd tangnefedd
ei dangnefedd ei hun i ni
bob amser ac ym mhob man.
Yr Arglwydd a fyddo gyda ni oll. Amen.

 

Cliciwch yma i lawrlwytho'r myfyrdod

 

Myfyrdod 24.10.21 gan y Parchedig Ddr Elwyn Richards

Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a'm gwaredigaeth,
rhag pwy yr ofnaf?
Yr ARGLWYDD yw cadernid fy mywyd,
rhag pwy y dychrynaf? (Salm 27:1)

Cyflwynwn ein hunain i ti, ein Duw,
a rhoddwn ein ffydd ynot.
Gofynnwn am dy arweiniad a’th nerth
ac am y ddawn i ganfod yn eglur
y pethau hynny sydd o bwys,
ac y dylem sylwi arnynt.
Ac o weld, Arglwydd,
gad i ni hefyd weithredu yn dy enw,
a hynny gyda ffydd ac argyhoeddiad,
cariad a thrugaredd. Amen.

Iacháu Bartimeus Ddall (Marc 10: 46-52)
Daethant i Jericho. Ac fel yr oedd yn mynd allan o Jericho gyda'i ddisgyblion a chryn dyrfa, yr oedd mab Timeus, Bartimeus, cardotyn dall, yn eistedd ar fin y ffordd. A phan glywodd mai Iesu o Nasareth ydoedd, dechreuodd weiddi a dweud, “Iesu, Fab Dafydd, trugarha wrthyf.” Ac yr oedd llawer yn ei geryddu ac yn dweud wrtho am dewi; ond yr oedd yntau'n gweiddi'n uwch fyth, “Fab Dafydd, trugarha wrthyf.” Safodd Iesu, a dywedodd, “Galwch arno.” A dyma hwy'n galw ar y dyn dall ac yn dweud wrtho, “Cod dy galon a saf ar dy draed; y mae'n galw arnat.” Taflodd yntau ei fantell oddi arno, llamu ar ei draed a dod at Iesu. Cyfarchodd Iesu ef a dweud, “Beth yr wyt ti am i mi ei wneud iti?” Ac meddai'r dyn dall wrtho, “Rabbwni, y mae arnaf eisiau cael fy ngolwg yn ôl.” Dywedodd Iesu wrtho, “Dos, y mae dy ffydd wedi dy iacháu di.” A chafodd ei olwg yn ôl yn y fan, a dechreuodd ei ganlyn ef ar hyd y ffordd.

Myfyrdod
Un o bobl y cyrion oedd Bartimeus. Diau fod pawb yn Jericho yn gyfarwydd ag ef, ac wedi arfer ei weld yn cardota ar fin y ffordd. Pan ddaeth Iesu heibio y mae Bartimeus yn galw arno er na allai ei weld, ac er gwaethaf ymgais rhai o’r dyrfa i’w dawelu y mae’n mynnu tynnu ei sylw.

Un o themâu Efengyl Marc yw dallineb y disgyblion ynghylch pwy oedd Iesu mewn gwirionedd, ond y mae Bartimeus, er yn ddall, yn gweld yn eglur pwy ydoedd ac yn rhoi ei ffydd ynddo. Ni chawn unrhyw awgrym gan Marc o’r modd y teimlai Bartimeus y diwrnod hwnnw, ni wyddom a fu’n disgwyl yn hir am ei gyfle yn llawn cyffro a nerfusrwydd, yntau a’i gweithred fyrfyfyr oedd ei ymgais i dynnu sylw Iesu. Y cyfan a ddywedir yw iddo weiddi nes cael ei glywed, a hynny am ei fod wedi gweld y gwir er gwaethaf ei ddallineb.

Y mae dal ar y cyfle yn aml yn bwysig, ac fe all colli cyfle fod yn brofiad chwerw. Yr wythnos diwethaf darlledwyd drama ar BBC1(The Trick) wedi ei sylfaenu ar ddigwyddiadau yn union cyn y gynhadledd ryngwladol ar newid hinsawdd a gynhaliwyd yn Copenhagen yn 2009. Drwy ymosodiad ar y rhyngrwyd gan bobl oedd yn amau newid hinsawdd cipiwyd miloedd o e-bostau gan gynnwys rhai a berthynai i’r Athro Phil Jones, pennaeth uned ymchwil hinsawdd Prifysgol East Anglia. Honnwyd yn gwbl ddi-sail fod cynnwys rhai ohonynt yn awgrymu fod gwyddonwyr wedi gor-bwysleisio yn fwriadol effaith cynhesu byd eang, a dywedir i’r sylw a gafodd hynny ar y cyfryngau beri colli degawd cyn ymateb i’r argyfwng.

Y mae gweld y gwir yn bwysig yn ysbrydol ac yn ymarferol, a dengys hanes Bartimeus y cyswllt rhwng y naill a’r llall. Sylw olaf Marc yw bod Bartimeus, ar ôl iddo gael ei olwg yn ôl, wedi dechrau canlyn Iesu ar hyd y ffordd. Y mae sythwelediad ysbrydol yn arwain at weithredu ymarferol, bob amser.

Gweddi
Dduw y rhai bregus: addolwn di.
Dduw y rhai anabl: addolwn di.
Dduw y rhai sydd wedi torri eu calonnau: addolwn di.
Dduw y rhai ffyddlon: addolwn di.
Dduw sy’n iacháu: addolwn di.
Dduw gobaith: addolwn di.
Dduw llawenydd: addolwn di.
Dduw yr holl amseroedd: addolwn di.*

Diolchwn i ti, ein Tad, am dy ofal ohonom,
ac am dy drugaredd sydd yn ein hamgylchynu
a’r cariad sy’n cynnal ein bywyd.
Cyffeswn ein ffydd ynot,
a’r argyhoeddiad a blannwyd yn ein calon
drwy weinidogaeth yr Ysbryd Glân.
Maddau inni ein diymadferthedd,
a’n diffygion fyrdd,
a dyro inni olwg newydd arnat ti dy hun.
O agor fy llygaid i weled
dirgelwch dy arfaeth a'th air,
mae'n well i mi gyfraith dy enau
na miloedd o arian ac aur-,
y ddaear â'n dân, a'i thrysorau,
ond geiriau fy Nuw fydd yr un;
y bywyd tragwyddol yw 'nabod
fy Mhrynwr yn Dduw ac yn ddyn.

Cyflwynwn i’th sylw bawb sydd yn annwyl yn ein golwg,
gan gofio yn arbennig am y rhai o’n plith sy’n llesg a gwael.
Dymunwn dy fendith ar bawb sydd mewn ysbyty,
a’r rhai sydd mewn cartrefi preswyl
neu’n derbyn cymorth ar eu haelwydydd.
Bydd gyda hwy, fel yr wyt gyda ninnau,
a rho i bawb sy’n gweini ac yn gofalu
ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y gwaith
a’r dyfalbarhad i ddal ati heb ddiffygio.

A gweddïwn dros y byd, Arglwydd,
dros bobloedd a gwledydd,
gan ofyn am heddwch a chymod,
a chan gyflwyno i ti,
yn nhymor y diolchgarwch,
argyfwng ein byd a sefyllfa’r blaned.
Dyro inni dy ddoethineb,
fel y bydd i ni ymdrechu i achub y ddaear
a mendio’r byd,
a sicrhau cyfiawnder lle ceir annhegwch,
a heddwch lle ceir trais a gormes.

Gwrando ein gweddi,
a dyro i ni dy dangnefedd,
gan y gofynnwn y cyfan
yn enw Iesu grist, ein Harglwydd. Amen.

Emyn ‘Fel yr hydd’ (C.FF. 224)

Fel yr hydd a fref am ddyfroedd,
felly mae fy enaid i
yn dyheu am fod yn agos
er mwyn profi o'th gwmni di.

Ti dy hun yw fy nerth a'm twr,
a chyda thi, 'rwyf finnau'n siŵr
mai tydi yw serch fy nghalon,
ac O Dduw, addolaf di.

Gwell wyt ti nag aur ac arian,
dim ond ti all lenwi 'mryd:
ti dy hun rydd im wir lawenydd,
'rwyt ti'n werth y byd i gyd.

Ti yw 'Mrawd a thi yw 'Nghyfaill,
er mai'r Brenin ydwyt ti:
caraf di ganmil gwell na'r cwbl,
mwy na phawb a phopeth sy.
MARTIN NYSTROM cyf. PETER M. THOMAS a CASI JONES
Hawlfraint © 1983 Restoration Music Ltd Gweinyddir gan Sovereign Music UK, P.O. Box 356, Leighton Buzzard LU7 8WP

Ctrl a Chlic
https://youtu.be/FQPrBH1ttMU?list=PLKT-dLjgcumZgaO1lrcDYo-VCV4hOvzMO

Côr Merched Lleisiau'r Cwm – ‘Fel yr Hydd’

Gweddi
Arglwydd, boed i ni edrych allan i’th fyd â’th lygaid,
gwrando â’th glustiau,
a siarad a charu yn dy enw. Amen.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r myfyrdod


Myfyrdod 10.10.21 gan y Parchedig Ddr Elwyn Richards

Cawn yn y Beibl y pwyslais cyson fod Duw ar waith, a defnyddir sawl delwedd i gyfleu hynny. Un ohonynt yw’r ddelwedd o ddŵr bywiol, ac un o’r rhai sy’n cydio ynddi yw’r proffwyd Eseciel. Trigai ef ym Mabilon, ar lan yr afon Cheber, yng nghyfnod sych a diffrwyth y Gaethglud, ond tery nodyn gobeithiol yn ei broffwydoliaeth. Gwêl ddŵr yn llifo allan o ochr dde’r deml, gan ddyfnhau i fod yn afon fawr;

Yr Afon o'r Deml (Eseciel 47:1-12)
Aeth y dyn â mi'n ôl at ddrws y deml, a gwelais ddŵr yn dod allan o dan riniog y deml tua'r dwyrain, oherwydd wynebai'r deml tua'r dwyrain; yr oedd y dŵr yn dod i lawr o dan ochr dde'r deml, i'r de o'r allor. Yna aeth â mi allan trwy borth y gogledd, a'm harwain oddi amgylch o'r tu allan at borth y dwyrain, ac yr oedd y dŵr yn llifo o'r ochr dde.
Wrth i'r dyn fynd allan tua'r dwyrain â llinyn mesur yn ei law, mesurodd fil o gufyddau, a'm harwain trwy ddyfroedd oedd at y fferau. Yna mesurodd fil arall, a'm harwain trwy ddyfroedd oedd at y gliniau; a mesurodd fil arall, a'm harwain trwy ddyfroedd oedd at y wasg. Mesurodd fil arall eto, ond yr oedd yn afon na allwn ei chroesi, oherwydd yr oedd y dyfroedd wedi codi gymaint fel y gellid nofio ynddynt, ac yn afon na ellid ei chroesi. A dywedodd wrthyf, “Fab dyn, a welaist ti hyn?”
Yna aeth â mi'n ôl at lan yr afon. Pan gyrhaeddais yno, gwelais nifer mawr o goed ar ddwy lan yr afon. Dywedodd wrthyf, “Y mae'r dyfroedd hyn yn llifo i diriogaeth y dwyrain, ac yna i lawr i'r Araba ac i mewn i'r môr, y môr y mae ei ddyfroedd yn ddrwg, ac fe'u purir. Bydd pob math o ymlusgiaid yn byw lle bynnag y llifa'r afon, a bydd llawer iawn o bysgod, oherwydd bydd yr afon hon yn llifo yno ac yn puro'r dyfroedd; bydd popeth yn byw lle llifa'r afon. 1Bydd pysgotwyr yn sefyll ar y lan, ac o En-gedi hyd En-eglaim bydd lle i daenu rhwydau; bydd llawer math o bysgod, fel pysgod y Môr Mawr. Ni fydd y rhosydd a'r corsydd yn cael eu puro, ond fe'u gadewir ar gyfer halen. Ar y glannau oddeutu'r afon fe dyf coed ffrwythau o bob math, ac ni fydd eu dail yn gwywo na'u ffrwyth yn methu; ffrwythant bob mis, oherwydd bydd y dyfroedd o'r cysegr yn llifo atynt, a bydd eu ffrwyth yn fwyd a'u dail yn iechyd.”

Mae gweledigaeth Eseciel yn dwyn i gof yr afonydd oedd yn cwmpasu gardd Eden, y lle delfrydol hwnnw lle’r oedd bywyd yn haws ac yn hapus. Mae afon fywiol yn un o hoff ddarluniau awduron llyfrau’r ddau Destament. Mae Ioan, er enghraifft, yn sôn am Iesu Grist yn dod i Wŷl y Pebyll ac yn gwahodd ei gynulleidfa at ‘ffrydiau o ddŵr bywiol yn llifo’;

Ar ddydd olaf yr ŵyl, y dydd mawr, safodd Iesu a chyhoeddi'n uchel: “Pwy bynnag sy'n sychedig, deued ataf fi ac yfed. Allan o'r sawl sy'n credu ynof fi, fel y dywedodd yr Ysgrythur, y bydd ffrydiau o ddŵr bywiol yn llifo.” (7:37-38)

Yn ei esboniad ar lyfr Eseciel mae’r diweddar Barchedig Cynwil Williams yn cyfeirio at ddameg sy’n ein hatgoffa o ‘fywiol ddŵr Eseciel’;

Adeiladwyd eglwys mewn anialwch, mewn canrif gynnar, a datblygodd yn eglwys gadeiriol. Fe’i hadeiladwyd uwchben ffynnon, lle’r yfai pererinion blinedig ddŵr oer a phur ar eu teithiau. Ar y dechrau, pentwr o gerrig oedd yn dynodi’r fan. Deuai pob pererin â charreg at y ffynnon fel arwydd o ddiolchgarwch. Yn ddiweddarach, adeiladwyd y capel, ac wedi hynny, eglwys a thŵr iddi, ac allor o’i mewn. Fel y tyfodd poblogrwydd y llecyn, ychwanegwyd ato, ac ar ôl cyfnod hir, cyhoeddodd yr esgob ei bod yn gadeirlan.

Gyda’r canrifoedd, collodd yr eglwys ei hapêl. Gwelwyd llai yn tramwyo heibio iddi, ac ychydig o’r rheini oedd yn mynd iddi. Pa ryfedd? Nid oedd sôn mwyach am ffynnon iachusol. Fe’i collwyd dan dunelli o gerrig nadd a thywod. Yna, gorchmynnodd esgob effro’i feddwl i rai gloddio’n ddyfal am y fynnon. Daethpwyd o hyd iddi droedfeddi lawer o dan yr allor. Unwaith eto, gwelwyd mwy o bererionion yn galw i ddi-sychedu’u hunain. Cynyddodd eu rhif, a daeth yr eglwys, a fu’n llwydaidd farw, yn gyrchfan byw ac yn aelwyd ystbrydol eto.
(‘Gwae a Gobaith’ t.200)

A ninnau yn nhymor y diolchgarwch bydd canu eto ar emyn Cernyw (C. Ff. 65);

Am gael cynhaeaf yn ei bryd
dyrchafwn foliant byw;
fe gyfoethogwyd meysydd byd
gan fendith afon Duw

Y gamp o hyd fydd peidio gadael i afon y fendith gael ei chladdu dan adeiladwaith ein bywyd bob dydd.

Gweddi
Diolchwn i ti, ein Tad, am yr afonydd sy’n dyfrhau ein bywyd ac yn dwyn bendith.
Afon cyfeillgarwch a chymdeithas dda,
afon cymod a chyd-ddeall,
afon cymwynasgarwch a gwasanaeth.
Sylweddolwn i’r rhain lifo i’n byd yn ystod y misoedd diwethaf
gan liniaru ein gofid a rhoi inni obaith a llawenydd.
Maddau inni am fod mor ddibris ohonynt,
a gadael i gymaint o bethau rwystro eu llif.
Maddau ein dihidrwydd a’n hunanoldeb,
ein hamharodrwydd i newid,
a’r ysfa honno i ddilyn ein dyheadau yn ddifeddwl.
‘Crea galon lân ynom O Dduw’, yw ei gweddi,
‘A gosod ysbryd uniawn o’n mewn’,
fel y gwnawn yr hyn sy’n iawn yn dy olwg di,
ac y rhown ein bryd ar gynorthwyo’n gilydd.

Diolchwn i ti am fendith fawr yr efengyl,
ac am ddyfodiad Iesu Grist i’n byd;
am ei ddysgeidiaeth a’i esiampl,
ei gariad a’i drugaredd,
ei wahoddiad i bawb ddod ato,
a’i allu i iachau a mendio
holl ofidiau ein byd a’n cyfnod.
Boed i afon ei fendithion
lifo’n gryf i’n bywyd,
a’i ddŵr iachusol dorri ein syched,
wrth inni fyw a gweithio er ei fwyn
a threulio’n bywyd i’w glodfori.

Cyflwynwn iti bawb heddiw sy’n sychedig:
am gymod a heddwch,
am degwch a chyfiawnder,
am gysur a chynhaliaeth,
am ddiben i’w bywyd ac ystyr i’w byw,
a’r llawnder a’r tangnefedd
na all neb ond tydi dy hun ei roddi.

Bydd gyda hwy, fel yr wyt gyda ninnau,
a bendithia bawb sy’n annwyl yn ein golwg
ac a hoffai le yn ein gweddi.
Gofynnwn y cyfan yn enw ac yn haeddiant
Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Emyn ‘Mae d’eisiau di bob awr’

Ctrl a Chlic
https://youtu.be/Bc6r8e3wQnk
Richie Thomas

Y Fendith

Duw fo’n gysur ac yn nerth i ni;
Duw fo’n obaith ac yn gynhaliaeth i ni;
Duw fo’n llewyrch ac yn llwybr u ni;
a bendith Duw, Greawdwr, Waredwr a Rhoddwr bywyd,
a fo arnom yn awr a hyd byth. Amen.
(Llyfr Gweddi Seland Newydd)

Cliciwch yma i lwrlwytho'r myfyrdod


Myfyrdod 03.10.21

‘Yr hwn nid yw yn ein herbyn, drosom ni y mae.’

Galwad i addoli
Dewch, oherwydd mae pawb yn cael eu gwahodd.
Dewch, molwch ac addolwch yr un sy’n ein derbyn ni i gyd.
Dewch, oherwydd mae croeso i bawb, gwerth i bawb, a galwad i bawb.

Marc 9:38 – 50
Meddai Ioan wrtho, “Athro, gwelsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a buom yn ei wahardd, am nad oedd yn ein dilyn ni.” Ond dywedodd Iesu, “Peidiwch â'i wahardd, oherwydd ni all neb sy'n gwneud gwyrth yn fy enw i roi drygair imi yn fuan wedyn. Y sawl nid yw yn ein herbyn, drosom ni y mae. Oherwydd pwy bynnag a rydd gwpanaid o ddŵr i chwi i'w yfed o achos eich bod yn perthyn i'r Meseia, yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni chyll ei wobr.

Bu i Ioan, brawd Seimon Pedr, grybwyll wrth Iesu rhywbeth a ddigwyddodd pan oedd y disgyblion yn cenhadu. Clywsant rywun yn defnyddio enw Iesu i fwrw allan gythreuliaid, ac am nad oedd yn un ohonynt hwy, nac yn un o ddilynwyr eu meistr, bu iddynt geisio ei atal.
Ond yr oedd agwedd Iesu yn gwbl wahanol i agwedd ei ddisgyblion; ‘“Peidiwch â'i wahardd, oherwydd ni all neb sy'n gwneud gwyrth yn fy enw i roi drygair imi yn fuan wedyn. Y sawl nid yw yn ein herbyn, drosom ni y mae.”’

Taro nodyn cynhwysol a wna Iesu, a diau y gallwn ni heddiw weld yn ei eiriau anogaeth i’r Eglwys gydweithio â mudiadau sy’n rhannu’r un pryderon neu’r un weledigaeth â hi. Gall hynny fod yn berthnasol mewn sawl maes, megis newid hinsawdd, cymod a heddwch, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau o bob math.
Ond nid yw hynny’n wir bob amser. Yn Efengyl Mathew (12:30) cawn Iesu, mewn dadl â’r Phariseaid oedd yn ei gyhuddo o weithredu yn nerth Satan, yn dweud rhywbeth hollol groes i’r hyn a ddywed yma;

‘Os nad yw rhywun gyda mi, yn fy erbyn i y mae, ac os nad yw'n casglu gyda mi, gwasgaru y mae.’

