Hanes

 

image

Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru neu Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn olrhain ei hanes yn ôl i Ddiwygiad Efengylaidd y ddeunawfed ganrif.

Bryd hynny, dan ddylanwad pregethu brwd pobl fel Howel Harris, Trefeca, Daniel Rowland, Llangeitho a William Williams, Pantycelyn sefydlwyd nifer o seiadau neu gyfarfodydd crefyddol ar hyd a lled y wlad, a datblygodd y rhain mewn amser yn eglwysi. Yr oedd y seiadau mewn perthynas glos â’i gilydd ac iddynt drefn a disgyblaeth arbennig, ac yn 1811 ordeiniwyd nifer o’r arweinwyr yn weinidogion.

Cyn hynny, mudiad o fewn Eglwys Loegr oedd Methodistiaeth ond wedyn daeth yn enwad ar wahân. Tyfodd yr enwad yn gyflym yn ystod y ganrif ddilynol a daeth y capel yn rhan annatod o fywyd pob cymuned gan ddylanwadu ar y wlad yn grefyddol a diwylliannol a gwleidyddol. Ar ei hanterth yr oedd dros wyth deg o eglwysi yn perthyn i Henaduriaeth Arfon gyda ______ o aelodau a ___ o weinidogion mewn gofal bugeiliol.

 

LluniauLluniau Diweddaraf

Henaduriaeth Arfon ar flickr.com
 

CysylltuManylion Cyswllt

Cyfeiriad:Y Parchedig Ddr Elwyn Richards, Plas Bach, 70 Cae Gwyn, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1LL.
Ffôn: 01286 676435
E-bost: post@henaduriaetharfon.org