Horeb, Rhostryfan
Enw’r Eglwys: Horeb, Rhostryfan
Gweinidog yr Eglwys: Y Parchg Gwenda Richards B.Ed., B.D. abermenai@btinternet.com
Ysgrifennydd: Mrs Nerys Evans, Bryn Melyn, Rhostryfan LL54 7ND (01286 830895 / 07810 530321) e-bost: nerys.evans@dsl.pipex.com
Ysgrifennydd y Cyhoeddiadau: a Trysorydd: Mr Huw Williams, Awelfryn, Rhostryfan LL54 7NF (01286 830287).
(ch) Miss Elsbeth Jones, Lleifior, Rhostryfan LL54 7NF (01286 830407)
Bore Sul, Gorffennaf 1af, bedyddiawyd Dafydd Arthur, mab Sioned a Trystan James-Bevan, gan y gweinidog, Y Parchedig Deian Evans. Hyfrydwch o'r mwyaf oedd croesawu perthnasau a chyfeillion y teulu, sy'n byw yn Ty’n-Ffrwd, Rhos Isa.
Cyfarfod Cymorth Cristnogol: Mai 9fed
Cynhaliwyd cyfarfod i gychwyn ymgyrch Cymorth Cristnogol plwyfi Llandwrog a Llanwnda yng nghapel Horeb, Rhostryfan nos Fercher Mai 9fed. Roedd y gwasanaeth dechreuol effeithiol dan ofal plant ac athrawon Ysgol Sul Horeb ac yn cynnwys darlleniadau, gweddïau, canu swynol y plant, a chyflwyniad sleidiau ar y sefyllfa yn Sierra Leone.
Roedd y cyfan dan ofal Bethan Williams, Haf Griffin gyda Dylan Huw yn cyfeilio. Yn y llun gwelir Fflur Davies, Elliw Hunt, Manon Griffin a Lucy Owen. Cymerwyd rhan hefyd gan Marged Williams, Bowydd.
Cyfarfod Cysegru'r Piano
Bore Sul, 26ain Chwefror trefnwyd gwasanaeth o fawl effeithiol gan aelodau, athrawon a rhieni’r Ysgol Sul, ar y cyd â’r gweinidog, y Parchedig Deian Evans. Gwasanaeth ydoedd i gysegru’r piano newydd a brynwyd yn ddiweddar at waith yr Ysgol Sul. Cafwyd datganiadau ar y piano gan Anest, Fflur ac Awen ac unawd safonol gan Fflur Davies.
Cyfeiliwyd i ganu bywiog a soniarus y plant gan Dylan Huw Jones, gyda Catrin Jones a Ffion Hughes ar y ffliwt. Traddodwyd neges bwrpasol gan y gweinidog ac roedd swm y casgliad tuag at waith yr Ysgol Sul yn anrhydeddus.
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Clwb Ieuenctid Eglwysi Bro Lleu
Mae y clwb wedi ei sefydlu ers dwy flynedd. Cynhelir y clwb bob dydd Mawrth rhwng pedwar a chwech o’r gloch y prynhawn. Trefnir amrywiaeth o weithgareddau hwyliog ar gyfer yr aelodau, yn gemau, gweithgareddau elusennol, gwaith creadigol ac, wrth gwrs, cyfle i adnabod Crist yn well.
Mae croeso i unrhyw un rhwng 11 a 16 mlwydd oed ymaelodi.
Am wybodaeth pellach cysylltwch a’r Gweinidog, y Parch. Deian Evans.
Isod mae lluniau Horeb, Rhostryfan. I weld y lluniau i gyd - cliciwch yma
DosbarthIADAU
AC EGLWYSI
PLANT & IEUENCTID
Yn YR ADRAN YMA