Dyna bwyslais hollol i’r gwrthwyneb, ac y mae’r ddau bwyslais mor bendant â’i gilydd. Yr esboniad am hynny, mae’n debyg, yw’r cyd-destun. Weithiau mae’n rhaid bod yn gynhwysol, a thro arall y mae’n rhaid herio anwir. Y gamp yw dirnad pryd y mae’r naill agwedd a’r llall yn addas, a does ond ymlyniad wrth Iesu a ddengys hynny inni.

Gweddi
Ein Tad, diolchwn i ti am fywyd Iesu Grist,
ei weinidogaeth a’i wyrthiau,
ei ddysgeidiaeth a’i ddamhegion.
Diolch am y rhai a gadwodd y cof amdano yn fyw,
ac am bawb a drosglwyddodd y cof hwnnw o genhedlaeth i genhedlaeth,
ac am y rhai a gofnododd yr hanesion, a’r rhai a’u diogelodd er ein mwyn ni.

Cynorthwya ni, Arglwydd,
i ddarllen y Gair yn ddeallus,
ac i fyfyrio ar ei gynnwys yn weddigar,
ac o’i ystyried, byw yn ôl ei arweiniad.

Maddau inni pan fyddwn yn diystyru dy orchmynion
ac yn dilyn ein mympwy ein hunain.
Crea ymlyniad at y gwir yn ein calon,
a rho goleua ein meddwl,
fel y bydd yr hyn a wnawn yn unol â’th ewyllys,
a’r hyn a ddywedwn yn dyrchafu dy enw.

A lle bo dieithrwch, Arglwydd,
cynorthwya ni i greu cymdeithas;
lle bo gelyniaeth, cymod.
Dysg ni sut i groesawu a gwahodd,
cynnwys a chofleidio,
a hynny er clod a gogoniant i’th enw.

A phan fydd yn rhaid inni sefyll dros y gwir
rho dy ysbryd i’n cynorthwyo,
er mwyn i’n geiriau fod yn gadarn,
ein llais yn dyner,
a’n a’n gwen yn groesawgar.

Gofynnwn hyn yn enw ac yn haeddiant
Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Emyn - ‘Tyred Iesu i’r anialwch’ (C. Ff. 730)

Tyred, Iesu, i'r anialwch,
at bechadur gwael ei lun,
ganwaith ddrysodd mewn rhyw rwydau -
rhwydau weithiodd ef ei hun;
llosg fieri sydd o'm cwmpas,
dod fi i sefyll ar fy nhraed,
moes dy law, ac arwain drosodd
f'enaid gwan i dir ei wlad.

Manna nefol sy arna'i eisiau,
dwr rhedegog, gloyw, byw
sydd yn tarddu o dan riniog
temel sanctaidd, bur fy Nuw;
golchi'r aflan, cannu'r duaf,
gwneud yr euog brwnt yn lân;
ti gei'r clod ryw fyrdd o oesoedd
wedi i'r ddaear fynd yn dân.
Ar dy allu 'rwy'n ymddiried:
mi anturiaf, doed a ddêl,
dreiddio drwy'r afonydd dyfnion,
mae dy eiriau oll dan sêl;
fyth ni fetha a gredo ynot,
ni bu un erioed yn ôl;
mi â 'mlaen, a doed a ddelo,
graig a thyle, ar dy ôl.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

Ctrl a chlic
https://youtu.be/11vLTgu_P4Q?list=PLUB15kIfbqJzSByl7zzeeOF4WqLVOHVLw

Tyred Iesu i'r Anialwch - DCDC

Gweddi i gloi
Arglwydd Dduw,
bendithia ni a chadw ni.
A boed i ni fod yn fendith i eraill
ym mhopeth a feddyliwn ac a ddywedwn ac a wnawn.
Amen.

Codwyd yr Alwad i Addoli a’r Fendith oddi ar wefan ‘Roots Ecumenical Partnership’.

Cliciwch yma i lwrlwytho'r myfyrdod

 

Myfyrdod 26.09.21

Y mae’n rhaid i ni gyflawni gweithredoedd yr hwn a’n hanfonodd i tra mae hi’n ddydd. Y mae’r nos yn dod pan na all neb weithio’ (Ioan 9:4).

Daw’r adnod hon o hanes iachau y dyn dall yn Efengyl Ioan (Ioan 9:1-34), ac y mae’r neges yn syml – mae’n rhaid dal ar y cyfle.

Efallai bod rhai ohonoch yn cofio hysbyseb blaid Weriniaethol yn America ar drothwy etholiad arlywyddol 1984 pan oedd yr Arlywydd Regan wedi bod yn y Tŷ Gwyn ers pedair blynedd. Cynhyrchwyd hysbyseb deledu gan y Gweriniaethwyr yn dangos pobl America yn mynd i’w gwaith yn y bore, yn hapus a didaro, a’r wlad i bob golwg yn ffynnu’n economaidd, ac fe fathwyd y slogan ‘Mae’n fore yn America’.

Yn ei esboniad ar efengyl Ioan mae’r diweddar Isaac Jones, Abergele wrth ymdrin â hanes iachau’r gŵr dall yn rhoi cryn sylw i brofiad y gŵr a iachawyd; ‘Lle roeddwn gynt yn ddall, rwy’n gweld yn awr’ yw penawd ei ymdriniaeth. Roedd bore newydd wedi gwawrio yn hanes y dyn dall.

Dywed Isaac Jones fod y profiad o gael golwg newydd ar y byd yn eiddo pob Cristion sy’n ymwybodol fod Duw ar waith yn ei fywyd. Y sylweddoliad hwnnw, meddai, oedd y symbyliad i’r emynydd W Rhys Nicholas, lunio'r emyn mawreddog, ‘Tydi a wnaeth y wyrth, O Grist fab Duw’, a hynny ryw nos Sul wedi bod yn pregethu ar yr hanes yma ac yn ceisio dirnad y newid ddaeth i fywyd y gŵr dall.

Tydi a wnaeth y wyrth, O Grist, Fab Duw,
tydi a roddaist imi flas ar fyw:
fe gydiaist ynof drwy dy Ysbryd Glân,
ni allaf tra bwyf byw ond canu'r gân;
'rwyf heddiw'n gweld yr harddwch sy'n parhau,
'rwy'n teimlo'r ddwyfol ias sy'n bywiocáu;
mae'r Halelwia yn fy enaid i,
a rhoddaf, Iesu, fy mawrhad i ti. (C. Ff. 791)

Yn dilyn y wyrth mae’r dyn fu’n ddall yn cael ei ddwyn gerbron y Phariseaid sy’n ei holi am Iesu. Ond nid yw ef yn gallu dweud dim mwy wrthynt amdano na’i fod wedi ei iachau. Beth bynnag eu barn hwy, yr oedd ef yn sicr o’r hyn a ddigwyddodd iddo, ac er na allai esbonio’r peth, roedd yn bendant mai Iesu a’i hiachaodd. Ac meddai Isaac Jones;’Mae’ n bwysicach caru Crist na damcaniaethu amdano’!

Gweddi
Ein Duw, cyflwynwn ein hunain i ti,
a diolchwn am dy gariad mawr tuag atom.
Rhoddaist inni fywyd newydd trwy Iesu Grist dy Fab,
a dyna destun ein diolch a’n rhyfeddod.
Ynddo Ef y bu i ni ganfod y gwerth a osodaist arnom,
oherwydd bu Crist farw yn ein lle ac atgyfodi er ein mwyn.
O sylweddoli hynny, a gweld y byd yng ngoleuni dy gariad,
ciliodd ofn ac anobaith, a daeth hyder a goleuni i’n bywyd.
Maddau inni ein bod, er hynny, yn dal yn hoff o’r cysgodion,
ac yn ei chael yn anodd weithiau i roi ein ffydd yn llwyr ynot ti.
Cymorth ni yn ein gwendid,
ac arwain ni i’th adnabod yn well a’th garu’n fwy,
a thrwy hynny dy ddilyn yn ffyddlonach.

Cyflwynwn i’th sylw bawb sydd heddiw’n dioddef,
yn enwedig y rhai sydd yng ngafael gofid a phryder.
Cysura hwy, a bydd gyda’r cleifion ym mhob man,
a rhod dy nodded i bawb sydd mewn hiraeth.
Cyflwynwn ein gwlad a’n byd hefyd gerbron dy orsedd,
a gweddïwn am heddwch a chyfiawnder,
am ddoethineb i’n gwleidyddion,
a thosturi tuag at bawb sydd mewn angen,
ac am ysbryd anhunanol a maddeugar,
rydd les eraill yn gyntaf,
ac a ymdrecha i sicrhau ffyniant y ddaear.
Bydd gyda phawb sy’n annwyl yn ein golwg,
a bendithia ein haelwydydd a’n teuluoedd,
am y gofynnwn bopeth yn enw ac yn haeddiant Iesu Grist. Amen.

Emyn 791
Tydi a wnaeth y wyrth, O Grist, Fab Duw,
tydi a roddaist imi flas ar fyw:
fe gydiaist ynof drwy dy Ysbryd Glân,
ni allaf tra bwyf byw ond canu'r gân;
'rwyf heddiw'n gweld yr harddwch sy'n parhau,
'rwy'n teimlo'r ddwyfol ias sy'n bywiocáu;
mae'r Halelwia yn fy enaid i,
a rhoddaf, Iesu, fy mawrhad i ti.

Tydi yw haul fy nydd, O Grist y groes,
yr wyt yn harddu holl orwelion f’oes;
lle'r oedd cysgodion nos mae llif y wawr,
lle'r oeddwn gynt yn ddall 'rwy'n gweld yn awr;
mae golau imi yn dy Berson hael,
penllanw fy ngorfoledd yw dy gael;
mae'r Halelwia yn fy enaid i,
a rhoddaf, lesu, fy mawrhad i ti.
Tydi sy'n haeddu'r clod, ddihalog Un
mae ystyr bywyd ynot ti dy hun;
yr wyt yn llanw'r gwacter drwy dy air,
daw'r pell yn agos ynot, O Fab Mair;
mae melodïau’r cread er dy fwyn,
mi welaf dy ogoniant ar bob twyn;
mae'r Halelwia yn fy enaid i,
a rhoddaf, lesu, fy mawrhad i ti.
W. RHYS NICHOLAS, 1914-96

Ctrl a chlic
https://youtu.be/E0zz4zmEfL4
Pantyfedwen (Tydi A Wnaeth Y Wyrth) · Cymanfa Treforus

Y Fendith
Sancteiddia ni Arglwydd,
i’th wasanaeth
a helpa ni ag un galon ac un ysbryd
i gyfryngu dy wirionedd a’th oleuni i’r byd
fel y gwelo eraill ogoniant ein Harglwydd a’n Gwaredwr
Iesu Grist. Amen.
E ap N Roberts, Cymer fy Munudau, 2021, t.158.

Cliciwch yma i lwrlwytho'r myfyrdod


Myfyrdod 12.09.21

gan y Parchedig Ddr Elwyn Richards

MARC 8: 27-36

Datganiad Pedr ynglŷn â Iesu
Aeth Iesu a'i ddisgyblion allan i bentrefi Cesarea Philipi, ac ar y ffordd holodd ei ddisgyblion: “Pwy,” meddai wrthynt, “y mae pobl yn dweud ydwyf fi?” Dywedasant hwythau wrtho, “Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn, un o'r proffwydi.” Gofynnodd ef iddynt, “A chwithau, pwy meddwch chwi ydwyf fi?” Atebodd Pedr ef, “Ti yw'r Meseia.” Rhybuddiodd hwy i beidio â dweud wrth neb amdano.

Iesu'n Rhagfynegi ei Farwolaeth a'i Atgyfodiad
Yna dechreuodd eu dysgu bod yn rhaid i Fab y Dyn ddioddef llawer, a chael ei wrthod gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, ac ymhen tridiau atgyfodi. Yr oedd yn llefaru'r gair hwn yn gwbl agored. A chymerodd Pedr ef ato a dechrau ei geryddu. Troes yntau, ac wedi edrych ar ei ddisgyblion ceryddodd Pedr. “Dos ymaith o'm golwg, Satan,” meddai, “oherwydd nid ar bethau Duw y mae dy fryd ond ar bethau dynol.” Galwodd ato'r dyrfa ynghyd â'i ddisgyblion a dywedodd wrthynt, “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a'm canlyn i. Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i a'r Efengyl, fe'i ceidw.”

Myfyrdod
Bu’r drafodaeth am sut i dalu am ofal cymdeithasol ac ariannu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn llenwi’r newyddion yn ystod yr wythnos a aeth heibio. Dygwyd cynllun gerbron gan y Llywodraeth ond bu cryn feirniadu arno, a hynny’n bennaf am ei fod yn rhoi pen trymaf y baich ar yr ifanc. Diau nad oes ateb hawdd i’r broblem, a bydd pawb ohonom yn ei gweld o’n safbwynt ein hunan.

Felly yr oedd hi gyda gweinidogaeth Iesu hefyd, fel y dengys hanes yr hyn a ddigwyddodd pan holodd ef ei ddisgyblion pwy oedd pobl yn feddwl ydoedd? Cafwyd atebion amrywiol, ond yr oedd pawb i bob golwg yn cytuno ei fod yn rhywun o bwys. Yna, pan holodd Iesu ymhellach pwy yr oedd y disgyblion yn tybio ydoedd, Pedr sy’n ateb, a hynny heb flewyn ar dafod;“Ti yw'r Meseia.”

Roedd Pedr wedi penderfynu, yn ei feddwl ei hun, pwy oedd Iesu Grist, ac roedd ganddo ei ddisgwyliadau penodol amdano. Chwalwyd y disgwyliadau hynny pan aeth Iesu yn ei flaen i ddweud y byddai yn dioddef a marw ac atgyfodi! Doedd hynny ddim wedi dod i feddwl Pedr, ac y mae’n dwyn Iesu o’r neilltu i’w geryddu. Ond y mae Iesu’n bendant mai dyna’r gwir, ac y byddai’n rhaid i bawb a’i dilynai ef ddilyn yr un llwybr; “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a'm canlyn i.”

Heddiw y mae yna Gristnogion sy’n gorfod codi’r groes dan amgylchiadau o erledigaeth a gormes. Cofiwn am Gristnogion Afghanistan sydd mewn sefyllfa fregus eithriadol a bywyd rhai ohonynt o bosibl mewn perygl. Yn ôl mudiad ‘Open Doors’ sy’n cefnogi Cristnogion mewn gwledydd lle ceir erledigaeth dim ond Gogledd Korea sy’n lle mwy peryglus i Gristnogion ar hyn o bryd.

Ond beth amdanom ni? Beth yw ystyr codi’r groes i ni? Onid rhoi blaenoriaethau Duw o flaen ein blaenoriaethau ein hunain. Ystyried anghenion eraill, ac ymroi orau y gallwn i’w gwasanaethu? Os felly, yng nghanol bywyd go iawn y digwydd hynny; lle y mae’n rhaid llunio polisi a chodi arian a byw efo canlyniadau hynny.

Dwysawyd yr argyfwng yn y gwasanaeth iechyd a gofal gan Covid19. Ond onid dyna hefyd gefndir cymaint o’r ymroddiad, dewrder a charedigrwydd a welwyd dros y misoedd diwethaf. Bydd angen ymateb yr un mor gadarnhaol, creadigol ac anhunanol i sicrhau gofal cymdeithasol teilwng i’r dyfodol;

Gofynni godi’r groes,
A’th ddilyn, Iesu cu:
Mae’n dywyll nos a ninnau’n flin,
Er hyn dilynaf di.

F T Palgrave, cyf. Elfed

Gweddi
Dduw creadigol,
gelwaist ni i’th deyrnas,
a’n mabwysiadu fel dy blant.
Brynwr a Gwaredwr,
dangosaist i ni sut i fod yn wasanaethyddion,
gan ymwrthod â ni ein hunain er mwyn gwasanaethu eraill.
Ysbryd sy’n ein cynnal,
rwyt yn rhoi nerth i ni godi ein croes
i wasanaethu teyrnas Dduw.
Dysg ni i wasanaethu eraill,
a thrwy hynny, dy wasanaethu di.
Amen.

Gweddi o gyffes - ‘Pwy yw Iesu?’

Am yr adegau y gofynnwyd y cwestiwn hwn i mi,
a minnau yn ei chael yn anodd ateb:
Maddau i mi, Arglwydd, a rho i mi dy eiriau di i’w dweud.

Am yr adegau pan fu arnaf gywilydd dy gydnabod di:
Maddau i mi, Arglwydd, a gwna fi’n ddewr.

Am yr adegau y bu i mi ystyried materion dynol yn unig, ac nid rhai Duw:
Maddau i mi, Arglwydd, ac ehanga fy ngorwelion.

Am yr adegau pan welais gyfleoedd i fentro dros Dduw
ond i ofn neu betruster wneud i mi edrych i’r cyfeiriad arall:
Maddau i mi, Arglwydd, a chynydda fy hyder ynot ti.

Am yr adegau pan fyddaf yn cymryd dim ond y siocledi rwyf yn eu hoffi allan o dy focs:
Maddau i mi, Arglwydd, a gwna fi’n gyfan,
yn barod i wneud dy ewyllys da di.
Amen.


Emyn 710
Arglwydd Iesu, dysg im gerdded
drwy y byd yn ôl dy droed;
'chollodd neb y ffordd i'r nefoedd
wrth dy ganlyn di erioed:
mae yn olau
ond cael gweld dy wyneb di.

Araf fawn wyf fi i ddysgu,
amyneddgar iawn wyt ti;
mae dy ras yn drech na phechod -
aeth dy ras a'm henaid i;
paid rhoi fyny
nes im cyrraedd trothwy'r drws.

Ar fy ngyrfa dysg im weithio
gwaith y nef, wrth olau fydd,
nes im ddyfod yn gyfarwydd
a gorchwylion gwlad y dydd;
dysgu'r anthem
cyn cael telyn yn y côr.

Dysg im siarad yn fwy nefol,
fel preswylwyr pur y wlad;
dysg im feddwl, fel yr angel,
yn fwy annwyl am fy Nhad:
wedi'r dysgu,
ti gei'r mawl a'r enw byth.
ELFED, 1860-1953

Ctrl a chlic
https://youtu.be/-N9w6iQM_zs
Trebor Edwards

Gweddi
Dduw cariadlon,
ymrwymwn i’th ddilyn di yr wythnos hon
i’r corneli hynny o’n byd
y bydd yn well gennym eu hanwybyddu fel arfer.
Helpa ni i weddïo a siarad a gweithredu yn dy enw.
Amen.

Gweddïau oddi ar wefan Roots Ecumenical Partnership

Cliciwch yma i lwrlwytho'r myfyrdod


Myfyrdod 05.09.21

‘Croeso cynnes’

Gweddi

Gweddi

Dduw croesawus, rwyt yn ein gwahodd
i’th addoli.
Cynnal ni â’th bresenoldeb,
bwyda ni â’th air,
cryfha ni yn dy wasanaeth
ac anfon ni allan i fyw
bob dydd o’n bywydau, yn dy enw. Amen.

Yn y chweched bennod o efengyl Marc cawn Iesu a’r disgyblion yn ceisio dianc o afael y tyrfaoedd i gael llonydd; ‘Oherwydd yr oedd llawer yn mynd a dod ac nid oedd cyfle iddynt hyd yn oed i fwyta.’ (Mc. 6:31) Ond nid ydynt yn llwyddo, a dywedir yn y bennod sy’n dilyn y bu’n rhaid iddynt fynd i fyny i’r gogledd, i ardal Tyrus a Sidon, sydd heddiw yn Lebanon, i gael gorffwys. Er mai cenedl-ddynion oedd yn byw yno, mae'r sôn am Iesu yn mynd o’i flaen a daw gwraig nad oedd yn Iddewes ato i ofyn iddo iachau ei merch. Yna, a hwythau ar y ffordd yn ôl i Galilea mae dyn mud a byddar yn cael ei gludo at Iesu iddo’i iachau. 

