Croeso i wefan Henaduriaeth Arfon

 

image

Croeso i wefan Henaduriaeth Arfon sy’n rhan o Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Cewch yma wybodaeth am yr henaduriaeth a’r eglwysi sy’n perthyn iddi, ynghyd â’r ysgolion Sul a’r clybiau plant ac ieuenctid sydd yma yn Arfon.

Gobeithio y cewch flas ar gynnwys y wefan hon ac y byddwch yn dychwelyd ati yn fuan eto.

YMATEB I'R ARGYMHELLION TUAG AT UNO
- gweler y dudalen Newyddion

Neges gan 'Pobl i Bobl'

Fel mudiad, rydym yn cydweithio efo Care4Calais i ddarparu pecynnau brys i drigolion o Afghanistan sydd eisoes wedi cyrraedd Prydain yn y dyddiau diwetha ac sydd ar hyn o bryd yn aros mewn gwestai ym Manceinion nes bydd cartrefi’n cael eu canfod ar eu cyfer. Os hoffech chi gyfrannu, gofynnwn yn garedig am y nwyddau isod os gwelwch yn dda - rydym yn brin o le i storio felly dim ond y nwyddau hyn y gallwn eu derbyn am y tro.

Gallwch eu gadael yn Dr Zigs ar Stâd y Faenol/Parc Menai ym Mangor rhwng 9 a 2.30 o ddydd Llun i ddydd Gwener neu mae croeso i chi anfon e-bost at poblibobl.bangor@gmail.com os nad oes modd i chi gyrraedd yno ac fe wnawn ni drefniadau eraill.

Diolch o galon, mae’r angen yn enfawr ond mae pob cyfraniad bach yn helpu ac rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr.

Byddwn hefyd yn lansio apêl ariannol er mwyn paratoi i groesawu trigolion Afghanistan i’n cymunedau lleol yng ngogledd Cymru yn fuan.

**Y NWYDDAU SYDD EU HANGEN**:

• Ffonau symudol sy’n gweithio, efo chargers
• Pâst a brwshys dannedd
• Siampŵ
• Shower gel
• Pethau eillio
• Sebon
• Deodorant
• Gwlanen folchi
• Clytiau o bob maint
• Nwyddau mislif merched

Swydd Wag

Gweithiwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd.

Mae Gofalaeth Bresbyteraidd Bangor a'r Cyffiniau yn chwilio am berson egniol a brwdfrydig i weithio yn ei thair eglwys a datblygu’r gwaith ymhellach.

Oriau: 35 awr yr wythnos (neu oriau i’w trafod)
Cytundeb: 3 blynedd yn y man cyntaf gyda’r 6 mis cyntaf yn gyfnod prawf
Cyflog: Graddfa 20-24 (£22,371 - £24,477) a chyfle i ymuno â phensiwn EBC

Mae’r Swydd hon yn amodol ar ddatgeliad DBS manwl a dau eirda boddhaol.

Mae gofyniad galwedigaethol Cristnogol ac Iaith Gymraeg yn berthnasol ar gyfer y swydd hon.
Am fwy o wybodaeth, ac am ffurflen gais, cysylltwch gyda:-
e-bost – Cynthia Owen, cynthiaowen@tiscali.co.uk
ffôn - 01248 364008

Dyddiad cau : Medi 13eg 2021


Newyddion

EBRILL 2020

Owain Davies – Gweithiwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd Ardal Bangor.

Cafwyd sesiwn drymio hwyliog a swnllyd iawn yn y clybiau CIC gyda Mr Ifan Emyr.

 

  • 310320-cic-ifan-emyr-1
  • 310320-cic-ifan-emyr-2
  • 310320-cic-ifan-emyr-3
Darllen mwy

 

LluniauLluniau Diweddaraf

Henaduriaeth Arfon ar flickr.com
 

CysylltuManylion Cyswllt

Cyfeiriad:Y Parchedig Ddr Elwyn Richards, Plas Bach, 70 Cae Gwyn, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1LL.
Ffôn: 01286 676435
E-bost: post@henaduriaetharfon.org