Carmel
Enw’r Eglwys: Eglwys Carmel
Gweinidog yr Eglwys: Y Parchg Gwenda Richards B.Ed., B.D. abermenai@btinternet.com
Ysgrifennydd: Mr Richard Owen, Glanynant, Carmel e-bost: richardglanynant@btinternet.com
Ysgrifennydd y Cyhoeddiadau: Arwyn Vaughan Hughes, Dwylan, Carmel, Caernarfon LL54 7AR (01286
880209)
Trysorydd: Mr Ieuan Roberts, Tros-yr-Enfys, Carmel, Caernarfon LL54 7SL (01286 880043)
Ganllath o gopa’r mynydd…’
![]() |
Dydd Sadwrn, 11 Gorffennaf 2015, fel rhan o ŵyl undydd i ddathlu tirwedd a llenyddiaeth Dyffryn Nantlle cafwyd cyfle i weld Cadair Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1910 yn y Neuadd Goffa ym Mhenygroes. Dyma Gadair Bardd yr Haf, sef y gadair a enillodd R.Williams Parry am ei awdl ‘Yr Haf’ yn yr Eisteddfod honno. Roedd y Neuadd dan ei sang a’r wefr yn drydannol wrth i bawb fanteisio ar y cyfle i dynnu llun y Gadair a roddwyd ar fenthyg i Benygroes am gyfnod byr iawn ar y diwrnod arbennig hwnnw.
Yn dilyn hynny, aeth tua cant o bobl ar daith gerdded yng nghwmni’r bardd a’r newyddiadurwraig Karen Owen. Cawsom ein tywys ar draws y Dyffryn i fannau oedd â chyswllt agos â Bardd yr Haf, a braint fu gwrando ar Karen yn egluro’r cysylltiadau hynny yn hynod o ddiddorol. Yn ystod y daith gofynnwyd i bawb adrodd soned enwg R Williams Parry i’r ‘Llwynog’ a dyna brofiad fu bod yn rhan o Gôr Adrodd enfawr a’r geiriau’n diasbedain ar draws y Dyffryn.
Dwyawr o daith hynod o gofiadwy a chyfle ar y diwedd i rannu argraffiadau uwchben panad yng nghaffi Pant Du.
Bu taith gerdded yn ystod y bore yng nghwmni Twm Elias a chafwyd cyfle yn yr hwyr i holi Eric Jones, yr anturiaethwr.
Diolch i bawb a drefnodd yr Ŵyl, yn arbennig Angharad Tomos. Edrychwn ymlaen at yr Ŵyl y flwyddyn nesa.
Am fwy o luniau, cliciwch yma.
![]() |
Sul gwahanol i'r arfer
Oedfa wahanol iawn i’r arfer ddaeth i ran 31 o aelodau Eglwys Horeb Rhostryfan, Eglwys Carmel ac Eglwys y Bryn, y Groeslon ddydd Sul 5 Gorffennaf , 2015
Trefnwyd Pererindod i Eglwys Llanycil ger y Bala i ymweld â Chanolfan Byd Mari Jones. Bu edrych ymlaen at weld y Ganolfan sydd wedi derbyn cymaint o ganmoliaeth o bob cyfeiriad. Prynwyd yr eglwys a'r safle gan Gymdeithas y Beibl, a'i haddasu i leoli arddangosfa gwerth chweil ar gyfer ymwelwyr o bob rhan o'r byd.
Paned oedd y peth cyntaf ar yr agenda, a hynny yn yr ystafell bwrpasol sydd yn lleoli caffi a gweithdy, cyn cael sgwrs hamddenol gan Nerys Siddal rheolwraig y ganolfan. Fel rhan o'i chyflwyniad dangoswyd ffilm yn dangos y gwaith enfawr a wnaethpwyd yn y ganolfan.
Symud wedyn i’r Eglwys a chynnal oedfa fer yno dan arweiniad Dr Tudor Ellis, cyn treulio gweddill yr amser yn mwynhau'r arddangosfa sydd yn troi o amgylch stori gyfarwydd ymweliad Mari Jones â Thomas Charles, y Bala.
Ymlaen â ni wedyn i westy'r Eryrod yn Llanuwchllyn i fwynhau pryd bwyd blasus wedi ei baratoi gan Eleri a'i chriw. Cafwyd mwy na digon o fwyd a phawb wedi ei blesio.
Bu'r diwrnod yn llwyddiant drwyddo draw a phawb yn awyddus i weld y digwyddiad yn un blynyddol ar galendr y dair eglwys.
Bleddyn Jones
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Clwb Ieuenctid Eglwysi Bro Lleu
Mae y clwb wedi ei sefydlu ers dwy flynedd. Cynhelir y clwb bob dydd Mawrth rhwng pedwar a chwech o’r gloch y prynhawn. Trefnir amrywiaeth o weithgareddau hwyliog ar gyfer yr aelodau, yn gemau, gweithgareddau elusennol, gwaith creadigol ac, wrth gwrs, cyfle i adnabod Crist yn well.
Mae croeso i unrhyw un rhwng 11 a 16 mlwydd oed ymaelodi.
Am wybodaeth pellach cysylltwch a’r Gweinidog, y Parch. Deian Evans.
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Isod mae lluniau Carmel. I weld y lluniau i gyd - cliciwch yma
DosbarthIADAU
AC EGLWYSI
PLANT & IEUENCTID
Yn YR ADRAN YMA