Marc 7:24-34 (beibl.net)

Ffydd gwraig o Syro-Phoenicia

Gadawodd Iesu Galilea ac aeth i fyny i ardal Tyrus. Ceisiodd gadw'r ffaith ei fod yn aros yno'n gyfrinach, ond methodd. Yn wir, yn syth ar ôl clywed ei fod yno, daeth rhyw wraig ato a syrthio i lawr o'i flaen – roedd ganddi ferch fach oedd wedi'i meddiannu gan ysbryd drwg. Gwraig wedi'i geni yn Syro-Phoenicia oedd hi, dim Iddewes, ac roedd hi'n pledio ar i Iesu fwrw'r cythraul allan o'i merch.

Dwedodd Iesu wrthi, “Rhaid i'r plant gael bwyta beth maen nhw eisiau gyntaf. Dydy hi ddim yn iawn i bobl daflu bwyd y plant i'r cŵn.”

“Digon gwir, Arglwydd,” meddai'r wraig, “ond mae hyd yn oed y cŵn dan y bwrdd yn cael bwyta briwsion y plant.”

“Am i ti roi ateb mor dda,” meddai Iesu wrthi, “cei fynd adre; mae'r cythraul wedi gadael dy ferch.”

Felly aeth adre, a dyna lle roedd ei merch yn gorwedd ar ei gwely, a'r cythraul wedi'i gadael.


Iacháu dyn mud a byddar

Aeth Iesu yn ei flaen o ardal Tyrus a mynd drwy Sidon ac yna yn ôl i lawr at Lyn Galilea i ardal Decapolis. Yno daeth rhyw bobl a dyn ato oedd yn fyddar ac yn methu siarad yn glir, a gofyn iddo osod ei ddwylo ar y dyn a'i iacháu.

Aeth Iesu a'r dyn i ffwrdd o olwg y dyrfa. Rhoddodd ei fysedd yng nghlustiau'r dyn ac wedyn poeri ar ei fysedd cyn cyffwrdd tafod y dyn. Edrychodd i fyny i'r nefoedd, ac meddai gydag ochenaid ddofn, “Eph-phatha!”  (sy'n golygu, “Agor!”) Ar unwaith roedd y dyn yn gallu clywed a siarad yn glir.

Doedd dim llonydd i’w gael! Mae’r hanesion hyn yn dweud mwy na bod Iesu yn brysur a phawb am gael ei sylw, maent yn pwysleisio fod ei weinidogaeth yn croesi ffiniau a’i fod yn barod i newid ei gynlluniau i ateb gofynion unigolion. Er mai bwriad cyntaf gweinidogaeth Iesu oedd dwyn y newyddion da i’r Iddewon, y mae’n ymateb yn gadarnhaol i bobl eraill sy’n dod ar ei ofyn, a chofiwn ei sylw wedi cyfarfod y canwriad Rhufeinig hwnnw ddaeth i ofyn iddo iachau ei was; ‘Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni chefais gan neb yn Israel ffydd mor fawr.’ (Mth 8:10)

Yn ystod yr wythnosau diwethaf rydym wedi clywed llawer iawn o sôn am bobl Afghanistan sydd wedi gorfod ffoi o’r wlad. Mae llywodraeth Prydain wedi cytuno i dderbyn ugain mil o ffoaduriaid, a bydd pum mil yn cael cymorth i ymgartrefu yma yn weddol fuan. Enw swyddogol y cynllun i’w croesawu yw ‘Ymgyrch Croeso Cynnes’ (Operation Warm Welcome) ac ar y radio fore dydd Mercher diwethaf roedd yna drafodaeth ynghylch beth, tybed, a olyga estyn croeso cynnes iddynt?

(Woman’s Hour, Radio 4 dydd Mercher 1 Medi, 2021 https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m000z6cl)

Y peth pwysicaf, meddai rhywun, oedd bod yn garedig ac yn ymwybodol o’r amgylchiadau erchyll yr oeddynt wedi eu hwynebu. Cyrhaedda amryw ohonynt yn dioddef effeithiau trawma, ac wedi gorfod gadael teulu a chyfeillion ar ôl  mewn sefyllfaoedd peryglus. Bydd bod yn ystyriol o’u sefyllfa ac yn llawn cydymdeimlad â hwy yn hanfodol; a hyd yn oed os na  allwn yn bersonol wneud dim yn ymarferol i’w cynorthwyo, bydd inni fel Cristnogion feithrin agwedd felly yn y gymdeithas leol yn gam gwerthfawr iawn i’w croesawu. Hefyd mae mudiad ‘Pobl i Bobl’ wedi bod yn casglu nwyddau ar gyfer y ffoaduriaid o Afghanistan, ac yr wyf yn siŵr fod amryw ohonoch wedi cefnogi hynny

Mae hanesion y Testament Newydd yn darlunio ymwneud go iawn  Iesu â phobl ei gyfnod; weithiau mae’r amser yn anghyfleus, beirniadaeth pobl eraill ohono yn hallt, gwrthwynebiad yr awdurdodau yn chwyrn, a’i gefndir fel Iddew yn awgrymu wrtho, mae’n siŵr, y dylai fod yn wyliadwrus. Ond nid yw Iesu yn ymatal rhag cynorthwyo neb,  ac y mae ei esiampl wedi bod yn ysbrydoliaeth i’w ddilynwyr ar hyd y canrifoedd. Meddai’r Parchg Perer M. Thomas, Aberystwyth (C.Ff. 854);


Yn gymaint iti gofio un o'r rhain
a rhannu'n hael dy grystyn gyda'r tlawd,
a chynnig llaw i'r gwan oedd gynt ar lawr
a'i arddel ef yn gyfaill ac yn frawd,
fe'i gwnaethost, do, i'r Un sy'n Arglwydd nef,
a phrofi wnei o rin ei fendith ef.

Yn gymaint iti estyn llaw i'th god
a noddi'r gwaith a wneir mewn estron wlad
i wella cyflwr ac i adfer nerth,
a dwyn y gobaith am gael gwir iachâd,
fe'i gwnaethost, do, i'r Un sy'n Arglwydd nef,
a phrofi wnei o rin ei fendith ef.

Yn gymaint iti gofio'r rhai mewn cell
a rhannu dy gonsýrn i'r gwael eu stad,
a throi ar dro i rannu'r cysur sydd
gan sôn am Un sy'n gariad ac yn Dad;
fe'i gwnaethost, do, i'r Un sy'n Arglwydd nef,
a phrofi wnei o rin ei fendith ef.

Gweddi

Dduw hollgynhwysol a bythol-gariadus,
molwn ac addolwn di.
Gyda thi does dim gogledd na de,
dim gorllewin na dwyrain – dim ffiniau.
Rwyt yn gofalu am bob un ohonom.
Rwyt yn Dduw sy’n iacháu, sy’n ein hiacháu ni
lle bynnag a phryd bynnag y bydd arnom angen i ti ein cyffwrdd –
boed hynny mewn corff, meddwl neu ysbryd.
Edrychwn arnat yn awr,
a’n cariad tuag atat ti yn dân yn ein calonnau.
Amen.

Ctrl a Chlic

https://youtu.be/RVyWvJk7kY0 

Manon Lewis – ‘Rho dy law’

Gweddi i gloi

Dduw ein Gwaredwr,
rwyt ti’n agor y ffordd i fywyd
trwy gynnig i ni dy gariad.
Gorfoleddwn yn ein rhyddid,
ein hiachâd a’n gobaith.
Dysga ni i fod yn agored i eraill,
ac i groesawu a chynnwys pawb.
Yn enw Iesu.
Amen.

Cliciwch yma i lwrlwytho'r myfyrdod

Myfyrdod 29.08.21


Dyma myfyrdod 29.08.21 gan y Parchedig Ddr Elwyn Richards

Bu llawer iawn o sôn ar y newyddion yr wythnos diwethaf am y sefyllfa drychinebus yn Afghanistan a’r polisïau a arweiniodd at hynny. Cyfeiriwyd at benderfyniad Joe Biden, Arlywydd America, i ymddihatru o ryfeloedd fyddai, yn ei farn ef, yn ‘parhau am byth’. Dengys y sefyllfa’n eglur pa mor bellgyrhaeddol yw effeithiau gweledigaeth wleidyddol arbennig, a chyhuddwyd y Gorllewin o adael y wlad mewn llanast a’r boblogaeth mewn perygl.
Yn y chweched bennod ar hugain o Lyfr yr Actau y mae’r Apostol Paul y sôn am y weledigaeth Gristnogol a roddodd bwrpas a chyfeiriad i’w fywyd. Gwna hynny ar ôl cael ei ddwyn i’r ddalfa er ei ddiogelwch ei hun, a hynny’n dilyn y cynnwrf a barodd ei bregethu yn y Deml, pryd yr amlinellodd yr hyn a ddigwyddodd iddo ar y ffordd i Ddamascus flynyddoedd ynghynt.

Fe gawn hanes tröedigaeth Paul dair gwaith yn llyfr yr Actau. Luc, awdur y llyfr, sy’n dweud yr hanes ym mhennod 9, ond ym mhenodau 22 a 26 Paul ei hun sy’n adrodd y stori. Ag yntau o flaen ei well dywed wrth y brenin Agripa;

Actau 26:12-20

“Pan oeddwn yn teithio i Ddamascus ar y perwyl hwn gydag awdurdod a chennad y prif offeiriaid, gwelais ar y ffordd ganol dydd, O frenin, oleuni mwy llachar na'r haul yn llewyrchu o'r nef o'm hamgylch i a'r rhai oedd yn teithio gyda mi. Syrthiodd pob un ohonom ar y ddaear, a chlywais lais yn dweud wrthyf yn iaith yr Iddewon, ‘Saul, Saul, pam yr wyt yn fy erlid i? Y mae'n galed iti wingo yn erbyn y symbylau.’ Dywedais innau, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dywedodd yr Arglwydd, ‘Iesu wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. Ond cod a saf ar dy draed; oherwydd i hyn yr wyf wedi ymddangos i ti, sef i'th benodi di yn was imi, ac yn dyst o'r hyn yr wyt wedi ei weld, ac a weli eto, ohonof fi. Gwaredaf di oddi wrth y bobl hyn ac oddi wrth y Cenhedloedd yr wyf yn dy anfon atynt, i agor eu llygaid, a'u troi o dywyllwch i oleuni, o awdurdod Satan at Dduw, er mwyn iddynt gael maddeuant pechodau a chyfran ymhlith y rhai a sancteiddiwyd trwy ffydd ynof fi.’
“O achos hyn, y Brenin Agripa, ni bûm anufudd i'r weledigaeth nefol, ond bûm yn cyhoeddi i drigolion Damascus yn gyntaf, ac yn Jerwsalem, a thrwy holl wlad Jwdea, ac i'r Cenhedloedd, eu bod i edifarhau a throi at Dduw, a gweithredu yn deilwng o'u hedifeirwch.”

Dywed Paul i’r hyn a ddigwyddodd iddo ar y ffordd i Ddamascus newid ei fywyd yn llwyr. Trodd yr erlidiwr yn genhadwr a bu’n ddiatal ei ymroddiad i’r gwaith o sôn am Iesu Grist a galw ar bawb i’w ddilyn. ‘Ni fûm anufudd i'r weledigaeth nefol’ meddai wrth Agripa, ac y mae’r weledigaeth honno wedi bod yn gymhelliad ac yn ganllaw i genedlaethau o Gristnogion ar hyd y canrifoedd. Y mae’n weledigaeth sydd iddi led a dyfnder, y mae’n cwmpasu bywyd i gyd ac yn gorffwys ar yr argyhoeddiad o gariad Duw, waned yn amlwg yn Iesu Grist. Rhaid wrth fywyd cyfan ac ymroddiad llwyr i’w gwireddu.

Bu D.S. Owen yn weinidog capel Jewin yn Llundain o 1915 i 1959. Dinistriwyd y capel yn ystod yr Ail Ryfel Byd ond adeiladwyd capel newydd ar y safle yn Fann Street, nepell o safle canolfan y Barbican heddiw. Bu farw D S Owen ychydig cyn agor y capel newydd ac ym mis Mawrth 1962 dadorchuddiwyd ffenestr goffa iddo ac arni’r geiriau ‘ni fûm anufudd i'r weledigaeth nefol’. Yng ngwasanaeth agoriadol y capel newydd gwnaeth aelodau Jewin adduned ddwys oedd yn adlewyrchu eu gweledigaeth Gristnogol:

'Addunedwn hefyd ein cysegru ein hunain i’w wasanaeth Ef. Gweddïwn am i bawb a fyddo’n addoli rhwng y muriau cysegredig hyn dderbyn goleuni a nerth ar gyfer holl amgylchiadau bywyd. Amlyged yr Arglwydd ei hun, megis yn y dyddiau gynt, fel y gwasanaethom Ef i ryngu ei fodd, er gogoniant i’w Enw tragwyddol, ac er lledaeniad ei Deyrnas.’

Emyn

‘O am fywyd o Sancteiddio’ (Prysgol)
https://youtu.be/2kfsTJX7MV8
Hogia’r Ddwylan

Gweddi

Diolchwn, Arglwydd, am bawb a fu môr ffyddlon i weledigaeth fawr y Ffydd. Gwna ni yr un mor ddyfal â’r rhai a aeth o’n blaen, yn cadw’r fflam ynghyn. Dyro inni’r un argyhoeddiad tanbaid, a’r un ddawn nefol, a’r un neges felys fydd yn troi eraill eto atat ti, ac yn peri helaethu dy Deyrnas yn ein plith.
Diolchwn am Iesu Grist a ddatguddiodd i ni mai ‘Duw, cariad yw.’ Diolchwn am ei fywyd glân a’i weinidogaeth dirion, am ei wyrthiau a’i ddamhegion, ei eiriau o gysur a’i gerydd a’i farn. Dysg i ni bwyso mwy ar ei addewidion a rhoi ein ffydd yn ei neges, a’n hysgwydd dan ei groes.
Diolchwn am farw aberthol Crist a’i atgyfodiad o’r bedd, a’r addewid o’i bresenoldeb gyda ni drwy’r Ysbryd Glân. Boed i’r Ysbryd hwnnw a gyffrôdd y disgyblion gynt ein bywiocau ninnau, a’n gwneud yn ‘fwy na choncwerwyr, trwy’r hwn a’n carodd ni’.
Cyflwynwn i ti ein hanwyliaid a’n cyfeillion, a phawb sydd mewn angen. Cofiwn yn arbennig am amgylchiadau trist ac argyfyngus pobl Afghanistan, a gweddïwn y gwelir yno cyn hir gymod a chyfiawnder a heddwch.
Bydd gyda phawb heddiw sydd angen dy gwmni, a thywallt dy fendith arnom, gan faddau inni bob pechod a bai. A hynny nid am fod ynom ni haeddiant, ond am y gofynnwn bopeth yn enw ac yn haeddiant Iesu Grist. Amen.

Y Fendith

I’n Duw ni y bo’r mawl
a’r gogoniant a’r doethineb a’r diolch
a’r anrhydedd a’r gallu a’r nerth
byth bythoedd! Amen.

Cliciwch yma i lwrlwytho'r myfyrdod


Myfyrdod 22.08.21

 

Ioan 16:1-4, 32-33

“Yr wyf wedi dweud y pethau hyn wrthych i'ch cadw rhag cwympo. Fe'ch torrant chwi allan o'r synagogau; yn wir y mae'r amser yn dod pan fydd pawb fydd yn eich lladd chwi yn meddwl ei fod yn offrymu gwasanaeth i Dduw. Fe wnânt hyn am nad ydynt wedi adnabod na'r Tad na myfi. Ond yr wyf wedi dweud y pethau hyn wrthych er mwyn ichwi gofio, pan ddaw'r amser iddynt ddigwydd, fy mod i wedi eu dweud wrthych…
Edrychwch, y mae amser yn dod, yn wir y mae wedi dod, pan gewch eich gwasgaru bob un i'w le ei hun, a'm gadael i ar fy mhen fy hun. Ac eto, nid wyf ar fy mhen fy hun, oherwydd y mae'r Tad gyda mi. Yr wyf wedi dweud hyn wrthych er mwyn i chwi, ynof fi, gael tangnefedd. Yn y byd fe gewch orthrymder, ond codwch eich calon, yr wyf fi wedi gorchfygu'r byd.”

Myfyrdod

‘Yn y byd gorthrymder a gewch: eithr cymerwch gysur, myfi a orchfygais y byd.’

Perthyn i hanes y Pasg y mae’r adnodau hyn o efengyl Ioan. Cawn Iesu yn yr oruwch ystafell y noson cyn y Groglith, ac wedi golchi traed ei ddisgyblion aiff rhagddo i siarad â hwy gan geisio eu paratoi ar gyfer ei ddioddefaint a’i farwolaeth, a chyflwyno iddynt beth o obaith yr atgyfodiad. Pwysleisia berthynas ganolog y disgyblion â’r Tad drwyddo ef, ond y mae hefyd yn eu rhybuddio y daw ofn a gorthrymder i’w rhan.

Diau i’w eiriau, gofnodwyd gan Ioan, fod yn gysur ac yn galondid i genedlaethau o gredinwyr. Dywed yr Efengyl, nid yn unig i Iesu drwy ei Ymgnawdoliad rannu ein profiad a’n bywyd, ond iddo hefyd orchfygu’r byd â chariad. Er ei bod yn anodd gweld yn union weithiau beth a olyga gweithredu cariad yn ymarferol mewn sefyllfaoedd penodol, gallwn ddal gafael ar yr argyhoeddiad daufiniog mai ffordd cariad yw ffordd Duw, ac mai cariad fydd yn fuddugoliaethus yn y diwedd.

O fod mewn cymundeb a chytgord perffaith â Duw gall Iesu gynnig tangnefedd i’w ddisgyblion. Yn ôl y Llythyr at y Galatiaid mae tangnefedd yn un o ffrwythau’r Ysbryd Glân (Gal 5:22) ac y mae’n llawer mwy nag absenoldeb gwrthdaro, ymryson ac ymrafael. Roedd Iesu Grist, meddai Ioan, yn feddianol ar dangnefedd noson ei fradychu! Y mae hefyd yn gadael ei dangnefedd yn rhodd i’w ddisgyblion.

Gweddi

Arglwydd Iesu, mewn byd cythryblus, lle ceir gwrthdaro, gelyniaeth a dinistr, trown atat ti.
Ceisiwn dy dangnefedd a’th gysur,
a rhoddwn ein ffydd a’n hyder yng ngwirioneddau dy efengyl.

Daethost atom mewn gwendid, a datguddio dy hun yn orchfygwr,
aethost oddi amgylch gan wneuthur daioni, ond ni fu i bawb dy groesawu,
ceraist dy elynion, gan roi dy fywyd yn bridwerth dros lawer.

Yng nghanol dryswch ein cyfnod helpa ni
i wrando dy eiriau’n fwy gofalus,
i ganfod yn dy neges fwy eglur,
i ddilyn dy esiampl yn fwy agos,
ac i adlewyrchu dy gariad hunanaberthol a dioddefus.

Cyflwynwn i ti ein byd
sy’n ymddangos heddiw’n rhwygedig a llawn trallod.
Cofiwn ger dy fron drigolion Haiti ddioddefodd effeithiau dinistriol daeargryn,
a phoblogaeth Afghanistan sy’n byw drwy gyfnod o ofn a dychryn ac ansicrwydd mawr.
Yn dy drugaredd, gwrando ein gweddi ar eu rhan,
a bydd gyda phawb sy’n gofidio am anwyliaid,
a’r claf a’r unig a’r profedigaethus ym mhob man.
Cysura ac atgyfnertha hwy, ac arwain arweinwyr byd i lwybrau cyfiawnder a heddwch.
Gofynnwn y cyfan yn dy enw. Amen.

Gweddi’r Arglwydd

 

Ctrl a chlic

https://youtu.be/3vQX08k8x0g

Emyn – ‘Bydd yn wrol, paid a llithro’ (C.Ff. 735)

Bydd yn wrol, paid â llithro,
er mor dywyll yw y daith
y mae seren i'th oleuo:
cred yn Nuw a gwna dy waith.
Er i'r llwybyr dy ddiffygio,
er i'r anial fod yn faith,
bydd yn wrol, blin neu beidio:
cred yn Nuw a gwna dy waith.

Paid ag ofni'r anawsterau,
paid ag ofni'r brwydrau chwaith;
paid ag ofni'r canlyniadau:
cred yn Nuw a gwna dy waith.
Cei dy farnu, cei dy garu,
cei dy wawdio lawer gwaith;
Na ofala ddim am hynny:
cred yn Nuw a gwna dy waith.
NORMAN MACLEOD, 1812-72
cyf. BEN DAVIES, 1864-1937

Ctrl a chlic

https://youtu.be/CjsyceuElVI

Y Fendith

Bydded i Dduw pob gras, yr hwn a’ch galwodd i’w dragwyddol ogoniant yng Nghrist Iesu, eich gwneud yn gymwys, yn gadarn, yn gryf ac yn ddiysgog. Iddo ef y perthyn y gallu am byth. Amen.

Cliciwch yma i lwrlwytho'r myfyrdod


Myfyrdod 15.08.21

 

 

Diarhebion 9:1- 10 (Beibl.net)

Mae Doethineb wedi adeiladu ei thŷ;
ac mae wedi naddu saith colofn iddo.
Mae hi wedi paratoi gwledd,
cymysgu'r gwin,
a gosod y bwrdd.
Mae hi wedi anfon ei morynion allan
i alw ar bobl drwy'r dre.
Mae'n dweud wrth bobl sy'n brin o synnwyr cyffredin,
“Dewch yma, chi bobl wirion!
Dewch i fwyta gyda mi,
ac yfed y gwin dw i wedi'i gymysgu.
Stopiwch fod mor ddwl, i chi gael byw;
dechreuwch gerdded ffordd gall.”
Ceisia gywiro rhywun balch sy'n gwawdio a chei lond ceg!
Cerydda rywun drwg a byddi'n cael dy gam-drin.
Cerydda'r un balch sy'n gwawdio, a bydd yn dy gasáu di;
ond os gwnei di geryddu'r doeth bydd e'n diolch i ti.
Rho gyngor i'r doeth, a byddan nhw'n ddoethach;
dysga'r rhai sy'n byw yn iawn a byddan nhw'n dysgu mwy.
Parchu'r ARGLWYDD ydy'r cam cyntaf i fod yn ddoeth,
ac mae nabod yr Un Sanctaidd yn rhoi deall.

Myfyrdod

Doethineb sy’n cael ei darlunio fel gwraig yn yr adnodau hyn. Y mae’n ceisio denu rhywrai i’w dilyn, ac mae’n debyg mai’r ifanc a’r dibrofiad sydd ganddi mewn golwg. Dyma’r rhai fydd yn gorfod gwneud dewisiadau tyngedfennol, ac mae’n bwysig i’r dewisiadau hynny fod yn rhai cywir.
Mae saith colofn tŷ Doethineb yn arwyddocau cyflawnder, gan yr ystyrid saith gan yr Iddewon yn rhif perffaith. Y mae hefyd wedi ei adeiladu ar y man uchaf yn y ddinas - safle a fyddai fel rheol yn cael ei neilltuo i gysegr neu deml. Nid rhyfedd hynny gan fod Doethineb yn Llyfr y Diarhebion yn cael ei huniaethu â Duw, ac y mae troi ymaith oddi wrthi a dewis llwybr arall yn gyfystyr â throi ymaith oddi wrth yr Arglwydd.

Y mae’r adnodau olaf yn mynegi pa mor ddi-fudd a pheryglus yw cynghori a cheryddu’r bobl hynny a wrthyd ddoethineb. Dyma rai nad oes dysgu yn eu croen, ac na ellir eu hyfforddi gan eu bod yn gwybod yn well o lawer na phawb arall, ac yn barod bob amser i wneud hwyl am ben y sawl a’u cywira. Y mae pobl ddoeth yn gwbl wahanol, yn barod i dderbyn cerydd yn raslon a dysgu oddi wrth bob camgymeriad. Yn wir, maent yn ddiolchgar i’r sawl sy’n eu cywiro ac yn ymagweddu’n gariadus tuag ato.

Yn olaf pwysleisir mai ‘ofn yr Arglwydd yw dechrau doethineb, ac adnabod y Sanctaidd yw deall’ (BCND).

Gweddi

Ein Tad,
mewn byd dryslyd gweddïwn am ddoethineb,
yng nghanol dewisiadau bywyd gofynnwn am dy arweiniad di.
Diolch y cawn yr arweiniad hwnnw’n aml yn y cyffredin a’r cyfarwydd;
mewn dihareb a gair o gyngor,
yn esiampl pobl dda
a charedigrwydd teulu a chyfeillion.
Gwna ni’n agored bob amser i’r hyn a all ein hadeiladu,
ac yn ddiolchgar am bob cerydd a beirniadaeth sydd er ein lles.

Wrth gyflwyno ein hunain i ti,
cofiwn am yr ieuenctid sy’n dewis llwybr gyrfa a bywyd,
pawb sy’n ymgymryd â gwaith a chyfrifoldeb newydd,
y rhai sy’n gorfod dygymod â phethau fel y maent
a phob un sy’n gorfod wynebu’r dieithr a’r anghyfarwydd.

Gweddïwn dros wleidyddion,
rhai y bydd eu polisïau yn dylanwadu ar fywyd y ddynoliaeth,
a’r arweinwyr y mae eu geiriau’n ganllaw i eraill.
Dyro iddynt hwy ac i ninnau y gras i ddyfalbarhau,
a’r gwyleidd-dra i ail-feddwl pan fo angen.

Cadw’r ddynoliaeth yn dy gariad a’r
byd dan gysgod dy adenydd.
Amen.

Gweddi o eiriolaeth

Ein Tad,
gweddïwn am heddwch mewn byd sy’n cael ei rwygo gan ryfel a gwrthdaro.
Cofiwn am y sefyllfa enbyd yn Afghanistan
a’r bygythiad mawr yno i bobl ddiniwed.
Cofiwn am deuluoedd y rhai a gollwyd yn y brwydo a fu,
a’u siom o weld nad oes fawr ddim yn newid,
a bod gelyniaeth yn ffynnu o hyd yn y wlad gythryblus honno.
Yn dy drugaredd rho nerth i’r rhai sy’n ceisio heddwch,
a dyfalbarhad i ddal ati er gwaethaf y rhwystrau.

Gweddïwn dros sefyllfa fregus ein byd
o achos newid hinsawdd a llygredd.
Cofiwn am drigolion gwlad Groeg a lleoedd eraill,
orfodwyd i ffoi o flaen tanau,
ac a welodd eu bywyd ar chwâl,
a’u haelwydydd yn sarn.
Dyro i arweinwyr byd ewyllys i ymateb yn adeiladol i’r argyfwng,
ac i bobl ym mhob man y gobaith bair iddynt ymdrechu
i wneud eu rhan i atal gwaeth trychineb.

Gweddïwn dros ein cymunedau a’n cydnabod,
ein teuluoedd a’n cyfeillion,
pawb sydd mewn angen,
yr aelwydydd sydd mewn galar,
a’r unigolion sy’n dioddef llesgedd ac anhwylder.

Cofiwn drigolion Haiti y rhwygwyd eu byd gan ddaeargryn,
a phobl Plymouth brofodd erchylltra trais
a chasineb diystyr.
Wrth weld y diniwed yn dioddef
Maent oll mewn cynnwrf a phenbleth.
Yn dy drugaredd, Arglwydd, bugeilia hwy,
a thry ein gweddïau drostynt yn fendith,
a’n hymbil yn gyfrwng nerth ac adnewyddiad.

A derbyn ni oll yn ddaionus,
yn enw ac yn haeddiant Iesu Grist. Amen.

Emyn – ‘Mae d’eisiau di bob awr’ (221 C. Ff.)
221

Mae d'eisiau di bob awr,
fy Arglwydd Dduw,
daw hedd o'th dyner lais
o nefol ryw.
Mae d'eisiau, O mae d'eisiau,
bob awr mae arnaf d'eisiau,
bendithia fi, fy Ngheidwad,
bendithia nawr.
Mae d'eisiau di bob awr,
trig gyda mi,
cyll temtasiynau'u grym,
yn d'ymyl di.
Mae d'eisiau di bob awr,
rho d'olau clir,
rho imi nerth, a blas
dy eiriau gwir.
Mae d'eisiau di bob awr,
sancteiddiaf Ri,
yn Iesu gwna fi'n wir
yn eiddot ti.
ANNIE S. HAWKS, 1835-1918 cyf. IEUAN GWYLLT, 1822-77

Ctrl a chlic

https://youtu.be/Bc6r8e3wQnk
‘Mae D'Eisiau Di Bob Awr ‘, Richie Tomos - Goreuon Richie Thomas (Tenor)

Y Fendith

Iddo ef sy’n abl i’ch gwneud yn gadarn… i Dduw, yr unig un ddoeth, y bo’r gogoniant, trwy Iesu Grist - iddo ef y bo’r gogoniant am byth! Amen.
(Rhuf 16:25,27)

 

Cliciwch yma i lawrlwytho'r myfyrdod


Myfyrdod 08.08.21 gan y Parchedig Ddr Elwyn Richards

 

 

Gweddi

Arglwydd Dduw, mae bara’r bywyd gennyt ti ar gyfer y newynog
a dŵr bywiol ar gyfer y sychedig.
Down yn newynog ac yn sychedig am dy air,
gydag awydd i wybod dy ewyllys
ac i garu gyda’th gariad diamod di.
Helpa ni i gael ein bwydo ac i ddysgu gennyt ti.
Amen.

Elias ar Fynydd Horeb (1 Brenhinoedd 19:1-18)

Mynegodd Ahab i Jesebel y cwbl yr oedd Elias wedi ei wneud, a'i fod wedi lladd yr holl broffwydi â'r cleddyf. Yna anfonodd Jesebel negesydd i ddweud wrth Elias, “Fel hyn y gwnelo'r duwiau i mi, a rhagor, os na fyddaf wedi gwneud dy einioes di fel einioes un ohonynt hwy erbyn yr amser hwn yfory.” Ofnodd yntau a dianc am ei einioes nes dod i Beerseba, oedd yn perthyn i Jwda. Gadawodd ei was yno, ond aeth ef yn ei flaen daith diwrnod i'r anialwch. Pan oedd yn cymryd seibiant dan ryw bren banadl, deisyfodd o'i galon am gael marw, a dywedodd, “Dyma ddigon bellach, O ARGLWYDD; cymer f'einioes, oherwydd nid wyf fi ddim gwell na'm hynafiaid.” Ond wedi iddo orwedd a chysgu dan ryw bren banadl, dyna angel yn ei gyffwrdd ac yn dweud wrtho, “Cod, bwyta.” A phan edrychodd, wrth ei ben yr oedd teisen radell a ffiolaid o ddŵr; a bwytaodd ac yfed ac ailgysgu. Daeth yr angel yn ôl eilwaith a'i gyffwrdd a dweud, “Cod, bwyta, rhag i'r daith fod yn ormod iti.” Cododd yntau a bwyta ac yfed; a cherddodd yn nerth yr ymborth hwnnw am ddeugain diwrnod a deugain nos, hyd at Horeb, mynydd Duw.
Yno aeth i ogof i aros, a daeth gair yr ARGLWYDD ato gan ddweud, “Beth a wnei di yma, Elias?” Dywedodd yntau, “Bûm i'n selog iawn dros ARGLWYDD Dduw y Lluoedd; cefnodd yr Israeliaid ar dy gyfamod, a bwrw d'allorau i lawr, a lladd dy broffwydi â'r cleddyf; myfi'n unig sydd ar ôl, ac y maent yn ceisio f'einioes innau.” Yna dywedwyd wrtho, “Dos allan a saf ar y mynydd o flaen yr ARGLWYDD.” A dyma'r ARGLWYDD yn dod heibio. Bu gwynt cryf nerthol, yn rhwygo mynyddoedd a dryllio creigiau, o flaen yr ARGLWYDD; nid oedd yr ARGLWYDD yn y gwynt. Ar ôl y gwynt bu daeargryn; nid oedd yr ARGLWYDD yn y ddaeargryn. Ar ôl y ddaeargryn bu tân; nid oedd yr ARGLWYDD yn y tân. Ar ôl y tân, distawrwydd llethol. Pan glywodd Elias, lapiodd ei wyneb yn ei fantell a mynd i sefyll yng ngenau'r ogof; a daeth llais yn gofyn iddo, “Beth a wnei di yma, Elias?” Atebodd yntau, “Bûm i'n selog iawn dros ARGLWYDD Dduw y Lluoedd; cefnodd yr Israeliaid ar dy gyfamod, a bwrw d'allorau i lawr, a lladd dy broffwydi â'r cleddyf; myfi'n unig sydd ar ôl, ac y maent yn ceisio f'einioes innau.” Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Dos yn ôl i gyfeiriad anialwch Damascus, a phan gyrhaeddi, eneinia Hasael yn frenin ar Syria, a Jehu fab Nimsi yn frenin ar Israel, ac Eliseus fab Saffat o Abel-mehola yn broffwyd yn dy le. Pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Hasael, bydd Jehu yn ei ladd; pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Jehu, bydd Eliseus yn ei ladd. Ond gadawaf yn weddill yn Israel y saith mil sydd heb blygu glin i Baal, na'i gusanu.”

Myfyrdod

Mae hanes y proffwyd Elias yn dilyn ei fuddugoliaeth fawr dros broffwydi Baal ar fynydd Carmel yn hollol groes i’r disgwyl. Gellid dychmygu y byddai ar ben ei ddigon ac yn llawn gorfoledd ond cawn ef yn ofnus a digalon, ac ar ffo oherwydd bygythiad y frenhines Jesebel i’w lofruddio. Yn yr anialwch y mae’n cymryd seibiant a’i ddigalondid bron a’i lethu. Ond daw angel ato ddwywaith gyda bwyd a diod, ac ar sail yr ymborth hwnnw aiff yntau yn ei flaen nes cyrraedd mynydd Horeb.
Ar fynydd Horeb mae Elias yn dod yn ymwybodol o bresenoldeb Duw, nid mewn storm na thân na daeargryn ond yn dilyn distawrwydd llethol. Er gwaethaf ei ddigalondid a’r ffaith iddo anobeithio’n llwyr caiff wybod bod gan Dduw fwy o waith iddo’i gyflawni. Roedd i eneinio ‘Hasael yn frenin ar Syria, a Jehu fab Nimsi yn frenin ar Israel, ac Eliseus fab Saffat o Abel-mehola yn broffwyd yn dy le’.
Gallwn ond dychmygu ei wewyr. Go brin y byddai ufuddhau i’r gorchymyn yn ateb yr hyn oedd yn pwyso ar ei feddwl, sef bygythiad Jesebel i’w ddifa. Ni fyddai penodi brenhinoedd a phroffwyd newydd ychwaith yn troi'r genedl yn ôl at yr Arglwydd ar fyrder ac yn dadwneud y gwrthgiliad yr oedd Elias mor ymwybodol ohono. Ond cynllun Duw oedd hwn, ac mae Elias yn cael ei alw i helpu i’w wireddu, er na fyddai iddo ef ei hun, yn ôl pob golwg, fawr mwy na hynny o ran ynddo… ‘yn broffwyd yn dy le’.
Heddiw y mae’n hawdd iawn teimlo’n ddigalon am gyflwr Cristnogaeth yng Nghymru, ond geilw ffydd arnom ninnau i wneud ein rhan a gadael y cynllun mawr i Dduw.

Paid ag ofni'r anawsterau,
paid ag ofni'r brwydrau chwaith;
paid ag ofni'r canlyniadau:
cred yn Nuw a gwna dy waith.
Cei dy farnu, cei dy garu,
cei dy wawdio lawer gwaith;
Na ofala ddim am hynny:
cred yn Nuw a gwna dy waith.
C.Ff. 737 NORMAN MACLEOD, 1812-72 cyf. BEN DAVIES, 1864-1937

Gweddi o addoliad

Dduw heb ffiniau,
diolch i ti na allwn dy ffrwyno,
a’th fod yn ddiddiwedd a bob amser yn meddwl am rywbeth i’w wneud!
Molwn ac addolwn di.
Pan fyddwn yn meddwl ein bod wedi gweithio popeth allan, rwyt ti yn ein synnu!
Dduw graslon, rwyt ti wedi ein bendithio yn wir.
Diolch ein bod yn gwybod, wrth i ni blygu’n wylaidd wrth dy orsedd,
mai dim ond ti all ddiwallu ein hanghenion.
Mawl fo i ti, Arglwydd Dduw.
Amen.

Emyn

– ‘Tyred Iesu i’i Anialwch’ ( C.Ff. 730, Blaenwern)

Tyred, Iesu, i'r anialwch,
at bechadur gwael ei lun,
ganwaith ddrysodd mewn rhyw rwydau -
rhwydau weithiodd ef ei hun;
llosg fieri sydd o'm cwmpas,
dod fi i sefyll ar fy nhraed,
moes dy law, ac arwain drosodd
f'enaid gwan i dir ei wlad.
Manna nefol sy arna'i eisiau,
dwr rhedegog, gloyw, byw
sydd yn tarddu o dan riniog
temel sanctaidd, bur fy Nuw;
golchi'r aflan, cannu'r duaf,
gwneud yr euog brwnt yn lân;
ti gei'r clod ryw fyrdd o oesoedd
wedi i'r ddaear fynd yn dân.
Ar dy allu 'rwy'n ymddiried:
mi anturiaf, doed a ddêl,
dreiddio drwy'r afonydd dyfnion,
mae dy eiriau oll dan sêl;
fyth ni fetha a gredo ynot,
ni bu un erioed yn ôl;
mi â 'mlaen, a doed a ddelo,
graig a thyle, ar dy ôl.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

Ctrl a Chlic

https://youtu.be/HuN-eXimmyk?list=PLgljwsI4TEebjirl1dRvm10o3zpcKM6y-

Gweddi i gloi

Diolch i ti, Arglwydd, am gredu ynom ni,
am weld tu draw i’n tu allan
a gwybod pwy, mewn gwirionedd, ydym ni tu mewn.
Diolch i ti am roi i ni y cyfan y mae ei angen arnom i wneud dy waith.
Amen.

Gweddïau oddi ar wefan Roots Ecumenical Partnership

Cliciwch yma i lawrlwytho'r myfyrdod


Myfyrdod 01.08.21 gan y Parchedig Ddr Elwyn Richards

Gweddi

Arglwydd Dduw, rhoddwr bywyd,
rwyt yn ein bendithio â phopeth y mae ei angen arnom –
a chymaint mwy.
Cadw ni rhag canolbwyntio cymaint ar ein hanghenion corfforol
fel ein bod yn esgeuluso ein bwyd ysbrydol.
Bwyda ni â’th air,
bodlona ni â’th bresenoldeb,
a nertha ni â’th Ysbryd –
fel y cawn rannu dy fywyd tragwyddol. Amen.

Exodus 16: 1-3; 11-15

Yna aeth pobl Israel ymlaen o Elim a chyrraedd Anialwch Sin, sydd rhwng Elim a Sinai, ar y pymthegfed diwrnod o'r ail fis ers iddyn nhw adael gwlad yr Aifft. Pan oedden nhw yn yr anialwch, dyma nhw i gyd yn dechrau ymosod ar Moses ac Aaron unwaith eto. “Byddai'n well petai'r ARGLWYDD wedi gadael i ni farw yn yr Aifft! O leia roedd gynnon ni ddigon o gig a bwyd i'w fwyta yno. Ond rwyt ti wedi dod â ni i gyd allan i'r anialwch yma i lwgu i farwolaeth!”…

 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dw i wedi clywed fel mae pobl Israel yn ymosod arna i. Dwed wrthyn nhw, ‘Byddwch yn cael cig i'w fwyta gyda'r nos, ac yn y bore byddwch yn cael llond eich bol o fara. Byddwch yn deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.’”

Gyda'r nos, dyma soflieir yn dod ac yn glanio yn y gwersyll – roedden nhw dros bobman! Yna yn y bore roedd haenen o wlith o gwmpas y gwersyll. Pan oedd y gwlith wedi codi, roedd rhyw stwff tebyg i haen denau o farrug yn gorchuddio'r anialwch. Pan welodd pobl Israel e, dyma nhw'n gofyn i'w gilydd, “Beth ydy e?” Doedd ganddyn nhw ddim syniad beth oedd e. Ac meddai Moses wrthyn nhw, “Dyma'r bara mae'r ARGLWYDD wedi'i roi i chi i'w fwyta. 

Myfyrdod

Rydym i gyd yn gallu cwyno, ac fe wnawn hynny’n aml am y pethau lleiaf. Ond yn hanes taith pobl Israel o’r Aifft yn ôl i wlad Canaan, cawn hwy yn cwyno am nad oedd ganddynt fwyd yn yr anialwch. Aethant i feddwl y byddai’n well iddynt fod wedi aros yn gaethweision i Pharo a chael eu gwala a’u gweddill o grochenau cig gwlad yr Aifft, na llwgu i farwolaeth ar y daith adref.

Ymateb Duw yw rhoi iddynt gig a manna. Roedd eisoes wedi peri i ddŵr lifo o’r graig i’w disychedu, ac yn awr mae’n darparu bwyd iddynt hefyd. Does dim rhyfedd i hanes yr anialwch am ymwneud Duw â’i bobl ddod yn un o straeon sylfaen yr ysgrythur. Pwysleisia ras Duw a natur wrthryfelgar ei bobl.

Bydd gorfod goresgyn anawsterau yn brofiad i bawb ohonom rywbryd neu’i gilydd. Mae’r Gemau Olympaidd wedi tynnu ein sylw unwaith eto at ymroddiad a dyfalbarhad yr athletwyr, a’u penderfyniad di-ildio i ddal ati. Effeithiwyd pawb ohonynt gan yr amgylchiadau yn sgil Covid19 a wnaeth ymarfer a pharatoi yn anodd. Bu i Tom Dean, a enillodd fedal aur am nofio, ddal y clwy’. Gorfu i Lauren Williams, a enillodd fedal arian yng nghystadleuaeth y taekwando, fyw mewn carafán efo’i mam am ddeunaw mis gan ei bod yn rhy ifanc yn 14 mlwydd oed i fynychu gwersyll ymarfer. A bu Georgia Taylor-Brown, gafodd fedal arian yn y triathlon i ferched, ar faglau yn gynharach eleni.

Mae ymateb rhai cystadleuwyr gafodd eu siomi hefyd wedi bod yn ysbrydoliaeth. Bu i Emily Craig ac Imogen Grant golli’r fedal efydd mewn cystadleuaeth rwyfo o un canfed o eiliad, ond yn ôl Grant roedd eu datblygiad dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn bwysicach nag unrhyw fedal, a gallent, meddai, fod yn falch o’u hymdrech.
Yn y Beibl y mae pob ymdrech a dyfalbarhad dynol i’w ganfod yng nghyd-destun gofal a chariad Duw, ac y mae pob anniolchgarwch a difaterwch hefyd yn cael ei weld drwy’r un sbectol. Dyna gysur a gwae y safbwynt Cristnogol.

Gweddi
O Dduw, rhoddwr manna o’r nefoedd,
darperaist ddigon ar gyfer dilynwyr Moses yn yr anialwch.
O Grist, bara’r bywyd,
bwydaist y pum mil â phum torth a dau bysgodyn.
O Ysbryd Sanctaidd y Duw byw,
sydd  gyda ni bob amser,
gofynnwn i ti ein bwydo ni â’r cyfan y mae ei angen arnom,
fel y cawn ein diwallu.
Amen.

Emyn 683
Ar yrfa bywyd yn y byd
a'i throeon enbyd hi
o ddydd i ddydd addawodd ef
oleuni'r nef i ni.
Fy enaid dring o riw i riw
heb ofni braw na haint
yn ôl dy ddydd y bydd dy nerth
ar lwybrau serth y saint.
Y bywyd uchel wel ei waith
ar hyd ei daith bob dydd,
a'r sawl yn Nuw a ymgryfha
a gaiff orfwysfa'r ffydd.
O ddydd i ddydd ei hedd a ddaw
fel gwlith ar ddistaw ddôl,
a da y gwyr ei galon ef
fod gorau'r nef yn ôl.
Wel gorfoledded teulu'r fydd
yn llafar iawn eu llef,
cyhoedded pawb o ddydd i ddydd
ei iachawdwriaeth ef.   J. T. JOB, 1867-1938

Ctrl a chlic
https://youtu.be/xZt2w5qu_gk
Dechrau Canu Dechrau Canmol, Llandudno, 2015

Gweddi
Diolch i ti, Arglwydd, ein bod yn medru ymddiried ynot ti ym mhob peth.
Hyd yn oed pan fyddwn yn methu deall,
pan fyddwn yn teimlo ar goll ac yn unig,
gallwn ymddiried ynot ti.
Pan fyddwn yn crwydro yn y diffeithwch,
diolch i ti dy fod yno wrth ein hochr,
dy fod yn ymestyn allan ac yn ein cyffwrdd.
Diolch i ti, Arglwydd, ein bod yn ddiogel gyda thi.
Oherwydd rwyt ti’n darparu’r cyfan y mae ei angen arnom.
Amen.

Gweddïau oddi ar wefan Roots Ecumenical Partnership

Cliciwch yma i lawrlwytho'r myfyrdod

11.07.21

 Effesiaid 4:11-16 (beibl.net)
A dyma'i roddion: mae wedi penodi rhai i fod yn gynrychiolwyr personol iddo, eraill i fod yn broffwydi, eraill yn rhai sy'n rhannu'r newyddion da, ac eraill yn fugeiliaid ac athrawon.Maen nhw i alluogi pobl Dduw i gyd i'w wasanaethu mewn gwahanol ffyrdd, er mwyn gweld corff y Meseia, sef yr eglwys, yn tyfu'n gryf.Y nod ydy ein bod ni'n ymddiried ym Mab Duw gyda'n gilydd ac yn dod i'w nabod yn well. Bryd hynny bydd yr eglwys fel oedolyn aeddfed yn adlewyrchu beth welwn ni yn y Meseia ei hun.Dim plantos bach fyddwn ni, yn cael ein taflu yn ôl ac ymlaen gan y tonnau, a'n chwythu yma ac acw gan bob awel sy'n dod heibio. Fyddwn ni ddim yn newid ein meddyliau bob tro mae rhywun yn dweud rhywbeth newydd, neu'n cael ein twyllo gan bobl slei sy'n gwneud i gelwydd swnio fel petai'n wir.Na, wrth gyhoeddi beth sy'n wir mewn cariad, byddwn ni'n tyfu'n debycach bob dydd i'r Pen, sef y Meseia.Y pen sy'n gwneud i'r corff weithio a thyfu. Fel mae pob rhan o'r corff wedi'i weu i'w gilydd, a'r gewynnau'n dal y cwbl gyda'i gilydd, mae'r eglwys yn tyfu ac yn cryfhau mewn cariad wrth i bob rhan wneud ei gwaith.

Myfyrdod
Yn y bedwaredd bennod o'r Llythyr at yr Effesiaid y mae Paul yn amlinellu'r gwahanol swyddogaethau oedd yn yr Eglwys yn ei gyfnod ef. Yn amlwg, nid oedd pawb yn gwneud yr un peth ond yr oedd pawb, er hynny, yn gwasanaethu Crist yn ôl eu gallu a'u doniau.

I wneud hynny'n llwyddiannus, meddai Paul, roedd angen ffydd ac ymddiriedaeth a golygai hynny fod y Cristnogion yn tyfu ac yn aeddfedu. Meddai;

'Y nod yw dynoliaeth lawn dwf, a'r mesur yw'r aeddfedrwydd sy'n perthyn i gyflawnder Crist.''

Neu yn ôl beibl.net;
'Bryd hynny bydd yr eglwys fel oedolyn aeddfed yn adlewyrchu beth welwn ni yn y Meseia ei hun.''

Bod yn debyg i Grist oedd y nod, a golygai hynny gadernid barn a doethineb, a'r parodrwydd i gyhoeddi'r efengyl mewn cariad, a chydweithio. Y gyfrinach oedd dal cyswllt â Christ, ac ystyr hynny oedd ymroi yn llwyr i'w gariad a bod yn gwbl ffyddlon iddo.
Y mae gan bawb waith i'w wneud yn yr Eglwys o hyd, a gall pawb ohonom wneud rhywbeth. Wrth weithio yr ydym yn tyfu mewn profiad, a bydd y profiadau a gawn yn porthi ein ffydd ac yn mynnu ein bod weithiau yn meddwl yn ddyfnach am yr hyn a gredwn.
Cyfrifoldeb pob aelod o'r Eglwys yw meddwl o ddifrif am yr hyn y gallant ei gyflawni a'r hyn y dichon fod Duw yn gofyn iddynt ei wneud.
Wrth ffarwelio ag Owain fydd yn cychwyn ar ei weinidogaeth yng Ngofalaeth Fro Nant Conwy ym mis Medi, dymunwn yn dda iddo gan ddiolch am yr hwyl a'r cydweithio hapus fu rhyngom. Bu iddo ef a ninnau dyfu ac aeddfedu yn y ffydd drwy'r profiad hwnnw, a bu ei ymroddiad a'i benderfyniad i ymateb i'r alwad a deimlai i wasanaethu  fel gweinidog yn ysbrydoliaeth inni. Tybed a oes yna rywun arall yn yr ofalaeth sy'n teimlo fod Duw yn eu galw hwythau ar hyd llwybr tebyg? Os oes, peidiwch â bod yn swil o fynegi hynny.

Gweddi
Ein Tad, yr wyt ti yn galw pobl i'th ddilyn
ac yn rhoi'r gallu iddynt i gyflawni dy waith,
gan ein creu yn un teulu o fewn dy Eglwys.
Dyro i ninnau glywed dy alwad yn fwy eglur
a gweld y cyfleoedd i wasanaethu a roddi di inni.
Boed inni ddysgu ac aeddfedu
drwy rannu profiad a gorchwyl,
a darganfod y llwybr yr wyt yn ein cyfeirio iddo.

Diolchwn am dy Eglwys ar hyd a lled y ddaear
a gweddïwn y bydd iw chenhadaeth lwyddo
a'i gwaith fynd ar gynnydd.
Cyflwynwn i ti'r cynulleidfaoedd y gwyddom yn dda amdanynt
ac erfyniwn am dy fendith arnynt,
fel y bydd i'w tystiolaeth fod yn effeithiol
a'i bywyd yn adlewyrchiad o'th gariad.

Gweddïwn dros eglwysi'r ofalaeth hon
a phawb a berthyn iddi,
yn enwedig y rhai sy'n llesg neu'n wael,
y teuluoedd sydd mewn profedigaeth,
a'r aelodau sydd mewn ysbytai a chartrefi.
Bugeilia bob aelwyd,
a thrwy dy Ysbryd Glân  
ymestyn y tu hwnt i'n cyrraedd ni
i ddwyn cysur a gobaith,
ffydd ac adnewyddiad.
Hyn a ofynnwn yn enw ac yn haeddiant
ein Harglwydd, Iesu Grist. Amen.

Emyn (844 C.Ff.)
Efengyl tangnefedd, O rhed dros y byd,
a deled y bobloedd i'th lewyrch i gyd;
na foed neb heb wybod am gariad y groes,
a brodyr i'w gilydd fo dynion pob oes.

Sancteiddier y ddaear gan Ysbryd y ne';
boed Iesu yn Frenin, a neb ond efe:
y tywysogaethau mewn hedd wrth ei draed
a phawb yn ddiogel dan arwydd ei waed.

Efengyl tangnefedd, dos rhagot yn awr,
a doed dy gyfiawnder o'r nefoedd i lawr,
fel na byddo mwyach na dial na phoen
na chariad at ryfel, ond rhyfel yr Oen.
EIFION WYN, 1867-1926

https://www.youtube.com/watch?v=kJ_qVF-0kjQ
Y Parchg Wynne Roberts
Geiriau Eifion Wyn – ‘Efengyl Tangnefedd’
Ton: "How's the World Treating You".

Y Fendith
Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân, fyddo gyda ni oll. Amen.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r myfyrdod


04.07.21

Galwad i Addoli
Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: 'Dewch o'r neilltu… a gorffwyswch am dipyn.'
Dewch i bresenoldeb yr Arglwydd yn awr,
oddi wrth feichiau a phwysau bywyd.
Dewch â breichiau agored,
a derbyniwch y gorffwys mae Iesun ei gynnig –
i adfer ein heneidiau,
a'n paratoi ar gyfer beth bynnag sy'n dod nesaf.

Gweddi
O Dduw, ti yw ein bugail.
Amlygwyd dy ofal a'th drugaredd
ym mywyd Iesu.
Gofynnwn am gael profi heddiw
y gorffwys rwyt ti'n ei gynnig,
yr heddwch a all ein hadfer a'n hadfywio
a'n galluogi i fyw y bywyd helaeth a addawyd.
Gweddïwn yn enw Iesu.
Amen.

Marc 6:30- 34
Daeth yr apostolion ynghyd at Iesu a dweud wrtho am yr holl bethau yr oeddent wedi eu gwneud a'u dysgu.A dywedodd wrthynt, "Dewch chwi eich hunain o'r neilltu i le unig a gorffwyswch am dipyn." Oherwydd yr oedd llawer yn mynd a dod, ac nid oedd cyfle iddynt hyd yn oed i fwyta.Ac aethant ymaith yn y cwch i le unig o'r neilltu. Gwelodd llawer hwy'n mynd, a'u hadnabod, a rhedasant ynghyd i'r fan, dros y tir o'r holl drefi, a chyrraedd o'u blaen.Pan laniodd Iesu gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt am eu bod fel defaid heb fugail; a dechreuodd ddysgu llawer iddynt.

Myfyrdod
Mae'r cwestiwn, 'Lle gawn ni fynd ar ein gwyliau?' wedi llenwi'r wasg a'r cyfryngau ers misoedd. Parodd y pandemig nad oes gennym ryddid bellach i fynd i bob man fel cynt, ond hyd yn oed cyn bod sôn am gyfyngiadau teithio roedd rhai yn pryderu am effaith hedfan diddiwedd ar yr hinsawdd a'r blaned.
Eleni, ymddengys y bydd yn rhaid i'r mwyafrif ohonom fodloni ar aros yn nes adref, ac efallai nad drwg o beth yw hynny, gan fod llawer yn dweud mai dim ond yn ystod y cyfnodau clo y daethant i adnabod eu bröydd eu hunain.
Bid a fo am hynny, mae'r Beibl yn rhoi pwyslais ar orffwyso. Gwelwn hynny yn hanes y Creu (Gen 2:2) lle y dywedir i Dduw orffwyso ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith. Yn yr efengylau hefyd mae Iesu yn annog ei ddisgyblion i orffwyso, a gwelwn ef ei hun hefyd yn ceisio dihangfa o ganol prysurdeb a galwadau di-ddiwedd ei weinidogaeth.
Dywedir yn aml fod Prydain yn rhoi mwy o bwyslais ar waith nag aml i wlad arall, ac efallai mai canlyniad hynny ar dro yw'r ymdeimlad o euogrwydd wrth fod yn segur. Gwyddom fod pobl brysur weithiau yn ei chael yn anodd gollwng gafael ac ymlacio, a chofiwn am y ffermwr hwnnw  a fynnai fyw i'r fferm yn hytrach na byw arni.
Ond nid ym myd gwaith yn unig y gall prysurdeb di-ddiwedd fod yn wendid. Gall yr un peth fod yn wir ym myd yr Ysbryd hefyd, a gall hyd yn oed yr ysfa i wneud daioni weithiau fod yn niweidiol.
Ystyriwch yr hanes hwn o Efengyl Mathew (26:6-13)

Pan oedd Iesu ym Methania yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, daeth gwraig ato a chanddi ffiol alabastr o ennaint gwerthfawr, a thywalltodd yr ennaint ar ei ben tra oedd ef wrth bryd bwyd. Pan welodd y disgyblion hyn, aethant yn ddig a dweud,I ba beth y bu'r gwastraff hwn? Oherwydd gallesid gwerthu'r ennaint hwn am lawer o arian a'i roi i'r tlodion. Sylwodd Iesu ar hyn a dywedodd wrthynt, Pam yr ydych yn poeni'r wraig? Oherwydd gweithred brydferth a wnaeth hi i mi. 11Y mae'r tlodion gyda chwi bob amser, ond ni fyddaf fi gyda chwi bob amser. Wrth dywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, fy mharatoi yr oedd hi ar gyfer fy nghladdu. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pa le bynnag y pregethir yr Efengyl yma yn yr holl fyd, adroddir hefyd yr hyn a wnaeth hon, er cof amdani.

'Y mae'r tlodion gyda chwi bob amser' – nid bod yn ddirmygus o'r tlawd yr oedd Iesu wrth ddweud y geiriau hyn, ond pwysleisio, yn hytrach, fod yn rhaid cael cyd-bwysedd mewn bywyd a bod yna le dilys i addoliad ac elusengarwch.
A ninnau, gobeithio, ar ein ffordd allan o'r pandemig tybed a fydd profiadau'r misoedd clo a'r cyfyngiadau teithio wedi newid ein pwyslais fel cymdeithas a'n gwneud yn bobl mwy cytbwys eu byw a dedwydd ein byd?

Gweddi o gyffes
Dduw graslon, rwyt ti bob amser yn neilltuo amser ar ein cyfer;
mae'n ddrwg gennym nad ydym ni bob amser yn neilltuo amser i ti.
Pan fyddwn yn rhuthro o gwmpas yn bod yn brysur,
weithiau pan fyddwn hyd yn oed yn gwneud dy waith di,
byddwn yn anghofio amdanat ti.
Mae'n ddrwg gennym pan fyddwn yn llenwi cymaint ar ein bywydau
fel nad oes lle ar ôl i ti –
dim lle i ddianc, i fod mewn lle tawel gyda thi.
Maddau i ni, Arglwydd, a helpa ni i beidio â brysio ond yn hytrach i arafu,
i wneud lle i ti fyw o'n mewn ni.
Ac yn y lle hwnnw,
ceisiwn wybod beth wyt ti am i ni ei wneud
a phwy rwyt ti am i ni dreulio amser gyda hwy.
Helpa ni i gadw'r cydbwysedd cywir,
y curiad cywir sydd mewn cytgord â thi.
Amen

Gweddi o ddiolchgarwch
Diolch i ti, Arglwydd, fod gennyt ti ddigon o amser i bawb.
Hyd yn oed pan oeddet wedi blino ac angen gorffwys,
pan fyddai'r tyrfaoedd yn ymgasglu byddai dy galon drugarog
yn iacháu ac yn adfer pob un oedd yn dod atat.
Rydym yn diolch i ti dy fod yn garedig ac yn ofalus
ac yn tywallt dy gariad arnom.
Maer cariad rwyt yn ei rannu mor hael wedi ein rhyddhau
i fod y bobl rwyt ti wedi ein galw i fod.
Diolch i ti dy fod yn bresennol
yn y pethau mawr a'r pethau bach yn ein bywydau,
yn amseroedd cyffredin ein bywydau bob dydd,
ac yn yr amseroedd anghyffredin ac arbennig.
Dwyt ti byth yn ein gadael na'n gwrthod.
Diolch i ti, Arglwydd, ein Bugail a'n Brenin.
Amen.

Emyn Yr Arglwydd yw fy mugail
https://youtu.be/tGUE_uxiKfs
Pedwarawd o Ddyffryn Clwyd - Lisa Dafydd, Tesni Jones, Dafydd Wyn Jones a Dafydd Allen yn perfformio trefniant Euros Rhys Evans o 'Yr Arglwydd Yw Fy Mugail' (Salm 23) ar Noson Lawen.

Gweddi i gloi

O Dduw, yn yr Ysgrythur
darllenwn dy fod wedi gorffwyso ar y seithfed dydd –
ar ôl holl brysurdeb a gwaith y creu;
a darllenwn am ddymuniad Iesu i’w ddisgyblion orffwyso.
Fel dy ddilynwyr, dy ddisgyblion, yn awr,
ac wrth i ni ddychwelyd i’n bywydau prysur,
boed i ni wybod am y gorffwys rwyt ti’n ei gynnig
bob diwrnod yr wythnos hon.
Amen.
Gweddïau oddi ar wefan Roots Ecumenical Partnership

Cliciwch yma i lawrlwytho'r myfyrdod

27.06.21

‘Yr oedd tyrfa fawr yn ei ganlyn ac yn gwasgu arno.’

Gweddi
Arglwydd, mae mor hawdd bod yn rhan o’r dyrfa,
yn dilyn tu ôl i eraill,
heb wybod beth sy’n digwydd yn y tu blaen.
Rho i ni’r gallu i symud trwy’r dorf brysur,
a’r dewrder i’th gyffwrdd di,
er mwyn derbyn profiad sy’n newid ein bywydau.
Ond gofynnwn hefyd i ti aros a throi atom,
a’n galw wrth ein henwau,
a dweud y geiriau hynny sy’n rhoi gwybod i ni
ein bod yn derbyn maddeuant llwyr ac yn cael ein caru’n ddiamod. Amen

Marc 5:21 - 34
Wedi i Iesu groesi'n ôl yn y cwch i'r ochr arall, daeth tyrfa fawr ynghyd ato, ac yr oedd ar lan y môr. Daeth un o arweinwyr y synagog, o'r enw Jairus, a phan welodd ef syrthiodd wrth ei draed ac ymbil yn daer arno: “Y mae fy merch fach,” meddai, “ar fin marw. Tyrd a rho dy ddwylo arni, iddi gael ei gwella a byw.” Ac aeth Iesu ymaith gydag ef.
Yr oedd tyrfa fawr yn ei ganlyn ac yn gwasgu arno. Ac yr oedd yno wraig ac arni waedlif ers deuddeng mlynedd. Yr oedd wedi dioddef yn enbyd dan driniaeth llawer o feddygon, ac wedi gwario'r cwbl oedd ganddi, a heb gael dim lles ond yn hytrach mynd yn waeth. Yr oedd hon wedi clywed am Iesu, a daeth o'r tu ôl iddo yn y dyrfa a chyffwrdd â'i fantell, oherwydd yr oedd hi wedi dweud, “Os cyffyrddaf hyd yn oed â'i ddillad ef, fe gaf fy iacháu.” A sychodd llif ei gwaed hi yn y fan, a daeth hithau i wybod yn ei chorff ei bod wedi ei hiacháu o'i chlwyf. Ac ar unwaith deallodd Iesu ynddo'i hun fod y nerth oedd yn tarddu ynddo wedi mynd allan, a throes yng nghanol y dyrfa, a gofyn, “Pwy gyffyrddodd â'm dillad?” Meddai ei ddisgyblion wrtho, “Yr wyt yn gweld y dyrfa'n gwasgu arnat ac eto'n gofyn, ‘Pwy gyffyrddodd â mi?’ ” Ond daliodd ef i edrych o'i gwmpas i weld yr un oedd wedi gwneud hyn. Daeth y wraig, dan grynu yn ei braw, yn gwybod beth oedd wedi digwydd iddi, a syrthiodd o'i flaen ef a dweud wrtho'r holl wir. Dywedodd yntau wrthi hi, “Ferch, y mae dy ffydd wedi dy iacháu di. Dos mewn tangnefedd, a bydd iach o'th glwyf.”

Myfyrdod
Mae Iesu’n cyflawni’r wyrth o iachau’r wraig â gwaedlif tra yr oedd ar ei ffordd i gyflawni gwyrth arall, a gwyrth fwy, sef codi merch Jairus o farw yn fyw! Y mae’r digwyddiad sydd wrth wraidd hanes y wyrth yn ymddangos yn eithaf dibwys - gwraig yn cyffwrdd mantell Iesu wrth i’r dorf wasgu arno. Ond yr oedd hi’n ymestyn ato yn ei hangen, ac fe deimlodd yntau rywbeth yn mynd allan ohono mewn ymateb.

Gwraig ddirmygedig oedd hon ar gyfrif ei chyflwr. Nid oedd i wragedd awdurdod na safle yn y gymdeithas Iddewig, ond fe ystyrid y wraig yma’n halogedig. Roedd wedi ceisio cael iachâd laweroedd o weithiau, ac wedi gwario’r cyfan oedd ganddi ar driniaethau drudfawr, ac wedi dioddef llawer. Ond i ddim diben. Parhau a gwaethygu a wnaeth ei chyflwr hyd nes iddi gyffwrdd ag ymyl gwisg Iesu.

Mae’r hanes yn ddameg, a’r stori yn pwysleisio gallu Iesu i iachau a’r pwysigrwydd o ddod ato. Efallai y teimlwn ninnau na allwn wneud dim mwy yn aml nag ymestyn i gyffwrdd ymyl ei wisg, ond bydd hynny’n ddigon. Ac y mae’n croesawu pawb sy’n dod ar ei ofyn.

Cerydd fyddai’r wraig wedi ei gael gan bawb arall, a fyddai’r un rabi parchus wedi torri gair â hi. Ond y mae Iesu yn mynnu gwybod pwy ydoedd a beth oedd ei hangen, ac y mae’n ei chyfarch yn gyhoeddus gan gydnabod ei ffydd;

‘Ferch, y mae dy ffydd wedi dy iacháu di. Dos mewn tangnefedd, a bydd iach o'th glwyf.’

Yn aml iawn yn y Testament Newydd fe welwn Iesu’n cyffwrdd y cleifion. Mae cyffyrddiad yn bwysig hefyd yn ein profiad ninnau, er na chawn ni gofleidio, na hyd yn oed ysgwyd llaw, yn ystod y pandemig!

Yn ystod gwasanaeth ordeinio Owain bythefnos yn ôl, gwahoddwyd y gweinidogion oedd yn bresennol i arddodi dwylo arno, sef i roi llaw ar ei ben ag yntau’n penlinio. Dyma’r arwydd Beiblaidd fod rhywun yn cael ei neilltuo i waith arbennig. Nid oedd dim grym na dirgelwch yng nghyffyrddiad y gweinidogion, nac unrhyw hud a lledrith yn perthyn i’r achlysur. Neilltuwyd Owain i weinidogaeth y gair a’r sacramentau y gellir ei olrhain yn ôl i ddyddiau’r Apostolion. A hanfod y weinidogaeth honno o hyd yw bod yn gyfrwng i ddwyn pobl at Iesu. Ef yw’r Meddyg Da, a dyletswydd pawb ohonom yw helpu’n gilydd i ymestyn ato.

Gweddi o ddiolchgarwch
Diolchwn i ti, Arglwydd, fod dy weinidogaeth iacháu wedi codi uwchlaw rhwystrau diwylliannol a chymdeithasol. Gweddïwn am gael gwared â phob rhagfarn, a thros y rhai y mae eu gwaeledd neu eu sefyllfa yn eu pellhau oddi wrth eraill. Gweddïwn yn arbennig dros y rhai sy’n dioddef o salwch meddwl, y digartref, ffoaduriaid a phawb sydd ar gyrion cymdeithas. Boed iddynt hwy, a’r holl greadigaeth, wybod am dy iacháu a’th gariad hael, a boed i ni i gyd ymestyn allan lle mae’n bosibl, yn dy enw. Amen

Emyn 765
Dof fel yr wyf, 'does gennyf fi
ond dadlau rhin dy aberth di,
a'th fod yn galw: clyw fy nghri,
'rwy'n dod, Oen Duw 'rwy'n dod.

Dof fel yr wyf, ni thâl parhau
i geisio cuddio unrhyw fai;
ond gwaed y groes all fy nglanhau:
'rwy'n dod, Oen Duw 'rwy'n dod.

Dof fel yr wyf, er ofnau lu,
a gallu y tywyllwch du
yn curo arnaf o bob to;
'rwy'n dod, Oen Duw 'rwy'n dod.

Dof fel yr wyf, syrthiodd i'r llawr
bob cadwyn gref, 'rwyf finna'n nawr
yn eiddo i'r Gwaredwr mawr;
'rwy'n dod, Oen Duw 'rwy'n dod.

Dof fel yr wyf, caf brofi'n llawn
dy gariad - O anhraethol drawn! -
a chanaf mwyach am yr Iawn;
'rwy'n dod, Oen Duw, 'rwy'n dod.
CHARLOTTE ELLIOTT 1789-1871
cyf ELIZA EVANS, 1852-1920

Ctrl a Chlic
https://youtu.be/D1ymgtqfWUM?list=OLAK5uy_kF2VLoN-xKC-avgo5v4vaLaPnv-DALPZg
Agnus Dei (Dof fel yr wyf, ‘does gennyf fi) · Dafydd Iwan

Gweddi
Dduw hael, diolch i ti am siarad â ni.
Helpa ni i ymestyn allan am dy gariad,
ac i rannu’r cariad hwnnw ag eraill.
Amen.
(Gweddïau oddi ar wefan Roots Ecumenical Partnership)

Cliciwch yma i Lawrlwytho'r Myfyrdod


20.06.21

Gardd Eden (Genesis 2:4-9)
Yn y dydd y gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw ddaear a nefoedd, nid
oedd un o blanhigion y maes wedi dod ar y tir, nac un o lysiau'r
maes wedi blaguro, am nad oedd yr ARGLWYDD Dduw eto wedi peri
iddi lawio ar y ddaear, ac nad oedd yno ddyn i drin y tir; ond yr
oedd tarth yn esgyn o'r ddaear ac yn dyfrhau holl wyneb y
tir. Yna lluniodd yr ARGLWYDD Dduw ddyn o lwch y tir, ac anadlodd
yn ei ffroenau anadl einioes; a daeth y dyn yn greadur byw. A
phlannodd yr ARGLWYDD Dduw ardd yn Eden, tua'r dwyrain; a
gosododd yno y dyn yr oedd wedi ei lunio. A gwnaeth
yr ARGLWYDD Dduw i bob coeden ddymunol i'r golwg, a da i fwyta
ohoni, dyfu o'r tir; ac yr oedd pren y bywyd yng nghanol yr ardd,
a phren gwybodaeth da a drwg.

Myfyrdod
Yr wythnos diwethaf roedd yn bedair blynedd ers Tân Grenfell a laddodd 72 o bobl. Cwestiwn agos at galon teuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau yn y tân yw pa fath o gofeb sy’n briodol i’w coffau. Un awgrym yw y dylid cadw Tŵr Grenfell fel gardd uchel wedi'i phlannu â 72 math o blanhigion.

Yn ‘Thought for the Day’ ar Radio 4 fore Mawrth bu’r Parchg Ddr Michael Banner o Goleg y Drindod Caergrawnt yn sôn am y modd y mae’r crefyddau sydd â’u gwreiddiau yn y Dwyrain Canol yn darlunio paradwys yn aml fel gardd. Gair Persiaidd yn golygu lle caeedig oedd y gair y tu ôl i’r syniad o baradwys, a dehonglwyd hynny fel cyfeiriad at ardd.

Gallwn ddeall apêl gerddi i bobl oedd yn by wyn ardaloedd poeth a chras y Dwyrain Canol, ac un o'r darluniau cofiadwy yn Llyfr Genesis yw hwnnw o Dduw yn rhodio yng Ngardd Eden ‘gyd ag awel y dydd’ (Genesis 3:8).

Yn ei hemyn ‘Speak, Lord, in the stillness’, y mae Emily May Grimes yn gweddïo am i’w bywyd fod fel gardd. Cyfansoddodd yr emyn yn Pondoland, sef gorsaf genhadol yn Ne Affrica, a lluniwyd y cyfieithiad Cymraeg ohono gan W. Nantlais Williams.
Dyma bennill olaf yr emyn;

Megis gardd ddyfradwy,
o aroglau'n llawn,
boed fy mywyd, Arglwydd,
fore a phrynhawn.

Gweddi
Dduw ein Tad,
diolchwn i ti am bobl y mae eu bywyd yn llawn perarogl
ac sydd yn harddu ac yn puro bro a chymuned.
Pobl y mae gwerthoedd yr Efengyl ac egwyddorion y Deyrnas
yn amlwg yn eu byw a’u bod,
ac sy’n dwyn bendith i bawb o’u cwmpas.
Gweddïwn am i’w dylanwad iachusol fynd ar gynnydd
ac am i ninnu gael y gras i dyfu yn eu cysgod.

Cyflwynwn i ti bawb sy’n teimlo
fod bywyd yn fwy o anialwch nag o ardd,
ac sy’n gofidio fod chwyn atgasedd a hunanoldeb
yn gwreiddio o’u cwmpas.

Cyflwynwn i ti bawb a welodd
drefn a phatrwm yr ardd
yn cael ei ddifetha gan brofedigaeth a galar,
gwendid a llesgedd,
gofid a phryder,
ansicrwydd ac anobaith.
Yng nghanol eu cynni,
dyro iddynt eto weld
yr had yn egino a’r blagur yn taflu.

A diolchwn i ti am Iesu Grist, y pen garddwr,
a ddaeth o’r bedd yn fyw, mewn gardd. Amen.

Emyn (781 yn C.Ff.)
Yn y dwys ddistawrwydd
dywed air, fy Nuw;
torred dy leferydd
sanctaidd ar fy nghlyw.

O fendigaid Athro,
tawel yw yr awr;
gad im weld dy wyneb,
doed dy nerth i lawr.

Ysbryd, gras a bywyd
yw dy eiriau pur;
portha fi â'r bara
sydd yn fwyd yn wir.

Dysg fi yng ngwybodaeth
dy ewyllys lân;
nerth dy gariad ynof
dry dy ddeddfau'n gân.

Megis gardd ddyfradwy,
o aroglau'n llawn,
boed fy mywyd, Arglwydd,
fore a phrynhawn. EMILY M. GRIMES, 1864-1927 cy/. NANTLAIS, 1874-1959

Ctrl a chlic
https://youtu.be/mEQiVuLbquE
Huw Rhys Evans, Seion, Ealing Green.

Y Fendith
Bydded i’r Tad gerdded gyda chwi yn ffresni’r ardd.
Bydded i’r Mab gerdded gyda chwi ar lwybr y mynydd.
Bydded i’r Ysbryd gerdded gyda chwi ar lwybr y pererinion.
Bendith y Tad, y Mab a’r Ysbryd a fo arnoch yn wastad. Amen.
John Johansen-Berg, addas. Glyn Tudwal Jones yn E ap N Roberts (gol), Amser i Dduw, 2004, t. 330.

Cliciwch yma i Lawrlwytho


20.06.21

Gardd Eden (Genesis 2:4-9)
Yn y dydd y gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw ddaear a nefoedd, nid
oedd un o blanhigion y maes wedi dod ar y tir, nac un o lysiau'r
maes wedi blaguro, am nad oedd yr ARGLWYDD Dduw eto wedi peri
iddi lawio ar y ddaear, ac nad oedd yno ddyn i drin y tir; ond yr
oedd tarth yn esgyn o'r ddaear ac yn dyfrhau holl wyneb y
tir. Yna lluniodd yr ARGLWYDD Dduw ddyn o lwch y tir, ac anadlodd
yn ei ffroenau anadl einioes; a daeth y dyn yn greadur byw. A
phlannodd yr ARGLWYDD Dduw ardd yn Eden, tua'r dwyrain; a
gosododd yno y dyn yr oedd wedi ei lunio. A gwnaeth
yr ARGLWYDD Dduw i bob coeden ddymunol i'r golwg, a da i fwyta
ohoni, dyfu o'r tir; ac yr oedd pren y bywyd yng nghanol yr ardd,
a phren gwybodaeth da a drwg.

Myfyrdod
Yr wythnos diwethaf roedd yn bedair blynedd ers Tân Grenfell a laddodd 72 o bobl. Cwestiwn agos at galon teuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau yn y tân yw pa fath o gofeb sy’n briodol i’w coffau. Un awgrym yw y dylid cadw Tŵr Grenfell fel gardd uchel wedi'i phlannu â 72 math o blanhigion.

Yn ‘Thought for the Day’ ar Radio 4 fore Mawrth bu’r Parchg Ddr Michael Banner o Goleg y Drindod Caergrawnt yn sôn am y modd y mae’r crefyddau sydd â’u gwreiddiau yn y Dwyrain Canol yn darlunio paradwys yn aml fel gardd. Gair Persiaidd yn golygu lle caeedig oedd y gair y tu ôl i’r syniad o baradwys, a dehonglwyd hynny fel cyfeiriad at ardd.

Gallwn ddeall apêl gerddi i bobl oedd yn by wyn ardaloedd poeth a chras y Dwyrain Canol, ac un o'r darluniau cofiadwy yn Llyfr Genesis yw hwnnw o Dduw yn rhodio yng Ngardd Eden ‘gyd ag awel y dydd’ (Genesis 3:8).

Yn ei hemyn ‘Speak, Lord, in the stillness’, y mae Emily May Grimes yn gweddïo am i’w bywyd fod fel gardd. Cyfansoddodd yr emyn yn Pondoland, sef gorsaf genhadol yn Ne Affrica, a lluniwyd y cyfieithiad Cymraeg ohono gan W. Nantlais Williams.
Dyma bennill olaf yr emyn;

Megis gardd ddyfradwy,
o aroglau'n llawn,
boed fy mywyd, Arglwydd,
fore a phrynhawn.

Gweddi
Dduw ein Tad,
diolchwn i ti am bobl y mae eu bywyd yn llawn perarogl
ac sydd yn harddu ac yn puro bro a chymuned.
Pobl y mae gwerthoedd yr Efengyl ac egwyddorion y Deyrnas
yn amlwg yn eu byw a’u bod,
ac sy’n dwyn bendith i bawb o’u cwmpas.
Gweddïwn am i’w dylanwad iachusol fynd ar gynnydd
ac am i ninnu gael y gras i dyfu yn eu cysgod.

Cyflwynwn i ti bawb sy’n teimlo
fod bywyd yn fwy o anialwch nag o ardd,
ac sy’n gofidio fod chwyn atgasedd a hunanoldeb
yn gwreiddio o’u cwmpas.

Cyflwynwn i ti bawb a welodd
drefn a phatrwm yr ardd
yn cael ei ddifetha gan brofedigaeth a galar,
gwendid a llesgedd,
gofid a phryder,
ansicrwydd ac anobaith.
Yng nghanol eu cynni,
dyro iddynt eto weld
yr had yn egino a’r blagur yn taflu.

A diolchwn i ti am Iesu Grist, y pen garddwr,
a ddaeth o’r bedd yn fyw, mewn gardd. Amen.

Emyn (781 yn C.Ff.)
Yn y dwys ddistawrwydd
dywed air, fy Nuw;
torred dy leferydd
sanctaidd ar fy nghlyw.

O fendigaid Athro,
tawel yw yr awr;
gad im weld dy wyneb,
doed dy nerth i lawr.

Ysbryd, gras a bywyd
yw dy eiriau pur;
portha fi â'r bara
sydd yn fwyd yn wir.

Dysg fi yng ngwybodaeth
dy ewyllys lân;
nerth dy gariad ynof
dry dy ddeddfau'n gân.

Megis gardd ddyfradwy,
o aroglau'n llawn,
boed fy mywyd, Arglwydd,
fore a phrynhawn. EMILY M. GRIMES, 1864-1927 cy/. NANTLAIS, 1874-1959

Ctrl a chlic
https://youtu.be/mEQiVuLbquE
Huw Rhys Evans, Seion, Ealing Green.

Y Fendith
Bydded i’r Tad gerdded gyda chwi yn ffresni’r ardd.
Bydded i’r Mab gerdded gyda chwi ar lwybr y mynydd.
Bydded i’r Ysbryd gerdded gyda chwi ar lwybr y pererinion.
Bendith y Tad, y Mab a’r Ysbryd a fo arnoch yn wastad. Amen.
John Johansen-Berg, addas. Glyn Tudwal Jones yn E ap N Roberts (gol), Amser i Dduw, 2004, t. 330.

Cliciwch yma i Lawrlwytho


13.06.21

Dyma myfyrdod 13.06.21 gan y Parchedig Ddr Elwyn Richards

Gweddi o Nesâd
Gan nad oes ynof rinwedd na chymhwyster i nesáu atat ti’ O
Dduw, deuaf fel yr wyf, yn dlawd, yn wael, yn wan, gan
bwyso’n unig ar dy gariad a’th drugaredd di yn Iesu Grist.
Amen. E ap N Roberts, Amser i Dduw, 2004, t.25.

Salm 46
DUW sydd noddfa a nerth i ni, cymorth hawdd ei gael mewn
cyfyngder.
Am hynny nid ofnwn pe symudai y ddaear, a phe treiglid y
mynyddoedd i ganol y môr:
Er rhuo a therfysgu o'i ddyfroedd, er crynu o'r mynyddoedd
gan ei ymchwydd ef.
Y mae afon, a'i ffrydiau a lawenhânt ddinas DUW; cysegr
preswylfeydd y Goruchaf.
DUW sydd yn ei chanol; nid ysgog hi: DUW a'i cynorthwya yn
fore iawn.
Y cenhedloedd a derfysgasant, y teyrnasoedd a ysgogasant:
efe a roddes ei lef, toddodd y ddaear.
Y mae ARGLWYDD y lluoedd gyda ni; y mae DUW Jacob yn
amddiffynfa i ni.
Deuwch, gwelwch weithredoedd yr ARGLWYDD; pa
anghyfanedd-dra a wnaeth efe ar y ddaear.
Gwna i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddaear; efe a ddryllia y
bwa, ac a dyr y waywffon, efe a lysg y cerbydau â thân.
Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sydd DDUW: dyrchefir fi
ymysg y cenhedloedd, dyrchefir fi ar y ddaear.
Y mae ARGLWYDD y lluoedd gyda ni; amddiffynfa i ni
yw DUW Jacob.

Bu llawer o sôn ar y cyfryngau yn ddiweddar am gyrchfannau gwyliau posibl eleni. Lleoedd diogel a hygyrch na fyddai’n rhaid hunan ynysu am ddyddiau wedi bod yno. Clywsom dro ar ôl tro pa mor awyddus yw pobl i gael seibiant a newid, a’r honiad cyson ein bod yn haeddu hyn ar ôl y fath flwyddyn ag a gafwyd.

Yn y traddodiad Cristnogol ystyrir mynd ar daith i le arbennig yn aml yn bererindod, a chysylltir hynny weithiau hefyd â seibiant a gorffwys. Ond nid ar haeddiant y pererin y bydd y pwyslais yn gymaint ag ar ei angen, ei awydd am adnewyddiad a’i ddyhead, efallai, am heddwch a thangnefedd.

Bu Ynys Enlli, a anfarwolwyd gan y bardd T Gwynn Jones, yn gyrchfan i’r pererinion ers canrifoedd;

Mae yno ugain mil o saint
Ym mraint y môr a'i genlli,
Ac nid oes dim a gyffry hedd
Y bedd yn Ynys Enlli.

I’r Iddew roedd Jerwsalem yn gyrchfan i’r pererinion a dinas Duw. Yno, yn sŵn dathliadau’r Deml, cai’r pererinion gyfle i addoli ac atgyfnerthu, ac un o brofiadau mawr bywyd, fel y dengys hanes Iesu yn ddeuddeg oed, oedd mynd ar bererindod i Seion (gw. Luc 2:41-52).

Ond beth sy’n gwneud lle fel Seion neu Ynys Enlli yn arbennig? Mewn gair, ymdeimlad o’r cysegredig a’r dwyfol. Presenoldeb Duw oedd yn gwneud Seion yn arbennig i’r Iddew, ac ymdeimlad o’r ysbrydol sy’n gwneud Enlli’n arbennig i amryw heddiw. Y lle ei hun a’i awyrgylch a'i hanes, yn ogystal â’r disgwyliad yng nghalon y saint wrth gyrraedd a’r tangnefedd a brofant cyn ymadael. Duw ei hun yw ein noddfa a’n nerth, meddai’r Salmydd, a’i bresenoldeb ef a rydd hyder a diogelwch.

Am dair canrif gyntaf ei hanes nid oedd gan yr Eglwys adeiladau, deuai’r credinwyr ynghyd lle bynnag y ceid cyfle, a’r hyn oedd yn bwysig iddynt oedd y gred a’r ymdeimlad fod Duw ei hun drwy ei Ysbryd yn bresennol; ‘Lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr wyf finnau yn y canol.’

Dod, nid i foddhau eu hunain ond i foliannu Duw wnâi’r pererinion. Ymgynnull, nid am eu bod yn haeddiannol, ond am fod ganddynt destun diolch wna’r addolwyr.

‘Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sydd DDUW: dyrchefir fi ymysg y cenhedloedd, dyrchefir fi ar y ddaear. Y mae ARGLWYDD y lluoedd gyda ni; amddiffynfa i ni yw DUW Jacob.’

Gweddi
Rho i ni’r noddfa y mae ei hangen arnom,
O Dduw cariadus,
noddfa dan d’adenydd.
Amddiffyn ni rhag popeth yr ydym yn ei ofni,
O Dduw ffyddlon,
trwy ein gwarchod rhag perygl.
Cadw ni rhag temtasiwn,
O Dduw graslon,
fel y bo i ni ddewis y llwybr cywir.
Bydd gyda ni, a boed i ni deimlo dy bresenoldeb,
O Dduw trugarog,
ar bob cam o daith bywyd.
Gweddïwn yn enw Iesu. Amen.

Emyn 682
Pererin wyf mewn anial dir
yn crwydro yma a thraw,
ac yn rhyw ddisgwyl bob yr awr
fod tŷ fy Nhad gerllaw.

Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, ledia'r ffordd,
bydd imi';n niwl a thân;
ni cherdda'n gywir hanner cam
oni byddi di o'm blaen.
Mi wyraf weithiau ar y dde
ac ar yr aswy law;
am hynny arwain, gam a cham
fi i'r baradwys draw.
Mae hiraeth arnaf am y wlad
lle mae torfeydd di-ri;
yn canu'r anthem ddyddiau'u hoes
am angau Calfarî. WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

Ctrl a chlic
https://youtu.be/Qwku0ATXIzI
Rhian Mair Lewis
Y Fendith
Boed i ddaioni Duw eich nerthu.
Boed i drugaredd Duw eich cysuro.
Boed i addewid Duw o fywyd tragwyddol eich ysbrydoli â
gobaith a chariad.
Yn enw’r Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân.
Amen.

Cliciwch yma i Lawrlwytho


TUDALEN FACEBOOK Gofalaeth Ardal Bangor - cliciwch yma

11.07.21

 Effesiaid 4:11-16 (beibl.net)
A dyma'i roddion: mae wedi penodi rhai i fod yn gynrychiolwyr personol iddo, eraill i fod yn broffwydi, eraill yn rhai sy'n rhannu'r newyddion da, ac eraill yn fugeiliaid ac athrawon.Maen nhw i alluogi pobl Dduw i gyd i'w wasanaethu mewn gwahanol ffyrdd, er mwyn gweld corff y Meseia, sef yr eglwys, yn tyfu'n gryf.Y nod ydy ein bod ni'n ymddiried ym Mab Duw gyda'n gilydd ac yn dod i'w nabod yn well. Bryd hynny bydd yr eglwys fel oedolyn aeddfed yn adlewyrchu beth welwn ni yn y Meseia ei hun.Dim plantos bach fyddwn ni, yn cael ein taflu yn ôl ac ymlaen gan y tonnau, a'n chwythu yma ac acw gan bob awel sy'n dod heibio. Fyddwn ni ddim yn newid ein meddyliau bob tro mae rhywun yn dweud rhywbeth newydd, neu'n cael ein twyllo gan bobl slei sy'n gwneud i gelwydd swnio fel petai'n wir.Na, wrth gyhoeddi beth sy'n wir mewn cariad, byddwn ni'n tyfu'n debycach bob dydd i'r Pen, sef y Meseia.Y pen sy'n gwneud i'r corff weithio a thyfu. Fel mae pob rhan o'r corff wedi'i weu i'w gilydd, a'r gewynnau'n dal y cwbl gyda'i gilydd, mae'r eglwys yn tyfu ac yn cryfhau mewn cariad wrth i bob rhan wneud ei gwaith.

Myfyrdod
Yn y bedwaredd bennod o'r Llythyr at yr Effesiaid y mae Paul yn amlinellu'r gwahanol swyddogaethau oedd yn yr Eglwys yn ei gyfnod ef. Yn amlwg, nid oedd pawb yn gwneud yr un peth ond yr oedd pawb, er hynny, yn gwasanaethu Crist yn ôl eu gallu a'u doniau.

I wneud hynny'n llwyddiannus, meddai Paul, roedd angen ffydd ac ymddiriedaeth a golygai hynny fod y Cristnogion yn tyfu ac yn aeddfedu. Meddai;

'Y nod yw dynoliaeth lawn dwf, a'r mesur yw'r aeddfedrwydd sy'n perthyn i gyflawnder Crist.''

Neu yn ôl beibl.net;
'Bryd hynny bydd yr eglwys fel oedolyn aeddfed yn adlewyrchu beth welwn ni yn y Meseia ei hun.''

Bod yn debyg i Grist oedd y nod, a golygai hynny gadernid barn a doethineb, a'r parodrwydd i gyhoeddi'r efengyl mewn cariad, a chydweithio. Y gyfrinach oedd dal cyswllt â Christ, ac ystyr hynny oedd ymroi yn llwyr i'w gariad a bod yn gwbl ffyddlon iddo.
Y mae gan bawb waith i'w wneud yn yr Eglwys o hyd, a gall pawb ohonom wneud rhywbeth. Wrth weithio yr ydym yn tyfu mewn profiad, a bydd y profiadau a gawn yn porthi ein ffydd ac yn mynnu ein bod weithiau yn meddwl yn ddyfnach am yr hyn a gredwn.
Cyfrifoldeb pob aelod o'r Eglwys yw meddwl o ddifrif am yr hyn y gallant ei gyflawni a'r hyn y dichon fod Duw yn gofyn iddynt ei wneud.
Wrth ffarwelio ag Owain fydd yn cychwyn ar ei weinidogaeth yng Ngofalaeth Fro Nant Conwy ym mis Medi, dymunwn yn dda iddo gan ddiolch am yr hwyl a'r cydweithio hapus fu rhyngom. Bu iddo ef a ninnau dyfu ac aeddfedu yn y ffydd drwy'r profiad hwnnw, a bu ei ymroddiad a'i benderfyniad i ymateb i'r alwad a deimlai i wasanaethu  fel gweinidog yn ysbrydoliaeth inni. Tybed a oes yna rywun arall yn yr ofalaeth sy'n teimlo fod Duw yn eu galw hwythau ar hyd llwybr tebyg? Os oes, peidiwch â bod yn swil o fynegi hynny.

Gweddi
Ein Tad, yr wyt ti yn galw pobl i'th ddilyn
ac yn rhoi'r gallu iddynt i gyflawni dy waith,
gan ein creu yn un teulu o fewn dy Eglwys.
Dyro i ninnau glywed dy alwad yn fwy eglur
a gweld y cyfleoedd i wasanaethu a roddi di inni.
Boed inni ddysgu ac aeddfedu
drwy rannu profiad a gorchwyl,
a darganfod y llwybr yr wyt yn ein cyfeirio iddo.

Diolchwn am dy Eglwys ar hyd a lled y ddaear
a gweddïwn y bydd iw chenhadaeth lwyddo
a'i gwaith fynd ar gynnydd.
Cyflwynwn i ti'r cynulleidfaoedd y gwyddom yn dda amdanynt
ac erfyniwn am dy fendith arnynt,
fel y bydd i'w tystiolaeth fod yn effeithiol
a'i bywyd yn adlewyrchiad o'th gariad.

Gweddïwn dros eglwysi'r ofalaeth hon
a phawb a berthyn iddi,
yn enwedig y rhai sy'n llesg neu'n wael,
y teuluoedd sydd mewn profedigaeth,
a'r aelodau sydd mewn ysbytai a chartrefi.
Bugeilia bob aelwyd,
a thrwy dy Ysbryd Glân  
ymestyn y tu hwnt i'n cyrraedd ni
i ddwyn cysur a gobaith,
ffydd ac adnewyddiad.
Hyn a ofynnwn yn enw ac yn haeddiant
ein Harglwydd, Iesu Grist. Amen.

Emyn (844 C.Ff.)
Efengyl tangnefedd, O rhed dros y byd,
a deled y bobloedd i'th lewyrch i gyd;
na foed neb heb wybod am gariad y groes,
a brodyr i'w gilydd fo dynion pob oes.

Sancteiddier y ddaear gan Ysbryd y ne';
boed Iesu yn Frenin, a neb ond efe:
y tywysogaethau mewn hedd wrth ei draed
a phawb yn ddiogel dan arwydd ei waed.

Efengyl tangnefedd, dos rhagot yn awr,
a doed dy gyfiawnder o'r nefoedd i lawr,
fel na byddo mwyach na dial na phoen
na chariad at ryfel, ond rhyfel yr Oen.
EIFION WYN, 1867-1926

https://www.youtube.com/watch?v=kJ_qVF-0kjQ
Y Parchg Wynne Roberts
Geiriau Eifion Wyn – ‘Efengyl Tangnefedd’
Ton: "How's the World Treating You".

Y Fendith
Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân, fyddo gyda ni oll. Amen.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r myfyrdod


Galwad i addoli
Pan ofynnodd Iesu, atebodd Simon Pedr:
‘Ti yw’r Meseia, Mab y Duw byw.’
Gadewch i ninnau roi’r ateb hyderus hwnnw,
ac addoli Iesu,
y Meseia, Mab y Duw byw.
Amen.

Gweddi o fawl

Arglwydd Iesu,
daethost i’r ddaear a cherdded yn ein plith;
ti yw’r Meseia, mab y Duw byw.
Rwyt wedi dangos y gwirionedd i ni;
ti yw’r Meseia, mab y Duw byw.
Rwyt yn byw gyda ni, yn dangos i ni y ffordd i fyw;
ti yw’r Meseia, mab y Duw byw.
Rydym yn diolch i ti ac yn dy foli am mai
ti yw’r Meseia, mab y Duw byw.
Amen.

Emyn: Y mae in Waredwr (C.Ff. 416)
Y mae in Waredwr,
Iesu Grist Fab Duw,
werthfawr Oen ei Dad,
Meseia, sanctaidd, sanctaidd yw.
Diolch, O Dad nefol,
am ddanfon Crist i'n byd,
a gadael dy Ysbryd Glân
i'n harwain ni o hyd.
Iesu fy Ngwaredwr,
enw ucha'r nef,
annwyl Fab ein Duw, Meseia
'n aberth yn ein lle.
Yna caf ei weled
ryw ddydd yn y ne'
a'i addoli ef yn Frenin
yn y sanctaidd le.
MELODY GREEN cyf.. MIRIAM DAVIES

Ctrl a Chlic
https://youtu.be/E6WKOE4EUq0
Y Mae In Waredwr (Melody Green) · Alwen Derbyshire

Datganiad Pedr (Mathew 16:13-20)
Pan gyrhaeddodd Iesu ardal Cesarea Philipi, gofynnodd i'w ddisgyblion, “Pwy mae pobl yn ei ddweud ydw i, Mab y Dyn?”
“Mae rhai yn dweud Ioan Fedyddiwr,” medden nhw, “eraill yn dweud Elias, ac eraill eto'n dweud Jeremeia neu un o'r proffwydi.”
“Ond beth amdanoch chi?” meddai. “Pwy dych chi'n ddweud ydw i?”
Atebodd Simon Pedr, “Ti ydy'r Meseia, Mab y Duw byw.”
“Rwyt ti wedi dy fendithio'n fawr, Simon fab Jona,” meddai Iesu, “am mai dim person dynol ddangosodd hyn i ti, ond fy Nhad yn y nefoedd. A dw i'n dweud wrthyt ti mai ti ydy Pedr (sef ‛y garreg‛). A dyma'r graig dw i'n mynd i adeiladu fy eglwys arni hi, a fydd grym marwolaeth ddim yn ei gorchfygu hi. Dw i'n mynd i roi allweddi teyrnas yr Un nefol i ti; bydd beth bynnag rwyt ti'n ei rwystro ar y ddaear wedi'i rwystro yn y nefoedd, a bydd beth bynnag rwyt ti'n ei ganiatáu ar y ddaear wedi'i ganiatáu yn y nefoedd.” Yna dyma Iesu'n rhybuddio'i ddisgyblion i beidio dweud wrth neb mai fe oedd y Meseia.

Myfyrdod
Cafwyd sawl ysgrif ddiddorol yn Ichthus ar enwau lleoedd, diolch i Mrs Glenda Carr, a thynnodd Dr Bruce Griffiths sylw at ei chyfrol ddiweddaraf, Hen Enwau o Feirionnydd, yn y rhifyn diwethaf. Dywed fod enwau lleoedd yn mynegi hanes ardaloedd, ac felly y mae yn y Beibl hefyd.

Dywedir yn yr efengylau i Iesu fynd a’i ddisgyblion i Cesarea Philipi wrth droed mynydd Hermon. Enw’r dref yn wreiddiol oedd Paneas (Baneas heddiw), a chan fod ogof y duw Pan yno roedd yn ganolfan baganaidd bwysig. Llifai dyfroedd o bwll yn yr ogof y credid ei fod yn ddiwaelod, a dyma yn ôl traddodiad un o ddau darddle yr afon Iorddonen. Adeiladwyd ac ehangwyd y ddinas gan Philip, mab Herod Fawr, a newidiodd enw’r lle er mwyn anrhydeddu yr Ymerawdwr Cesar . Galwodd Philip y ddinas yn Cesarea Philipi er mwyn gwahaniaethu’r ddinas oddi wrth y porthladd o’r enw Cesarea oedd ar lan Môr y Canoldir. Wrth wneud hynny bu iddo ddyrchafu ei fri ei hunan ar yr un pryd.

Erbyn cyfnod Iesu roedd Cesar yn cael ei addoli fel mab duw yng Nghesarea Philipi. Dyma un o ganolfannau pwysicaf yr Ymerodraeth Rufeinig yn y dwyrain, ac roedd arwyddocâd gwleidyddol y lle a phaganiaeth amlwg y ddinas yn ei gwneud yn wrthun i’r Iddewon. Ond yma, yn nannedd y gelyn, y mae Pedr yn cyffesu mai Iesu yw’r Meseia, a dyna’r union gyffes y byddai’n ei dwyn maes o law i Rufain - prif ddinas yr Ymerodraeth Rufeinig.
Mae’r ffydd Gristnogol o’r cychwyn wedi herio’r drwg a throi'r byd wyneb i waered. Mae grym cyffes Pedr yn cael ei adlewyrchu yn haeriad Iesu; ‘Ac yr ydwyf finnau yn dywedyd i ti, mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys; a phyrth uffern nis gorchfygant hi.’

Y syniad yma yw bod Crist yn adeiladu ei eglwys ar gyffes yr unigolyn, a daw Pedr yn garreg sylfaen cymdeithas newydd o gredinwyr.

Fel yng nghyfnod Iesu mae yna ymerodraethau o bob math yn hawlio ein hymlyniad ninnau, a hynny yn fasnachol, yn wleidyddol yn ysbrydol a chrefyddol. Camp y credinwyr yw rhoi’r lle blaenaf i Grist a byw yng ngoleuni hynny; Meddai R J Derfel (1824-1905);

Yma nid oes gennym ni
neb yn arglwydd ond tydi;
ac ni cheisiwn arall chwaith
oesoedd tragwyddoldeb maith. (C.Ff. 206)

Gweddi o eiriolaeth
Rydym yn ymddiried ynot ti, Arglwydd, i ateb ein gweddïau.
Eiddot ti yw’r deyrnas, y nerth a’r gogoniant.
Gwneler dy ewyllys, O Arglwydd.

Gweddïwn dros bawb sy’n cael eu ffydd yn anodd:
o achos hunan amheuaeth,
oherwydd amgylchiadau anodd,
am fod pethau drwg yn digwydd,
am iddynt gael eu harwain ar gyfeiliorn,
am eu bod eisiau enwogrwydd ac arian.

Gweddïwn dros bawb sy’n teimlo eu bod yn y tywyllwch,
wedi eu cloi mewn sefyllfa lle nad oes ganddynt atebion.

Gweddïwn drosom ein hunain:
pan fyddwn mewn sefyllfaoedd anodd,
pan fyddwn yn ceisio datgloi drysau nad oes gennym hawl i’w hagor,
pan fyddwn yn methu canolbwyntio ar y deyrnas,
pan fyddwn yn peidio â rhannu ein stori.
Arglwydd gwrando ein gweddi, yn enw Iesu Grist.
Amen.

Emyn: Iesu, Iesu, ’rwyt ti’n ddigon (CFf 320)

Iesu, Iesu, 'rwyt ti'n ddigon,
'rwyt ti'n llawer mwy na'r byd;
mwy trysorau sy'n dy enw
na thrysorau'r India i gyd:
oll yn gyfan
ddaeth i'm meddiant gyda'm Duw.
Y mae gwedd dy wyneb grasol
yn rhagori llawer iawn
ar bob peth a welodd llygad
ar hyd wyneb daear lawn:
Rhosyn Saron,
ti yw tegwch nef y nef. WILLIAM WILLIAMS 1717-91

Ctrl a Chlic
https://youtu.be/BT1jIJ5fyWM
Gwyn Hughes Jones | Miwsig Fy Mywyd

Gweddi i gloi
Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion am beidio â dweud wrth neb mai ef oedd y Meseia.
Boed ein calonnau yn awr mor llawn o ryfeddod a llawenydd,
fel na fedrwn wneud dim ond rhannu’r newyddion da.
Tyrd gyda ni, Arglwydd da,
a helpa ni i ddweud wrth bawb sy’n barod i wrando.
Amen.

Cliciwch yma i lawr lwytho dogfen Myfyrdodau 23/08/20


Ffydd y wraig o Ganaan (Mth 15:21-28)

Gweddi wrth ddynesu
Arglwydd Dduw, wrth i ni ddod o’th flaen yn awr,
agorwn ein calonnau i ti.
Helpa ni i weld ein bod yn gallu dysgu cymaint gan eraill,
hyd yn oed gan y rhai yr ydym yn meddwl nad oes gennym lawer yn gyffredin â hwy.
Gwna ni’n barod i sefyll ar wahân i’r dorf,
i wrando ar dy lais, ac i weithredu arno.
Amen.

Gwrandewch ar Bara Angylion Duw - Stuart Burrows

Ffydd y Gananees (Mth 15:21-28)
Gadawodd Iesu Galilea ac aeth i ffwrdd i gylch Tyrus a Sidon. Daeth gwraig ato (gwraig o'r ardal o dras Canaaneaidd), a gweiddi, “Arglwydd, Fab Dafydd, helpa fi! Mae fy merch yn dioddef yn ofnadwy am ei bod yng ngafael cythraul.”
Wnaeth Iesu ddim ymateb o gwbl. A dyma'i ddisgyblion yn dod ato a phwyso arno, “Anfon hi i ffwrdd, mae hi'n boen yn dal ati i weiddi ar ein holau ni!”
Felly atebodd Iesu hi, “Dim ond at bobl Israel, sydd fel defaid ar goll, ces i fy anfon.”
Ond dyma'r wraig yn dod a phenlinio o'i flaen. “Helpa fi, Arglwydd!” meddai.
Atebodd Iesu, “Dydy hi ddim yn iawn i bobl daflu bwyd y plant i'r cŵn.”
“Digon gwir, Arglwydd,” meddai'r wraig, “ond mae hyd yn oed y cŵn yn bwyta'r briwsion sy'n disgyn oddi ar fwrdd eu meistr.”
Atebodd Iesu, “Wraig annwyl, mae gen ti lot o ffydd! Cei beth ofynnaist amdano.” A dyna'r union adeg y cafodd ei merch ei hiacháu.

Myfyrdod
Mae’n anodd weithiau gweld ergyd rhai o straeon y Testament Newydd, ac nid yw bob amser yn eglur beth oedd gan yr efengylwyr mewn golwg wrth eu cofnodi.

Nid bwriad Mathew yma, does bosibl, oedd rhoi argraff anffafriol o Iesu Grist. Y mae’n cofnodi’r hanes yn union wedi adrodd am y gwrthdaro rhwng Iesu â’r Phariseaid. Neges bendant Iesu wrthynt hwy oedd nad yr hyn yr oeddynt yn fwyta oedd yn eu gwneud yn aflan ond yr hyn yr oeddynt yn ei ddweud. Mae bwyd, meddai, yn cael ei dreulio gan y corff ond daw geiriau o’r galon.

Yna, wedi i Iesu symud i ardal arall cawn gan Mathew hanes gwraig yn dod at Iesu i ofyn am gymorth. Y mae’n ymwybodol o’r ffordd yr oedd yn cael ei hystyried gan yr Iddewon, ond mae’n benderfynol a di-ildio, a’i hawydd i gael iachau ei merch gymaint fel nad yw’n cymryd ei digio gan ddiffyg ymateb Iesu.

Erbyn diwedd y stori gwelir;

  • bod gwraig wedi cael gwrandawiad, a hynny mewn cymdeithas lle na fyddai dynion yn siarad â merched yn gyhoeddus.
  • bod gwraig estron fu’n ddigon dewr i ddod ar ofyn Iesu yn cael ei dymuniad.
  • bod un nad oedd yn perthyn i’r genedl Iddewig yn cael rhan yn y wledd yr oedd Duw yn ei darparu i’w bobl.

Hanes am gynnwys nid gwrthod yw’r stori, ac mae’n ein hatgoffa ninnau o ba mor llydan yw’r efengyl, ac yn hynny o beth rhydd hyder a gobaith i bawb ohonom. Meddai’r proffwyd Eseia;

  A'r dieithriaid sy'n glynu wrth yr ARGLWYDD,
yn ei wasanaethu ac yn caru ei enw,
sy'n dod yn weision iddo ef,
yn cadw'r Saboth heb ei halogi
ac yn glynu wrth fy nghyfamod—
dygaf y rhain i'm mynydd sanctaidd,
a rhof iddynt lawenydd yn fy nhŷ gweddi,
a derbyn eu poethoffrwm a'u haberth ar fy allor;
oherwydd gelwir fy nhŷ yn dŷ gweddi i'r holl bobloedd,”
medd yr Arglwydd DDUW,
sy'n casglu alltudion Israel.
“Casglaf ragor eto at y rhai sydd wedi eu casglu.”
(Eseia 56:6-8);


Owain-Davies Mae’r stori hefyd yn pwysleisio pa mor bwysig yw gweld bywyd o safbwynt rhywun arall a gwrando ar ein gilydd.

Gweddi o gyffes
Arglwydd, weithiau byddwn fel petaem yn gwrando ar eraill yn hytrach nag arnat ti.
Rydym yn cyfaddef bod ein sylw yn aml ym mhobman
ond ble y dylai fod.
Maddau i ni, Arglwydd, am golli cyfleoedd.

Weithiau bydd ein pryderon ein hunain yn tynnu ein sylw yn ormodol.
Ni fyddwn yn poeni am neb ond ni ein hunain,
ac ni fyddwn yn gwrando ar neb ond y rhai sy’n dweud yr hyn yr ydym am ei glywed.
Maddau i ni, Arglwydd, am golli cyfleoedd.

Weithiau fyddwn ni ddim yn gwrando ar bobl am nad ydym yn eu hoffi,
neu am eu bod yn wahanol i ni.
Weithiau byddwn yn meddwl drwg.
Maddau i ni, Arglwydd, am golli cyfleoedd.

Weithiau fyddwn ni ddim yn gwrando arnat ti, Arglwydd,
am ein bod yn rhy brysur,
neu’n ofni clywed yr hyn yr wyt am ei ddweud wrthym.
Maddau i ni, Arglwydd, am golli cyfleoedd.
Amen.

Emyn ‘Pan fwyf yn teimlo’n unig’ (C.Ff 758)

 

Pan fwyf yn teimlo'n unig lawer awr
heb un cydymaith ar hyd llwybrau'r llawr,
am law fy Ngheidwad y diolchaf i
â'i gafael ynof er nas gwelaf hi.

Pan fyddo beichiau bywyd yn trymhau
a blinder byd yn peri im lesgáu,
gwn am y llaw a all fy nghynnal i
â'i gafael ynof er nas gwelaf hi.

Pan brofais archoll pechod ar fy nhaith
a minnau'n ysig ŵr dan gur a chraith,
ei dyner law a'm hymgeleddodd i
â'i gafael ynof er nas gwelaf hi.

A phan ddaw braw yr alwad fawr i'm rhan
a'r cryfaf rai o'm hamgylch oll yn wan,
nid ofnaf ddim, ei law a'm tywys i
â'i gafael ynof er nas gwelaf hi.

  JOHN ROBERTS, 1910-84

Gwrandewch ar Trebor Edwards

Gweddi o eiriolaeth
Gofynnodd y wraig oedd yn Gananees am dy help.
Cymaint oedd yn caru ei merch, ac roedd mewn angen mor ddifrifol,
fel nad oedd yn fodlon rhoi’r gorau iddi nes cael ei hateb.
Gweddïwn mewn ffydd.
Clyw ni ac ateb ein cri, Arglwydd bendigaid.

Arglwydd, boed i ni ddysgu gan y wraig hon,
sut i’th wasanaethu yn ddisgwylgar, yn amyneddgar, yn ddyfal, yn benderfynol.
Boed i ni sefyll dros ein hargyhoeddiadau pan fyddwn yn credu o ddifrif ein bod yn gwneud dy ewyllys di.
Gweddïwn mewn ffydd.
Clyw ni ac ateb ein cri, Arglwydd bendigaid.

Gweddïwn heddiw dros y rhai sy’n teimlo eu bod yn cael eu heithrio, beth bynnag eu sefyllfa, beth bynnag fo’r rheswm:
dros garcharorion, ffoaduriaid, y digartref;
dros y gwael, y rhai sy’n dioddef o afiechyd meddwl;
dros unrhyw un sy’n teimlo eu bod ar y tu allan.
Gweddïwn mewn ffydd.
Clyw ni ac ateb ein cri, Arglwydd bendigaid.

Gweddïwn drosom ein hunain pan fydd ein ffydd yn wan, neu pan fyddwn yn teimlo nad ydym yn perthyn.
Gweddïwn mewn ffydd.
Clyw ni ac ateb ein cri, Arglwydd bendigaid.
Amen.

Y Fendith
Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw a chymdeithas yr Ysbryd Glân fod gyda ni oll. Amen.

Cliciwch yma i lawr lwytho dogfen Myfyrdodau


Dameg y Winllan a'r Tenantiaid (Mathew 21 :33-44)
Mc. 12:1–12; Lc. 20:9–19

Gwrandewch ar ddameg arall. Yr oedd rhyw berchen tŷ a blannodd winllan; cododd glawdd o'i hamgylch, a chloddio cafn i'r gwinwryf ynddi, ac adeiladu tŵr. Gosododd hi i denantiaid, ac aeth oddi cartref. A phan ddaeth amser y cynhaeaf yn agos, anfonodd ei weision at y tenantiaid i dderbyn ei ffrwythau. Daliodd y tenantiaid ei weision; curasant un, a lladd un arall a llabyddio un arall. Anfonodd drachefn weision eraill, mwy ohonynt na'r rhai cyntaf, a gwnaeth y tenantiaid yr un modd â hwy. Yn y diwedd anfonodd atynt ei fab, gan ddweud, ‘Fe barchant fy mab.’ Ond pan welodd y tenantiaid y mab dywedasant wrth ei gilydd, ‘Hwn yw'r etifedd; dewch, lladdwn ef, a meddiannwn ei etifeddiaeth.’ A chymerasant ef, a'i fwrw allan o'r winllan, a'i ladd. Felly pan ddaw perchen y winllan, beth a wna i'r tenantiaid hynny?” “Fe lwyr ddifetha'r dyhirod,” meddent wrtho, “a gosod y winllan i denantiaid eraill, rhai fydd yn rhoi'r ffrwythau iddo yn eu tymhorau.” Dywedodd Iesu wrthynt, “Onid ydych erioed wedi darllen yn yr Ysgrythurau:
“ ‘Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,
hwn a ddaeth yn faen y gongl;
gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn,
ac y mae'n rhyfeddol yn ein golwg ni’?
“Am hynny rwy'n dweud wrthych y cymerir teyrnas Dduw oddi wrthych chwi, ac fe'i rhoddir i genedl sy'n dwyn ei ffrwythau hi. A'r sawl sy'n syrthio ar y maen hwn, fe'i dryllir; pwy bynnag y syrth y maen arno, fe'i maluria.”

Myfyrdod
Roedd Iesu yn aml yn adrodd damhegion oedd yn adlewyrchu bywyd ei gymuned. Yma darlunia sefyllfa gyffredin lle yr oedd gwinllan wedi ei gosod i denantiaid. Yn anffodus, nid oeddynt yn fodlon talu’r rhent i’r perchennog, ac y maent yn mynd i eithafion i sicrhau y winllan iddynt eu hunain.

A ninnau bellach ar drothwy tymor y diolchgarwch deuwn yn ymwybodol unwaith eto o lawnder darpariaeth y greadigaeth, ac hefyd o’n cyfrifoldeb i ofalu am y byd ac am ein gilydd. Ar ryw olwg fe ellir dadlau ein bod ninnau, drwy amharchu’r greadigaeth a rheibio’r ddaear, wedi hawlio’r winllan i ni ein hunain.

Ond delwedd o genedl Israel yw’r winllan yn yr Hen Destament (gw. Eseia 5:1-7), a dameg gan Iesu amdano’i hun ac agwedd yr awdurdodau crefyddol tuag ato oedd hon yn wreiddiol. Drwy wrthod y proffwydi gynt yr oeddynt wedi gwrthod negeswyr Duw, ac yn y diwedd byddent yn ei ladd yntau. 

Yr un yw’r mab a’r maen yn y ddameg, ac yn yr iaith Hebraeg roedd y gair am fab (ben) a’r gair am faen (eben) yn hynod o debyg. Mae cefndir y sôn am y maen sy’n dinistrio yn ail bennod Llyfr Daniel (gw. Daniel 2:31-45). Yma yn y ddameg caiff y mab a’r maen eu gwrthod, ac mae’r naill a’r llall yn cael eu cyfiawnhau – y mab drwy i’r perchennog ddod a chipio’r winllan oddi ar y tenantiaid a’i rhoi i eraill, a’r maen gwrthodedig drwy gael ei osod yn y diwedd yn y lle mwyaf anrhydeddus yn yr adeilad i gyd!

Sôn amdano’i hun yr oedd Iesu. Cawn ninnau ein herio i ystyried ein hagwedd tuag ato wrth fyfyrio ar ei fywyd. Meddai’r Salmydd;
Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,
a ddaeth yn brif gonglfaen (Salm 118:22)

Yn y rhifyn cyfredol o Cristion, y mae’r Golygydd yn dyfynnu geiriau’r diweddar Barchedig Elfed ap Nefydd Roberts; ‘Proses barhaus o roi mwy a mwy o’n bywyd i Dduw, mewn ymateb i’w roi mawr ef i ni yn Iesu Grist, yw’r Bywyd Cristnogol.’

Emyn ‘Wrth edrych Iesu ar dy groes’  (C Ff 495)

Wrth edrych, Iesu, ar dy groes,
a meddwl dyfnder d'angau loes,
pryd hyn 'rwyf yn dibrisio'r byd
a'r holl ogoniant sy ynddo i gyd.

N'ad im ymddiried tra bwyf byw
ond yn dy angau di, fy Nuw;
dy boenau di a'th farwol glwy'
gaiff fod yn ymffrost imi mwy.

Dyma lle'r ydoedd ar brynhawn
rasusau yn disgleirio'n llawn:
mil o rinweddau yn gytûn
yn prynu'r gwrthgiliedig ddyn.

Poen a llawenydd dan y loes,
tristwch a chariad ar y groes;
ble bu rhinweddau fel y rhain
erioed o'r blaen dan goron ddrain?

Myfi aberthaf er dy glod
bob eilun sydd o dan y rhod,
ac wrth fyfyrio ar dy waed
fe gwymp pob delw dan fy nhraed.

ISAAC WATTS, 1674-1748
efel. WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
Ctrl a Chlic
https://youtu.be/2A05yTvsMY0

Deep Harmony (Wrth Edrych Iesu Ar Dy Groes) · Cor Meibion Pendyrus

Gweddi
Ein Tad, llanw ein meddyliau â’th wirionedd
fel y gallwn ddirnad maint dy gariad tuag atom.
Cariad a waned yn amlwg i ni yn Iesu Grist,
ac a ddatguddiwyd drwy ei fywyd a’i farw a’i atgyfodiad ef.
Boed i’r cariad hwn fod yn nerth ac yn gynhaliaeth inni,
a chymorth ni i ymateb iddo drwy ein hymroddiad i ti
a’n hymwneud â’n gilydd.

Gofynnwn dy fendith ar ein byd a’n bywyd yn gyffredinol.
Yn nhymor diolchgarwch am y cynhaeaf
cyflwynwn i ti ein pryderon a’n gobeithion am y cread.
Gofidiwn am y modd y llygrwyd ac yr amharchwyd y ddaear
a gofynnwn am ddoethineb ac ymroddiad a nerth
i atal y difrod ac adfer y greadigaeth.

Gofynnwn dy fendith ar ein bywyd ysbrydol
a’n tystiolaeth fel disgyblion i ti.
Cywilyddiwn oherwydd ein diffyg ymroddiad
er i ti dy hun ein hysbrydoli.
Crea galon lân ynom, yw ein gweddi,
a rho ysbryd uniawn o’n mewn,
fel y gallwn dy addoli fel y dylem,
a mynegi dy fawredd a’th ogoniant,
waned yn amlwg yn Iesu Grist ein Harglwydd.

A gweddïwn drosom ein hunain a’n gilydd,
y bydd i ti leddfu ein pryderon a lliniaru ein gofid.
Cysura bawb sydd mewn galar a rho obaith i’r cleifion.
Bydd gyda’r gofalwyr ym mhob man
a bendithia bawb sy’n ceisio cynorthwyo eraill.
Cadw ni’n ffyddiog, er gwaethaf pob gofid,
yn barod, beth bynnag a ofynnir gennym,
yn obeithiol, am fod ein hyder ynot ti,
ac yn gariadus oherwydd dy gariad.

Yn enw Iesu Grist, a fu farw,
ac a atgyfododd er mwyn i ni gael bywyd,
gwrando ein gweddi.
Amen.

Emyn ‘Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd’ (C.Ff. 319)

Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd
wrthrych teilwng o'm holl fryd,
er mai o ran yr wy'n adnabod
ei fod uwchlaw gwrthrychau'r byd:
henffych fore
y caf ei weled fel y mae.
Rhosyn Saron yw ei enw,
gwyn a gwridog, teg o bryd;
ar ddeng mil y mae'n rhagori
o wrthrychau penna'r byd:
ffrind pechadur,
dyma ei beilot ar y môr.
Beth sydd imi mwy a wnelwyf
ag eilunod gwael y llawr?
Tystio 'rwyf nad yw eu cwmni
i'w gystadlu â'm Iesu mawr:
O am aros
yn ei gariad ddyddiau f'oes.
ANN GRIFFITHS, 1776-1805
Ctrl a Chlic

https://youtu.be/5szdT6Cu8g4 

Cymanfa Treforus (BBC) 1989: Wele'n Sefyll Rhwng y Mwrtwydd (Ann Griffiths)

Y Fendith
Duw fo’n gysur ac yn nerth i ni,
Duw fo’n obaith ac yn gynhaliaeth i ni,
Duw fo’n llewyrch ac yn llwybr i ni,
a bendith Duw, Greawdwr, Waredwr a Rhoddwr bywyd,
a fo arnom yn awr a hyd byth. Amen.

Llyfr Gweddi Seland Newydd yn E ap N Roberts, Te Deum, 2017, t, 80

Cliciwch yma i lawr lwytho dogfen Myfyrdodau

 

LluniauLluniau Diweddaraf

Henaduriaeth Arfon ar flickr.com
 

CysylltuManylion Cyswllt

Cyfeiriad:Y Parchedig Ddr Elwyn Richards, Plas Bach, 70 Cae Gwyn, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1LL.
Ffôn: 01286 676435
E-bost: post@henaduriaetharfon.org